Pwy ydyn ni?
Beth ydym yn gwneud?
Cyfrifoldebau
Ni sydd yng ngofal y gliniaduron a'r Ipads. Ni'n sicrhau bod nhw i gyd yn saff ar ddiwedd y dydd yn y cwpwrth wefru fel bod nhw'n barod ar gyfer y diwrnod canlynol. Rydym hefyd yn helpu plant i logio mewn i wahanol raglenni ac yn barod iawn i helpu ymhob ffordd.
Clwb Codio
Rydym yn gwneud clwb codio, amser cinio, bob Dydd Iau. Mae bawb yn cael ymuno a dod i gael hwyl. Rydym yn helpu'r plant i defnyddio rhaglenni codio a chreu, rhaglenni fel Minecraft, Scratch a Microbit! Mae pawb yn hoffi microbit ac mae e mor hwylus. Mae minecraft game yn gem arbennig i ddatblygu sgiliau codio. Rydym yn gallu adeiladu unrhyw beth! Yn y gorffennol rydyn wedi creu pentrefi arbennig ac yn ddiweddar rydyn wedi defnyddio Minecraft i helpu ni gynllunio ardal chwarae newydd sydd yn cael ei adeiladu yn y cae! Roedd yn gret medru rhoi syniadau ni i'r adeiladwyr! Edrychwn ymlaen i weld yr ardal chwarae yn dod i'r ysgol cyn ddiwedd yr Haf.
Mae Scratch yn raglen i greu animeiddiad a chael hwyl yn creu lluniau da. Mae plant Dosbarth Hafod yn mwynhau defnyddio Scratch ac yn ddiweddar roeddent wedi creu animeiddiad o bengwins yn yr Antartic fel rha o'u gwaith thema.
Mae clwb codio yn bwysig oherwydd mae sgiliau codio yn helpu ein ymenydd. Rydym yn help mawr i'r athrawon hefyd ac yn aml iawn mae nhw yn gofyn ni am help!
Hyfforddi
Pob tymor mae Beatrix a Talan yn mynd ar gwrs dewiniaid digidol gyda'r Sir. Mae Eryl yn trefnu rhain ac yn dysgu sgiliau newydd iddynt. Yn dilyn hyn mae Beatrix a Talan yn dangos i ni y pethau newydd maent wedi dysgu amdano yn y Clwb Codio.
Ffilm y Sioe Nadolig
Pob blwyddyn, rydym yn creu ffilm i fod yn rhan o'r Sioe Nadolig. Mae'r ffilm yn uchafbwyt y flwyddyn i nifer o ddisgyblion a ffrindiau'r ysgol! Ni y dewiniaid digidol sydd yn gyfrifol am ffilmio a golygu'r ffilm. Dyma lincs i rai o ffilmiau'r gorffennol .....
Diwrnod Diogelwch ar y We
Dyma un o ddiwrnodau pwysicaf yn ein calendar ni! Diwrnod i hysbysu pawb am fod yn ddiogel ar y we! Byddwn yn cynnal gwasanaeth i bawb ac yn cynnal gweithgareddau hwylus.
Ond hefyd, nid dim ond ar y diwrnod yma mae hyn yn bwysig, mae'n neges yn bwysig drwy'r flwyddyn! Dyna pam rydym wedi creu posteri i atgoffa pawb o sut i fod yn ddiogel!
Dewiniadau Digidol 2025-2026 yw Beatrix, Talan, Ralffi, Freddie a Phoebe.
Beatrix a Talan yw'r prif Dewiniadau, ond rydym i gyd yn helpu allan.
Adnoddau i'n helpu
Fel ysgol rydym yn ffodus iawn o Gronfa Melinau Gwynt Cefncroes ac mae nhw'n hael iawn i ni fel ysgol. Mae gan bob plentyn o Flwyddyn 2 - 6 Laptop ac Ipad eu hun trwy nawdd Cefn Croes.
Diolch iddynt am eu haelionni.
Mae pob plentyn gyda QR code i Sumdog (Rhaglen Mathemateg) a TTRock stars i ddysgu ei tablau.
Rydym hefyd gyda QR i fynd ar Darllen Co, sef app i ddarllen llyfrau ar laptop neu iPad. Mae pawb yn mwynhau Darllen Co ac mae yna cwis yn dilyn pob llyfr i weld a ydym wedi deall y testun.
Dyma ein masgot ni!
Cath yw hi, ond mae hi hefyd yn robot arbennig!
Ar ddiwedd pob sesiwn rydym yn rhoi gwobrwyo un plentyn o Dosbarth Hafod ac un plentyn o Ddosbarth Rheidol am waith arbennig yng Nghlwb codio. Maent yn derbyn tystysgrif Robogath!
Gwaith animeiddio!
Ein GIF rydym wedi creu ar gyfer cyfryngau Cymdeithasol Ysgol Mynach wedi'i chreu â help Sioned o gwmni Mwydro.