🔗 Rhestr Cyrsiau
🔗 Rhestr Cyrsiau
Fel rhan o gwrs Drama, bydd dysgwyr yn cael y cyfle i;
Astudio pedair drama o gyfnodau gwahanol a fydd yn rhoi braslun o ddatblygiad y theatr fodern.
Dadansoddi testunau o safbwynt Actor.
Cyfarwyddwr a Chynllunydd.
Ysgrifennu adolygiadau ar berfformiadau a welwyd.
Canolbwyntio ar sgiliau dramatig ymarfeol a fydd yn eich galluogi i gydweithio ar greu perfformiad wedi’i ddyfeisio yn ogystal a pherfformio darn o sgript.
Dadansoddi ac arbrofi gyda thechnegau ymarferwyr theatrig gwahanol megis Stanislavski, Artaud a M Chekhov.
Uned 1 (24%)
Gweithdy Theatr
Creu, datblygu a pherfformio darn o theatr wedi’i seilio ar ail ddehongli darn o destun.
Asesiad di arholiad a asesir yn fewnol yna fe’i safonir yn allanol
Uned 2 (16%)
Testun yn y Theatr
Cyfres o gwestiynau wedi’u selio ar un testun.
Arholiad Ysgrifenedig (1 awr 30 munud)
Uned 3 (36%)
Testun ar Waith
Creu, datblygu a pherfformio dau ddarn o theatr wedi’u
selio ar ailddehongli darn o destun.
Asesiad di-arholiad a asesir yn allanol
Uned 4 (24%)
Testun Mewn Perfformiad
Dau gwestiwn wedi’u seilio ar ddau destun gwahanol.
Arholiad Ysgrifenedig (2 awr)
Cyfle i ddatblygu sgiliau actio a sgiliau cyfathrebu sydd yn bwysig iawn ar gyfer pob swydd.
Mae’n sylfaen addas ar gyfer astudio Drama neu faes cysylltiedig mewn addysg bellach.
Cyfle i gamu i fyd y cyfryngau neu’r theatr.
Cydbwysedd da rhwng gwaith ymarferol â gwaith ysgrifenedig.
Cyfle i ymweld gyda’r theatr yn gyson.
Er y bydd ystyriaeth unigol ar bob cais i astudio’r pwnc, byddai o fudd pe bai ganddynt gradd C i Ddrama ar safon TGAU.
Miss Angharad Rees-Jones
🔗 Rhestr Cyrsiau