🔗 Rhestr Cyrsiau
🔗 Rhestr Cyrsiau
Mae’r cwrs yn agored i bob disgybl. Mae’r awydd i astudio llenyddiaeth yn hanfodol a sgiliau cyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig. Edrychir ar fyfyrwyr sy’n astudio’r Gymraeg fel arweinwyr y Gymraeg yn y chweched dosbarth a’r ysgol.
Uned 1 (10%)
Astudiaeth o’r ddrama, ‘Siwan’ a’r ffilm ‘Hedd Wyn’
Arholiad Llafar (tua 1 awr)
Uned 2 (10%)
Gwaith Cwrs Ysgrifenedig
Mynegi Barn
Ysgrifennu Creadigol
Uned 3 (15%)
Cerddi’r ugeinfed ganrif a’r unfed ganrif ar hugain.
Arholiad 2 awr
Uned 4 (20%)
Astudiaeth o’r nofel ‘Martha, Jac a Sianco’ ac asesiad synoptig
Arholiad Llafar
Uned 5 (20%)
Rhyddiaith yr Oesoedd Canol, yr Hengerdd a’r CywyddauÂ
Arholiad 2 awr
Uned 6 (20%)
Gwerthfawrogi rhyddiaith neu farddoniaeth ac asesiad synoptig. Y Gymraeg yn y Gymdeithas.
Arholiad 2 awr
Astudio llenyddiaeth iaith hynaf Ewrop
Gwella iaith
Ennill cymhwyster sy’n agor y drws i sawl swydd
Gwell dealltwriaeth o Gymru a’r Gymraeg
Cyfle i ysgrifennu’n greadigol
Er y bydd ystyriaeth unigol ar bob cais i astudio’r pwnc, byddai o fudd pe bai ganddynt radd B neu’n uwch yn Iaith a Llenyddiaeth.
Miss Ffion Williams
🔗 Rhestr Cyrsiau