Ysgol Gynradd Llanfaes, Powys

Ysgol: Ysgol Gynradd Llanfaes

Lleoliad: Aberhondu

Sir: Powys

Tua 200 o ddisgyblion rhwng 4 ac 11 oed ar y gofrestr. Safle a rennir ag uned asesu cyn-ysgol a lleoliad ar gyfer plant tair oed.

Yn Ysgol Gynradd Gymunedol Llanfaes, rydym yn ymrwymedig i ddefnyddio'r amgylchedd awyr agored i gefnogi a gwella'r dysgu ar gyfer ein holl ddysgwyr, gan gydnabod yr effaith gadarnhaol y gall yr awyr agored ei chael ar iechyd a llesiant dysgwyr.

Rydym wedi datblygu a chyfoethogi'r ardaloedd awyr agored, gan roi mentrau newydd ar waith a datblygu mannau ysgogol ac atyniadol fel ein bod yn cefnogi iechyd a llesiant ein disgyblion ymhellach. Cyflawnwyd hyn trwy brynu offer newydd a datblygu 'ardaloedd' o amgylch yr ysgol y gall yr holl ddysgwyr gael mynediad iddynt bob amser ac ym mhob tywydd. Trwy ddefnyddio llais disgyblion mewn modd effeithiol, mae ein dysgwyr wedi cyfrannu at drafodaethau cyfoethog ynghylch sut y gellir datblygu'r awyr agored, ac roeddent wedi chwarae rhan lawn yn y broses o wneud penderfyniadau, a dewis offer newydd a'u prynu.

Y newid cyntaf a wnaethom oedd agor pob ardal awyr agored. Daeth cae'r ysgol, y goedwig (Gardd Dawel) a'r maes chwarae yn feysydd y gallai'r dysgwyr gael mynediad iddynt a'u harchwilio trwy gydol y diwrnod ysgol. Yn flaenorol, dim ond yn ystod tywydd sych neu yn rhan o weithgareddau'r ystafell ddosbarth y defnyddid yr ardaloedd hyn. Cyflwynwyd ardaloedd newydd o amgylch tir yr ysgol, megis ardaloedd pêl-droed dynodedig, mannau tawel, tipîs pren, tai hobit a 'phodiau' awyr agored. Crëwyd cyfleoedd newydd i'r dysgwyr chwarae, cyfathrebu a chymdeithasu hefyd, er enghraifft, y dysgwyr hynny sy'n ymarfer ac yn datblygu eu sgiliau Cymraeg yn ein 'Pod Siarad Cymraeg' awyr agored, y gellir mynd iddo bob amser trwy gydol y diwrnod ysgol.

Ymgysylltu â rhieni

Roedd ymgysylltiad cadarnhaol â rhieni yn hanfodol i'n datblygiad fel ein bod yn gallu sicrhau bod gweledigaeth a dealltwriaeth a rennir yn cael eu creu mewn perthynas â'r modd y gall yr awyr agored gael effaith gadarnhaol ar iechyd a llesiant ein dysgwyr. Erbyn hyn, mae gan y dysgwyr ym mhob dosbarth esgidiau a dillad awyr agored addas yn yr ysgol bob amser i newid iddynt, sy'n caniatáu i ni ddefnyddio'r awyr agored cymaint â phosibl a darparu amrywiaeth o brofiadau cyffrous i'n plant.

