Dilynwch y ddolen yma i ddarllen mwy am templed polisiau
(Bydd angen sgrolio i lawr y dudalen er mwyn dddarganfod yr elfen yma).
Mae cadernid digidol yn ymwneud â’r angen i ddatblygu gwybodaeth, sgiliau a strategaethau er mwyn i blant a phobl ifanc allu:
rheoli eu profiad ar-lein yn ddiogel ac mewn modd cyfrifol
nodi a lliniaru risgiau er mwyn cadw’n ddiogel ar-lein
deall pwysigrwydd defnyddio ffynhonellau dibynadwy a defnyddio sgiliau meddwl beirniadol i adnabod gwybodaeth ffug a chamarweiniol
gofyn am help pan fo angen hynny arnynt
dysgu o’u profiadau a gwella o brofiad pan fo pethau’n mynd o chwith
mynd o nerth i nerth a manteisio ar y cyfleoedd y mae’r rhyngrwyd yn ei gynnig.
Mewn byd digidol lle mae technoleg yn rhan annatod o lawer o agweddau ar ein bywydau bellach, mae’n hanfodol en bod yn cefnogi ein plant a phobl ifanc i ddatblygu’n unigolion sydd â sgiliau digidol cadarn.
I ddathlu Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2023, mae Llywodraeth Cymru yn gwahodd plant a phobl ifanc ledled Cymru i gymryd rhan yng nghystadleuaeth Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel - ‘Dyma’n llais’. Mae’r gystadleuaeth yn galw ar blant a phobl ifanc i greu ffilm sy’n lleisio eu barn, yn rhannu eu safbwyntiau neu eu straeon am ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, gemau neu apiau. Dyddiad cau y gystadleuaeth yw Dydd Gwener 2 Rhagfyr 2022:
Am ragor o wybodaeth am y gystadleuaeth a manylion sut i roi cynnig arni, ewch i dudalen cystadleuaeth Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel.
Mae'r safonau yma yn cynnig canllawiau ar sut y dylai ysgolion sicrhau bod eu hamgylchedd digidol yn un sy'n diwallu anghenion cwricwlwm ysgol sy'n rhoi mwy o sylw i sgiliau digidol at y dyfodol.
Bwriedir hyn helpu ysgolion i ddeall, rheoli a gweithredu eu hamgylchedd digidol eu hunain neu gyda chymorth eu partner ym maes Technoleg Addysg.
Dylai'r safonau hyn ateb y diben drwy weithredu fel arferion gorau er mwyn bodloni anghenion digidol. Fodd bynnag, derbynnir bod ysgolion yn gweithredu ar adnoddau prin a bod rhaid iddynt gynllunio i gyflawni'r safonau dros amser.