🔗 Rhestr Cyrsiau
🔗 Rhestr Cyrsiau
Mae’r cwrs yn cynnwys cyfuniad o asesiadau ymarferol a theori. Bydd cyfle yn ystod y ddwy flynedd i wella eich perfformiad personol, hyfforddi cyfoedion a disgyblion iau'r ysgol a rheoli grwpiau a thimau.
Dysgir am y berthynas rhwng y dulliau o fyw, iechyd a ffitrwydd o fewn cyd-destun gweithgareddau ymarferol. Ceir cyfle i fynychu ymweliadau â phrifysgolion yn arbenigo mewn Addysg Gorfforol a chwaraeon yn ychwanegol i gyfleoedd allgyrsiol diri megis cystadlaethau tîm, cydweithio i drefnu mabolgampau’r ysgol a chyrsiau amrywiol.
PE 1 - Uned 1
Archwilio addysg gorfforol
Arholiad ysgrifenedig 1 3/4 awr
24% o’r cymhwyster (72 marc)
Asesu holl gynnwys UG y pwnc
Cwestiynau mewn cyd – destun i gynnwys
cwestiynau lluosddewis, ymateb i ddata, atebion byr ac ysgrifennu estynedig.
PE2 - Uned 2
Gwella Perfformiad Personol mewn addysg gorfforol
Asesiad di-arholiad
16% o’r cymhwyster (48 marc)
Asesu perfformiad ymarferol mewn un gweithgaredd
fel chwaraewr/ perfformiwr perfformiad ymarferol fel hyfforddwr neu ddyfarnwr proffil perfformiad personol
PE 3 - Uned 3
Gwerthuso addysg gorfforol
Arholiad ysgrifenedig 2 awr
36% o’r cymhwyster (90 marc)
Asesu holl gynnwys Safon Uwch y pwnc
Amrediad o gwestiynau i gynnwys cwestiynau
ymateb i ddata, atebion byr ac ysgrifennu estynedig.
PE4 - Uned 4
Mireinio perfformiad personol mewn addysg gorfforol.
Asesiad di – arholiad
24% o’r cymhwyster (60 marc)
Asesu perfformiad ymarferol mewn un gweithgaredd fel chwaraewr/ perfformiwr.
Ymchwil Ymchwiliol.
Datblygu a mireinio gallu corfforol mewn gwahanol sefyllfoedd fel perfformiwr, hyfforddwr a swyddog.
Integreiddio theori â’r ymarferol mewn Addysg Gorfforol.
Datblygu cyfranogiad mewn gweithgareddau corfforol ar gyfer bywyd hir dymor fel rhan o ffordd fyw cytbwys a iach.
Er y bydd ystyriaeth unigol ar bob cais i astudio’r pwnc, byddai o fudd pe bai ganddynt o leiaf gradd B mewn TGAU Addysg Gorfforol a Gwyddoniaeth.
Mrs Eleri Poolman
🔗 Rhestr Cyrsiau