Ysgol Gynradd Johnston

Maes Dysgu a Phrofiad Mathemateg a Rhifedd yn yr awyr agored

Mae’r astudiaeth achos hon yn archwilio ac yn egluro ein taith i ddatblygu dysgu ac addysgu Mathemateg a Rhifedd yn y Cwricwlwm i Gymru gan ddefnyddio’r awyr agored i wneud profiadau dysgu yn rhai sy’n llawn pwrpas, yn ennyn brwdfrydedd ac yn gyffrous.

Cefndir

Mae Ysgol Gymunedol Johnston yn ysgol un dosbarth mynediad â thua dau gant chwe deg o blant ar y gofrestr. Mae tua ugain y cant o’r plant yn cael prydau ysgol am ddim ac mae tri deg y cant wedi’u nodi fel rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Symudodd yr ysgol i adeilad newydd ym mis Ionawr 2016. Yn dilyn arolwg yn 2017 daethpwyd i’r canlyniad bod angen gwella’r ysgol. Er 2016, mae nifer o newidiadau staff wedi’u gwneud yn yr ysgol, ac maent wedi arwain at welliannau sylweddol yn y dysgu a’r addysgu. Roedd addysgu mathemateg, a mathemateg ar draws y cwricwlwm yn fwyaf arbennig, yn un o argymhellion Estyn. Ers mis Medi 2019 mae’r ysgol wedi treulio llawer iawn o amser yn datblygu dysgu ac addysgu ym maes mathemateg, gan sicrhau bod y pedwar diben yn sylfaen i gwricwlwm cyfannol sy’n darparu cyd-destunau go iawn ar gyfer dysgu i’r dysgwyr.

Datblygu gweledigaeth ar gyfer dysgu ac addysgu

Roedd datblygu ein gweledigaeth ar gyfer y ffordd roeddem eisiau cefnogi ein dysgwyr i symud ymlaen tuag at y pedwar diben mewn mathemateg yn rhan hollbwysig o’n taith. Penderfynasom dreulio tymor yr hydref yn dadansoddi maes dysgu a phrofiad Mathemateg a Rhifedd er mwyn sicrhau amser a lle i feddwl o ddifri ynglŷn â pham, sut a beth rydym yn ei addysgu. Roedd yr ysgol wedi symud ymlaen yn barod, gan gefnu ar y dull gwerslyfrau Abacus traddodiadol a symud tuag at ddull mwy concrit, darluniadol a haniaethol lle mae athrawon yn cynllunio amrywiaeth o weithgareddau ar sail anghenion y dysgwyr. Er bod hyn yn arwyddocaol ac yn bwysig, gwyddem nad oeddem wedi llwyddo eto i sicrhau’r newid mewn diwylliant lle roeddem yn dechrau meddwl mwy ynglŷn â ‘pham’ rydym yn addysgu agweddau ar fathemateg a rhifedd a sut rydym yn cyflwyno cyfleoedd dysgu i blant. Teimlem hefyd nad oeddem eto wedi archwilio strategaethau er mwyn cynnwys ‘llais y dysgwr’ mewn mathemateg a rhifedd mewn ffordd yr oeddem wedi gwneud mewn Meysydd eraill fel rhan o’n cwricwlwm cyfannol. O ganlyniad, aethom ati i geisio sicrhau newid diwylliant lle’r oedd staff yn ystyried y dysgu a’r addysgu, gan ddarparu cyfleoedd cyfoethog wedi’u gosod mewn cyd-destun perthnasol lle gallai dysgwyr ddeall, archwilio, datblygu a thrafod.

