Croeso
Diolch am ddangos diddordeb yn Chweched Dosbarth Ysgol y Strade.
Cymunedol, croesawgar, cynhwysol a chyfeillgar yw ymysg yr ansoddair gorau i ddisgrifio’r Chweched Dosbarth yn Ysgol y Strade. Rydym yn ymfalchïo’n fawr yn ein myfyrwyr ôl-16 sy’n ymuno â ni yn y Chweched Dosbarth cyn iddynt gychwyn ar eu cam nesaf ym mywyd. Braint unigryw yw’r Chweched Dosbarth, nid yn unig i serennu'n academaidd ond i ddatblygu fel model rôl a dinasyddion moesol ac egwyddorol sy’n barod i gyfrannu’n llawn tuag at gymuned yr ysgol ac ehangach.
Cynigir y Chweched Dosbarth y cyfle unigryw i allu parhau gydag addysg mewn awyrgylch cynnes Cymraeg lle’r anogir ein myfyrwyr i gyrraedd eu llawn botensial trwy amryw o bynciau traddodiadol a galwedigaethol mewn amgylchedd strwythuredig a diogel gydag elfennau o ryddid a chyfrifoldeb personol. Ceir ystod o bynciau amrywiol gan ein hadrannau, a golygir bydd llwybr pob myfyrwyr yn addas ac yn berthnasol iddynt hwy.
Fel pwnc statudol yn y Chweched Dosbarth, mae’r Fagloriaeth Gymraeg yn cynnig llu o gyfleoedd i fyfyrwyr i ddatblygu sgiliau blaenllaw sy’n ddeniadol i unrhyw sefydliad addysg bellach neu yrfa.
Mae ein darpariaeth academaidd yn gyfoethog ac o ganlyniad mae ein canlyniadau Lefel A ymysg yr uchaf yn y Sir yn flynyddol. Pleser yw gweld nifer o’n myfyrwyr yn ennill mynediad i amryw o gyrsiau brifysgol ledled y Deyrnas Unedig.
Hefyd, rydym yn ffodus iawn ein bod yn gallu cynnig ardal benodol o’r ysgol ar gyfer y Chweched Dosbarth yn unig; yno ceir y Lolfa er mwyn cymdeithasu a’r Ystafell Waith gydag adnoddau penodol megis dyfeisiau digidol er mwyn iddynt astudio’n annibynnol.
Diolch.
Manteision Chweched Dosbarth y Strade
Daw'r Chweched Dosbarth â nifer o fanteision megis;
Teimlad o berthyn i gymuned glos a gofalgar yr ysgol
Athrawon brwdfrydig sy’n ysgogi myfyrwyr i gyrraedd eu potensial
Arweiniad ynglŷn â chamau nesaf ym mywyd
Cyngor gan athrawon cyfarwydd sy’n adnabod anghenion eu myfyrwyr
Ymweliadau gan asiantaethau allanol sy’n hysbysu am gyfleoedd ychwanegol o fudd i fyfyrwyr
Cyfleoedd am brofiad gwaith a phrofiadau gwirfoddol.
Yn ogystal, ceir amryw o brofiadau bendigedig er enghraifft;
Tiwtor personol sy’n adnabod pob un myfyriwr ar lefel personol
Ystod eang o gyfleoedd allgyrsiol gan adrannau amrywiol
System mentora i ddisgyblion blwyddyn 7
Swyddogion a chynrychiolwyr blwyddyn i arwain eu cyfoedion
Pwyllgorau amrywiol i gyfrannu tuag at yr ysgol a’r gymuned ehangach
Mynediad i wasanaeth gyrfa Cymru
Sefydlu ac arwain clybiau a gweithgareddau amrywiol i ddisgyblion mwy iau’r ysgol
Cyfleoedd i leisio barn er mwyn datblygu’r Chweched Dosbarth ymhellach er y gwell
Teithiau addysgol i brifysgolion a diwrnodau blasu.
