Datblygwyd y cymeriadau cartŵn yma gan yr ysgol er mwyn cyd-fynd â'r 4 diben, ac er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth ein dysgwyr o
'Pam rydym yn dod i'r Ysgol?'
Yr ateb? Er mwyn efelychu Cadi Creadigol, Urien Uchelgeisiol, Iola Iach ac Erwan Egwyddorol. H.y. er mwyn parhau ar y daith o gyflawni'r pedwar diben. Fe welwch sut mae'r ysgol am ddatblygu'r rhinweddau yma yn ein dysgwyr wrth edrych drwy ein themau hir-dymor.
These cartoon characters were developed by the school to correspond with the 4 purposes, and to increase pupils' awareness of
'Why do we come to school?'
The answer? To emulate Cadi Creadigol, Urien Uchelgeisiol, Iola Iach and Erwan Egwyddorol. I.e. To continue on the journey of fulfilling the 4 purposes of the curriculum. You will see how the school will develop these virtues in our pupils by looking through our long-term themes.
Bydd yr ysgol yn dilyn pob un o'r elfennau gofynnol gan gynnwys:
Y 6 Maes Dysgu a Phrofiad.
Y Sgiliau Trawsgwricwlaidd.
Elfennau Gorfodol y Cwricwlwm.
Trefniadau asesu a chynnydd personol yr ysgol.
Gweler trosolwg llawn isod.
The school will follow all of the required elements including:
The 6 Areas of Learning and Experience.
The Cross-Curricular Skills.
The Mandatory Curriculum Elements.
Assessment and Progression arrangements personal to the school.
Please find a full overview below.
Mae Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn un o ofynion statudol Cwricwlwm i Gymru ac mae'n orfodol i bob dysgwr o 3 i 16 oed. Nid oes hawl gan rieni i ofyn i blentyn gael ei dynnu'n ôl o sesiynau Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn y Cwricwlwm i Gymru. Gyda Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn bwnc a bennir yn lleol, caiff y maes llafur cytûn ei bennu o fewn yr awdurdod lleol a bydd ein cwricwlwm yn adlewyrchu'r canllawiau hyn.
Religion, values and ethics (RVE) is a statutory requirement of the Curriculum for Wales and is mandatory for all learners from ages 3 to 16. There is no parental right to request that a child is withdrawn from Religion, Values and Ethics sessions in the Curriculum for Wales. As Religion, Values and Ethics is a locally determined subject, the agreed syllabus specifies what should be taught in RVE within the local authority and our curriculum will reflect this guidance.
Mae ein cwricwlwm ysgol yn cwmpasu'r canllawiau ACRh a'r Cod ACRh gorfodol. Bydd gan ein darpariaeth ACRh rôl gadarnhaol a grymusol yn addysg ein dysgwyr a bydd yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o'u cefnogi i wireddu'r pedwar diben fel rhan o ddull ysgol gyfan. Helpu dysgwyr i ffurfio a chynnal ystod o gydberthnasau, i gyd yn seiliedig ar
ymddiriedaeth a pharch at ei gilydd, yw sylfaen ACRh. Mae'r cydberthnasau hyn yn hanfodol i ddatblygiad lles emosiynol, gwydnwch ac empathi.
Our school curriculum encompasses the guidance in the
RSE Code. Our RSE provision will have a positive and empowering role in our learners’ education and will play a vital role in supporting them to realise the four purposes as part of a whole-school approach. Helping learners to form and maintain a range of relationships, all based on mutual trust and respect, is the foundation of RSE. These relationships are critical to the development of emotional well-being, resilience and empathy.
Bydd ein cwricwlwm yn cefnogi dysgu drwy gynllunio cyfleoedd dysgu sy'n defnyddio'r egwyddorion addysgeg. Mae ein cwricwlwm, a gefnogir gan ddysgu ac addysgu effeithiol, yn galluogi dysgwyr i wneud cynnydd ystyrlon. Dros amser bydd ein dysgwyr yn datblygu a gwella eu sgiliau a'u gwybodaeth. Mae ein cwricwlwm yn canolbwyntio ar ddeall beth mae'n ei olygu i wneud cynnydd mewn maes neu
ddisgyblaeth benodol a sut y dylai dysgwyr ddyfnhau ac ehangu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth, eu sgiliau a'u galluoedd, a'u priodoleddau a'u tueddiadau ac fe'i hysbysir gan yr egwyddorion cynnydd. Mae hyn yn ei dro yn cefnogi ein dull o asesu, a'i diben yw llywio'r gwaith o gynllunio ar gyfer dysgu yn y dyfodol. Bydd asesu'n cael ei ymgorffori fel rhan annatod o ddysgu ac addysgu. Bydd pob dysgwr yn cael ei asesu wrth gyrraedd yr ysgol.
Our curriculum will support learning through designing learning opportunities that draw upon the pedagogical principles. Our curriculum, supported by effective teaching and learning enables learners to make meaningful progress. Over time our learners will
develop and improve their skills and knowledge. Our curriculum focuses on understanding what it means to make progress in a given Area or discipline and how learners should deepen and broaden their knowledge and understanding, skills and capacities, and attributes and dispositions and is informed by the Progression Code. This in turn supports our approach to assessment, the purpose of which is to inform planning for future learning. Assessment will be embedded
as an intrinsic part of learning and teaching. All learners will be assessed on entry to the school.