Dechreuasom feddwl ynglŷn â ‘pham’ a ‘sut’ y dysgu, ac archwilio syniadau ar gyfer dysgu ac addysgu mewn cyd-destunau go iawn gan ddefnyddio’r amgylchedd o’n cwmpas. Cyflymodd y gwaith o ganlyniad i bandemig Covid-19 wrth i ni feddwl mwy ynglŷn â sut y gallem fynd â’r dysgu allan i’r awyr agored. Defnyddiasom brynhawniau Gwener anghymesur i drafod y dulliau addysgu y gallem eu defnyddio yn yr awyr agored. Roedd arnom eisiau datblygu profiadau dysgu awyr agored go iawn. Roedd yr ysgol yn ffodus iawn bod cae naw erw wedi’i roi iddi, â mynediad iddo drwy glwyd yng nghefn y maes chwarae. Er gwaetha’r ffaith fod yr ysgol wedi cael mynediad i’r cae hwn er 2017, prin bod y glwyd wedi’i hagor ac nid oedd yr ardal yn cael ei defnyddio o gwbl fel amgylchedd dysgu.

Roedd ‘agor y glwyd’ yn cynnig cyfleoedd i ni archwilio dulliau addysgu newydd. Nid oeddem yn gwybod yn iawn i ble byddai pethau’n mynd, ond dechreuasom â chwestiynau allweddol a oedd yn sail i’n hathroniaeth addysgol:

  1. Sut allwn ni greu cyfleoedd i bob dysgwr gydweithio er mwyn archwilio cysyniadau?

  2. Sut mae cynllunio er mwyn cymhwyso sgiliau mewn cyd-destun go iawn?

  3. A yw ein hamgylchedd dysgu yn ennyn brwdfrydedd ac yn gyffrous?

  4. Sut mae annog a galluogi pob dysgwr i wneud cysylltiadau rhwng gwahanol gysyniadau?


Mireinio dulliau dysgu ac addysgu

Wrth i ni archwilio syniadau, cytunwyd ar nifer o gamau gweithredu y byddem yn hoffi eu defnyddio fel catalydd:

  • roedd arnom eisiau creu ardal fathemateg y tu allan i’n hystafelloedd dosbarth, yn cynnwys deunyddiau naturiol ac adnoddau mathemateg

  • buddsoddiad mewn adnoddau a chyfarpar

  • cyfleoedd i ddysgwyr archwilio heriau a syniadau mathemategol yn yr awyr agored mor aml ag sy’n bosibl

  • cyfleoedd i ddysgwyr lywio’r dysgu mewn cyd-destunau go iawn.

Wrth i’r athrawon gynllunio ac ymwneud â’r gweithgareddau hyn, roedd arnom eisiau i’r dysgu ganolbwyntio ar y sgiliau sy’n rhan annatod o’r pedwar diben gan ddarparu cyfleoedd ar gyfer creadigrwydd ac arloesi; meddwl yn feirniadol a datrys problemau; effeithiolrwydd personol a chynllunio a threfnu. Mae’r sgiliau hyn yn ganolog i gefnogi dysgwyr i symud ymlaen tuag at y pedwar diben. Roeddem eisoes wedi treulio ychydig o amser yn ystyried nodweddion y pedwar diben a sut y byddent yn ffurfio’r man cychwyn ar gyfer ein penderfyniadau wrth gynllunio’r profiadau dysgu. Gwnaeth hyn i ni sylweddoli sut roedd profiadau mewn mathemateg a rhifedd yn cefnogi datblygiad nodweddion ym mhob un o’r pedwar diben, nid dysgwyr galluog, uchelgeisiol yn unig.

Bron iawn ar unwaith, cyflymodd y gwaith ym maes mathemateg wrth i arloesi â dulliau addysgu ddechrau cynyddu, ac roedd y llwyddiant yn amlwg wrth i ddysgwyr ffynnu yn ystod gweithgareddau awyr agored. Daeth yn amlwg i’n staff y gallai’r awyr agored fod yn amgylchedd ysbrydoledig a chyffrous i ddatblygu profiadau dysgu. Roedd y rhain yn cynnwys:

  • gweithio mewn grwpiau,

  • archwilio syniadau trwy drafodaeth heb boeni y gallent wneud camgymeriadau,

  • datblygu dulliau amrywiol o ddatrys problemau trwy ymchwilio yna myfyrio ar yr hyn yr oeddent wedi’i ddysgu.

