Cofiwch y gallwch chi ddangos eich gwaith i mi drwy ei uwchlwytho ar 'Seesaw'. Gweler y llythyr yn eich llyfr gwaith cartref am ragor o fanylion.
Remember you can show me your work by uploading it on 'Seesaw'. Please see the letter in your homework book for more information.
Diolch, Miss Morris
Y Siarter Iaith / The Welsh language Charter
Cofiwch edrych ar dudalen 'Siarter Iaith' yr wythnos drwy glicio ar y ddolen isod.
Remember to look on the 'Welsh language charter' page by clicking on the link below.
https://sites.google.com/hwbcymru.net/ysiarteriaith1/tymor-2-term-2
Ydych chi'n gallu darllen y geiriau yma ac yna rhoi'r frawddeg yn y drefn gywir?
Can you read these words and then place them in the correct order to make a sentence?
Berfau yn gorffen gyda -ais
Verbs ending in -ais
Ydych chi'n gallu cyfateb y gair i'r diffiniad?
Can you drag and drop each word to it's definition?
Geiriau llwyd Tric a Chlic
Grey Tric a Chlic words
Ydych chi'n gallu cyfateb y gair i'r llun?
Can you drag and drop each word to it's definition?
Ydych chi'n gallu ail-drefnu'r geiriau isod i greu geiriau o gam llwyd Tric a Chlic? Beth am fynd ati i ysgrifennu brawddegau yn cynnwys y geiriau yma hefyd?
Can you rearrange the words below to make words from the grey stage of Tric a Chlic? How about writing a few sentences including these words too?
Rydyn ni wedi bod yn ymarfer seiniau a geiriau Tric a Chlic. Ydych chi'n gallu adeiladu brawddegau yn defnyddio'r geiriau yma ac yna eu hysgrifennu yn eich llyfrau? Mae brawddegau enghreifftiol isod i helpu. Cofiwch fod angen i chi ffurfio pob llythyren yn gywir wrth ysgrifennu yn eich llyfrau. Mae yna fideo isod i'ch helpu i gofio sut i ffurfio pob llythyren.
Peidiwch anghofio i dynnu llun o'ch gwaith a'u danfon i ni ar eich cyfrif Seesaw.
We have been revising our Tric a Chlic sounds and words. Can you build some sentences using these words and write them in your books? There are examples of sentences below to help you. Remember to form the letters correctly when writing in your books. There is a video below to help you to form each letter.
Don't forget to take a picture of your work and send it to us via your Seesaw account.
Mae Mam ar y bws.
Aeth y gath i'r fet.
Roedd jam yn y car.
Ble mae'r cŵn?
Rhes o foch.
Sawl ffordd ydych chi'n gallu creu'r cyfansymiau isod gan ddefnyddio'r ceiniogau yma?
How many ways can you make the amounts below using these coins?
Beth am chwarae'r gêm yma i helpu datblygu sgiliau gweithio gydag arian?
How about playing this game to help develop working with money skills?
Edrychwch yn ofalus ar y tablau isod i lenwi'r bylchau drwy adio neu dynnu 1, 10 neu 100.
Look carefully at the tables below to fill the blanks by adding or subtracting 1, 10 or 100.
Beth am adolygu ein gwybodaeth ar siapiau 2D? Ar ôl edrych ar y pwerbwynt, ceisiwch fynd ati i greu llun gan ddefnyddio siapiau 2D yn unig. Edrychwch ar yr esiamplau isod fel enghreifftiau.
How about revising our knowledge on 2D shapes? After looking at the powerpoint, try to create a picture using only 2D shapes. Look at the ideas below as examples.
Beth am chwarae'r gem didoli a dosbarthu yma er mwyn gwella ein dealltwriaeth?
How about playing this sorting game to improve our understanding?
Mae'n rhaid i gychod arnofio. Rydych am arbrofi i weld pa bethau o’n cwmpas sydd yn arnofio, a pha rai sydd yn suddo. Gyda help oedolyn, casglwch eitemau o amgylch y tŷ, neu’r ardd, i wneud yr arbrawf.
Defnyddiwch bowlen fawr yn llawn o ddŵr a rhoi un eitem ar y tro ynddo. Dyfalwch beth fydd yn digwydd i bob un, cyn eu gollwng i mewn. Cofnodwch ar lun o’r môr, fel isod. Gwnewch luniau ohonynt yn arnofio fel y cwch neu’n suddo fel yr angor.
Boats have to float. You are going to experiment to see which day to day objects float, and which sink. With the help of an adult, collect objects from around the house, or garden, to carry out the experiment.
Use a large bowl full of water and place one item in at a time. Predict what will happen to each one, before dropping them in. Record your findings on a picture of the sea, as below. Draw each object floating like the boat or sinking like the anchor.
Tasg: Dyluniwch awyren newydd sbon. Gallwch chi fod mor greadigol ag y dymunwch, gadewch i'ch dychymyg hedfan. Cofiwch gynnwys prif rannau awyren a'u labelu fel y dangosir yn y llun isod.
Task: Design a brand new aircraft. You can be as creative as you like, let your imagination fly. Remember to include the main parts of an aircraft and label them as shown in the picture below.
Amser dawnsio / Dancing time
Heddiw, rydych am ddawnsio i ‘Gân y beic' gyda Huw. Mwynhewch.
Today, you are going to dance to the 'Cân y beic' (Bike song) song with Huw. Enjoy.
Beth am ddysgu canu’r gân? Dyma linc i’r gân a’r geiriau.
Why don’t you learn to sing the song? Here is a link to the song and lyrics.
Rydyn ni wedi bod yn ymarfer gofyn cwestiynau ar lafar yn y dosbarth. Ydych chi'n gallu meddwl am gwestiynau i ofyn i'ch teulu?
Gallwch chi ymarfer eich llawysgrifen trwy gofnodi'r cwestiynau yn eich llyfrau hefyd. Cofiwch i ffurfio pob llythyren yn gywir ac i ysgrifennu yn daclus ar y llinell.
We have been practising asking questions in the class. Can you think of some questions to ask your family?
You could practice your handwriting by writing the questions in your books. Remember to form every letter correctly and to write neatly on the line.
Rydyn ni wedi bod yn ymarfer ein sgiliau adio a thynnu yn y dosbarth. Dewiswch un set o'r isod gan nodi'r atebion yn eich llyfrau gwaith cartref.
We have been practicing our addition and subtracting skills in class. Choose one set from below and record your answers in your homework books.