Ysgol Parc y Bont


Cymuned Sy'n Tyfu a Ffynnu Fel Un

Fel ysgol, rydym yn adolygu’n gyson ble’r ydym a sut y gallwn wella i sicrhau bod eich plentyn yn derbyn yr addysg orau yn Ysgol Parc y Bont. Trwy hunanarfarnu ac adolygiad parhaus ar draws yr ysgol rydym yn nodi ein blaenoriaethau allweddol ar gyfer gwelliant. Mae'r safle hwn yn rhoi amlinelliad o sefyllfa bresennol yr ysgol. 


Rydym ni yn Ysgol Parc y Bont yn grediniol mai ysgol yw calon cymuned. I sicrhau cymuned lwyddiannus mae'n hanfodol bwysig ein bod ni fel ysgol yn datblygu'r sgiliau a meithrin y wybodaeth a fydd yn galluogi bod pob disgybl yn llwyddo, nid o reidrwydd yn academaidd ond mewn bywyd yn gyffredinol.

Ein bwriad yw sicrhau bod pob disgybl yn ein gadael wedi cael profiadau cyfoethog sydd am sicrhau eu bod nhw yn gallu ymdopi gyda bywyd tu hwnt i addysg. Ymdrechwn i greu unigolion hapus, hyderus, annibynnol, parchus sydd yn mwynhau trio pethau newydd a gyda'r gwytnwch i oresgyn adfyd i sicrhau llwyddiant.

I sicrhau llwyddiant rydym o'r farn ei fod yn hanfodol bwysig bod pob aelod o'r gymuned gyda llais i ddylanwadu ar ddatblygiad a chyfeiriad yr ysgol. Mae'r berthynas rhwng yr holl randdeiliaid a'r parch cilyddol sy'n cael ei ddangos yn ddylanwadol ar gyfer creu unigolion a fydd yn gallu ymdopi a byw yn llwyddiannus o fewn cymdeithas yn y dyfodol.

Mae pentref Llanddaniel Fab yn bentref sy'n diferu mewn hanes, mae hi'n hanfodol bwysig ein bod ni fel ysgol yn addysgu nid yn unig y disgyblion ond y gymdeithas o'r digwyddiadau nodweddiadol yma. Mae hi'n bentref unigryw o ran ei thirweddau a'i phobl. Mae disgyblion yr ysgol fel cymdeithas yr ynys yn unigryw drwy'r wlad o ran y ffactorau amgylcheddol sydd yn ac yn mynd i'w effeithio a'u herio yn y dyfodol, mae hi'n bwysig ein bod ni'n gallu rhannu gwybodaeth a datblygu dealltwriaeth y gymdeithas i sicrhau eu bod nhw'n ymwybodol o'r byd o'u cwmpas, ac yn berchen ar y sgiliau i allu ymdopi a dylanwadu'r dyfodol yn gadarnhaol. Wrth i'r agweddau yma i gyd gyfuno a chydweithio gobeithio y bydd modd i ni greu cymuned llewyrchus, llwyddiannus.