🔗 Rhestr Cyrsiau
🔗 Rhestr Cyrsiau
Nid yw pob cyrchfan yr un peth, nid yw pawb yn teithio am yr un rhesymau. Sut mae cyrchfannau twristiaeth yn cael eu marchnata? Beth sy'n ddeunyddiau marchnata priodol? Beth am y cyfleoedd a tueddiadau cyflogaeth? Beth yw’r pwysau allanol i gyrchfannau? Sut gall diwydiannau ymateb i terfysgaeth ac afiechydon? Sut mae'r sectorau gwahanol yn ymateb i bygythiadau’r dyfodol?
Twristiaeth yw un o ddiwydiannau mwyaf y byd yn nhermau cyflogaeth a chyllid. Mae’r ddiwydiant yn hanfodol i economi Cymru gan gynhyrchu biliynau mewn Gwerth Gros Ychwanegol a chyfrannu’n economaidd tuag at sawl sector wahanol.
Mae’r cwrs yma wedi’i lunio i gyflwyno i ddysgwyr yr wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau hynny sy’n gysylltiedig a sefydliadau a gweithgareddau tu fewn sectorau gwahanol y ddiwydiant twristiaeth gan gyfuno elfennau o cyrsiau Astudiaethau Busnes, Busnes Adwerthu a Daearyddiaeth.
Datblygwyd amrywiaeth o sgiliau hanfodol ac uwch gan gynnwys rhifedd, ymchwilio, dadansoddi, meddwl yn feirniadol, cynllunio a threfnu, digidol ac effeithiolrwydd personol trwy gydol y cwrs. Mae rhain yn drosglwyddadwy ar gyfer eich cam nesaf pe bai’n cwrs uwch a/neu swydd.
Mi fydd y cwrs yma’n cynnwys cyfleoedd gwaith maes tu allan i’r ystafell ddosbarth.
Dilynwch y ddolen i'r wefan Twristiaeth: Twristiaeth L3Â
Uned 1
Y Diwydiant Twristiaeth Byd-eang
Arholiad allanol 1 awr 40 mun
1.1 Sectorau'r diwydiant twristiaeth
1.2 Twristiaid a'r cymhelliant i deithio
1.3 Strwythurau a'r rhyngberthnasoedd ym maes twristiaeth
1.4 Gwerth twristiaeth i'r economiÂ
Uned 4
Cyrchfannau Byd-eang
Asesiad mewnol
4.1 Cyrchfannau byd-eang
4.2 Nodweddion twristiaeth allweddol cyrchfan
4.3 Ffactorau sy'n cymell twristiaid
4.4 Datblygu gwyliau wedi'u teilwraÂ
Uned 6
Marchnata Digidol ar Gyfer Twristiaeth a Digwyddiadau
Asesiad mewnol
6.1 Rôl marchnata digidol
6.2 Ystyriaethau cyfreithiol a moesegol o ran marchnata digidol
6.3 Cynllunio ymgyrch hyrwyddo ddigidol
6.4 Creu ac adolygu ymgyrch hyrwyddo ddigidolÂ
Uned 2
Cymru fel Cyrchfan i Dwristiaid
Asesiad allanol
2.1 Y diwydiant twristiaeth yng Nghymru
2.2 Hygyrchedd Cymru fel cyrchfan i dwristiaid
2.3 Materion sy'n effeithio ar dwristiaeth yng Nghymru
2.4 Tueddiadau a blaenoriaethau i'r economi ymwelwyr
Uned 5
Cynllunio, Cydlynu a Chynnal Ddigwyddiad
Asesiad mewnol
5.1 Yr amrywiaeth o ddigwyddiadau a'r gwaith o'u rheoli
5.2 Cynllunio digwyddiad a pharatoi amdano
5.3 Cynnal digwyddiad a'i werthuso
Uned 8
Addasu i Newid yn y Diwydiant Twristiaeth
Asesiad mewnol
8.1 Yr angen i ddatblygu twristiaeth
8.2 Sut mae twristiaeth yn newid
8.3 Cynllunio ar gyfer newid wrth ddatblygu twristiaethÂ
Mae’r cwrs yma’n agor drysau at sawl llwybr yn y dyfodol gan gynnwys prentisiaethau, cyrsiau uwch neu byd gwaith. Mae llwybrau gyrfau posib yn cynnwys:
Rheoli
Marchnata
Cyllid
Adwerthu
Trafnidiaeth
Cynllunio digwyddiadau
Er nad oes unrhyw ofynion cofrestru ffurfiol, mae'r cymhwyster yn cefnogi dilyniant o bynciau TGAU Busnes, Daearyddiaeth a/neu Twristiaeth.
Mr Jonathan Lewis
🔗 Rhestr Cyrsiau