🔗 Rhestr Cyrsiau
🔗 Rhestr Cyrsiau
Mae’r cwrs yn cynnwys amrywiaeth o themâu cyfoes dynol a ffisegol:
Yn UG, astudir themâu’n cynnwys tirweddau arfordirol, peryglon tectonig, newidiadau trefol a gwledig: sialensiau ac ail-frandio.
Yn safon uwch, ceir themâu megis: Systemau afon; Mudo Byd-eang a rheoli cefnforoedd y Ddaear; China ynghyd â Sialensiau’r 21ain Ganrif.
Cefnogir yr astudiaethau yma gyda chyfleoedd gwaith maes ffisegol a dynol amrywiol.
Uned 1 (24%)
Arholiad Ysgrifenedig - 2 awr
Tirweddau Arfordirol
Peryglon Tectonig
Uned 2 (16%)
Arholiad Ysgrifenedig - 1 awr 30 munud
Lleoedd Newidiol
Cynnal ymchwiliad Gwaith Maes mewn Daearyddiaeth
Ffisegol a Dynol
Uned 3 (24%)
Arholiad Ysgrifenedig - 2 awr (24%)
Systemau Byd-eang (Cylchredau Dwr a Charbon).
Rheolaeth Fyd-eang: Newid a Sialensiau (Mudo a rheoli
cefnforoedd y Ddaear)
Sialensiau’r 21ain Ganrif
Uned 4 (16%)
Arholiad Ysgrifenedig - 2 awr
Peryglon Tectonig
Twf a Sialens Economaidd yn China
Tywydd a Hinsawdd
Uned 5 (20%)
Asesiad di-arholiad - 3000-4000 gair
Ymchwiliad Annibynnol
Ymdrin gyda materion cyfoes a phwysig. Amlygu ein cyd-ddibyniaeth fel pobl, amgylcheddau
a gwledydd yn y 21ain Ganrif. Datblygu sgiliau mae cyflogwyr eu heisiau:-
sgiliau cyfathrebu; dadansoddi data; datrys problemau ynghyd â’r gallu i feddwl yn annibynnol.
Annog y gallu i weithio fel tîm trwy wneud gwaith maes.
Ein helpu i wneud synnwyr o’r byd o’n cwmpas trwy astudio gwahanol lefydd, prosesau a phoblogaethau amrywiol o raddfa leol i fyd-eang.Â
Datblygu ein cyfrifoldeb fel dinasyddion byd-eang a’n gallu i ddeall rhai o’r materion allweddol y mae’r byd yn eu hwynebu heddiw.
Er y bydd ystyriaeth unigol ar bob cais i astudio Daearyddiaeth, byddai o fudd pe bai ganddynt o leiaf C yn TGAU yn y pwnc.
Mrs Nicola Jones
🔗 Rhestr Cyrsiau