Arweinyddiaeth
Rhaglen Genedlaethol i Ddatblygu Arweinwyr Canol
Dull Darparu
Rhaglen Ddatblygu Genedlaethol, sy'n cynnwys seminarau, gweithdai a Rhwydweithiau Cymorth Cymheiriaid Hwylusedig.
Hyd
1 flwyddyn
Cynulleidfa Darged
Bydd y rhaglen hon ar gael i bob arweinydd canol ledled Cymru sy'n ysgwyddo meysydd cyfrifoldeb a/neu gyfrifoldeb rheoli llinell dros staff.
Cyfnod
Arweinwyr Canol ym mhob ysgol.
Iaith y Cyflwyniad
Darperir yr holl weithgareddau yr ymgymerir â nhw yn rhan o'r rhaglen hon yn Gymraeg, yn Saesneg neu'n ddwyieithog.
Fformat y Rhaglen
Mae dull darparu'r rhaglen i arweinwyr canol yn cynnwys mentora, rhwydweithiau cymorth cymheiriaid, a hunanadolygiad unigol o safonau arweinyddiaeth.
Amlinelliad o'r Rhaglen
Mae'r rhaglen hon yn rhan o broses ddatblygu barhaus a dilyniannol sy'n cyd-fynd â'r llwybr dysgu proffesiynol, a bydd yn adeiladu ar sgiliau a gwybodaeth blaenorol unigolyn mewn perthynas â dysgu proffesiynol. Mae yna fodiwlau craidd (cyfwerth â phum niwrnod) sy'n caniatáu i'r cyfranogwr ddatblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth i ddod yn arweinydd ysgol effeithiol, ynghyd â chyfle dilynol i ymgysylltu'n effeithiol â modiwlau pwrpasol/arbenigol sy'n uniongyrchol gysylltiedig â'u meysydd cyfrifoldeb.
Cofrestru
Gwybodaeth lawn a manylion gwneud cais ar Dolen.
https://porth.erw-rhwyd.cymru/repository/resource/e6e80cfc-aeb0-4c76-89e5-feadad66ac53/cy
Cyn 1pm 04/01/2021
Rhaglen Genedlaethol i Ddatblygu Uwch-arweinwyr
Dull Darparu
Rhaglen Ddatblygu Genedlaethol, sy'n cynnwys seminarau ar-lein, gweithdai, Rhwydweithiau Cymorth Cymheiriaid Hwylusedig, a hunanadolygiad unigol o safonau arweinyddiaeth.
Hyd
1 flwyddyn (Ionawr-Rhagfyr 2021)
Cynulleidfa Darged
Mae'r rhaglen hon ar gyfer arweinwyr sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am agwedd ar arweinyddiaeth ar draws sefydliad. Mae hyn yn cynnwys uwch-arweinwyr cwricwlwm/bugeiliol ac aelodau o uwch-dîm arwain, er enghraifft penaethiaid cynorthwyol neu ddirprwy benaethiaid.
Cyfnod
Pob ysgol, gan gynnwys Unedau Cyfeirio Disgyblion
Iaith y Cyflwyniad
Darperir yr holl weithgareddau yr ymgymerir â nhw yn rhan o'r rhaglen hon yn Gymraeg, yn Saesneg neu'n ddwyieithog.
Fformat y Rhaglen
Mae'r rhaglen hon yn rhan o broses ddatblygu barhaus a dilyniannol sy'n cyd-fynd â'r llwybr dysgu proffesiynol, a bydd yn adeiladu ar sgiliau a gwybodaeth blaenorol unigolion mewn perthynas â dysgu proffesiynol. Mae yna fodiwlau craidd (cyfwerth â phum niwrnod).
Amlinelliad o'r Rhaglen
Cyflwynir y rhaglen gan y consortia rhanbarthol a'u partneriaid, sy'n cynnwys Awdurdodau Lleol a Sefydliadau Addysg Uwch.
