🔗 Rhestr Cyrsiau
🔗 Rhestr Cyrsiau
Mae’r cwrs yma yn adeiladu ar y sgiliau, gwybodaeth a’r ddealltwriaeth a oedd yn hanfodol ar gyfer Haen Uwch Mathemateg TGAU a Haen Uwch Mathemateg-Rhifedd TGAU ac ar yr un pryd mae disgwyl i ymgeiswyr astudio cymhwyster Mathemateg Lefel A. Mae’r unedau i gyd yn dibynnu ar safon dda o ymdrin ag Algebra a welwyd yn yr Haen Uwch.
Mae’r fanyleb yn annog dysgwyr i ddatblygu eu gallu i ymresymu’n rhesymegol, adnabod rhesymu anghywir, i gyffredinoli, a llunio profion mathemategol. Bydd yn rhaid iddynt ddatrys problemau anoddach gan gysylltu gwahanol feysydd mathemategol. Mae disgwyl i’r dysgwyr gymryd mwy a mwy o gyfrifoldeb am eu haddysg eu hunain ac i werthuso’u datblygiad mathemategol eu hunain.
Â
Mae’r cwrs Mathemateg Bellach yn cyfri fel 2 pwnc lefel A.
Ym mlwyddyn 12, bydd y myfyrwyr yn astudio pedair uned ar gyfer y cymhwyster Mathemateg safon uwch llawn.
Â
UG Uned 1 (Mathemateg Bur A)
UG Uned 2 (Mathemateg Gymhwysol A)
U2 Uned 3 (Mathemateg Bur B)
U2 Uned 4 (Mathemateg Gymhwysol B).
Â
Uned 1 - Mathemateg Bur A
Â
Deall a defnyddio strwythur prawf mathemategol, algebra a ffwythiannau, geometreg gyfesurynnol ym mhlân (x,y), dilyniannau a chyfresi (gan gynnwys y Theorem Binomial), trigonometreg, ffwythiannau esbonyddol a logarithmau, differu, integru, fectorau.
Â
Arholiad 2 awr 30 munud (120 marc)
25% o’r cymhwyster U2 llawn
Â
Uned 2 - Mathemateg Gymhwysol A
Â
Ystadegaeth - Samplu ystadegol, cyflwyno a dehongli data, tebygolrwydd gan gynnwys
dosraniadau tebygolrwydd, dosraniadau ystadegol, profi rhagdybiaethau ystadegol.
Â
Mecaneg - Meintiau ac unedau mewn Mecaneg, cinemateg gan gynnwys deillio a defnyddio’r fformiwlau ar gyfer cyflymiad cyson mudiant mewn llinell syth, defnyddio calcwlws mewn cinemateg, grymoedd a deddfau Newton, fectorau.
Â
Arholiad 1 awr 45 munud (75 marc)
15% o’r cymhwyster U2 llawn
Â
Uned 3 - Mathemateg Bur B
Â
Prawf drwy wrthddywediad, algebra a ffwythiannau pellach (gan gynnwys symleiddio mynegiadau cymarebol, ffactorio, rhannu algebraidd, braslunio cromlinau wedi’u diffinio gan fodwlws, ffwythiant llinol, ffwythiannau cyfansawdd a gwrthdro), geometreg gyfesurynnol pellach ym mhlân (x,y), dilyniannau a chyfresi pellach, trigonometreg pellach, differu ac integru pellach, dulliau rhifiadol.
Â
Arholiad 2 awr 30 munud (120 marc)
35% o’r cymhwyster U2 llawn
Â
Uned 4 - Mathemateg Gymhwysol B
Â
Ystadegaeth - Tebygolrwydd amodol, diagramau canghennog, diagramau Venn, tablau dwyffordd, modelu gyda thebygolrwydd (gan gynnwys beirniadu tybiaethau a wneir ac effaith tybiaethau
mwy realistig), dosraniadau ystadegol pellach, profi rhagdybiaethau ystadegol pellach.
Â
Hafaliadau Differol A Mecaneg – defnyddio ffwythiannau trigonometrig i ddatrys problemau mewn cyd-destun, differu ac integru, llunio hafaliadau differol mewn cyd-destun, gwerthuso datrysiadau dadansoddol hafaliadau differol a darganfod datrysiadau penodol, dehongli datrysiad hafaliad differol yng nghyd-destun datrys problem, meintiau ac unedau pellach, momentau, cinemateg
pellach, taflegrau, fectorau.
Â
Arholiad 1 awr 45 munud (80 marc)
25% o’r cymhwyster U2 llawn
Â
Â
Â
Â
Â
Â
Â
Ym mlwyddyn 13, bydd y myfyrwyr yn astudio pump uned ar gyfer y cymhwyster Mathemateg Bellach safon uwch llawn.
