๐ Rhestr Cyrsiau
๐ Rhestr Cyrsiau
Mae UG/Safon Uwch Dylunio a Thechnoleg yn rhoi cyfle unigryw yn y cwricwlwm i ddysgwyr adnabod a datrys problemau go iawn drwy ddylunio a gwneud cynhyrchion neu systemau.
Mae dylunio a thechnoleg yn bwnc ysbrydoledig, manwl gywir ac ymarferol. Mae'r fanyleb hon yn annog dysgwyr i ddefnyddio creadigrwydd a dychymyg wrth ddefnyddio prosesau dylunio iterus i ddatblygu ac addasu dyluniadau, ac i ddylunio a gwneud prototeipiau sy'n datrys problemau'r byd go iawn, ystyried eu hanghenion, chwenychiadau, dyheadau a gwerthoedd eu hunain a phobl eraill.
Y cwrs UG yw hanner cyntaf y cwrs Lefel Uwch. Bydd yn cyfrannu 40% i gyfanswm y cwrs. Maen ofynnol i ymgeiswyr gwbwlhau y ddwy uned ganlynol er mwyn enill cymhwyster UG.
DT 1
Mae'r arholiad yn cynnwys cymysgedd o gwestiynau ysgrifennu strwyththuredig ac estynedig sy'n asesu gwybodaeth a dealltwriaeth dysgwyr o;
egwyddorion technegol
egwyddorion dylunio a gwneud ynghyd รข'u gallu i ddadansoddi a gwerthuso penderfyniadau dylunio a materion ehangach mewn dylunio a thechnoleg.
Arholiad 2 awr
DT 2
Tasg Dylunio a Gwneud
Asesiad 40 awr
Mae cwrs y Lefel Uwch wedi ei rhannu yn ddau ran. Y rhan 1 (UG) ar rhan 2 (U2). Bydd unedau A2 yn cyfrannu 60% i gyfanswm marciau y Lefel Uwch.
DT 3
Mae'r arholiad yn cynnwys cymysgedd o gwestiynau ysgrifennu strwythuredig ac estynedig sy'n asesu gwybodaeth a dealltwriaeth dysgwyr o:
egwyddorion technegol
egwyddorion dylunio a gwneud ynghyd รข'u gallu i ddadansoddi a gwerthuso penderfyniadau dylunio a materion ehangach mewn dylunio a thechnoleg.
Arholiad 2.5 awr
DT 4
Tasg Dylunio a Gwneud
Asesiad 60 awr
Darperir sylfaen addas yn y fanyleb hon ar gyfer astudio dylunio a thechnoleg neu faes perthynol trwy ddilyn amrywiaeth o gyrsiau addysg uwch, symud ymlaen i'r lefel nesaf o gymwysterau galwedigaethol neu gyflogaeth Mewn meusydd gwahanol, o Dylunio Graffeg neu Darlunydd i Beirianneg Sifil, Beirianeg Mecanyddol neu Pensaerneath.
Er y bydd ystyriaeth unigol ar bob cais i astudioโr pwnc, byddai o fudd pe bai ganddynt radd C o unrhyw gwrs Dylunio a Thechnoleg ar safon TGAU. Mae'r fanyleb hon yn adeiladu ar y wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau a feithrinwyd yn ystod TGAU.
Mr Lee Thomas
๐ Rhestr Cyrsiau