🔗 Rhestr Cyrsiau
🔗 Rhestr Cyrsiau
Drwy’r themau isod byddwch yn astudio gramadeg yr iaith, sgiliau cyfieithu, llafar, darllen a gwrando yn ogystal a diwylliant a thraddodiadau’r wlad darged. Mae UG/Safon Uwch Ffrangeg yn cynnig cyfle diddorol a chyffrous i ddysgwyr adeiladu ar eu hastudiaeth flaenorol o'r Ffrangeg. Trwy themâu cymdeithasol, deallusol a diwylliannol bydd dysgwyr yn gallu datblygu eu gwybodaeth ieithyddol a'u dealltwriaeth ddiwylliannol o'r gwledydd neu gymunedau lle mae'r iaith yn cael ei siarad.Â
Uned 1 - 12%
Dadlau safbwynt
Trafodaeth ar bwnc penodol.
Arholiad Llafar gydag aelod o'r adran 12 -15 munud
Uned 2 - 28%
Arholiad Ysgrifenedig gwrando, darllen a chyfieithu.
Arholiad Allanol 2awr 30munud
Uned 3 - 18%
(a) Cyflwyno project ymchwil annibynnol (2 funud)
(b) Trafodaeth ar gynnwys y project ymchwil annibynnol
(9-10 munud)
Arholiad Llafar gydag aelod o'r adran 15 -20 munud
Uned 4 - 23%
Arholiad ysgrifenedig: Gwrando, darllen a chyfieithu
Arholiad Allanol 1 awr 45 munud
Uned 5 - 19%
Ymateb beirniadol wrth ysgrifennu (ar lyfr gosod)
Arholiad Allanol 1 awr 30 munud
Cyfle i ddysgu siarad iaith sy’n cael ei siarad ar draws Ewrop a’r byd.
Mae’r gallu i siarad Ffrangeg yn ddefnyddiol ar gyfer gyrfa mewn amryw o feysydd megis busnes a marchnata, y gyfraith, hamdden a thwristiaeth, y cyfryngau, meddyginiaeth a llawer fwy.
Pwnc academaidd sy’n datblygu a mireinio amryw sgiliau.
Cyfle i astudio diwylliant a thraddodiadau Ffrainc.
Er y bydd ystyriaeth unigol ar bob cais i astudio’r pwnc, byddai o fudd pe bai chi wedi astudio Ffrangeg i safon TGAU ac ennill gradd C.
Mr Sion Acciaioli
🔗 Rhestr Cyrsiau