Mae'r iaith Gymraeg wedi cael ei bygwth ar hyd y canrifoedd. Petai ''Statutes of Westminster'' 1282 a oedd am ymuno Lloegr â Chymru yn un corff wedi llwyddo, yna ni fyddai'r Gymraeg wedi goroesi, ac ni fyddem wedi cael barddoniaeth Dafydd ap Gwilym na'r beirdd eraill. Ac ni fyddai straeon y Mabinogi wedi cael eu cyfieithu a'u hadrodd drwy wledydd Ewrob.
Wedyn yn 1536 cafwyd y Ddeddf Uno a oedd yn gwahardd y Gymraeg allan o bob rhan o fywyd. Dywed na chai unrhyw berson a siaradai Gymraeg ran mewn ''office or fees'' o fewn Lloegr na Chymru. Diolch na wnaeth hyn rwystro William Morgan rhag cyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg. Ac mae gennym emynau rhagorol Williams Pantycelyn ac Ann Griffiths a llu o rai eraill. Hefyd fe sbardunodd Griffith Jones, Llanddowror i sefydlu'r Ysgolion Cylchynol. Hyn a wnaeth Cymru y wlad fwyaf llythrennog yn y byd. Fe anfonodd Brenhines Rwsia gennad er mwyn cael patrwm i sefydliadau tebyg yn Rwsia. Achubwyd y Gynghanedd hefyd. Dywed Princeton Encyclopaedia of Poetry and Practice, sef y prif awdurdod yn y byd ar farddoniaeth: mai'r Gynghanedd yw'r dull mwyaf cywrain a hardd a ddyfeisiodd dyn erioed mewn unrhyw wareiddiad yn y byd. Mae cannoedd o feirdd yn dal i ysgrifennu mewn Cynghanedd, ac mae'r gystadleuaeth am y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei roi am yr Awdl orau– sef y gerdd hir orau mewn cynghanedd.
Ond Deddf Addysg 1870 gafodd yr effaith waethaf ar y Gymraeg. Roedd am droi pobl Cymru i fod yn uniaith Saesneg. Cafwyd Brad y Llyfrau Gleision, sef adroddiad cwbl annheg gan ddau arolygwr Saesneg na ddeallent y Gymraeg. Defnyddiwyd y ''Welsh Not' i gosbi plant a siaradai Gymraeg. Cwrs Addysg Saesneg gafwyd yn yr ysgolion. Doedd dim gwersi am hanes Cymru a'n hetifeddiaeth gyfoethog. Ac fe lwyddwyd i dwyllo mwyafrif o'r Cymry fod y Gymraeg yn is-raddol i'r Saesneg.
Ond yr oedd yna bobl arbennig yn mynnu cadw'r iaith o hyd. Un ohonyn nhw oedd Syr Owen M. Edwards a oedd wedi byw dan y Welsh Not pan yn blentyn. Pan ddaeth yn Arolygwr ysgolion fe wnaeth adfer safle'r iaith ac ysgrifennodd lawer o gylchgronau Cymraeg i blant. Cafodd ei fab, Syr Ifan ap Owen Edwards y weledigaeth i agor yr ysgol benodedig Gymraeg gyntaf yn 1939 yn Aberystwyth. Ef hefyd oedd sylfaenydd Urdd Gobaith Cymru, sydd erbyn hyn y mudiad ieuenctid mwyaf yn Nghymru gydag aelodaeth o dros 55,000.' gyda thair canolfan yn agored drwy'r flwyddyn. Fe ddaeth â hwyl yn yr iaith i blant.
Bu araith Saunders Lewis ar y radio ‘'Tynged yr Iaith'' yn symbyliad i lawer o bobl ifanc brotestio yn erbyn safle israddol yr iaith yng Nghymru. Cafodd eu protestio effaith gadarnhaol wrth ddeffro Cymru i weld yr annhegwch ar y Gymraeg'.
Ond diolch bod y Gymraeg yng Nghymru erbyn hyn wedi cael ei gwneud yn swyddogol gydradd â'r Saesneg. Mae'n rhoi'r parch dyledus i'r Gymraeg.
Felly mae'n holl bwysig bod plant Cymru i gyd yn gwybod am eu gwlad eu hunain a'u hetifeddiaeth gyfoethog. Rhaid pwysleisio nad iaith cyfathrebu yn unig yw'r Gymraeg. Drwyddi hi gallwn godi balchder yn ein hanes a rhoi’r awydd naturiol felly i ieuenctyd ddewis siarad Cymraeg gyda'u cyd-ddisgyblion.
Mae angen clywed am gyfraniadau arbennig mae Cymry wedi gwneud i'r byd. Hi oedd y wlad ddiwydiannol gyntaf yn y byd. Ac fe aeth gweithwyr a'u gwybodaeth a'u sgiliau dros y byd. Cymro gychwynnodd y diwydiant glo yn Rwsia, ac enwyd y ddinas a dyfodd yn Hughesovka ar ôl John Hughes o Ferthyr. Fe aeth gymaint o weithwyr Cymraeg â'u sgiliau i Ohio a Pensylvania nes bod capeli Cymraeg, Eisteddfodau a phapurau Cymraeg yno ac enwau Cymraeg o hyd i'w gweld ar rai o'r strydoedd. Yn ardal Merthyr adeiladwyd y rheilffordd gyntaf yn y byd, a'r trên cyntaf i gario pobl -- rhwng Abertawe a'r Mwmbwls.
Aeth y Cenhadon Cymraeg â Christnogaeth i Dde Corea, Bryniau Khasia, Madagasgar a Tsieina yn ogystal a gwledydd eraill, ac wedi dysgu'r iaith frodorol ei throi'n ysgrifenedig. Wedyn adeiladwyd ysgolion ac ysbytai. Mae'r gwledydd hynny yn mawrygu Cymru o hyd.
Bu cyfraniad Cymry ym myd gwyddoniaeth a meddyginiaeth yn fawr. Dywedir i sblints a ddyfeisiodd y meddyg esgyrn, Hugh Owen Thomas o Sir Fôn achub miloedd o filwyr yn y rhyfel byd cyntaf.
Cymry fu'n gyfrifol am rai o welliannau cymdeithasol pwysicaf yr ugeinfed ganrif. Cyflwynodd Lloyd George bensiwn yr henoed ym 1909, a rhoddodd Aneurin Bevany Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol i Brydain ym 1948.
Gobeithio bydd y wefan yma yn help i'n hatgoffa am ein hetifeddiaeth gyfoethog, am hanes ein gwlad a'r dylanwad a gafodd ar wledydd eraill y byd. Dim ond sgerbwd bach yw hwn i chwilio ymhellach am ein gorffennol a'r cyfraniad roddodd Cymru mewn gymaint o feysydd.
Hoffai Rhodri, Rhianydd a Catrin ddiolch i'r degau o athrawon, addysgwyr, haneswyr ac unigolion dros Gymru gyfan a wnaeth gyfrannu at greu'r adnoddau sydd yn y pecyn yma.
Diolch yn fawr iawn am eich cyfraniad.
Rhodri Sion
Arweinydd Siarter Iaith ERW Sionr1@hwbcymru.net
Rhianydd Williams
Swyddog y Gymraeg Mewn Addysg Castell Nedd Port Talbot williamsr441@hwbcymru.net
Catrin Phillips
Swyddog Y Gymraeg Mewn Addysg Sir Benfro ERW Phillipsc58@hwbcymru.net