🔗 Rhestr Cyrsiau
🔗 Rhestr Cyrsiau
Mae’r cwrs yma yn adeiladu ar y sgiliau, gwybodaeth a’r ddealltwriaeth a oedd yn hanfodol ar gyfer Haen Uwch Mathemateg TGAU a Haen Uwch Mathemateg-Rhifedd TGAU. Mae’r cyrsiau i gyd yn dibynnu ar safon dda o ymdrin ag Algebra a welwyd yn yr Haen Uwch. Mae’r fanyleb yn annog dysgwyr i ddatblygu eu gallu i ymresymu’n rhesymegol, adnabod rhesymu anghywir, i gyffredinoli, a llunio profion mathemategol. Bydd yn rhaid iddynt ddatrys problemau anstrwythuredig anoddach gan gysylltu gwahanol feysydd mathemategol. Mae disgwyl i’r dysgwyr gymryd mwy a mwy o gyfrifoldeb am eu haddysg eu hunain ac i werthuso’u datblygiad mathemategol eu hunain.
Ar gyfer dysgwyr sydd yn dewis astudio Mathemateg Bellach, fe fyddwch yn cwblhau'r cwrs llawn Lefel A mewn blwyddyn gyda 18 o wersi'r pythefnos.
Ym mlwyddyn 12, bydd y myfyrwyr yn astudio dwy uned ar gyfer y cymhwyster Mathemateg UG
UG Uned 1 (Mathemateg Bur A)
UG Uned 2 (Mathemateg Gymhwysol A).
Uned 1 - Mathemateg Bur A
Deall a defnyddio strwythur prawf mathemategol, algebra a ffwythiannau, geometreg gyfesurynnol ym mhlân (x,y), dilyniannau a chyfresi (gan gynnwys y Theorem Binomial), trigonometreg, ffwythiannau esbonyddol a logarithmau, differu, integru, fectorau.
Arholiad 2 awr 30 munud (120 marc)
25% o’r cymhwyster U2 llawn (62.5% o’r cymhwyster UG)
Uned 2 - Mathemateg Gymhwysol A
Ystadegaeth - Samplu ystadegol, cyflwyno a dehongli data, tebygolrwydd gan gynnwys dosraniadau tebygolrwydd, dosraniadau ystadegol, profi rhagdybiaethau ystadegol.
Mecaneg - Meintiau ac unedau mewn Mecaneg, cinemateg gan gynnwys deillio a defnyddio’r fformiwlau ar gyfer cyflymiad cyson mudiant mewn llinell syth, defnyddio calcwlws mewn cinemateg, grymoedd a deddfau Newton, fectorau.
Arholiad 1 awr 45 munud (75 marc)
15% o’r cymhwyster U2 llawn (37.5% o’r cymhwyster UG)
Er mwyn ennill y cymhwyster Safon Uwch Mathemateg llawn, bydd yn rhaid i Flwyddyn 13 astudio 2 uned ychwanegol i’r rhai a nodir ym mlwyddyn 12
U2 Uned 3 (Mathemateg Bur B)
U2 Uned 4 (Mathemateg Gymhwysol B).
Uned 3 - Mathemateg Bur B
Prawf drwy wrthddywediad, algebra a ffwythiannau pellach (gan gynnwys symleiddio mynegiadau cymarebol, ffactorio, rhannu algebraidd, braslunio cromlinau wedi’u diffinio gan fodwlws, ffwythiant llinol, ffwythiannau cyfansawdd a gwrthdro), geometreg gyfesurynnol pellach ym mhlân (x,y), dilyniannau a chyfresi pellach, trigonometreg pellach, differu ac integru pellach, dulliau rhifiadol.
Arholiad 2 awr 30 munud (120 marc)
35% o’r cymhwyster U2 llawn
Uned 4 - Mathemateg Gymhwysol B
Ystadegaeth - Tebygolrwydd amodol, diagramau canghennog, diagramau Venn, tablau dwyffordd, modelu gyda thebygolrwydd (gan gynnwys beirniadu tybiaethau a wneir ac effaith tybiaethau mwy realistig), dosraniadau ystadegol pellach, profi rhagdybiaethau ystadegol pellach.
Hafaliadau Differol A Mecaneg – defnyddio ffwythiannau trigonometrig i ddatrys problemau mewn cyd-destun, differu ac integru, llunio hafaliadau differol mewn cyd-destun, gwerthuso datrysiadau dadansoddol hafaliadau differol a darganfod datrysiadau penodol, dehongli datrysiad hafaliad differol yng nghyd-destun datrys problem, meintiau ac unedau pellach, momentau, cinemateg pellach, taflegrau, fectorau.
Arholiad 1 awr 45 munud (80 marc)
25% o’r cymhwyster U2 llawn
Mae mathemateg yn bwnc academaidd sy’n datblygu a mireinio sgiliau academaidd megis dadansoddi, datrys problemau a dehongli. Mae prifysgolion yn croesawu cymhwyster mewn Mathemateg ac mae galw enfawr am raddedigion. Mae’n agor drysau i yrfâu amrywiol niferus megis Gwyddoniaeth, Peirianneg, Cyfrifeg, Busnes, Economeg, Cyfrifiadureg, i enwi ond rhai.
Er y bydd ystyriaeth unigol yn cael ei rhoi i bob cais gan ddisgybl ar gyfer astudio’r pwnc, byddai o fudd i’r ymgeisydd pe bai wedi ennill gradd B neu’n well ar lefel TGAU, a hynny wrth sefyll papurau’r Haen Uwch.
Mrs Lynwen Lewis
🔗 Rhestr Cyrsiau