Bydd y rhaglen ddatblygu hon yn cynnwys:
o Modiwl 1 Gwerthoedd ac Ymagweddau, Hunanfyfyrio
o Modiwl 2 Gweithio gydag Eraill
o Modiwl 3 Hyfforddi a Mentora
o Modiwl 4 Addysgeg
o Modiwl 5 Cydweithredu
Cofrestru
Mae gwybodaeth lawn a mynediad i'r broses ymgeisio genedlaethol ar gael ar Dolen.
https://porth.erw-rhwyd.cymru/repository/resource/6827a4ee-a2d4-4066-8885-9aeb5bcc3224/cy
Bydd y rhaglen yn cael ei lansio'n genedlaethol ar 19/10/2020
23/11/2020
Rhaglen Genedlaethol i Ddarpar Benaethiaid – Paratoi ar gyfer y CPCP
Dull Darparu
Rhaglen Ddatblygu Genedlaethol, sy'n cynnwys seminarau ar-lein, gweithdai a Rhwydweithiau Cymorth Cymheiriaid Hwylusedig.
Hyd
1 flwyddyn
Cynulleidfa Darged
Bydd y rhaglen hon ar gael i bob arweinydd ysgol profiadol sy'n credu ei fod yn amlygu cyflawniad yn ôl y Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth, ac y mae prifathrawiaeth yn gam nesaf realistig ar ei gyfer.
Cyfnod
Pob ysgol, gan gynnwys Unedau Cyfeirio Disgyblion
Iaith y Cyflwyniad
Darperir yr holl weithgareddau yr ymgymerir â nhw yn rhan o'r rhaglen hon yn Gymraeg, yn Saesneg neu'n ddwyieithog.
Fformat y Rhaglen
Mae'r rhaglen hon yn rhan o broses ddatblygu barhaus a dilyniannol sy'n cyd-fynd â'r llwybr dysgu proffesiynol, a bydd yn adeiladu ar sgiliau a gwybodaeth blaenorol unigolyn mewn perthynas â dysgu proffesiynol. Mae yna fodiwlau craidd (cyfwerth â phum niwrnod).
Amlinelliad o'r Rhaglen
Bydd y rhaglen yn galluogi'r cyfranogwyr i fyfyrio ar eu harfer proffesiynol eu hunain, ac i sicrhau eu bod wedi paratoi'n dda pan fyddant yn gwneud cais i ymgymryd ag asesiad ffurfiol ar gyfer y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth (CPCP).
Cofrestru
Mae gwybodaeth lawn a mynediad i'r broses ymgeisio genedlaethol ar gael ar Dolen.
https://porth.erw-rhwyd.cymru/repository/resource/7856ae85-9eb5-4130-9221-5d1b0b9e5171/cy
Y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth – CPCP
Dull Darparu
Rhaglen Genedlaethol Asesu yn Unig i asesu ymgeiswyr ar gyfer dyfarnu'r CPCP.
Hyd
1 tymor (Hydref 2020-Chwefror 2021)
Cynulleidfa Darged
Mae'r CPCP (Asesu yn Unig) yn benodol ar gyfer ymarferwyr sy'n bwriadu gwneud cais am brifathrawiaeth ar gyfer eu swydd nesaf (o fewn y 12 mis nesaf).
Cyfnod
Pob ysgol, gan gynnwys Unedau Cyfeirio Disgyblion
Iaith y Cyflwyniad
Darperir yr holl weithgareddau yr ymgymerir â nhw yn rhan o'r rhaglen hon yn Gymraeg, yn Saesneg neu'n ddwyieithog.
Fformat y Rhaglen
Cymorth Hyfforddwr Arweinyddiaeth i baratoi ar gyfer yr asesiad. Presenoldeb yn y Ganolfan Asesu ar gyfer Asesiad ½ diwrnod ym mis Chwefror 2021.
Amlinelliad o'r Rhaglen
I baratoi ar gyfer yr asesiad, neilltuir Hyfforddwr Arweinyddiaeth a Rhwydwaith Cymorth Cymheiriaid i ymgeiswyr llwyddiannus sy'n cael eu cymeradwyo gan Banel Cymeradwyo eu ALl.
Cofrestru
Mae gwybodaeth lawn a mynediad i'r broses ymgeisio genedlaethol ar gael ar Dolen.
https://porth.erw-rhwyd.cymru/repository/resource/acd7ff0a-1fc8-45e5-85ef-350fa23a181f/cy
Mae'r dyddiad ar gyfer cyflwyno ceisiadau bellach wedi mynd heibio. Gweler y Rhaglen i Ddarpar Benaethiaid.
