15/10/2021

Iaith / Language:

Rydyn ni wedi bod yn ymarfer geiriau gwyrdd Tric a Chlic yr wythnos hon. Ydych chi'n gallu ymarfer y geiriau ar lafar ac yna ysgrifennu'r geiriau yn eich llyfrau gwaith cartref? Cofiwch fod angen i chi ffurfio pob llythyren yn gywir wrth ysgrifennu yn eich llyfrau. Mae yna fideo isod i'ch helpu i gofio sut i ffurfio pob llythyren.

Peidiwch anghofio i dynnu llun o'ch gwaith a'u danfon i ni ar eich cyfrif Seesaw.

We have been revising our green Tric a Chlic words this week. Can you practise these words verbally and then write the words in your homework books? Remember to form the letters correctly when writing in your books. There is a video below to help you to form each letter.

Don't forget to take a picture of your work and send it to us via your Seesaw account.

Ffurfio Llythrennau'r Wyddor / Forming the Letters of the Alphabet

Ffurfio Llythrennau'r Wyddor.mp4

Dyma fideo sy'n dangos i chi sut i ffurfio llythrennau'r wyddor yn gywir. Cofiwch i ysgrifennu ar y linell a bod angen i rai llythrennau fynd o dan y linell hefyd.

Here's a video that shows you how to form the letters of the alphabet correctly. Remember to write on the line and that some letters need to go underneath the line too.

Seiniau a Geiriau Gwyrdd / Green Sounds and Words:

Gwyliwch y fideo i glywed Eirian yn adolygu'r holl seiniau a geiriau gwyrdd.

Watch the video to listen to Eirian revising the different green sounds and words.

Mathemateg / Mathematics:

Rydyn ni wedi bod yn pwyso eitemau gwahanol yr wythnos hon gan ddefnyddio clorian. Defnyddion ni'r eirfa 'trwm', 'ysgafn', 'trymach', 'ysgafnach' ac 'yn pwyso yr un peth'.

Ydych chi'n gallu defnyddio clorian i bwyso eitemau gwahanol yn eich cartrefi? Peidiwch â phoeni os nad oes gennych glorian, defnyddiwch eich dwylo i gymharu pwysau dwy eitem wahanol. Rhowch un eitem yn un llaw ac eitem wahanol yn y llall. A fedrwch chi osod yr eitemau o'r ysgafnach i'r trymaf?

Edrychwch ar yr esiamplau isod ar gyfer rai syniadau. Edrychwn ymlaen at weld eich lluniau ar Seesaw.

We have been weighing different items using weighing scales this week. We used the vocabulary 'trwm' (heavy), 'ysgafn' (light), 'trymach' (heavier), 'ysgafnach' (lighter) and 'yn pwyso yr un peth' (is the same weight).

Can you use weighing scales to weigh different items at home this week? Don't worry if you don't have scales, use your hands to compare the weight of two different items. Put one item in one hand and a different item in the other. Can you place the items from the lightest to the heaviest?

Look at the examples below for some ideas. We look forward to seeing your pictures on Seesaw.

Diwrnod Shwmae Su'mae / Shwmae Su'mae Day:

Mae Diwrnod Shwmae yn digwydd ym mis Hydref bob blwyddyn ac yn gyfle gwych i gael hwyl yn defnyddio’r iaith Gymraeg ym mhobman.

Fel tasg gwaith cartref, ewch ati i greu’r gair ‘Shwmae’ allan o wahanol wrthrychau sydd yn y tŷ neu yn yr ardd. Mae ychydig o syniadau isod fel i’ch helpu.

Shwmae Day is an annual event that takes place in October. It's an opportunity to have fun and share the Welsh language – in the shop, leisure centre, at work and with friends.

To celebrate the day, have a go at making the word ‘Shwmae’ (Hello) out of different objects and materials that you have in the house or in the garden. There are a few examples below to help you.