🔗 Rhestr Cyrsiau
🔗 Rhestr Cyrsiau
Mae UG a Safon Uwch mewn Celf a Dylunio yn cynnig profiadau dysgu creadigol diddorol ac arloesol, lle mae arfer celf, crefft a dylunio yn cael ei gyfuno'n ystyrlon â gwybodaeth a dealltwriaeth ddamcaniaethol.Â
Mae'r cwrs yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr ddatblygu sylfaen eang o sgiliau beirniadol, ymarferol a damcaniaethol yn yr UG, gan gynnig dealltwriaeth gyfannol iddyn nhw o amrywiaeth o ymarferion a chyd-destunau yn y meysydd celf, crefft a dylunio gweledol, gan arbenigo mwy a chyflawni'n well yn y Safon Uwch.Â
Ymchwiliad Creadigol Personol, 40% (160 o farciau)
Ymchwiliad Personol, 36% (160 o farciau)
Aseiniad dan oruchwyliaeth - 24% (100 o farciau).Â
Mae’r gwaith cwrs yn golygu gwneud portffolio o waith sydd yn seiliedig ar thema sydd o ddiddordeb i’r unigolyn.
Ar gyfer yr arholiad fe fydd y disgyblion yn cael y cyfle i ddewis cwestiwn o bapur arholiad sydd wedi’i osod yn allanol. Fydd ganddynt gyfnod paratoi cyn cwblhau’r gwaith o dan amodau arholiad.
Mae Celf yn rhoi’r cyfle i ddisgyblion i fynegi syniadau, defnyddio eu dychymyg a’u gallu creadigol yn ogystal â dysgu sgiliau newydd. Mae’n sylfaen hanfodol ar gyfer astudiaethau pellach yn y Brifysgol sydd yn medru arwain at amryw o swyddi yn y maes yma.
Er y bydd ystyriaeth unigol ar bob cais i astudio’r pwnc, byddai o fudd pe byddant wedi astudio’r cwrs i safon TGAU a bod ganddynt 5 TGAU graddau (A*-C).
Mrs Elin.M.Davies
🔗 Rhestr Cyrsiau