Datblygodd cyffro mewn cyfarfodydd staff wrth i’r staff, fel rhan o’n dysgu proffesiynol, rannu syniadau yn agored mewn amgylchedd nad oedd yn fygythiol. Gwnaethom hyn bob wythnos, gan ganolbwyntio ar y sgiliau a fyddai’n cynorthwyo dysgwyr i symud ymlaen tuag at y pedwar diben. Caniatawyd amser i drafod newidiadau roedd arnom eisiau eu gwneud er mwyn gwella’r amgylchedd awyr agored fel rhan o’r broses werthuso barhaus

Yr un pryd, buom yn gweithio gyda Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Chanolfan Darwin er mwyn darparu cyfleoedd ar gyfer dysgu proffesiynol wythnosol. Bu dau barcmon o’r Parc Cenedlaethol yn gweithio gyda grwpiau o ddysgwyr trwy gydol y diwrnod. Yn ystod y gweithgareddau hyn, buont yn ein cefnogi ag adnoddau, syniadau a phrosiectau amrywiol. Er enghraifft, pan oeddem yn egluro wrth y parcmon ein bod yn mynd i fod yn dysgu am siâp, awgrymodd dorri siapiau ar y cae a rhoddodd arweiniad i ni mewn ffyrdd creadigol eraill.

Treialu a gwerthuso gweithgareddau newydd ac integreiddio profiadau dysgu go iawn

Gosodasom y nod i ni’n hunain o ofyn yn barhaus, ‘beth mae ein dysgwyr yn ei ddysgu a pham?’

Isod gwelir ychydig o enghreifftiau o’r dysgu a alluogodd ein dysgwyr i symud ymlaen tuag at y pedwar diben trwy ddatblygu’r sgiliau sy’n rhan annatod o’r pedwar diben.

Yma, mae rhai o’n dysgwyr wedi plannu coed yn y berllan. Dechreuasant ofyn, ’Faint o amser fydd hi’n ei gymryd i’r goeden dyfu?‘ 'Fydd hi’n fwy na fi erbyn yr amser y bydda i’n gadael yr ysgol?’ O ganlyniad i’r cwestiynau hyn, dechreuasom ymchwilio i weld faint o flynyddoedd y byddai’n ei gymryd i goeden dyfu pe bai’n tyfu 30cm y flwyddyn. Arweiniodd hyn at gwestiynau yn ymwneud â gwahanol fathau o goed a’u cyfradd twf, gan ddatblygu dealltwriaeth dysgwyr o ecoleg.

Dechreuasom hefyd ystyried cysyniadau fel faint o goed sydd eu hangen er mwyn darparu ocsigen i un bod dynol. Roedd hyn yn ennyn chwilfrydedd y dysgwyr ac yn eu hysgogi i wneud cynlluniau i blannu mwy o goed. Er mwyn cynorthwyo dysgwyr i ddeall pam y mae datgoedwigo’n digwydd, buom yn archwilio problemau yn gysylltiedig ag adnodd NRICH a oedd yn ymwneud â sut y gellir gwerthu coed i wneud elw.

Gwelir enghraifft o’r dysgu go iawn a ddatblygodd ar ôl i ni ddarganfod llyffant! Ar ôl dysgu am gyfraddau twf coed, fe wnaethom blannu dwy goeden dderw ger mynedfa’r cae a darganfod llyffant a oedd yn gaeafgysgu. Roedd ein dysgwyr wedi rhyfeddu eu bod wedi darganfod y creadur, ac o ganlyniad treuliasom ein sesiynau gwyddoniaeth a thechnoleg yr wythnos ganlynol yn creu ardaloedd gaeafgysgu i amffibiaid.

