🔗 Rhestr Cyrsiau
🔗 Rhestr Cyrsiau
Mae’r cwrs lefel 3 yn cynnig rhaglen ddiddorol a phenodol i’r myfyrwyr sydd yn bwriadu dilyn cwrs Hyfforddi Hamdden/Iechyd a Lles mewn prifysgol neu sydd yn bwriadu gweithio yn uniongyrchol o fewn y diwydiant.Â
Mae’r graddau yn cyfateb i raddau Lefel Uwch (A / C/ E) ac yn gyfatebol i’r un pwyntiau UCAS. Ni cheir arholiad yn y pwnc, yn hytrach ceir tystiolaeth o gyrhaeddiad drwy waith portffolio. Gall y dystiolaeth (portffolio) fod ar sawl ffurf gwahanol megis cyflwyniad Pwynt Pwer, aseiniadau ysgrifenedig neu datganiadau tyst.Â
Ar ddiwedd y cwrs bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn medru derbyn y graddau Llwyddo (cyfateb i radd E), Teilyngdod (cyfateb i radd C) neu Rhagoriaeth (cyfateb i radd A).
Gyrfaoedd yn Diwydiant Chwaraeon a Hamdden egniol​
Iechyd, Llesiant a Chwaraeon​
Datblygu Sgiliau Hyfforddi​
Cynlluniwyd y cwrs Chwaraeon i ddarparu cymhwyster penodol, galwedigaethol o fewn y Diwydiant Chwaraeon, Hamdden a Iechyd a Lles. Mae’r cymhwyster yn cynnig cyfleoedd i ehangu delltwriaeth a sgiliau ymarferol myfyrwyr sydd yn seiliedig ar y diwydiant Chwaraeon.
Bydd y pwnc yn newydd i’r mwyafrif o ddisgyblion ac nid oes disgwyl iddynt gael unrhyw wybodaeth flaenorol er byddai Addysg Gorfforol TGAU neu Chwaraeon Lefel 2 yn fanteisiol.
Mrs Eleri Poolman
🔗 Rhestr Cyrsiau