🔗 Rhestr Cyrsiau
🔗 Rhestr Cyrsiau
Mae cwrs Gwyddor Feddygol yn gwrs galwedigaethol sy’n paratoi dysgwyr gyda’r wybodaeth a’r sgiliau gwyddonol ac ymarferol ar gyfer gweithio yn y byd gofal iechyd a’r meysydd cysylltiedig e.e. nyrsio, gofal iechyd, ffisiotherapi, ymchwil feddygol, parafeddygol. Bydd y cwrs dwy flynedd yn arwain at Diploma Lefel 3 mewn Gwyddor Feddygol CBAC.
Uned 1 – Iechyd a chlefydau dynol
Byddwch yn dysgu am systemau’r corff a sut maen nhw’n cydweithio gyda’i gilydd, a datblygu’ch gwybodaeth am brosesau a strwythurau biocemegol pwysig.
Arholiad allanol diwedd blwyddyn 12 – 25%
Uned 2 – Technegau mesur ffisiolegol
Byddwch yn datblygu’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer cynnal profion ffisiolegol ar gleifion (e.e. mesur pwysedd gwaed) a deall arwyddocâd y canlyniadau ar eu cyfer. Byddwch yn dysgu sut i drin cleifion ac i esbonio canlyniadau rhai profion iddynt.
Asesiad mewnol – Gwaith Cwrs (Tymor 1/2) – 12.5%
Uned 3 – Dulliau ymchwil gwyddor feddygol
Byddwch yn datblygu’r sgiliau sydd angen ar gyfer cynnal ymchwil gwyddor feddygol, gan gynnwys cynllunio a cynnal holiaduron, casglu a dadansoddi data yn ystadegol. Byddwch hefyd angen paratoi cyflwyniad fel ran o’ch prosiect ymchwil.
Asesiad mewnol – Prosiect Ymchwil (Tymor 2) – 12.5%
Uned 4 – Meddyginiaethau a thrin clefydau
Byddwch yn dysgu ac ymchwilio i fewn i wahanol mathau o feddyginiaethau a sut maen nhw’n effeithio a chydweithio gyda systemau’r corff, ac i ddulliau modern triniaeth o ganser. Byddwch yn paratoi a chyflwyno gwaith unigol ac fel rhan o dîm trwy’r uned hon.
Asesiad mewnol – Gwaith Cwrs (Tymor 4/5)) – 25%Â
Uned 5 – Technegau labordy clinigol
Byddwch yn dysgu sut i gynnal rhai profion biocemegol a microbiolegol syml o fewn y labordy, ac yn datblygu dealltwriaeth o sut mae dulliau labordy meddygol yn cefnogi’r broses o rhoi diagnosis ar gyfer clefydau gwahanol. Gobeithiwn gallu trefnu ymweliad ag ysbyty lleol i gefnogi hyn.
Asesiad allanol – arholiad ymarferol ac ysgrifenedig (Tymor 4/5) – 12.5%
Uned 6 – Astudiaeth achos feddygol
Mae’r uned hon yn asesiad synoptig o gynnwys y cwrs cyfan, wedi selio ar dair astudiaeth achos feddygol, sy’n cael ei rhyddhau tua mis cyn yr arholiad terfynol. Byddwn yn gwario amser sylweddol yn paratoi ar gyfer hwn ar ôl gorffen y gwaith theori.
Arholiad terfynol 12.5%
Bydd myfyrwyr yn gallu symud ymlaen i brentisiaeth neu gyflogaeth mewn maes gyrfa fel ymchwil feddygol neu therapi chwaraeon, ​neu fe allant barhau mewn addysg uwch, ac yna gallai rhagolygon swyddi gynnwys bod yn nyrs neu ffisiotherapydd.
Er y bydd ystyriaeth unigol ar bob cais i astudio’r pwnc, byddai o fudd pe bai ganddynt o leiaf gradd CC mewn TGAU Gwyddoniaeth Dwyradd, a gradd C yn mathemateg (Haen ganolradd).
Mrs Nia Jones
🔗 Rhestr Cyrsiau