Parhaodd y diddordeb mewn coed wrth i’r dysgwyr, yn ystod sesiwn ’llais y dysgwr’, fynegi diddordeb mewn darganfod oed gwahanol goed a chymharu oed coed â’u hoed hwy. Yma, bu’r dysgwyr yn gweithio mewn grwpiau, gan ddatrys problemau a datblygu eu sgiliau cynllunio a threfnu er mwyn ymwneud â’r ymchwiliad. Roeddent yn awyddus i ddefnyddio eu sgiliau a’u geirfa fathemateg i ddisgrifio cylchedd y gwahanol goed ac amcangyfrif eu hoed. Roedd cymaint o ‘gyffro’ wrth ddysgu yn ystod y dasg bore Gwener hon fel nad oedd y dysgwyr eisiau mynd adref!

Roedd y dysgwyr hefyd yn awyddus i gyfrifo taldra coed. Roedd hyn yn golygu bod angen iddynt ddefnyddio eu gwybodaeth am onglau a’u sgiliau meddwl yn feirniadol i ddatrys problemau anodd. Fe wnaethom ni hyd yn oed gyffwrdd trigonometreg.


Datblygodd rhesymu rhesymegol a datrys problemau yn nes at y dosbarth hefyd. Yn yr enghraifft hon, mae’r dysgwyr yn datrys, rhannu a chreu sgwariau hud a phroblemau algebraidd. Fe wnaethon nhw ddysgu pa mor bwysig yw meddwl yn ofalus wrth benderfynu ar fan cychwyn yn ystod problemau rhesymu. Rydym yn ceisio cael grŵp yn defnyddio ein hardal awyr agored (yr ardal agosaf at yr ysgol) bob diwrnod er mwyn cyfoethogi dysgu a darparu cyfleoedd i ddysgwyr gymryd yr awenau yn y broses o ddysgu.

Parhaodd y cyd-destunau go iawn i ddatblygu pan osodwyd ffensys i sefydlu ardaloedd tyfu newydd.


Bu’r dysgwyr yn cyfweld gwirfoddolwyr gan eu holi ynglŷn â’r sgiliau roeddent yn eu defnyddio wrth iddynt gynllunio ar gyfer y ffensys a’u gosod. Yna, bu’r dysgwyr yn defnyddio eu sgiliau datrys problemau eu hunain i fesur a chyfrifo arwynebedd a pherimedr gwahanol rannau o’r cae. Mwynhaodd llawer gymharu eu cyfrifiadau hwy â chyfrifiadau'r oedolion a fu’n gwirfoddoli!

Yn dilyn trafodaeth a chyngor gan barcmon y Parc Cenedlaethol, penderfynwyd bod arnom angen defaid fel ffordd gost-effeithiol o reoli twf y glaswellt. Arweiniodd hyn at sefydlu gweirglodd wyllt. Yma, mae dysgwyr blwyddyn chwech yn mesur gwahanol hydau o raff ac yn cyfrifo faint o arwynebedd y byddai ei angen i alluogi dafad ar dennyn i bori’n hapus!

Profiadau dysgu newydd

Pa mor aml rydym yn cymryd yn ganiataol bod dysgwyr yn gwybod rhywbeth, ond yn darganfod yn nes ymlaen nad ydynt yn siŵr ynglŷn â’r hyn y maent yn ei ddysgu?

Yn ystod gwers am ddogni, daeth yn amlwg nad oedd gan y dysgwyr brofiad blaenorol o ‘gyffeithiau’ na sut roeddent yn cael eu gwneud.

Manteisiwyd ar y cyfle i hel mwyar duon a gwneud jam! Bu’r dysgwyr yn datrys problemau yn ymwneud â chymarebau a chyfrannau er mwyn sicrhau eu bod yn defnyddio symiau cywir o gynhwysion. Datblygodd hyn sgiliau pwyso, gwaith grŵp a rhesymu cyfrannol, yn ogystal ag ysgogi’r dysgwyr i flasu’r jam roeddent wedi ei wneud.

