🔗 Rhestr Cyrsiau
🔗 Rhestr Cyrsiau
Mae'r Dystysgrif Estynedig Genedlaethol BTEC Lefel 3 Gwasanaethau Amddiffynnol sydd â Gwisg Swyddogol yn ffocysu ar rôl y gwasanaethau amddiffynnol, gan gynnwys: Y Gwasanaeth Heddlu, Y Gwasanaeth Tân ac Achub, y Lluoedd Arfog a’r Gwasanaeth Carchardai. Prif amcan y cwrs yw rhoi dilyniant i addysg uwch a chyflogaeth yn y gwasanaethau amddiffynnol neu yn feysydd cysylltiedig. Mae'r cymhwyster yn cyfateb o ran maint i un Lefel A ac yn rhoi cyflwyniad cydlynol i'r gwasanaethau amddiffynnol. Mae’r cwrs yn cymryd dwy flynedd i gwblhau.
Uned 2 – Ymddygiad a Disgyblaeth yn Gwasanaethau Amddiffynnol sydd â gwisg swyddogol (120 GLH)
Mae dysgwyr yn ymchwilio i ffactorau â all effeithio ar ymddygiad a'u heffaith ar ddisgyblaeth unigolion a grwpiau yn y Gwasanaethau Amddiffynnol.
Arholiad ysgrifenedig (2 awr).
Uned 5 - Arweinyddiaeth a Chyfathrebu Gwaith Tîm yn y Gwasanaethau Amddiffynnol sydd â gwisg swyddogol (120 GLH)
Yn yr uned yma rydym yn cydweithio gyda’r Fyddin Brydeinig a sefydliadau eraill. Mae dysgwyr yn astudio deinameg adeiladu tîm ac arweinyddiaeth tîm. Bydd rhaid cymryd rhan mewn gweithgareddau adeiladu tîm, a dysgu am wahanol ddulliau cyfathrebu a ddefnyddir gan y gwasanaethau amddiffynnol.
Uned 10 – Sgiliau ar gyfer Gweithgareddau Awyr Agored a'r Gwasanaethau Amddiffynnol sydd â gwisg swyddogol (60 GLH)
Bydd dysgwyr yn datblygu'r sgiliau a'r wybodaeth sylfaenol sy'n berthnasol i arfer gorau ac yn rheoli risg wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored. Bydd yr uned yma yn cynnwys taith i ganiatáu’r myfyrwyr i gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored amrywiol gan gynnwys Canŵio/Caiacio/abseilio/cerdded /padlo/datrys problemau.
Uned 19 – Datblygiad Proffesiynol yn y Gwasanaethau Amddiffynnol sydd â gwisg swyddogol (60 GLH)
Mae’r dysgwyr yn ennill y gwybodaeth sydd angen ar gyfer gwahanol lwybrau gyrfa yn y gwasanaethau amddiffynnol. Bydd rhaid cwblhau archwiliad sgiliau personol, datblygu cynllun gweithredu gyrfa ac ymarfer sgiliau cyfweld. Yn yr uned yma rydym yn cydweithio â'r Llu Awyr Brenhinol a sefydliadau eraill.
Mae’r cymhwyster hwn yn cefnogi ceisiadau dysgwyr am ystod o rolau yn y Gwasanaethau Amddiffynnol, gan gynnwys:
Yr Heddlu
Y Gwasanaeth Ambiwlans
Y Fyddin/Llu Awyr Brenhinol/Llynges Frenhinol
Y Gwasanaeth Tân ac Achub
Bydd ystyriaeth unigol ar bob cais i astudio’r pwnc, ond byddai o fudd pe bai ganddynt ddiddordeb mewn gyrfa yn y Gwasanaethau Amddiffynnol.
Mrs Bethan Penny
🔗 Rhestr Cyrsiau