Â
UG Uned 1 (Mathemateg Bur Bellach A)
UG Uned 2 (Ystadegaeth Ychwanegol A)
UG Uned 3 (Mecaneg Ychwanegol A)
U2 Uned 4 (Mathemateg Bur Bellach B)
Â
Dewis rhwng
U2 Uned 5 (Ystadegaeth Ychwanegol B)
neu
U2 Uned 6 (Mecaneg Ychwanegol B)
Â
Uned 1- Mathemateg Bur Bellach A
Â
Llunio profion mathemategol gan ddefnyddio anwythiad mathemategol, datrys hafaliadau cwadratig, ciwbig, a chwartig, rhifau cymhlyg, matricsau, deall a defnyddio’r berthynas rhwng gwreiddiau a chyfernodau hafaliadau polynomaidd, symiau cyfresi, fectorau pellach.
Arholiad 1 awr 30 munud (70 marc)
13.3% o’r cymhwyster U2 llawn
Uned 2 - Ystadegaeth Ychwanegol A
Â
Hapnewidynnau a’r broses Poisson, cymedr/amrywiant/gwyriad safonol cyfuniad llinol o hapnewidynnau annibynnol, dosraniadau tebygolrwydd arwahanol a di-dor, ffwythiant dwysedd tebygolrwydd, ffwythiant dosraniad cronnus, disgwyliad, dosraniadau Poisson, Esbonyddol a Chi-sgwâr, cydberthyniad atchweliad llinol, profion llwyddiant y ffit.
Arholiad 1 awr 30 munud (70 marc)
13.3% o’r cymhwyster U2 llawn
Uned 3 - Mecaneg Ychwanegol A
Â
Momentwm ac Ergyd, Egwyddor Cadwraeth Momentwm, Deddf Arbrofol Newton, Deddf Hooke, gwaith, egni a phŵer, egni potensial disgyrchiant, egni cinetig ac elastig, Cadwraeth Egni, Egwyddor Gwaith-Egni, mudiant mewn cylch llorweddol a fertigol, differiad ac integriad fectorau.
Arholiad 1 awr 30 munud (70 marc)
13.3% o’r cymhwyster U2 llawn
Uned 4 - Mathemateg Bur Bellach B
Â
Rhifau cymhlyg pellach, Theorem de Moivre, Trigonometreg pellach, datrys hafaliadau trig., matricsau pellach, algebra a ffwythiannau pellach gan gynnwys cyfres Maclaurin ffwythiant, calcwlws pellach, cyfeintiau cylchdro, gwerth cynedrig ffwythiant, integru ffracsiynau rhannol, differu ffwythiannau gwrthdro trig., cyfesurynnau Polar, ffwythiannau Hyperbolig, hafaliadau differol.
Arholiad 2 awr 30 munud (120 marc)
35% o’r cymhwyster U2 llawn
 Uned 5 - Ystadegaeth Ychwanegol BÂ
Samplau, poblogaethau, amcangyfrifynnau di-duedd, cymedr, amrywiant, cyfeiliornadau safonol, cyfuniad llinol o ddosraniadau normal annibynnol, Theorem Terfan Canolog, brasamcanion Normal, profi rhagdybiaethau, prawf t-Student, prawf arwyddion graddedig Mann-Whitney a Wilcoxon, amcangyfrif, cyfyngau hyder.
Arholiad 1 awr 45 munud (80 marc)
25% o’r cymhwyster U2 llawn
Uned 6 - Mecaneg Ychwanegol B
Â
Mudiant unionlin, datrys hafaliadau mudiant pellach gan ddefnyddio calcwlws, momentwm ac ergyd mewn 2D gan ddefnyddio fectorau, momentau grymoedd a chraidd mὰs system cymhlan o ronynnau, laminâu, neu system o ronynnau sydd wedi’u cysylltu gan rodenni ysgafn, ecwilibriwm gwrthrychau anhyblyg, hafaliadau differol trefn 1 a 2, mudiant harmonig syml.
Â
Arholiad 1 awr 45 munud (80 marc)
25% o’r cymhwyster U2 llawn
Mae Mathemateg Bellach yn bwnc academaidd sy’n datblygu a mireinio sgiliau academaidd megis dadansoddi, datrys problemau a dehongli. Mae prifysgolion yn croesawu cymhwyster mewn Mathemateg ac mae galw enfawr am raddedigion. Mae’n agor drysau i yrfâu amrywiol niferus megis Gwyddoniaeth, Peirianneg, Cyfrifeg, Busnes, Economeg, Cyfrifiadureg, i enwi ond rhai.
Wrth ystyried natur heriol y cwrs, bydd angen i ymgeiswyr ennill gradd A/A* ar lefel TGAU.
Mrs Lynwen Lewis
🔗 Rhestr Cyrsiau