🔗 Rhestr Cyrsiau
🔗 Rhestr Cyrsiau
Yn ganolig i fywyd pob dydd, adref, mewn gwaith ac amser adloniant mae Technoleg Gwybodaeth (TG). Yn amrywio o graffig cyfrifiadurol a systemau rheolaeth i gyfathrebu a datrys problemau, mae gan TG rôl gynyddol. Bydd disgyblion yn cael cyfle yn y cwrs yma i arddangos a datblygu cymhwysiad ymarferol o sgiliau, gwybod a dealltwriaeth o fewn unedau cyfoes a chyffrous.
Byddent yn cael ei anogi i fod yn ddysgwyr dychmygus, arloesol a chreadigol wrth ddatblygu atebion yn annibynnol i dasgau busnes byd real.
Bydd disgyblion yn cyflawni y 6 uned o waith isod, ac ar gyfer bob un yn cynhyrchu portfolio o waith i ymateb i scenario penodol. Byddent yn cyflwyno tystiolaeth ar bapur ac yn digidol.
Does dim arholiad ysgrifenedig ar gyfer y cymhwyster yma.
Sgiliau Cyfathrebu a Cyflogadwyedd - TG
Systemau Wybodaeth
Modelu Taenlenni
Dylunio Basdata
Graffig Digidol
Rhwydweithiau Cymdeithasol a Busnes
Bydd natur asesiad ymarferol y cwrs yma yn cynnig disgyblion y sgiliau a gwybod angenrheidiol ar gyfer amrediad mawr o gyfleoedd gyrfa ac addysg uwch. Bydd prentisiaeth neu gyflogaeth o fewn y sector TG yn ddilyniant naturiol o’r cwrs, o fewn rolau fel Gweinyddiaeth TG, Technegydd TG, Dyluniwr Graffig, Rheolwr Prosiect a mwy. Yn ogystal, bydd y sgiliau dysgwyd o’r cwrs o fudd i nifer o feysydd gyrfa oherwydd yr ymrwymiad a rol cynyddol TG o fewn sectorau, busnesau a sefydliadau. Bydd disgyblion yn ennill pwyntiau UCAS i gefnogi cais prifysgol er mwyn parhau astudiaethau mewn cwrs gradd TG neu Fusnes.
Er yn ddelfrydol, dydy TGAU Technoleg Ddigidol ddim yn orfodol er mwyn astudio’r cwrs yma. Bydd ystyriaeth unigol i bob disgybl sydd am astudio’r cwrs
Mrs Julie Fletcher
🔗 Rhestr Cyrsiau