🔗 Rhestr Cyrsiau
🔗 Rhestr Cyrsiau
Yn fwyfwy mae Prifysgolion yn chwilio am fyfyrwyr sydd yn ddysgwyr annibynnol ac yn gallu arwain eu hunain lawr llwybr addysgiadol gan reoli eu dysgu eu hunain. Mae’r cwrs Troseddeg yn gwrs Dysgu Cymhwysol sy’n union fel mae Prifysgolion yn dysgu erbyn hyn. Mae hyn yn golygu cymysgedd o ddysgu byw yn y dosbarth, gwersi ar lein, gwersi wedi ei recordio, gwersi tiwtorial, arholiadau a gwaith cwrs.Â
Mae’r cwrs yn gwrs cymhwysol. Golyga hyn y byddwch yn defnyddio gwybodaeth y byddwch yn ei ddysgu i egluro ymddygiad troseddol ac esbonio a dadansoddi troseddoldeb mewn cymdeithas. Mae hyn yn golygu datblygu sgiliau dadansoddi, datrys problemau, dehongli ac ymholi - sgiliau gwerthfawr iawn ymhob swydd gyfoes.Â
Uned 1 - Deall Troseddau 50%Â
Gwahanol fathau o droseddau; Adrodd am dros-eddau; Troseddu yn y Cyfryngau; Casglu data am droseddu; Creu YmgyrchÂ
Aseiniad tan reolaethÂ
Uned 2 - Theori Troseddu 50%Â
Esboniadau gwahanol am droseddu; Effaith y theori hon ar yr heddlu a datblygu polisiÂ
Arholiad allanol
Uned 3 - Ymholi i droseddau 50%Â
Ymholi i droseddau; Prosesu Tystiolaeth; Rôl y Llysoedd;Â
Defnyddio tystiolaethÂ
Aseiniad tan reolaethÂ
Uned 4 - Trosedd a Chosb 50%Â
Sut mae’r system droseddol yn gweithio; Pwrpas cosbi;Â
Rôl yr heddlu; Rheolaeth GymdeithasolÂ
Arholiad allanol
Mae’r cwrs Troseddeg yn gweddu i unrhyw un sydd â diddordeb mewn dilyn gyrfa ym myd y gyfraith, gwasanaeth sifil, Llywodraeth leol, gofal ac yn arbennig gyrfa ym myd yr heddlu.Â
Erbyn hyn mae'n rhaid cael gradd mewn Prifysgol mewn cwrs achrededig er mwyn cael mynediad i’r heddlu ac mae’r cwrs yma yn caniatáu mynediad i’r cyrsiau hynny.Â
Gofynnir bod gan y myfyriwr 5 TGAU Lefel A*-C yn gyffredinol a gradd A*- C yn y Dystysgrif Her Sgiliau. Yn ogystal â hyn mae disgwyl bod y gallu gennych chi i reoli eich dysgu eich hunain.Â
Miss Anna Matthews
🔗 Rhestr Cyrsiau