Gweithgareddau cynlluniedig

Erbyn hyn, mae gweithgareddau dysgu yn yr awyr agored dyddiol yn cael eu cynllunio ym mhob dosbarth ledled yr ysgol. Trwy ein dull 'diwrnod integredig' ysgol gyfan, gall y dysgwyr brofi cyfleoedd i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau awyr agored deniadol trwy heriau addysgu annibynnol a heriau ac iddynt ffocws. Mae dysgu yn yr awyr agored yn cael ei gynllunio ledled pob Maes Dysgu a Phrofiad, gan alluogi dysgu yn yr awyr agored i ddod yn rhan naturiol o wersi yn hytrach na'u bod yn 'ychwanegiad'. Yn y dosbarthiadau iau, mae gan bob dosbarth ei ardal awyr agored ei hun. Mae'r ardal hon yn rhan fawr o'r ystafell ddosbarth gan ei bod yn caniatáu i'r dysgwyr archwilio, datblygu a gwella eu dysgu ym mhob gwers. Mae'r dysgwyr yn perchnogi ac yn ysgwyddo'r cyfrifoldeb dros eu 'podiau' awyr agored, gan gynllunio a chreu ardaloedd sy'n seiliedig ar eu pwnc neu brofiad dysgu cyfredol. Er enghraifft, wrth ddysgu am y stori Here and Now, cafodd Blwyddyn 2 eu hysbrydoli, yn gwbl annibynnol, i drawsnewid eu pod awyr agored yn ardal chwarae rôl forol – sy'n cynnwys octopws a thywod! Mae'r defnydd hwn o ystafelloedd dosbarth yn yr awyr agored yn rhywbeth yr hoffem ei ddatblygu ymhellach ar draws yr ysgol ac yn y dosbarthiadau hŷn. Mae'r broses wedi dechrau trwy adeiladu 'hwyliau' a chadeiriau boncyff, sy'n caniatáu i'r dysgwyr hŷn ddefnyddio a chofleidio'r awyr agored yn annibynnol, i gefnogi a gwella eu dysgu.

Yn ein dosbarthiadau hŷn, mae dysgu yn yr awyr agored wedi dod yn rhan o'r diwrnod ysgol. Yn rhan o'r cynllun 'EPIC', mae'r dysgwyr, yn annibynnol, yn cynllunio eu gweithgareddau awyr agored eu hunain ar gyfer y 'parth darganfod' yn ystod heriau'r 'Amser Penigamp'. Mae'r dysgwyr yn arwain eu dysgu eu hunain, gan gynllunio cyfleoedd a phrofiadau dysgu yn annibynnol. Mae hyn yn caniatáu iddynt ymarfer, cydgrynhoi a gwella eu sgiliau yn yr awyr agored. Er enghraifft, wrth ddysgu am gartrefi, newid yn yr hinsawdd, cynaliadwyedd a thegwch, roedd y dysgwyr wedi cynllunio a chreu cartrefi byd-eang wedi'u gwneud o adnoddau awyr agored naturiol, a oedd yn cynrychioli cartrefi o amrywiaeth o amgylcheddau o bob cwr o'r byd. Trwy ddefnydd cynyddol o'r awyr agored, mae'r dysgwyr hefyd wedi datblygu eu creadigrwydd ymhellach, ynghyd â meithrin cadernid a'r gallu i gymryd risgiau. .

Iechyd a Lles

Mae'r gwelliant hwn i'r amgylchedd awyr agored wedi cael effaith gadarnhaol ar les meddyliol ac emosiynol ein dysgwyr, yn ogystal â'u hymgysylltiad â dysgu. Rydym hefyd wedi gweld gwelliant cadarnhaol mewn ymddygiad yn ystod amser chwarae ac amser cinio. Mae perthnasoedd cymheiriaid ledled yr ysgol wedi datblygu a chryfhau ymhellach gan fod y dysgwyr ym mhob grŵp blwyddyn yn cymdeithasu ac yn cyfathrebu â'i gilydd ym mhob rhan o'r awyr agored. Mae'r dysgwyr hefyd wedi dod yn fwy egnïol yn ystod y diwrnod ysgol, ac yn defnyddio'r amrywiaeth o fannau ac offer awyr agored, sydd bellach yn hygyrch ac ar gael iddynt bob amser.

Yn Ysgol Gynradd Gymunedol Llanfaes, rydym yn parhau i ddatblygu'r defnydd o'r awyr agored ymhellach, gan ddarparu amrywiaeth o brofiadau dysgu cyffrous ac ysgogol i'n holl ddysgwyr.