Pencampwyr Cwpan Pencampwr y Pencampwyr 2023/2024

Pencampwyr Cynghrair Gorllewin Cymru 2023/2024
Pencampwyr Cwpan Ysgolion Cymru 2022/2023

Mae’r Strade yn enw adnabyddus iawn ym myd rygbi ysgolion Cymru. Rydym yn hynod falch o’n hanes a’n llwyddiannau rygbi fel un o dimau mwyaf llwyddiannus yng Nghymru, ond hefyd ein hunigolion dawnus sydd wedi cynrychioli eu gwlad tra'n astudio gyda ni yn Ysgol y Strade.

Y Rhaglen Rygbi

Yn ystod y rhaglen fe fydd pob un dysgwr yn derbyn oriau rygbi ar yr amserlen o amgylch ei'ch opsiynau academaidd yn y 6ed dosbarth.

Trwy’r amserlen rygbi fe fyddwch yn derbyn darpariaeth gan grŵp hyfforddi hynod brofiadol i'ch helpu i barhau â'ch datblygiad a chyrraedd eich llawn botensial trwy rygbi. Yn y rhaglen byddwch yn derbyn:

• Amser ymarfer carfan.

• Amser ymarfer unedau olwyr / blaenwyr.

• Sesiynau unigol neu o fewn eich safle.

• Cyfnodau dadansoddi perfformiad unigol ac fel carfan gyfan.

• Sesiynau codi pwysau / ffitrwydd a phrofion ffitrwydd yn ystod y flwyddyn. (Partneriaeth PAS Nutrition yn cefnogi)

• Rhaglen datblygu unigol sy’n cynnwys targedau rygbi a rhai academaidd, a chefnogaeth 1 i 1 gyda hyfforddwr.


Fe fydd ymarferion a gemau tu hwnt i 12 awr o ddarpariaeth i bob un chwaraewr pob wythnos.


Llwyddiannau Cyn-Chwaraewyr

Mae yna lawer o’n chwaraewyr wedi derbyn llwyddiant lefel uchaf trwy rygbi yn ystod ei gyfnodau gyda ni yn y Strade. Gwelwn nifer o ddisgyblion sydd wedi cynrychioli Cymru ar lefel dan 16, dan 18, dan 20 y tîm cenedlaethol a’r llewod. I enwi rhai o’n cyn-ddisgyblion, Josh Adams (Llewod Prydain, Cymru) Steffan Evans (Cymru) Steffan Hughes (Cymru dan 20) a disgybl presennol Keanu Evans (Cymru dan 18). Credwn bydd yna nifer fwy i ychwanegi i’r rhestr yn sgil y datblygiad a’r rhaglen rydym yn cynnig trwy’r Ysgol.


“Chwaraeodd Ysgol Y Strade rhan bwysig yn ddatblygiad fi fel chwaraewr. Chwarae yn gynghrair cystadleuol pob wythnos. Hefyd cael y cyfle i chwarae gyda ffrindiau a chael hyfforddiant gwych. Atgofion grêt o rygbi yn Strade”

 Steffan Hughes, Capten, Dragons RFC


Cyswllt Ysgol

Os ydych am fwy o wybodaeth am y rhaglen rygbi, plîs cysylltwch isod:

Mr Dylan Richards 

Dylan.Richards@ysgolystrade.org