🔗 Rhestr Cyrsiau
🔗 Rhestr Cyrsiau
Mae TAG UG a Safon Uwch mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant yn rhoi gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau trylwyr a manwl i ddysgwyr am ddatblygiad unigolion, a sut i ofalu amdanynt, drwy gydol y rhychwant oes o adeg cenhedlu i oedolaeth ddiweddarach.
Mae dysgwyr yn cael y cyfle i feithrin eu dealltwriaeth o ddylanwadau ar dwf, datblygiad, ymddygiad a llesiant dynol. Byddant hefyd yn meithrin dealltwriaeth fanwl o anghenion cymdeithasol, corfforol, emosiynol a diwylliannol pobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth, ac yn sylweddoli bod gan bawb eu galluoedd a'u hanghenion unigryw eu hunain.
Bydd dysgwyr yn meithrin dealltwriaeth fanwl o sut mae darpariaeth gwasanaethau yng Nghymru yn cefnogi datblygiad a llesiant unigolion i'w galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus, nawr ac yn ddiweddarach mewn bywyd.
Mae'r fanyleb hon yn cynnwys materion cyfoes mewn perthynas â darparu system iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant sy'n foesegol a chynaliadwy yng Nghymru, a chreu dysgwyr annibynnol sy'n gallu gwneud penderfyniadau gwybodus ynglŷn â chyfleoedd dysgu pellach neu fynd ymlaen i wneud dewisiadau gyrfaol cysylltiedig.
UG Uned 1
Hybu iechyd a llesiant
Arholiad ysgrifenedig: 2 awr (20%)
Papur ysgrifenedig sy'n cynnwys amrywiaeth o fathau o gwestiynau er mwyn asesu cynnwys penodol sy'n ymwneud â hybu iechyd, llesiant a gwydnwch.
UG Uned 2
Cefnogi iechyd, llesiant a gwydnwch yng Nghymru
Asesiad di-arholiad: 30 awr (20%)
Mae'r dasg hon yn asesu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau'r dysgwr mewn perthynas â'r ffordd y mae iechyd, llesiant a gwydnwch unigolion yng Nghymru yn cael eu cefnogi drwy ofal sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau.
Mae'r dasg hon yn gofyn i ddysgwyr wneud y canlynol:
cynhyrchu adroddiad ar sut mae ymarferwyr o'r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant yn cydweithio o fewn canllawiau deddfwriaethol i hybu gofal sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau
darparu gwybodaeth a fyddai'n berthnasol i ddysgwyr sy'n cynllunio gyrfa yn y dyfodol yn y sectorau iechyd, gofal cymdeithasol a/neu ofal plant. Gellir cyflwyno'r gwaith fel cyflwyniad, blog neu ffeithlun.
U2 Uned 3
Safbwyntiau damcaniaethol ar ddatblygiad plant a phobl ifanc
Arholiad ysgrifenedig: 2 awr 30 munud (30%)
Papur ysgrifenedig sy'n cynnwys amrywiaeth o fathau o gwestiynau er mwyn asesu cynnwys penodol sy'n ymwneud â safbwyntiau seicolegol a chymdeithasegol ynghylch ymddygiad plant.
U2 Uned 4
Cefnogi datblygiad, iechyd, llesiant a gwydnwch plant a phobl ifanc
Asesiad di-arholiad: tua 40 awr (30%)
Adnodd gwybodaeth
Mae'r dasg hon yn asesu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau'r dysgwr mewn perthynas â datblygiad, iechyd, llesiant a gwydnwch plant a phobl ifanc yng Nghymru.
Mae'r dasg yn gofyn i ddysgwyr lunio adnodd gwybodaeth ar gyfer rhywun sy'n bwriadu dilyn gyrfa yn y dyfodol yn y sector gofal plant. Rhaid i'r adnodd gynnwys gwybodaeth am y canlynol:
materion cyfoes a diogelu
anghenion gofal a chymorth plant neu bobl ifanc a sut gall yr anghenion hyn gael
eu bodloni mewn lleoliad a ddewisir gan y dysgwr.
Mae'r cwrs hwn wedi'i ddiweddaru i alluogi myfyrwyr i drosglwyddo'n esmwyth i dri llwybr posibl: iechyd, addysg/blynyddoedd cynnar a gofal cymdeithasol a all arwain at broffesiynau megis nyrsio, bydwreigiaeth, addysgu a gwaith cymdeithasol.
Astudir trwy amrywiaeth o ddulliau gan gynnwys profiad gwaith, cysylltiadau â chyflogwyr lleol, astudiaethau achos ac ymchwil.
Er y bydd ystyriaeth unigol ar bob cais i astudio’r pwnc, byddai o fudd pe bai ganddynt 5 gradd TGAU (A*-C).
Mrs Rhian Rudall
🔗 Rhestr Cyrsiau