Cyflwyniad

Cymhwyster Lefel 3 cyffrous newydd yw’r Fagloriaeth Sgiliau sydd yn helpu dysgwyr i ddod yn ddinasyddion effeithiol, cyfrifol a gweithgar sy'n barod i gymryd eu lle mewn cymdeithas fyd-eang gynaliadwy ac yn y gweithle.

Mae Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch yn gymhwyster arloesol sy'n annog dysgu yn yr ystafell ddosbarth a'r tu allan iddi, gan roi cyfleoedd i ddysgwyr ddethol eu meysydd astudio eu hunain wrth iddynt ddatblygu eu sgiliau Meddwl yn Feirniadol, Datrys Problemau a Chreadigrwydd ac Arloesi. Gan adeiladu ar eu sgiliau o TGAU, mae'r cymhwyster yn helpu dysgwyr i feithrin sgiliau a phriodoleddau ac yn cynnig profiadau sy'n eu galluogi i baratoi'n well ar gyfer eu dyfodol, boed hynny ym maes addysg uwch, prentisiaethau, hyfforddiant neu gyflogaeth.

Wrth ymgymryd ag elfennau’r cymhwyster bydd dysgwyr nid yn unig yn datblygu’n academaidd ond hefyd yn bersonol wrth ennill cyfleodd amrywiol i ddatblygu eu blaengaredd, annibyniaeth a gwydnwch.


Cynnwys y Cwrs

Rhennir y cymhwyster i dri phroject wedi'u cynllunio i sicrhau y gall dysgwyr arfer ymreolaeth a dewis personol wrth ddethol meysydd astudio sydd o ddiddordeb iddynt neu sy'n berthnasol i'w llwybrau cynnydd yn y dyfodol. Mae'n rhaid i bob dysgwr gwblhau tri phroject gorfodol sy'n galluogi dysgwyr i ystyried eu llesiant nhw eu hunain a llesiant pobl eraill. Mae’r cymhwyster yn ddi-arholiad a chaiff dysgwyr eu hasesu ar y gwaith cwrs a chyflwynir trwy gydol y ddwy flynedd.


Blwyddyn 12

Mae'r Project Cymuned Fyd-eang yn cefnogi dysgwyr i ddysgu am faterion byd-eang cymhleth a chymryd rhan mewn camau gweithredu cymunedol i hybu dinasyddiaeth mewn byd cynaliadwy ac yng Nghymru. Disgwylir i ddysgwyr cymryd rhan mewn oriau gwirfoddol i lwyddo yn y prosiect yma. Mae’r prosiect yn cyfateb i 25% o’r cymhwyster.

Mae Project Cyrchfannau'r Dyfodol yn cefnogi dysgwyr i ddatblygu a dangos eu bod yn gallu cymhwyso eu sgiliau gan archwilio ar yr un pryd nodau ar gyfer bywyd, cyflogadwyedd a dinasyddiaeth yn y dyfodol. Mae’r prosiect yn cyfateb i 25% o’r cymhwyster.


Blwyddyn 13

Mae’r Project Unigol yn gyfle i ddysgwyr gynllunio, rheoli a chynnal project ymchwil annibynnol ysgrifenedig o’u dewis. Rhagflas amhrisiadwy bu’r prosiect i ofynion astudiaeth addysg bellach. Mae’r prosiect yn cyfateb i 50% o’r cymhwyster.

Cymwysterau Mynediad Delfrydol

Nid oes unrhyw ofynion dysgu blaenorol ar gyfer y cymhwyster. Mae’r cymhwyster yn statudol i bob dysgwyr sydd dychwelyd i’r chweched dosbarth ac yn ddilyniant i’r Her Sgiliau TGAU.

Cyfleoedd

Mae'r cymhwyster hwn yn gweithredu fel sylfaen addas ar gyfer astudio amrywiaeth o gyrsiau addysg uwch, symud ymlaen i'r lefel nesaf o gymwysterau galwedigaethol neu gyflogaeth. Cydnabyddir y cymhwyster gan fwyafrif o brifysgolion ledled y DU bellach a dderbynnir gan nifer fel y trydydd Lefel A i sicrhau mynediad at gwrs addysg Uwch.

Bwrdd Arholiad




Cyswllt Ysgol

Miss Rachel Williams