Cyfrifoldebau
Tacluso a Thwtio!
Rydyn yn cael trefnu prynhawn ar ol y Gaeaf hir i thacluso a thwtio'r ardal allanol! Mae pawb yn 'pitsio' mewn ac mae'n braf cael ardal taclus yn barod i'r Gwanwyn!
Sicrhau Ysgol Eco effeithiol...
Rydym yng ngofal sicrhau bod pawb yn ymwybodol o sut i fod yn ysgol eco effeithiol. Mae hyn yn cynnwys
peidio a gwastraffu trydan, gwres a dwr! Rydym wedi creu posteri i atgoffa pawb!
torri lawr ar wastraff bwyd - annog plant i fwyta'u cinio i gyd!
sicrhau bod pawb yn yfed digon o ddŵr - mae'r ysgol yn darparu potel dwr i bawb.
cynnig ffrwyth ffres amser egwyl ac yn rhoi'r gwastraff yn y biniau compost
tyfu llysiau ein hun i werthu yn yr Hydref
Cynnal diwrnodau megis Diwrnod Cerdded i'r ysgol, Diwrnod gofalu am ein moroedd, Diwrnod lleihau ynni i godi ymwybyddiaeth.
Gwella'r ardal allanol
Cynlluniau ar y gweill ......
Rydym yn gyffrous iawn ein bod yn cael ardal chwarae newydd yng Nghae'r ysgol! Mae hyn yn bosib oherwydd gwnaethom codi dros £17,000 o bunoedd mewn noson o 'Strictly' ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid llynedd! Tipyn o gamp i ysgol fach!
Ein Syniadau
Rydym fel disgyblion wedi bod yn trafod syniadau a chreu cynlluniau i'r adeiladwyr ar gyfer yr ardal, ac mae'r gwaith ar fin cychwyn!