Pwy ydym ni?
Ein henwau yw Noa, Eli, Tomos a Jac a ni yw llysgenhadon Chwaraeon 2025-2026. Rydym i gyd yn ddisgyblion Blwyddyn 6 ac yn mwynhau bob math o Chwaraeon.
Cyfrifoldebau
Clwb Chwaraeon
Rydym yn gwneud clwb chwareon pob dydd Llun! Mae yna groeso i bawb i ddod ac rydyn yn gwenud llawer o weithgareddau gwahanol gyda'r plant. Wrth hyfforddi i fod yn llysgenhadom, rydym wedi dysgu llawer iawn o gemau buarth newydd i ddysgu'r plant ac mae nhw yn mwynhau rhain.
Os oes cystadleuaeth penodol yn dod lan, byddwn yn ymarfer sgiliau i helpu ni yn y gystadleuaeth.
Hyfforddi
Pob tymor rydym yn cael hyfforddiant ar sut i fod yn llysgenhadon chwaraeon da! Mae hwn yn gyfle gwych i ni ddysgu sgiliau newydd, gemau newydd i wneud nol yr yr ysgol, ac wrth gwrs rhannu tips gyda llysgenhadon o ysgolion y Cylch! Cylfe gwych i greu ffrindiau newydd cyn symud ymlaen i'r ysgol uwchradd.
Dyma lysgenhadon 2024-2025 yn derbyn adnoddau chawaraeon gan ein hyddorddwyr am fod yn lysgenhadon gwych! Gobeithio ein bod ar yr un trywydd eleni!
Gwyl Chwaraeon
Pob tymor rydyn yn mynd i'r Brifysgol yn Aberystwyth i helpu cynnal diwrnod o weithgareddau chwaraeon i Ysgolion Cylch Aberystwyth. Mae'n gyfle arall i ni gwrdd a llysgenhadon yr ysgolion eraill a rhannu tips yn ogystal a datblygu sgiliau newydd wrth gydweithio gyda'r hyfforddwyr.
Cadw'r adnoddau yn daclus!
Heb os, dyma'r swydd anoddaf o fod yn lysgenhadon chwaraeon! Ni sydd yn gyfrifol am gadw'r Sied Chwaraeon yn lan, daclus a threfnus! Mae'r plant bach yn gallu creu llanast mewn chwinciad, ond rydym yn ffodus bod yna 4 ohonom i gadw trefn arnynt. Rydym yn gwirio bod popeth yn y lle cywir, yn pwmpio peli os oes angen ac yn rhoi gwbod i Miss os oes rhywbeth wedi torri neu os oes angen archebu adnoddau newydd!
Drygioni a Dŵr!
Dyma ein hoff beth!! Pob blwyddyn ar ddiwedd yr Haf, rydym yn trefnu Brwydr Dŵr!! Mae hyd yn oed y staff yn cael gwlychfa! Dyma un o uchafbwyntiau'r flwyddyn ac mae'r disgyblion yn gofyn yn barod pryd mae'r frwydr eleni!
Cystadlu ac Annog
Rydym yn falch iawn o fod yn ysgol fach ond dal yn medru cystadlu yn llwyddiannus iawn mewn nifer o gystadleuthau'r Cylch a'r Urdd. Fel llysgenhadon, rydym yn gystadleuwyr brwd, yn hoff o fod yn rhan o dîm ac yn annog y disgyblion eraill i fod yr un fath!
Pencampwyr Pêldroed yr Urdd 2026
Eleni, ni yw Pencampwyr Pêldroed 5 pob ochr yr Urdd, Ceredigion!
Yn ystod y gystadleuaeth, ni waneth Tomos ildio'r un gol! Tipyn o gamp!
Dysgu am seiclo yn ddiogel ar y ffordd, Tîm rygbi Blwyddyn 3 & 4 ac ymarfer sgiliau amddifyn pêlrwyd.