Manteision addysg Gymraeg a dwyieithrwydd
Myfyrwyr dwyieithog yn fwy galluog na rhai sydd ag ond un iaith (ymchwil dros y blynyddoedd wedi profi hyn)
Myfyrwyr dwyieithog yn ei chael hi’n haws dysgu ieithoedd eraill
Medru cyfrannu at, ac elwa o, gymdeithas ddwyieithog fel Llanelli
Mae mantais gan bobl ddwyieithog wrth chwilio am swyddi
Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnig grantiau hyd at £3,000 i barhau i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn y Brifysgol
Neges gan y Pennaeth - Mr Geoff Evans
Annwyl ddarpar-fyfyriwr y Chweched Dosbarth a rhieni.
Mae’n bleser mawr gen i gyflwyno Prospectws y Chweched Dosbarth i chi. Mae’r ffaith eich bod yn darllen y neges yma yn arwydd bod carreg filltir bwysig addysgol yn agosáu.
Mae’n gyfnod cyffrous i chi gyda nifer o benderfyniadau pwysig i’w gwneud a chyfleoedd eang ar gael. Rydym yn falch iawn o’n Chweched Dosbarth yn Y Strade, nid yn unig oherwydd y canlyniadau academaidd sy’n dangos tuedd gref at i fyny ond hefyd oherwydd y cyfraniad allweddol i gymuned glos, fywiog yr ysgol.
Pwrpas y wefan hwn yw i nodi’r rhesymau pam mai Chweched Dosbarth Y Strade yw’r lle gorau i chi barhau eich addysg ôl-16 ac mae’r dewis o bynciau yn
fwy nac erioed.
Yn ystod eich cyfnod yn y Chweched byddwch yn elwa o’r gefnogaeth bugeiliol ac academaidd gorau posib gan sicrhau bod eich astudiaethau o fudd ac yn
cynnig sialens. Yn ogystal â rhoi’r cyfle i gamu ymlaen at brifysgol neu at swydd, bydd Y Strade yn rhoi’r cyfle unigryw i chi gymdeithasu gyda ffrindiau, hen a newydd, ac i fanteisio ar gyfoeth o weithgareddau y tu allan i’r ystafell ddosbarth.
Ond yn fwy na hynny, cewch gyfle i barhau gyda’ch astudiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg ac i elwa wrth gyfrannu at gymuned ddwyieithog Llanelli a thu hwnt.
Pwrpas y wefan hwn yw i gynnig blas ar fywyd yn Y Strade ac i sicrhau mai ni yw eich dewis naturiol ar gyfer eich addysg Chweched Dosbarth.
Gobeithio y byddwch yn barod i fanteisio ar y cyfleoedd fydd ar gael ac i chwarae eich rhan yn hanes a llwyddiant Y Strade.
Diolch,
Mr. Geoff Evans
Pennaeth.
Neges gan Bennaeth y Chweched - Miss Rachel Williams
Heb os, mae’r elfen academaidd yn holl bwysig i ni fel ysgol, ond llawn mor bwysig hefyd yw’r gofal a chymorth lles mae’r dysgwyr wedi derbyn trwy gydol eu hamser yn Ysgol y Strade sydd yn sicr yn parhau ac yn rhan annatod o’n darpariaeth ar gyfer y Chweched Dosbarth.
Pleser o’r mwyaf mae i fod yn Bennaeth ar y Chweched Dosbarth ac i weld myfyrwyr yn datblygu i fod yn oedolion ifanc ac aeddfed yn ystod y cyfnod arbennig hwn. Yn ychwanegol, ceir Is-Bennaeth y Chweched Dosbarth sy’n atgyfnerthu ein disgwyliadau academaidd gan flaenoriaethu lles a chynnal gofal bugeilio'r o’r safon uchaf.
Edrychaf ymlaen yn fawr i’ch croesawu yn ôl i barhau a’ch addysg yn y Chweched Dosbarth a gobeithiaf byddwch yn mwynhau pob cyfle a chynigir gan yr ysgol.
Rydym fel ysgol o hyd wedi bod yn deulu clos ac mae’r teimlad yma ond yn cryfhau ymhellach yn y Chweched Dosbarth wrth i chi dderbyn yr addysg o’r safon uchaf sy’n eich paratoi yn llawn ar gyfer gwynebu’r cam nesaf boed yn yrfa, prentisiaeth neu le yn y brifysgol.
Diolch,
Miss Rachel Williams
Pennaeth Chweched.