Y Cyfnod Cynnar / The Early Times
Hanes y Celtiaid / History of the Celts
Y Rhufeiniaid ym Mhrydain / The Roman Conquest of Britain
Macsen Wledig / Magnus Maximus.
Caradog / Caractacus
Buddug / Boudicca
Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
Dwyn i gof (Ffeithiol / ffuglen) - Hanesyn / digwyddiad cofiadwy (Uchod).
Ysgrifennwch stori am un o'r straeon uchod - Caradog, Buddug a.y.b.
Ysgrifennwch adroddiad bapur newydd am un o hanesion uchod. Gwnewch raglen newyddion am y digwyddiad.
Ysgrifennwch lythyr adre i Gymru o Rufain yn adrodd hanes Caradog
Portread o Arwr - Caradog / Portread neu boster "Wanted" o Buddug.
Cyfweliad a chymeriad - ‘Sesiwn y gadair goch’. Gyda’r wybodaeth sydd ganddoch chi, cymrwch gyfle i chwarae rôl ac i holi ambell i gymeriad ar y gadair goch!
Barddoniaeth - pob math.
Perswad (ysgrifenedig / llafar) - (Dadl) Ydy rhyfel yn medru cael ei gyfiawnhau?
Mynegi Barn - A oedd Caradog yn ddyn da?
Ysgrifennwch araith o blaid / yn erbyn yr Ymerodraeth Rufeinig.
Cyflwyno gwybodaeth a gwaith y disgyblion i'r rhieni mewn arddangosfa yn y gymuned e.e. Llyfrgell neuadd y gymuned.
Trafodaeth - Manteision ac Anfanteision y Rhufeiniaid yng Nghymru.
Gwnewch ymchwil ar hanes yr ardal leol / genedlaethol. Gwnewch Bwer Bwynt "Beth yw'r cysylltiad?" am y adeilad/ berson/ardal a'i gyflwyno i'r dosbarth.
Efeillio gydag ysgol arall - Cyflwyno gwaith i'ch gilydd - hysbysu'r ysgol a'r gymuned.
Mathemateg a Rhifedd
Prosiect ar daith Caradog i Rufain.
Pa mor bell,Pa mor hir?Amcangyfrif yr amser wrth gerdded, ceffyl, car, awyren a.y.b?
Amcangyfrif ac yna cyfrifwch pa mor bell ydi hi o Gymru i Rufain ayb ?
Pa mor hir y byddai wedi cymryd os yw llong yn teithio X milltir yr awr i gyrraedd Rhufain?
Beth am nawr – ar awyren? Beth fyddai‘r gost?
Trefnwch a gwnewch gynllun am daith ysgol yn mynd yr wythnos nesaf i Rufain.
Beth fyddai'r gost? Pa westai y byddech yn defnyddio? Pa mor hir fyddai hi'n cymryd (edrychwch ar amserlenni trenau, awyrennau neu fws a.y.b.)? Beth fyddai cost y trip? Edrychwch ar dablau amser i drenau lleol yr ardal. Meddyliwch am gwestiynau (darllen a deall).
Y Celfyddydau Mynegiannol
Gwnewch Furlun neu Boster o un o'r hanesion yma.
Arddangosfa - Cyflwyno'r prosiect i'r rhieni a'r gymuned yn y llyfrgell leol / neuadd y dref. Lluniau / fideo / gwaith creadigol / celf a.y.b.
Creu can / rap am un o'r hanesion.
‘Mono print’ paent acrylig / inc ar ddefnydd neu bapur i greu argraffiad syml o adeilad hanesyddol e.e. Caer a.y.b.
Creu ffilm syml yn adrodd stori / gweithgaredd hanesyddol yn eich milltir sgwâr, Themâu posib – Olion Celtaidd / Rhufeinig a.y.b.
Gwahoddwch Mam-gu a Thad-cu a'r teulu cyfan i wasanaeth ysgol am hanes "Y Celtiaid". Soniwch am yr hanesion diddorol o'r ardal a hefyd yn genedlaethol.