Dealltwriaeth ddyfnach o rifau negyddol

Mae deall cysyniadau allweddol fel rhifau negatif yn hollbwysig. Yma, bu dysgwyr blwyddyn pump yn ymchwilio i batrymau â rhifau negyddol, gan ddefnyddio cerrig i greu llinell rhifau negyddol. Roedd hyn yn golygu bod angen iddynt symud i fyny ac i lawr y llinell rifau, gan ddefnyddio’r adnoddau concrid wrth iddynt egluro eu dealltwriaeth.


Cynllunio a threfnu wrth fesur onglau

Fel rhan o awydd y dysgwyr i ddeall mwy am wahanol goed buont yn ymchwilio i onglau canghennau. Er mwyn gwneud hyn roedd angen i’r dysgwyr gynllunio eu man cychwyn, meddwl beth oedd y ffordd orau o fynd at y coed yn ddiogel ac ystyried sut i weithio’n effeithlon gyda’i gilydd. Mae deall lle i osod yr onglydd yn aml yn rhywbeth y mae llawer o ddysgwyr yn ei weld yn anodd, ond roedd y dasg hon yn eu helpu i ddatblygu’r ddealltwriaeth hon.


Pa mor aml rydym yn addysgu sgil, er enghraifft elw a cholled, heb ddarparu cyd-destun y gall dysgwyr ei ddeall yn iawn?

Mae dysgwyr blwyddyn pedwar wedi gofalu’n gyfrifol am chwe iâr, gan sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn iach. Maent wedi gwerthu’r wyau yn ystafell y staff, gan eu prisio er mwyn iddynt allu gwneud elw ar ôl prynu bwyd ieir. Yna dosbarthwyd yr elw rhwng aelodau’r dosbarth. Roedd y profiad yn gyfle i ddysgu llawer o wahanol sgiliau a chawsom lawer o ddysgwyr yn gwneud cais i fod yn rheolwyr ieir!


Lluniwyd mapiau o’n hysgol a oedd yn darparu nifer o gyfleoedd i’n dysgwyr osod heriau i’w ffrindiau ddatblygu eu sgiliau darllen map, cyfeiriannu a mesur.

Yn ogystal â’n sesiynau dysgu mwy strwythuredig, dechreuasom hefyd roi heriau i’r dysgwyr eu mwynhau fel rhan o’u hamser egwyl. Roedd hyn yn helpu ein dysgwyr i fod yn chwilfrydig a holgar o gael lle i archwilio syniadau yn ystod rhannau anstrwythuredig o’r diwrnod ysgol. Rydym wedi rhoi heriau eang ac agored i’r dysgwyr – mae’n wych eu clywed yn trafod ac yn cael dadl ynglŷn â’r:

  • cyfarpar y mae arnynt ei angen,

  • sut y maent yn bwriadu casglu a chategoreiddio gwybodaeth

  • a sut i ddatrys problemau.

Fel rhan o’n huchelgais i ddefnyddio deunyddiau naturiol, y gellir eu hailgylchu, rhoddwyd llechi i’r dysgwyr i gofnodi eu cyfrifiadau a’u syniadau.

Gwerthuso gweithgareddau

Mae’r canlynol yn amlinelliad byr o’r effaith ar ddysgu ac addysgu:

  • cynyddu mwynhad dysgwyr a’u cysylltiad â’r amgylchedd dysgu awyr agored a dan do

  • newid agweddau dysgwyr at gydweithio a dysgu mewn mathemateg

  • dysgwyr yn deall pa mor ddefnyddiol yw mathemateg yn eu bywydau bob dydd

  • gwella hyder yn sgiliau cyfathrebu ein dysgwyr

  • mae ein haddysgu yn fwy creadigol a’n hathrawon yn gwerthfawrogi pwysigrwydd datblygu creadigrwydd a chwilfrydedd ein dysgwyr.