Wedi Cau 18/09/20
Rhaglen Genedlaethol i Benaethiaid Newydd eu Penodi
Dull Darparu
Rhaglen Ddatblygu Genedlaethol gyda seminarau, gweithdai a Rhwydweithiau Cymorth Cymheiriaid Hwylusedig.
Hyd
2 flynedd (Medi 2020-Gorffennaf 2022)
Cynulleidfa Darged
Pob Pennaeth neu Bennaeth Dros Dro sydd newydd ei benodi (disgwylir y byddant wedi bod yn y swydd am ddau dymor). Mae'n ddisgwyliad i BOB Pennaeth newydd yng Nghymru gymryd rhan yn y rhaglen hon.
Cyfnod
Pob ysgol, gan gynnwys Unedau Cyfeirio Disgyblion
Iaith y Cyflwyniad
Darperir yr holl weithgareddau yr ymgymerir â nhw yn rhan o'r rhaglen hon yn Gymraeg, yn Saesneg neu'n ddwyieithog.
Fformat y Rhaglen
Mae'r rhaglen hon yn rhan o broses ddatblygu barhaus a dilyniannol sy'n cyd-fynd â'r llwybr dysgu proffesiynol, a bydd yn adeiladu ar sgiliau a gwybodaeth blaenorol unigolyn mewn perthynas â dysgu proffesiynol. Mae yna fodiwlau craidd (cyfwerth â phum niwrnod).
Amlinelliad o'r Rhaglen
Mae'r rhaglen wedi'i strwythuro i dri cham:
Cam 1: gwaith cyn-rhaglen, sy'n cynnwys trosglwyddo'n ffurfiol a 'hunanddadansoddiad' unigol yn unol â'r Safonau Arweinyddiaeth Ffurfiol.
Cam 2: Blwyddyn 1 y brifathrawiaeth. Bydd hwn yn cynnwys rhaglen ddatblygu bum niwrnod sy'n canolbwyntio ar gael yr wybodaeth leol y mae arnynt ei hangen, ynghyd â'r wybodaeth a'r sgiliau gofynnol i ddatblygu eu hysgol fel sefydliad dysgu.
Cam 3: Blwyddyn 2 y brifathrawiaeth. Mae'r cam hwn yn un diwrnod o hyd, a bydd y cyfranogwyr yn rhannu â chyd-weithwyr agwedd benodol ar wella ysgol y maent wedi'i chyflawni, ynghyd â'r modd y maent yn meithrin gallu yn eu hysgolion.
Cofrestru
Mae gwybodaeth lawn a mynediad i'r broses ymgeisio genedlaethol ar gael ar Dolen. Dylai'r cais ddilyn trafodaeth ag Ymgynghorydd Her yr ysgol.
https://porth.erw-rhwyd.cymru/repository/resource/b10d4337-40af-4899-af86-c178826ceb40/cy
Ymgeisio
Rhaglen i Benaethiaid Profiadol
Dull Darparu
Bydd y rhaglen yn darparu heriau a chymorth, wedi'u teilwra'n bersonol, i bob cyfranogwr; amser i drafod syniadau, damcaniaethau ac offer arweinyddiaeth; a'r cyfle i elwa ar eraill a helpu eraill i lenwi'r rôl yn llwyddiannus.
Hyd
2 flynedd
Cynulleidfa Darged
Mae'r rhaglen hon ar gyfer penaethiaid profiadol sy'n dymuno datblygu eu harfer cyfredol ymhellach.
Cyfnod
Pob ysgol, gan gynnwys Unedau Cyfeirio Disgyblion
Iaith y Cyflwyniad
Darperir yr holl weithgareddau yr ymgymerir â nhw yn rhan o'r rhaglen hon yn Gymraeg, yn Saesneg neu'n ddwyieithog.
Fformat y Rhaglen
o Cwblhau'r adolygiad a'r adborth cylch cyfan o arweinyddiaeth
o Modiwlau pwrpasol a ddarperir mewn lleoliadau preswyl canolog yng Nghymru, gyda'r cohortau'n cynnwys Penaethiaid o'r pedwar rhanbarth
o Neilltuir Hyfforddwr Arweinyddiaeth i bob cyfranogwr, a bydd yn ofynnol iddo gydweithio yn rhan o Gymuned Ymarfer (grŵp o benaethiaid profiadol sy'n rhannu pwrpas cyffredin).
