Ysgol Gynradd Y Crwys, Abertawe

Ysgol: Ysgol Gynradd Y Crwys

Lleoliad: Y Crwys

Sir: Dinas a Sir Abertawe

Tua 140 o ddisgyblion a darpariaeth feithrin ran-amser. Cyfleuster addysgu arbenigol yn y Cyfnod Sylfaen

Sylwadau Arolygu - 2019

Mae'r athrawon yn meithrin sgiliau corfforol a chreadigol y disgyblion yn llwyddiannus trwy amrywiaeth eang o weithgareddau diddorol. Mae'r defnydd o ddysgu yn yr awyr agored i wella agwedd y disgyblion at ddysgu a hybu eu llesiant yn rhagorol, ac mae hyn yn sicrhau bod y disgyblion yn datblygu i fod yn ddysgwyr hyderus.

Mae bron pob disgybl yn falch iawn o ennill ‘Gwobr Ysgol Awyr Agored Abertawe’, sef y wobr gyntaf o'i math; mae hyn yn nodwedd amlwg o waith yr ysgol. Mae'r disgyblion yn siarad yn angerddol am eu cariad at yr awyr agored a'r effeithiau cadarnhaol y mae hyn yn ei gael ar eu llesiant. Maent yn siarad yn hyderus am y modd y mae'r gweithgareddau hyn yn gwella lefelau eu cydnerthedd, eu cymhelliant a'u hymgysylltu mewn perthynas â'u dysgu yn yr ystafell ddosbarth.

Mae bron yr holl staff yn meithrin ac yn hyrwyddo lles y disgyblion, yn arbennig trwy ddefnydd effeithiol iawn o ddysgu yn yr awyr agored. Maent yn sicrhau bod y disgyblion yn elwa ar gyfoeth o weithgareddau awyr agored ysgogol a diddorol sydd yn ennyn eu diddordeb ac yn eu hysbrydoli.

Ysgol Gynradd Crwys – Estyn – Mehefin 2019

Yn dilyn arolwg 2019, cyhoeddwyd adroddiad ar arfer effeithiol gan Estyn:

Mae Ysgol Gynradd Crwys o'r farn bod yr amgylchedd awyr agored yn annog sgiliau megis datrys problemau a thrin risgiau. Mae'r disgyblion yn treulio o leiaf hanner diwrnod yr wythnos mewn coetir cyfagos. Yn ogystal â mwynhau bod yn yr awyr agored, mae'r disgyblion yn cynyddu eu hymwybyddiaeth o'r amgylchedd. Trwy ddatblygiad proffesiynol, mae'r arfer dysgu wedi esblygu ac mae'r cwricwlwm cyfan wedi cael ei addasu i gael ei addysgu yn yr awyr agored. Mae dysgu yn yr awyr agored wedi cael effaith gadarnhaol ar lesiant y disgyblion a'u hagweddau at ddysgu. Mae'r ysgol wedi gweld cynnydd o ran presenoldeb, ac mae'r safonau academaidd wedi gwella hefyd.

Estyn - Arfer Effeithiol - Mynd ag addysgu allan i’r awyr agored


Gall cymryd gwersi bob dydd y tu allan wella lles ac ymgysylltiad, ond eto nid yw'n cael ei ddefnyddio mor aml ag y gallai fod.