Chwaraeon
Sport
"We are not makers of history. We are made by history."
Sport
"We are not makers of history. We are made by history."
Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
Dwyn i gof (Ffeithiol / ffuglen) - Gem / digwyddiad cofiadwy
Adroddiad (Ffeithiol) - Papur newydd
Portread o arwr o'r byd chwaraeon / portread o'r chwaraewr delfrydol.
Esboniad / Cyfarwyddiadau - Cyflwyno cyfarwyddiadau ar gyfer gem buarth. Gallwch gyflwyno yn ysgrifennedig neu gyfuno syniadau ar gyfer sianel fideo 'steil youtube' ar wefan eich dosbarth.
Prosiect ffilm - *Sylwebaeth o Gem Rygbi/Pel Droed/unrhyw chwaraeon yn dilyn rhaglen o'r cyfryngau e.e.(S4C) Y Clwb Rygbi (BBC) Scrum V
*Cyfweliad seren / hyfforddwr / cefnogwyr
* Barddoniaeth
h.y Creu prosiect fideo ar gyfer gem leol e.e. Ffilmio'r Gem, cynhesu, sylwebaeth, Cyfweliad a chefnogwyr o'r ddwy ysgol, y capteiniaid a.y.b.
Perswad (ysgrifenedig / llafar) - Dadlau pa dim / chwaraewr fydd orau a pham? Dewiswch dim eich hun ee. Cenedlaethol / Llewod a.y.b.
Rhowch fwy o gig am yr asgwrn! Ysgrifennwch fwy o ffeithiau am yr arwyr. Gan ddefnyddio codau QR, lluniwch helfa drysor o wybodaeth am ‘Arwyr Cymru’ o gwmpas yr ysgol.
‘Sesiwn y gadair goch’. Gyda’r wybodaeth sydd ganddoch chi, cymrwch gyfle i chwarae rôl ac i holi ambell i arwr ar y gadair goch!
‘Oriel yr anfarwolion’. Lluniwch bortread o’ch hoff arwr neu arwres o Gymru a gwnewch gyflwyniad i'r dosbarth.
(GEM) Pasiwch bêl i’ch gilydd o’r naill i’r llall (fideo Seren a Sbarc yn Siapan). Os ydy’r bêl yn eich dwylo chi pan mae’r miwsig yn stopio (mae gofyn i rhywun bwyso’r botwm saib i’r miwsig pob tro!), yna mae rhaid i chi enwi un arwr o’r cyflwyniadau a rhoi ffaith ddiddorol amdano ef/hi. Chwaraewch y miwsig eto. Pan mae’r miwsig yn stopio â’r bêl yn nwylo rhywun arall, yna mae angen i’r person hwnnw enwi arwr arall o’r cyflwyniad – un sydd heb ei enwi’n barod a rhoi ffaith amdano ef/hi a.y.b.
Gêm tebyg i ‘Guess Who’ sydd yma. Mae un chwaraewr yn dewis un arwr. Mae’r chwaraewr arall yn gofyn pum cwestiwn cyn dyfalu pwy yw’r arwr.
Petaech chi’n gorfod gosod tri Cymro ar y brig, pwy fyddech chi’n ei osod yn y safle cyntaf, ail a thrydydd? Pam?
Beth am gael electiwn yn yr ysgol er mwyn dewis pa Arwr o Gymru fyddai yn cael y fraint o gael ei lun ar bapur £5 Cymreig?
Gwnewch ymchwil ar Arwr o'r presennol neu'r gorffennol ym myd Chwaraeon Cymru (Peldroediwr, Athletwr ayb.). Gwnewch Bwer Bwynt "Beth yw'r cysylltiad" am y person a'i gyflwyno i'r dosbarth.
Prosiect - Casglu gwybodaeth am wahanol arwyr chwaraeon - creu llyfryn ffeithiol a'i werthu i rieni a'r gymuned (gweler llyfr arwyr Cymru).
Cyflwyno'r prosiect chwaraeon i'r rhieni gydag arddangosfa yn y gymuned e.e. Llyfrgell / neuadd y gymuned / clwb rygbi.
Efeillio gydag ysgol arall - Cyflwyno gwaith i'ch gilydd - hysbysu'r ysgol a'r gymuned.
Mathemateg a Rhifedd
Arwynebedd a Pherimedr - Cymharu arwynebedd cwrt pel droed / tennis / rygbi / trac athletau
Casglu gwybodaeth / graffio (technoleg) - Mesur sgil personol dros amser
Rhifau - Cymharu Capasiti stadiwm y clwb rygbi.
Rhifau trefnol / degolion- Record rasio'r ysgol - Cyntaf ail trydydd,
Edrych ar dabl canlyniadau a meddwl am gwestiynau (darllen a deall).
Cymedr; canolrif, amrediad - Athletwyr (naid, tafliad, amseriad)
Cymharu timau cyfan - Cymedr; canolrif, amrediad tim cyfan - Pwysau personol, Cyflymder, Taldra.
Prosiect Mathemateg a Rhifedd / Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Cynllunio pryd bwyd iach ar gyfer Chwaraewr -
Trosi Pwysau kg / g
Haneri resait
Ymchwil Cyllid - Cymharu prisiau mewn siopau gwahanol yr ardal e.e. CK's, Asda, Tesco, Aldi
Coginio yn yr ysgol neu adref.
Prosiect - Entrepreneuriaeth
Creu llyfryn gwybodaeth.
Casglu gwybodaeth am wahanol arwyr yn y gymuned chwaraeon - creu llyfryn ffeithiol a'i werthu i rieni a'r gymuned (gweler llyfr arwyr Cymru).
Creu Cardiau Top Trymps (Chwaraeon) - gwerthu i'r rhieni.
Dechreuwch glwb colli pwysau i rienni yn yr ysgol ar brynhawn Mawrth am 3.45yp. Elw i fynd i brynu nwyddau chwaraeon i'r ysgol. Ysgrifennwch lythyr i'r rhieni yn eu gwahodd i fod yn rhan o'r prosiect.
Y Celfyddydau Mynegiannol
Murlun o arwyr lleol / cenedlaethol.
Astudio gwaith siop y grogg - Dynwared gwaith clai ar gyfer gwahanol gynulleidfa. https://www.groggs.co.uk/browse/land-of-my-fathers/c00002
Creu can / rap yr ysgol ar gyfer gemau rygbi / pel rhwyd yr ysgol - (er mwyn canu yn eu gemau).
Trefnwch ddiwrnod cadw'n heini yn yr ysgol - Pob blwyddyn yn gwneud pedwar gweithgarwch gwahanol yn ystod y dydd ee dawnsio, chwarae gemau, gymnasteg, taith gerdded a.y.b. Efallai y bydd rhai o'r rhieni yn cytuno i ymuno a'r hwyl!
Beth am gynnal diwrnod gwisg ffansi ‘Arwyr Chwaraeon Cymru’ ar un diwrnod arbennig yn y Calendr Cymraeg?
Arddangosfa - Cyflwyno'r prosiect i'r rhieni / cymuned yn y llyfrgell / clwb rygbi / neuadd y gymuned. Lluniau / fideo / gwaith creadigol.