Pwy ydyn ni?
Cyfrifoldebau
Mae gennym ni orsaf byrbrydau yn y ddau ddosbarth rhag ofn y byddwn ni'n teimlo'n llwglyd yn y prynhawniau. Mae'r byrbrydau iach yn cynnwys ffyn bara, cherios, cracers, rhesins a ffrwythau. Rydym yn sicrhau bod popeth wedi'i stocio.
Cynnal gwasanaeth Hawliau Plant
Helpu'r athrawon i drefnu diwrnodau arbennig - casglu mewnbwn y plant.
Gorsaf byrbryd
Rydym wedi bod yn gweithio’n galed yn darganfod beth yw’r gost fesul plentyn i gael byrbryd dyddiol!
Rydym yn ddiolchgar iawn i gael y snackstation i lleihau’r teimlad o fod yn ‘hangry’!
Cheerios = 2c bob 10g
Cracyrs= 6c am 2 cracyr
Raisns = 7c am 20g
Breadstick = 5c am un
Nid yw'r plant yn talu am byrbryd, ond roeddwn am weithio allan faint oedd y 'Snackstation' yn costio.
Bydis chwarae!
Rydym wedi cael y syniad o gael ffrindiau amser chwarae. Rydym yn gwisgo cotiau melyn ac yn sicrhau bod yr holl blant yn chwarae'n hapus. Os oes unrhyw un yn drist, gobeithio y gallwn eu codi eu calon.
Dathlu Diwrnodau Arbennig
Pob Mis byddwn yn cynnal gwasanaeth Hawliau Plant, gan ddewis un hawl arbennig i fod yn Hawl y Mis. Byddwn yn trafod gyda'r plant beth yw ystyr yr Hawl yma a sut allwn barchu'r hawl. Mae Hawl y Mis ar wal y cyntedd i bawb weld.