28/1/2022

Yr wythnos hon, rydyn ni wedi bod yn dysgu am hanes Santes Dwynwen, Yr Urdd ac yn trafod ein syniadau ar gyfer ein thema newydd. Ydych chi'n gallu cofio gair Cymraeg yr ydych wedi ei ddysgu'r wythnos hon a'i ddysgu i aelodau eich teulu?

This week we have been learning about the history of Santes Dwynwen, The Urdd and discussing our ideas for our new theme. Can you remember a Welsh word that you have learnt this week and teach it to your family members?

Penwythnos Gwylio Adar / Big Garden Bird Watch:

Y penwythnos hwn, mae’n benwythnos gwylio adar yn yr ardd. Cyfrwch yr adar rydych chi’n eu gweld yn eich gardd, o’ch balconi neu yn eich parc lleol am awr rhwng 28 a 30 Ionawr. Cadwch restr o’r adar rydych chi’n eu gweld!


Am fwy o wybodaeth, ewch i’r wefan.


This weekend is the Big Garden Birdwatch. Simply count the birds you see you in your garden, from your balcony or in a local park for one hour between 28 and 30 January. Keep a record of the birds you see.

For more information, visit the website.

Mathemateg / Mathematics:

Rydyn ni wedi bod yn ymarfer ein sgiliau gwerth lle yr wythnos hon.

Ydych chi'n gallu ymarfer hwn gan roi'r degau ac unedau, y cannoedd a'r miloedd yn y colofnau cywir? (Yn ddibynnol ar y set rydych wedi'i ddewis).

Dewiswch rhifau Set A, B, C neu Ch a rhowch nhw yn y golofn gywir yn eich llyfrau gwaith cartref fel yr ydyn ni wedi bod yn gwneud yn y dosbarth. Edrychwn ymlaen at weld eich gwaith ar Seesaw.

We have been practising our place value skills this week.

Can you practise these by putting the tens and units, the hundreds and thousands into the correct column? (Depending on which set you choose).

Choose the numbers from Set A, B, C or Ch and put them into the correct column in your homework books like we have been doing in class.

We look forward to seeing your work on Seesaw.

Gweler yr engraifft isod / Please see the example below: