Ein Gweledigaeth /
Our Vision
“DYRO I MI DY LAW AC FE AWN I BEN Y MYNYDD”
(GIVE ME YOUR HAND AND WE’LL GO TO THE TOP OF THE MOUNTAIN)
Ein Datganiad o Genhadaeth
Teulu yw’n hysgol yng nghalon ein cymuned. Anelwn at greu awyrgylch gefnogol ac anogol yn Ysgol Castellau lle mae pob unigolyn yn cael y cyfle gorau posibl i ddatblygu ei ddoniau. Dathlwn ein Cymreictod, iaith a diwylliant ac ymfalchïwn yn llwyddiant ein gilydd. Manteisiwn ar bob cyfle i hyrwyddo parch, gofal a chydraddoldeb yn ein bywydau pob dydd a chaiff y plant eu hannog i ddatblygu eu hunan-barch a’u hunan hyder drwy weithgareddau cyfoethog, amrywiol ag heriol. Cydweithiwn, yn athrawon, disgyblion ac yn staff cynorthwyol, yn llywodraethwyr, rieni a ffrindiau gan anelu at yr un nod, sef gwneud Ysgol Castellau yn gymuned hapus, fywiog a chroesawgar lle mae pob plentyn yn profi llwyddiant.
Amcanion:
- Creu ysgol hapus lle mae gofal a pharch rhwng disgyblion ac athrawon a’i gilydd yn amlwg.
- Darparu cwricwlwm eang a chytbwys gan geisio sicrhau bod pob plentyn yn cael yr un cyfle ac yn llwyddo hyd eithaf ei allu.
- Hybu datblygiad annibyniaeth a hunan hyder fydd yn galluogi’r disgyblion i ddysgu dros eu hunain a datblygu eu cywreinrwydd naturiol.
- Darparu amgylchfyd fydd yn gyfoethog, yn anogol ac yn sialens i’r disgyblion.
- Helpu’r disgyblion i dyfu’n unigolion hyderus a chyfrifol o gymdeithas wrth roi iddynt y wybodaeth, agweddau a’r sgiliau canlynol, fydd eu hangen arnynt yn y dyfodol.
- Datblygu’n unigolion hyderus, dwyieithog sy’n gallu cyfathrebu ac arddel pob agwedd ar ddiwylliant Cymru.
- Magu dealltwriaeth sut y gellir datblygu’n unigolion iach yn gorfforol, yn gymdeithasol ac yn emosiynol.
Cwricwlwm Newydd Cymru
Our Mission Statement
Our school is a family at the heart of our community. We will create a supportive and encouraging environment where all individuals have the best opportunities to develop their talents. We celebrate our Welshness, language and culture and show pride in each other’s successes. Every opportunity will be taken to promote respect, care and equality in our day-to-day lives. Children will be encouraged to develop their self-esteem and self-confidence through a wide variety of enriching and challenging activities. We will work together, both teaching and support staff, pupils, governors, parents and friends with one common aim in mind - to make Ysgol Castellau a happy, lively and welcoming community where every child experiences success.
Our Aims:
- To create a happy school where care and respect between pupils and teachers and each other are paramount
- To offer a broad and balanced curriculum ensuring that all children are given every opportunity to achieve their potential
- To encourage independence and self-confidence thus enabling pupils to think for themselves and develop their natural curiosity
- To offer the pupils an environment which is rich, encouraging and challenging
- To help pupils grow into confident individuals and responsible members of society by giving them the knowledge, attitudes and skills, which they will need in their future lives.
- To become confident, bilingual individuals who can communicate and engage fully in Welsh culture.
- To develop an understanding of how to become physically, socially and emotionally healthy individuals.
We are currently moving towards a new curriculum in Wales. For more information on the new curriculum follow the link below:
New Curriculum Wales