Cryfderau Presennol
Cynnydd Ein Disgyblion yn Erbyn y Medrau
Mae ein disgyblion yn gwneud cynnydd da iawn yn erbyn y medrau rhifedd, darllen Cymraeg a darllen Saesneg, Mae tystiolaeth clir i'w weld yma wrth edrych ar ddata ein asesiadau personol a'n profion mewnol. Rydy ni fel ysgol yn targedu grwpiau o fewn y medrau yma i sicrhau bod pob disgybl yn gwneud cynnydd disgwyliedig.
Darpariaeth a Cyflwyniad o Cwricwlwm i Gymru
Mae darpariaeth yr athrawon ar draws yr ysgol yn sicrhau cyfleoedd gwerthfawr i'r disgyblion ddatblygu a dysgu drwy gofynion y cwricwlwm newydd.
Gwireddu Gweledigaeth Ysgol Parc y Bont
Fel cymuned ysgol rydym ni wedi creu gweledigaeth gan ddefnyddio llais ein holl rhanddeiliaid. O hyn dysgom beth oedd yn hanfodol bwysig i ni fel sygol gynnig i'n disgyblion i sicrhau eu bod nhw'n datblygu, tyfu a ffynnu. Mae'r addysg, y profiadau a'r cyfleoedd mae'r ysgol yn ei gynnig yn sicrhau einbod ni yn gwireddu ein gweledigaeth ni.
ADYaCh a Lles
Mae'r gwaith sy'n cael ei wneud o fewn yr ysgol i dargedu disgyblion ADY yn arbennig. Rydym yn sicrhau bod pob disgybl yn gwneud cynnydd ac yn cyrraedd eu disgwyliadau personol. Mae lles yn elfen pwysig i ni yma, rydym yn sicrhau bod lles pob disgybl yn cael sylw teilwng.