Adnoddau i'r Chweched

Mae gan y chweched floc penodol o ystafelloedd ydd wedi’u haddasu ar gyfer ymchwilio, astudio, adolygu a gweithio’n annibynnol mewn gwersi digyswllt.

Bydd dewis o lolfa’r chweched sy’n ardal i ymlacio a chymdeithasu neu i weithio gydag eraill mewn grwp; y llyfrgell fel ystafell dawel i weithio’n annibynnol ac adolygu; ystafell waith lle mae yna gyfrifiaduron, at ddefnydd y chweched yn unig; a’r caffi sy’n gweini drwy’r dydd at ddefnydd unigryw y chweched dosbarth.

Cyrsiau y Chweched

Er mwyn astudio yn y Chweched Dosbarth bydd disgwyl i fyfyrwyr fod wedi ennill graddau A* i C mewn 5 o gyrsiau TGAU neu BTEC cyfatebol. Os nad ydy’r myfyriwr wedi llwyddo gwneud hyn bydd yn rhaid cael caniatâd y pennaeth cyn dychwelyd, a cheisir sicrhau rhaglen astudio addas i’r unigolyn. Bydd angen llwyddo unedau Blwyddyn 12 / UG gyda gradd A-E cyn cael symud ymlaen i astudio A2.

Yn draddodiadol mae dysgwyr yn dewis hyd at 4 pwnc Lefel A / Galwedigaethol ym mlwyddyn 12 cyn gostwng i 3 pwnc ym mlwyddyn 13.

Fel rhan o'r fwydlen rydym yn darparu cyrsiau Lefel A traddodiadol yn ogystal â chyrsiau galwedigaethol. Gwelir crynodeb ohonynt isod:

Cyrsiau Lefel A

Mae gan yr ysgol fwydlen eang o bynciau Lefel A. Mae'r pynciau yma yn cael ei asesu'n bennaf trwy arholiadau allanol ar ddiwedd blwyddyn 12 a 13.

Gwelir rhestr o'r pynciau yma trwy ddilyn y ddolen 'Cyrsiau' uchod.

Cyrsiau Galwedigaethol

Rydym hefyd yn darparu ystod o gyrsiau galwedigaethol sydd yn rhoi pwyslais ar waith cwrs yn hytrach nag arholiadau ffurfiol yn unig. Mae'r cyrsiau yma yn cael asesu drwy waith cwrs parhaol dros y 2 flynedd yn ogystal ag arholiad allanol sydd fel arfer yn cael ei sefyll ar ddiwedd blwyddyn 12.

Mae'r cyrsiau yma yn addas i ddysgwyr sydd yn mwynhau'r her o waith ymchwil a chreu portffolio yn hytrach nag arholiadau ffurfiol yn unig.

Ar ddiwedd eich cyfnod yn astudio cwrs BTEC fe fyddwch yn derbyn cymhwyster Lefel 3 sydd yn cyfateb i Lefel A. Mae'r cyrsiau yma yn cael ei graddio ychydig yn wahanol i gyrsiau Lefel A ble byddwch yn derbyn;

  • Anrhydedd* / Distinction* - Sydd yn cyfateb i A* Lefel A

  • Anrhydedd / Distinction - Sydd yn cyfateb i A Lefel A

  • Teilyngdod / Merit - Sydd yn cyfateb i C Lefel A

  • Llwyddiant / Pass - Sydd yn cyfateb i E Lefel A

Cefnogaeth Ariannol

Bydd yna gyfle i unrhyw aelod o’r ganolfan wneud cais i dderbyn Lwfans Cynhaliaeth Addysg, (LCA).


Bydd y sawl sy’n gymwys yn derbyn:


  • Cytundeb dysgu i’w arwyddo.

  • Arian sy’n mynd yn syth i’r cyfrif banc bob pythefnos.

  • Bydd yn rhaid i fyfyrwyr gynnal safonau da o gynydd yn y pynciau a lefel o bresenoldeb uchel er mwyn cadw i dderbyn y lwfans.


https://www.studentfinancewales.co.uk/

Monitro Cynnydd

Mae cyswllt gyda’r cartref yn bwysig i ni yma yn yr ysgol, ac o ganlyniad bydd bob myfyriwr yn cael ei fonitro yn agos iawn er mwyn sicrhau ei fod yn gweithio i’w botensial.

Bydd hyn y cynnwys;

  • monitro adrannol

  • adroddiad interim a blynyddol

  • noson rhieni

Bydd cymorth ar gael i’r sawl sy’n ei chael hi’n anodd i gyflawni’r pynciau drwy sesiynau mentora unigol.