Pwy Ydyn ni?
Cyfrifoldebau
Ein swydd pwysicaf ydy annog plant yr ysgol i siarad Cymraeg, yn y Dosbarth ac allan ar y iard chwarae. Os byddwn yn gweld bod plentyn yn gwneud ymdrech arbennig yna gallwn gwobrwyo Tocyn iaith!
Clwb Cymraeg
Ni'n gweneud Clwb Cymraeg bob Dydd Mercher yn y caban ac weithiau ar iard lle rydym yn dysgu gemau buarth newydd i'r plant. Mae gweithgareddau yn amrywio o waith celf, e.e dilyn cyfarwyddiadau ar sut i greu darn o waith Oriel odl.
Ar diwedd pob clwb rydym yn gwobrwyo un plentyn o bob dosbarth am wneud ymdrech arbennig. Rydym wedi cynllunio tystysgrifau arbennig ac yn rhoi rhain i'r disgyblion.
Gweithgareddau diweddar
Dathlu Diwrnod Miwsic Cymru gyda disgo!
Dathlu Diwrnodau arbennig
Fel llysgenhadog Cymraeg mae'n bwysig iawn i ni gadw golwg ar y calendr a sicrhau ein bod yn tynnu sylw at ddiwrnodau arbennig!
Eleni hyd yn hyn rydym wedi.......
Dathlu Diwrnod Owain Glyndwr trwy cynnal ras ar draws argae Nant y Moch ac ymweld a gofgolofn Brwydr Hyddgen. Diolch enfawr i Dylan am ddod a drone i ffilmio'r ras!
Dathlu Diwrnod T Llew Jones trwy cynnal gweithgareddau hwylus.
Dathlu Diwrnod Santes Dwynwen trwy creu Cardiau
Dathlu Dydd Miwsig Cymru - Cael disgo!
Dathlu Dydd Gwyl Dewi gyda Cawl, pice ar y maen ac Eisteddfod ysgol!
Cyfansoddi a chanu! Trwy lygad craff y barcud.
Cawsom gyfle arbennig fel ysgolion lleol fel rhan o brosiect Cardi Iaith i gyfansoddi cân a chreu ffilm ohono gyda Mei Gwynedd! Rydym wrth ein bodd gyda'r gân.
Siarad a chanu ein cân 'Trwy lygaid craff y barcud' yn fyw ar raglen Sian Cothi yn ddiweddar
Cystadlu ac annog
Helpu eraill
Lot o grafu pen ond wedi defnyddio ein sgiliau rhifedd yn wych!