Search this site
Embedded Files

English Version
Ysgol Y Strade
  • Cartref
  • Gwybodaeth
    • Gwybodaeth Allweddol
    • Gwisg Ysgol
    • Cyfrifon Trydar
  • Bagloriaeth Cymru
  • Rygbi YGS
  • Cyrsiau
  • Cyn Fyfyrwyr
Ysgol Y Strade
  • Cartref
  • Gwybodaeth
    • Gwybodaeth Allweddol
    • Gwisg Ysgol
    • Cyfrifon Trydar
  • Bagloriaeth Cymru
  • Rygbi YGS
  • Cyrsiau
  • Cyn Fyfyrwyr
  • More
    • Cartref
    • Gwybodaeth
      • Gwybodaeth Allweddol
      • Gwisg Ysgol
      • Cyfrifon Trydar
    • Bagloriaeth Cymru
    • Rygbi YGS
    • Cyrsiau
    • Cyn Fyfyrwyr

🔗 Rhestr Cyrsiau

Cyflwyniad

Nod y cwrs Astudiaethau Crefyddol yw annog disgyblion i ddatblygu eu diddordeb mewn astudio crefydd yn drwyadl, a chysylltu hyn gyda’r byd ehangach. 


Bydd cyfle i ddisgyblion ystyried eu gwerthoedd, eu safbwyntiau a’u hagweddau eu

hunain tuag at grefydd a phrofiadau bywyd. Drwy eu hastudiaeth o grefydd, byddant yn datblygu sgiliau myfyrio, ymchwilio, ymateb, dehongli a gwerthuso. Mae’r pwnc yn datblygu dealltwriaeth o foesau, credoau a diwylliant, sy’n ddefnyddiol ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd.

Cynnwys y Cwrs

Uwch Gyfrannol (UG)

Blwyddyn 12

Uned 1 - ‘Cyflwyniad i Fwdhaeth’ 

Yn cynnwys astudiaeth o fywyd y Bwdha, y prif gredoau a rhai arferion canolog.􀀁



Uned 2 - ‘Cyflwyniad i Grefydd a Moeseg ac i Athroniaeth Crefydd’


  • Mae Moeseg yn cynnwys astudiaeth o ddamcaniaethau moesegol amrywiol a’u cymhwyso i faterion megis euthanasia, gwrywgydiaeth, perthynas amlwreicaeth, arfau niwcliar ac Athroniaeth Crefydd yn cynnwys materion megis dadleuon o blaid ac yn erbyn bodolaeth Duw a phrofiad crefyddol


  • ‘Cyflwyniad i Athroniaeth Crefydd’ sy’n cynnwys materion megis dadleuon o blaid ac yn erbyn bodolaeth Duw a phrofiad crefyddol.

Safon Uwch (U2)

Blwyddyn 13

Uned 3, 4, 5

Mae’r cwrs UWCH yn astudiaeth bellach o’r testunnau

  • UG – ‘Astudiaeth o Fwdhaeth’

  • Crefydd a Moeseg ac

  • Athroniaeth Crefydd.




Rhagolygon Gyrfaol

  • Gradd Prifysgol mewn Astudiaethau Crefyddol neu bynciau perthynol.

  • Gyrfaoedd megis Meddygaeth, Y Gyfraith, Yr Heddlu.

  • Addysg, e.e. dysgu.

  • Y Cyfryngau, Newyddiaduraeth.

  • Gwaith Cymdeithasol.

Cymwysterau Mynediad Delfrydol

Gradd ‘A’ neu ‘B’ yn y cwrs Astudiaethau Crefyddol TGAU. Rhoddir ystyriaeth weithiau i unigolion sydd wedi ennill gradd ‘C’.

Bwrdd Arholi

Cyswllt Ysgol

Mrs Llinos Jones

🔗 Rhestr Cyrsiau

✉ Ysgol Y Strade, Heol Sandy, Llanelli, SA15 4DL☎ 01554745100 www.ysgolystrade.org@Ysgol_Strade
Report abuse
Page details
Page updated
Report abuse