Ym mis Medi 2022, bydd pob ysgol gynradd yn cyflwyno’r Cwricwlwm newydd i Gymru.
Bydd y cwricwlwm, a gynllunir gan athrawon yr ysgol, yn cefnogi eich plant gyda gwersi creadigol gan ganolbwyntio ar brofiadau, gwybodaeth a sgiliau cadarnhaol. Bydd yn addas i’w hanghenion ac yn eu helpu i gyrraedd eu llawn botensial.
Man cychwyn pob dim ydy’r Pedwar Diben (uchod) gyda phob disgybl yn ganolbwynt i’r Cwricwlwm. Ochr yn ochr a’r Cwricwlwm fe fydd 'Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd', y 'Fframwaith Cymhwysedd Digidol' a 'Fframwaith y Cyfnod Sylfaen' sy'n dal yn cael eu gweithredu.
Mae’r fframweithiau yn gwau i mewn ac yn rhedeg ar draws Meysydd Dysgu a Phrofiad. Mae 6 Maes Dysgu a Phrofiad:-
Celfyddydau Mynegiannol
Iechyd a Llesiant
Dyniaethau
Ieithoedd a Llythrennedd
Mathemateg a Rhifedd
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
O fewn pob un Maes Dysgu a Phrofiad mae datganiadau o’r ‘Hyn sy’n Bwysig’. Mae rhain yn gosod ffocws ar gyfer continwwm dysgu pob dysgwr. Yn rhan o’r ‘Hyn Sy’n Bwysig’ mae disgrifiadau dysgu. Mae pob disgrifiad dysgu wedi’i gynllunio i gefnogi dyfnder a soffistigeidrwydd cynyddol yn dysgu dros gyfnod o amser.
Gall cyflymder cynnydd plentyn amrywio ar hyd ei yrfa dysgu ond mae’r Cwricwlwm Newydd wedi ei trefnu yn fras i gamau cynnydd- Camau 1,2,3,4 a 5. Disgwylir plentyn i gyflawni Cam 1 yn 5 mlwydd oed, Cam 2 erbyn 8 mlwydd oedd a cham 3 erbyn 11.
Canllaw i’r Cwricwlwm newydd i Gymru
https://hwb.gov.wales/api/storage/2cef8718-1002-4a95-8561-7f833bfcdd9c/220209-canllaw-i-rieni.pdf
In September 2022, all primary schools will be introducing the new Curriculum for Wales.
The curriculum, designed by the school teachers, will support your children with creative lessons with a focus on positive experiences, knowledge and skills. It will suit their needs and help them reach their full potential.
The Four Purposes (above) are the starting point of everything to do with children’s education. Every pupil is at the centre of the Curriculum. Overarching the Curriculum in a cross-curricular way will be the 'Literacy and Numeracy Framework, the ‘Digital Competency Framework’ and 'The Foundation Phase Framework'.
The frameworks need to be embedded and run alongside all ‘Areas of Learning and Experience’.
There are 6 Areas of Learning and Experience: -
Expressive Arts
Health and Well-being
Humanities
Languages and Literacy
Mathematics and Numeracy
Science and Technology
Within each Area of Learning and Experience there are statements of 'What Matters'. These provide a focus for the continuum of learning for all learners. Each 'What Matters' includes learning descriptions. Each learning description is designed to support the increasing depth and sophistication of learning over time.
The pace of a child's progress may vary throughout his or her learning journey but the New Curriculum is broadly organized into stages of progress- Steps 1,2,3,4 and 5. A child is expected to complete Stage 1 at age 5, Stage 2 by 8 years old and stage 3 by 11.
A Guide To The New Curriculum In Wales
https://hwb.gov.wales/api/storage/4e66c555-73aa-44ee-93e5-1e612906f1d2/220208-parents-carers.pdf