Y llwybr

Darparu llwybr clir i ddysgu awyr agored

Providing a clear path into outdoor learning

Mae bod yn yr awyr agored yn rhan hanfodol o blentyndod, ond er hyn mae plant yng Nghymru yn treulio llai a llai o amser yn yr awyr agored. Mae'r dystiolaeth yn glir – mae bod yn yr awyr agored yn gwella ein lles meddyliol a'n hiechyd corfforol. Mae cysylltu â natur yn gwella ein hwyliau, yn lleihau straen, yn gwella galluedd meddyliol, ac yn hyrwyddo gweithgarwch corfforol.

Cynlluniwyd y safle ar gyfer ysgolion sy'n dechrau ar eu taith o ran dysgu yn yr awyr agored, ac ar gyfer y rheiny sydd ymhellach ymlaen o ran ymgorffori profiadau dysgu yn yr awyr agored. Gall mannau myfyrio ledled y safle helpu pob ysgol i ddatblygu rhagor ar eu dealltwriaeth o ddysgu yn yr awyr agored.


Dylid ystyried y gwaith o ddatblygu profiadau dysgu dilys y tu allan i'r ystafell ddosbarth mewn modd cyfannol, gan ganolbwyntio ar Bedwar Diben y cwricwlwm, a dylai ddarparu ar gyfer cynnydd i bob dysgwr rhwng 3 ac 16 oed.

Gall mannau myfyrio ledled y safle helpu pob ysgol i ddatblygu rhagor ar eu dealltwriaeth o ddysgu yn yr awyr agored.

Er mwyn hyrwyddo'r effaith gadarnhaol y mae profiadau yn yr awyr agored yn ei chael ar blant a phobl ifanc, dylent gael mynediad at brofiad mynych, parhaus a chynyddol o ddysgu yn yr awyr agored. Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae yna gorff cynyddol o dystiolaeth sy'n cefnogi gwerth ‘yr awyr agored’ o ran datblygiad person ifanc.

( Dysgu Awyr Agored o Ansawdd Rhagorol- OEAP, 2018)

Mae dysgu awyr agored yn addysgeg ac yn brofiad dysgu sy'n helpu dysgwyr i ddatblygu ystod o sgiliau, gwybodaeth ac agweddau sy'n cefnogi datblygiad y canlyniadau a ddymunir o'r pedwar diben. Wrth ddylunio cwricwlwm lleol ar gyfer ysgol, dylai dysgu awyr agored fod yn rhan annatod o'r broses ddylunio. Nid yw dysgu awyr agored yn rhywbeth i 'ffolltio ar' nac yn ymyrraeth, ond dylai dreiddio'r cwricwlwm a rhoi profiadau rheolaidd i ddysgwyr trwy gydol y flwyddyn.

Mae ‘Dysgu yn yr awyr agored’ yn cynnwys dull o ddysgu:

• sydd â’r awyr agored yn rhan ganolog ohono

• yn agored i bawb

• yn defnyddio profiad o’r amgylchedd naturiol fel modd i ddysgu gwybodaeth, sgiliau, agweddau at fywyd, ac ymddygiad

• yn cyfrannu at fywiogrwydd y diwylliant Cymreig a ffyniant yr iaith Gymraeg

• yn aml yn cynnwys elfen anturus, heriol

• yn aml yn cynnwys preswylio am gyfnod oddi cartref

• yn aml ag agwedd gorfforol iddo

• yn datblygu dealltwriaeth, gwerthfawrogiad a gofal o’r amgylchedd naturiol

• yn cael ei ddisgrifio’n aml fel profiad cofiadwy a hwyl

Dysgu Awyr Agored o Ansawdd Rhagorol, OEAP; 2018

Y Pyramid Natur.pdf