Darllenwch isod beth mae cyn-fyfyrwyr a'r Prif Swyddogion presennol yn dweud am eu profiadau nhw yn Chweched Dosbarth Y Strade.

 Cyn-fyfyrwyr Chweched y Strade

"Parhau yn Ysgol Y Strade oedd yr unig ddewis i mi - ni ystyriais opsiwn arall â dweud y gwir. I mi, roedd parhau gydag addysg trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol, ac fe alluogodd y Strade i mi wneud hyn. Penderfyniad ar y pynciau roeddwn yn eu mwynhau ond y prif ysgogiad oedd y berthynas gyda'r athrawon pwnc. Datblygais berthynas weithgar iawn gyda phob un ohonynt, ac roedd eu parodrwydd i'm helpu i wireddu fy mreuddwydion a chyrraedd fy mhotensial yn fy arholiadau TGAU ac Uwch Gyfrannol yn allweddol. Wrth gwrs, mae'r elfen gymdeithasol yn bwysig iawn. Ceir nifer o gyfleoedd i fwynhau bywyd unigryw'r Chweched dosbarth."

"Trwy gydol fy amser yn Y Strade roeddwn am ddilyn gyrfa yn edrych ar ôl plant. Mae'r cwrs gofal plant wedi rhoi'r cyfle i mi wireddu hyn drwy dderbyn yr addysgu gorau a chael y cyfle i fod allan ar leoliad o'r funud gyntaf.

Mae'r cydbwysedd rhwng bod yn yr ysgol ac allan ar leoliad wedi fy mharatoi yn ardderchog ar gyfer byd gwaith ac rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i dderbyn swydd ran amser yn y lleoliadau rydw i wedi eu mynychu. Mae'r cwrs hefyd yn arwain ymlaen at gyrsiau Prifysgol neu at swydd llawn amser."

"Des 'nôl i'r Chweched am fod yr athrawon yn rhoi cymaint o gymorth i fi yn cynnwys fy ngwaith cwrs ac adolygu yn ystod TGAU. Datblygais berthynas weithgar gyda fy athrawon sydd wedi rhoi hyder i fi ofyn am help pryd mae angen.

Hefyd roeddwn yn ffodus iawn i gymryd rhan yn y ddoe sioe ysgol sef 'Grav' a 'Y Map' ar ôl datblygu hyder drwy astudio Drama. O'r saith mlynedd o fod yn Y Strade, llwyddais i gwrdd â ffrindiau am oes ac athrawon arbennig ac rwy'n ddiolchgar iawn am hyn."

"Penderfynais ddychwelyd yn ôl i Chweched y Strade yn bennaf oherwydd y berthynas dda roedd gen i gyda'r athrawon. Mae nhw o hyd yn barod i wrando a helpu ac maent yn adnabod fy nghryfderau a gwendidau unigryw. Yn ogystal â hyn, dychwelais yn ôl i'r Chweched gan roedd y cyfle i barhau Daearyddiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn bwysig iawn i mi. Hefyd, rydw i wedi cael nifer o gyfleoedd i gynrychioli'r ysgol yn nhimau chwaraeon y chweched ac wedi profi tipyn o lwyddiant. Mae'r amgylchedd yn Chweched y Strade yn un croesawgar a phositif iawn ac mae ganddo'r cyfleusterau a staff gorau a posib sydd yn sicrhau eich bod yn mynnu ac yn cyrraedd eich potensial."

 Prif Swyddogion 2023-24

"Yn ystod fy chwe blynedd yma yn Ysgol y Strade, rwyf wedi derbyn cymaint o gyfleoedd arbennig ar draws bob agwedd o fywyd ysgol, er enghraifft maes chwaraeon neu brofiadau academaidd sydd wedi bod yn ddefnyddiol iawn i mi yn enwedig wrth ystyried bywyd ar ôl yr ysgol. Mae gan yr ysgol gymuned glos iawn ac rwyf o hyd wedi teimlo bod digon o gymorth a chefnogaeth ar gael os oes angen. Mae cyfeillgarwch yr athrawon a fy nghyd-ddisgyblion wedi gwneud i mi deimlo’n gyfforddus yma, sydd wedi fy ngalluogi i wthio fy hunain i lwyddo yn fy astudiaethau. Byddaf yn bendant yn edrych ‘nôl ar fy amser yn yr ysgol yn hiraethus ac rwyf yn hynod o falch fy mod i'n ddisgybl ac yn Brif Swyddog yma yn yr ysgol."    

Kahlen Jones, Prif Swyddog 2023-24

"Dros fy nghyfnod yn Ysgol Y Strade, rwy wedi wynebu nifer o heriau, yn enwedig dros y cyfnod clo. Er hynny, mae’r ysgol tro ar ôl tro wedi bod yna er mwyn cynnig cymorth i mi yn ystod yr amseroedd caled. Rydw i bellach yn un o Swyddogion yr ysgol, ac mae'n rhoi balchder a llawenydd i mi wrth gynnig cymorth i blant iau yr ysgol. Rwy'n ddiolchgar o bob cyfle mae'r ysgol wedi rhoi i mi, yn academaidd a'n allgyrsiol."

James Thomas, Prif Swyddog 2023-24

Swyddogion Ysgol Y Strade 2023-24