EA 5 - gosod tasgau a dewis adnoddau sy'n adeiladu ar wybodaeth a phrofiad blaenorol ac yn ennyn diddordeb.

Eglurhad o'r Myfyrdod Cyn Cychwyn

Mae'r Myfyrdod Cyn Cychwyn yma i'ch cefnogi ar eich taith wrth i chi ddechrau gweithredu mewn rhai achosion, a datblygu mewn achosion eraill, yr Egwyddorion Addysgegol a amlinellir yn nogfen Canllawiau'r Cwricwlwm i Gymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru.

Gellir defnyddio'r cwestiynau Cyn Cychwyn hyn gyda'r staff yn eich Maes Dysgu a Phrofiad (MDPh) i hyrwyddo trafodaethau ynghylch eich pwnc a thrawsnewidiad eich MDPh tuag at Cwricwlwm i Gymru 2022. Bydd yn eich annog i ystyried y dulliau addysgegol y bydd angen i chi eu defnyddio i gefnogi'r dysgwyr i wireddu'r pedwar diben. Bydd hefyd yn eich cefnogi wrth i chi gynllunio addysgeg ar gyfer eich ystafell ddosbarth, gan sicrhau bod y dysgu a'r addysgu yn ystyried y ‘pam’ a'r ‘sut’ yn ogystal â'r ‘beth’.

Mae addysgeg effeithiol yn dibynnu ar ddealltwriaeth fanwl o ddatblygiad plant a phobl ifanc. Mae'n golygu archwilio a myfyrio ar y strategaethau addysgu a fydd yn cefnogi'r dysgu orau mewn cyd-destun penodol, ac ymchwilio i effaith hyn ar ddysgwyr.

Gallai eich cefnogi i nodi cryfderau addysgegol eich MDPh neu eich maes pwnc penodol, ynghyd â'r blaenoriaethau i fynd i'r afael â nhw wrth i ni symud tuag at fis Medi 2022.

"Dylai'r broses o gynllunio cwricwlwm ar gyfer dysgwyr o bob oed a gallu fod yn seiliedig ar egwyddorion addysgegol. Mae'r rhain yn adlewyrchu tystiolaeth hysbys am addysgeg effeithiol."

Canllawiau'r Cwricwlwm i Gymru 2020

Cwestiynau myfyrio cyn cychwyn:

  • Sut ydych chi'n actifadu gwybodaeth flaenorol y dysgwr?

  • Sut ydych chi'n dangos cynnydd mewn dysgu yn eich pwnc / MDaPh?

  • Sut ydych chi'n cynllunio ar gyfer profiadau dysgu?

  • Sut ydych chi'n ennyn diddordeb dysgwyr yn eich ystafell ddosbarth?

  • Sut mae AaGD yn cysylltu ag Egwyddorion Addysgeg eraill?

  • Sut gallai defnydd effeithiol o AaGD wella addysgu a dysgu? (Personol / Adran / Ysgol)

  • Beth fyddai'r heriau o geisio gweithredu / datblygu AaGD? Sut y gellid goresgyn yr heriau hyn?