  • mae ein dysgwyr yn datblygu dulliau arloesol o ddatrys problemau

  • cynyddu lefelau gwytnwch ac annibyniaeth wrth ddysgu mathemateg a rhifedd

Mae pob un o’n hathrawon wedi dweud bod dysgwyr, yn ystod sesiynau dysgu dan do, bellach yn fwy a mwy parod i fynegi a disgrifio eu dealltwriaeth, fel y byddent yn gwneud fel rhan o weithgaredd datrys problem yng ngwaelod y cae!

Cynnydd Dysgwyr

Mae asesiad athrawon yn dangos bod y rhan fwyaf o’r dysgwyr wedi gwneud cynnydd cryf, a chynnydd cyflymach mewn llawer o achosion. Dengys tystiolaeth ar gyfer y dosbarth blwyddyn 5, y dosbarth cyntaf i ddechrau defnyddio’r awyr agored, bod 50% o’r dysgwyr wedi cael 112+ yn yr asesiadau personol safonedig a bod bron bob un o’r dysgwyr wedi gwella ei sgorau.


Llais y Dysgwr

Wrth i’r prosiect fynd yn ei flaen, gwelsom fod y dysgwyr wedi datblygu lleisiau cynyddol gryfach ynglŷn â sut roeddent yn hoffi dysgu ac am beth roeddent yn hoffi dysgu. Er enghraifft, ym mis Tachwedd cynlluniwyd wythnos lafaredd i’r ysgol gyfan lle rhoddwyd her i’r dosbarthiadau gynllunio a pharatoi fideo o’u dewis. Penderfynodd y dysgwyr ym mlwyddyn pedwar y byddent yn hoffi creu fideo i gofnodi rhywfaint o’r gwaith yr oeddent wedi ei ddatblygu yn yr awyr agored. Mae’r fideo yn dangos sut mae’r cyd-destunau go iawn ar gyfer dysgu wedi cyffroi dysgwyr â llawer ohonynt yn disgrifio sut y mae bod allan yn yr awyr agored yn gwneud iddynt deimlo’n dawel ac yn llawn pwrpas. Cadarnhaodd hyn ein dealltwriaeth o bwysigrwydd dull integredig o gynllunio’r cwricwlwm.


Cynllunio’r cwricwlwm a’r camau nesaf

Mae ein taith i ddatblygu dysgu ac addysgu mathemateg a rhifedd trwy gynyddu cyfleoedd ar gyfer profiadau dysgu awyr agored wedi bod yn un gadarnhaol iawn, ac mae wedi rhoi llawer o foddhad i ni. Mae llawer o’r datblygiadau wedi digwydd yn naturiol, wrth i’n staff gydweithio a myfyrio er mwyn gwella’r amgylchedd dysgu i bob dysgwr.

Wrth i ni symud ymlaen, byddwn yn cynnal ac yn datblygu ein hamgylchedd dysgu awyr agored. Byddwn yn cynllunio profiadau sy’n cefnogi dysgu ym mhob Maes, gan gyfoethogi’r dull cyfannol o gynllunio’r cwricwlwm ymhellach. Er enghraifft, rydym wedi dechrau gweithio gyda dysgwyr i ddatblygu ardaloedd awyr agored ar gyfer theatr ac adrodd storïau. Rydym hefyd yn mynd i ddal i ddatblygu dealltwriaeth ein dysgwyr o’r argyfwng hinsawdd presennol, gan ddefnyddio ein cwricwlwm i helpu dysgwyr i deimlo eu bod yn rhan o ymdrech fyd-eang, fwy. Gobeithiwn y bydd y prosiect hwn yn un y gallant fod yn falch ohono, ac y gallant fynd yn ôl ato eto yn y dyfodol.