π Rhestr Cyrsiau
π Rhestr Cyrsiau
Mae ein UG/Safon Uwch Hanes yn annog astudiaeth gyfun o hanes. Gall dysgwyr astudio hanes ar sawl graddfa a dimensiwn, gan gynnwys cyfnod, manwl ac eang.Β Anogir dysgwyr i gaffael amrediad eang o wybodaeth hanesyddol ac amrediad llawn o sgiliau gan gynnwys;
Datblygu sgiliau dadansoddi, distyllu a mynegi.
Deall bod gwahanol ddehongliadau mewn hanes.
Defnyddio a chwestiynu tystiolaeth yn feirniadol.
Meithrin y grefft o gyflwyno dadl gytbwys ar bapur.
Hanfodol i ddeall y byd rydym yn byw ynddo.
Ein helpu i fod yn ddinasyddion cyfrifol.
Uned 1 - (20%)
Gwleidyddiaeth, Protest a Diwygio, Cymru a Lloegr 1780β1880Β
Yr heriau i lywodraeth, protest trefol a gwledig, diwygiadau cymdeithasol ac economaidd hyd at y 1850au ac arweinwyr pleidiau aβu polisiau.
Arholiad Ysgrifenedig 1 awr 30 mun
Uned 2 - (20%)
Anghydfod y Weriniaeth Americanaidd c.1840β1877
Achosion y Rhyfel, Gwahaniaethau Adrangarol aβr Llwybr i Ryfel Cartref c.1840β1861.
Arholiad Ysgrifenedig 1 awr 45 mun
Uned 3 - (20%)
Newid a Diwygio Cymdeithasol yng Nghymru a Lloegr c.1890-1990
Effaith y ddwy rhyfel byd, Pwysigrwydd diwylliant poblogaidd, hamdden ac adloniant, Llywodraethau Llafur a Thatcher.
Arholiad Ysgrifenedig 1 awr 45 mun
Uned 4 - (20%)
Anghydfod y Weriniaeth Americanaidd c.1840β1877
Rhyfel Cartref ac Ailymgorffori 1861β1877. Y Datganiad Rhyddfreinio Marwolaeth Lincoln, Y Codau Du, Y Ku Klux Klan.
Arholiad Ysgrifenedig 1 awr 45 mun
Uned 5 - (20%)
Dehongliadau Hanesyddol
Gwaith Cwrs 3,000 β 4,000 o eiriau.τ
Asesiad Di-arholiad
Gall astudio hanes arwain at nifer fawr o yrfaoedd rhagorol ac amrywiol sy'n cynnwys y cyfryngau, llywodraeth, sefydliadau treftadaeth a chadwraeth, addysgu, archifau, amgueddfeydd ac orielau, yr heddlu aβr gyfraith.
Os ydych yn ystyried astudio Hanes i Safon Uwch dylech anelu i gael gradd B yn TGAU, er ein bod yn barod i dderbyn myfyrwyr nad sydd wedi astudio Hanes i TGAU bydd angen y gallu i fynegi eich hun yn glir ar lafar ac yn ysgrifenedig. Mae agwedd aeddfed tuag at waith cyson yn angenrheidiol oherwydd bydd rhaid darllen o amgylch y pwnc a gweithioβn annibynnol rhwng y gwersi.
Mrs Heledd Jones
π Rhestr Cyrsiau