Amlinelliad o'r Rhaglen
Mae'r rhaglen wedi'i strwythuro i bedwar cam dros ddwy flynedd:
o Cam 1: Proses Ymgeisio Genedlaethol
o Cam 2: Cwblhau'r adolygiad a'r adborth cylch cyfan o arweinyddiaeth
o Cam 3: Rhaglen Graidd. Bydd hon yn cynnwys pedwar diwrnod datblygu yn ystod dau gyfnod preswyl, a bydd yn canolbwyntio ar adolygu arweinyddiaeth a rheoli newid, a hynny'n rhan o'r daith ddiwygio weddnewidiol
o Cam 4: Cyfranogiad gweithredol trwy Gymunedau Ymarfer mewn o leiaf ddau fodiwl ychwanegol
Cofrestru
Mae gwybodaeth lawn a mynediad i'r broses ymgeisio genedlaethol ar gael ar Dolen. Oherwydd y cyfyngiadau cyfredol, mae'r rhaglen hon yn parhau i fod wedi'i gohirio.
https://porth.erw-rhwyd.cymru/repository/resource/905348ef-6062-4a4a-b518-1ea40e72e372/cy
Cyfleoedd ar gyfer Arweinwyr Systemau
Dull Cyflawni
Mae pob Rhaglen Ddatblygu Genedlaethol yn cael ei darparu, ei hwyluso a'i chynnal gan arweinwyr ysgolion ledled y system. Mae cyfleoedd i gyflawni'r rolau hyn ar gael i ymarferwyr mewn ysgolion. Darperir costau hyfforddi a rhyddhau ar gyfer y rolau hyn.
Hyd
Mae i'r cyfleoedd hyn hyd amrywiol, yn dibynnu ar y rôl.
Cynulleidfa Darged
Ymarferwyr sy'n dymuno datblygu eu sgiliau a'u hymarfer presennol ymhellach, a hynny mewn rolau sy'n cefnogi'r system y tu hwnt i'w hysgol eu hunain. Mae cyfleoedd ar gael i ymarferwyr sydd â lefelau amrywiol o arbenigedd.
Cyfnod
Pob ysgol a lleoliad.
Iaith y Cyflwyniad
Darperir yr holl weithgareddau yr ymgymerir â nhw yn rhan o'r rhaglen hon yn Gymraeg, yn Saesneg neu'n ddwyieithog.
Fformat y Rhaglen
o Bydd yr Arweinwyr Systemau yn cael hyfforddiant ar gyfer y rôl benodol y byddant yn ymgymryd â hi.
Amlinelliad o'r Rhaglen
Rolau Arweinwyr Systemau
o Mentor Ysgol Mewnol ar gyfer y Rhaglen Sefydlu Athrawon Newydd Gymhwyso.
o Gwiriwr Allanol ar gyfer y Rhaglen Sefydlu Athrawon Newydd Gymhwyso.
o Asesydd Cynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch.
o Hwylusydd Rhaglenni, gan gynnwys y Rhaglen i Arweinwyr Canol a'r Rhaglen i Uwch-arweinwyr.
o Hyfforddwr Arweinyddiaeth y Rhaglen i Arweinwyr Canol.
o Hyfforddwr Arweinyddiaeth y Rhaglen i Ddarpar Benaethiaid.
o Hyfforddwr Arweinyddiaeth Rhaglen y CPCP.
o Hyfforddwr Arweinyddiaeth y Rhaglen i Benaethiaid Newydd a Phenaethiaid Dros Dro.
o Hwylusydd i Gymunedau Ymarfer (y Rhaglen i Benaethiaid Profiadol).
o Y Rhaglen Hyfforddi a Mentora Genedlaethol.
Cofrestru.
Mae rhagor o wybodaeth a mynediad i'r ffurflen Mynegi Diddordeb ar gael ar Dolen.
ANG. Mentor Ymsefydlu ANG a Dilyswyr Allanol Ymsefydlu ANG
https://porth.erw-rhwyd.cymru/repository/resource/23d7f36e-c4c7-409f-9482-1a873eb512c2/cy
https://porth.erw-rhwyd.cymru/repository/resource/397fd3d9-0b7b-4780-9f76-c02987858e3a/cy