Beth yw'r dystiolaeth?

Mae llawer o ymarferwyr yn gwybod bod yna fuddion i ddysgwyr dreulio amser yn yr awyr agored, ond mae'n bosibl yn y gorffennol fod hyn wedi bod yn seiliedig ar deimladau ac arsylwadau. Bellach, mae yna gorff cynyddol o ymchwil sy'n cadarnhau'r arsylwadau hyn ac yn gwreiddio buddion dysgu yn yr awyr agored yn gadarn yng ngwyddor dysgu. Nid oes angen i ni mwyach gyfiawnhau bod dysgu yn yr awyr agored yn addysgeg; mae'r ymchwil yn cadarnhau bod profiadau dysgu y tu allan o fudd i bob dysgwr, a hynny mewn sawl ffordd. Mae'r ymchwil isod yn fan cychwyn i rywfaint o'r dystiolaeth.

'Wrth sôn am ddiwrnod da, roedd plant yn llawer mwy tebygol o siarad am weithgareddau awyr agored a gweithgareddau egnïol eraill ... na sôn am deledu, defnyddio'r Rhyngrwyd neu chwarae ar gonsolau gemau.'

Nairn A (2011) Children’s Well-being in UK, Sweden and Spain: The Role of Inequality and Materialism. Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol Ipsos MORI ar gyfer UNICEF. tt. 29.

Canfu astudiaeth gan Pretty et al (2007) (2) fod yna welliant amlwg yn hunan-barch plant wedi i gwrs cyfeiriannu i annog ymgysylltiad â mannau gwyrdd gael ei sefydlu. Daeth yr astudiaeth i'r casgliad hefyd fod wynebu heriau mewn gwylltir yn rhoi profiad o lwyddiannau dyddiol i gyfranogwyr, gan helpu i herio hen gredoau negyddol ac arwain at hunanganfyddiadau realistig newydd, mwy cadarnhaol .Mae hunan-barch a hwyliau yn ddangosyddion pwysig o les cyfredol ac yn y dyfodol, ac felly'n effeithio ar lwybrau bywyd oedolion a phlant, fel ei gilydd. (tt. 22, 26).

Pretty et al. (2007) Nature, Childhood, Health and Life Pathways. tt. 22, 26

Mae Estyn yn cydnabod bod ysgolion uchel eu perfformiad yn rhannu angerdd a gweledigaeth ar gyfer sicrhau bod gan ddisgyblion ddigon o gyfleoedd i fod yn weithgar yn gorfforol a dysgu yn yr awyr agored. Credant fod hyn yn arwain at lefelau uchel o ddiddordeb ac ymglymiad gan ddisyblion, sydd yn eu tro yn arwain at safonau uchel. Mae athrawon yn dod o hyd i ffyrdd dychmygus i ddisgyblion ddatblygu a chymhwyso’u medrau mathemategol ar draws y cwricwlwm trwy ddysgu gweithredol yn yr awyr agored.

Estyn (2017) 'Dysgu gweithredol a thrwy brofiad' Tudalen 28

Mae ymchwil yn dangos bod plant iachach a hapusach yn gwneud yn well yn yr ysgol, a bod addysg yn benderfynydd pwysig o ran iechyd yn y dyfodol. Ond nid dim ond ymwneud â gwersi y tu mewn i bedair wal yr ystafell ddosbarth y mae addysg. Mae'r amgylchedd awyr agored yn annog sgiliau megis datrys problemau a thrafod risgiau sy'n bwysig ar gyfer datblygiad plant.

Marchant, Todd a Brophy (2019) 'Nodant fod gan ddysgu yn yr awyr agored fuddion enfawr i blant ac athrawon – felly pam nad yw'n cael ei ddefnyddio mewn mwy o ysgolion?' The Conversation

Mae cymryd rhan yn y sbectrwm eang o brofiadau sydd ar gael trwy ddysgu yn yr awyr agored yn darparu cyfleoedd i bobl ifanc gymryd rhan mewn gweithgareddau newydd a chyffrous, ac i ddatblygu sgiliau ymlaen i oedolaeth.

Gall hyn gael effeithiau manteisiol hirdymor ar iechyd a lles plant yn ogystal â’u haddysg a’u datblygiad. Y llinyn cyffredin yw'r ffocws ar ganlyniadau cadarnhaol mewn datblygiad personol a chymdeithasol.


Llwyodraeth Cyrmru (2014) 'Rhagor o gamau yn yr awyr agored - Canllawiau' WG21941. Tudalen 3.