Search this site
Embedded Files
Skip to main content
Skip to navigation
Rees Pages
Home
Llyfr Mormon
Athrawiaeth a Chyfammodau
Darlithiau ar Ffydd
Perl o Fawr Bris
Welsh LDS Hymns
Portions of the 1852 Hymnal
Welsh and English Contents
English Preface and Index
1849 Hymnal Complete
Rees Pages
Home
Llyfr Mormon
Athrawiaeth a Chyfammodau
Darlithiau ar Ffydd
Perl o Fawr Bris
Welsh LDS Hymns
Portions of the 1852 Hymnal
Welsh and English Contents
English Preface and Index
1849 Hymnal Complete
More
Home
Llyfr Mormon
Athrawiaeth a Chyfammodau
Darlithiau ar Ffydd
Perl o Fawr Bris
Welsh LDS Hymns
Portions of the 1852 Hymnal
Welsh and English Contents
English Preface and Index
1849 Hymnal Complete
Portions of the 1852 Hymnal
HYMNAU
1 M. H.
Y boreu ddaeth, a'r niwl sy'n ffoi!
Gwel faniar Seion yn ei hyd!
Goleuach dydd sy'n gwawrio 'nawr
Yn ogoneddus ar y byd.
Cymylau cyfeiliornad ff'ont
O flaen pelydrau dwyfol wir;
Y mawr ogoniant oddi draw
Dỳr ar y gwledydd cyn bo hir.
Daw llawnder y cenedloedd mewn,
A chasgla Israel oll i'w gwlad;
Ca gweddill Judah eu glanhau,
A'u dwyn yn ol i'w Canaan fâd.
Llais Duw sy'n dweyd! rhoed daear glust;
Na throed cenedloedd rhagddo bant:
Ei nerthol fraich ddynoetha'n glau,
I achub ei ammodol blant.
Engyl o'r nef, a gwir o'r ddae'r,
Fu'n cwrdd, gan ddwyn tystiolaeth gref;
Fel hyn tỳr llewyrch Seion maes,
Er dwyn eu hanwyl blant i dref. *
B
2 M. N. 8, 7.
Beth a welwyd yn y nefoedd?
Angel yn ehedeg lawr.
A oedd rhywbeth ganddo'n dyfod?
Oedd - efengyl Iesu mawr.
Y mae hono i'w phregethu
I bob cenedl, llwyth, ac iaith -
I'r holl bobloedd ar y moroedd,
Ac ar wyne daear faith.
Onid oedd efengyl genym?
Oedd - braidd rif y tywod mân.
Wel, beth yw'r efengyl newydd?
Hen efengyl fu o'r blaen.
Dyma'r un bregethai Pedr,
Dyma'r un bregethai Paul;
Dyma'r un bregethwn ninnau,
Mewn awdurdod ar eu hol.
P'le mor hir y bu'r efengyl?
Yn ei "hymadawiad" bu.
Beth a ddaeth o'r rhai fu hebddi?
Duw yn Farnwr cyfiawn sy.
Cnwd ni cheisir lle nis hauwyd,
Na dydd goleu lle bo nos:
'Nawr llewyrchu mae goleuni -
Na foed neb yn gwel'd yn groes. *
3 M. N. 11au.
O, gwyn fyd y dynion sy'n ufyddhau 'nawr
I gyfraith y nefoedd, eu braint sydd yn fawr;
Er iddynt gael erlid a dirmyg y byd,
Cânt fyned i Seion ar fyrder ynghyd.
Teyrnasant gyda Christ
Am fil o flynyddoedd, heb un yno'n drist.
O dan ei winwydden eistedda pob un,
A dan ei ffigysbren, heb neb yno'n flin,
Yn gwledda'n y deyrnas addawodd eu Tad
I Abra'm, ac Isaac a Jacob, a'u had.
Gwledd pasgedigion llawn,
A gloyw win peraidd, yn newydd a gawn.
J. T - S.
4 M. H.
Nyni, O Dduw, dy seintiau, sydd
Yn addef nerth yn ol y dydd;
Y sawl a ddel i'n heglwys ni,
A wêl dy fawr weithredoedd di.
Yr un wyt 'nawr ag oe't erioed,
Yr un tragwyddol etto i fod;
A ninnau, 'th saint, sy'n eglurhau
Dy nerthoedd gwyrthiol i barhau.
Yr un yw goruchwyliaeth gras,
A'r awr dylifodd gynta'i maes;
A'r un mor rhad drugaredd Rhi,
Can's digyfnewid ydwyt ti.
Pwy yn un lle all ddweyd yn llyn,
Yn erbyn gwyrthiau'r dyddiau hyn,
Heb fod yn groes i'r 'sgrythyr lân,
Am nerthoedd glwys yr Ysbryd Glân,
O, deuwch, wywedigion byd,
Am nawdd i'n harch, O ffowch mewn
pryd;
Dewch gloffion, deillion - pob rhyw rai;
Edifarhewch, cewch eich iachâu.
Tafodau newydd hynod iawn,
Trwy Ysbryd Duw yn byfryd gawn;
A'r doniau oll, nyni a'u medd,
Credinwyr heirdd Efengyl hedd.
O, Arglwydd, saf o blaid dy saint,
O'th nefol fro dylifa'th fraint,
I'th deyrnas wyrthiol fyn'd ar led,
Ac anffyddloniaid roddi cred.
C.
5 M. N. 12au.
O, deuwch i'r tir, lle d'wedodd yr Ar-
glwydd;
Holl garwyr y gwir, ffowch, ffowch rhag
yr aflwydd;
Mae'r digter gerllaw, a braw'r annuwiolion,
Sef dystryw y cyfryw ni ddeuant i Seion.
Moliannus fo Duw am dangos dihangfa,
Lle gadawn gael byw pan dywallter ei
farnau.
Adferwyd trwy'r angel 'r efengyl dra-
gwyddol,
(Yn lle traddodiadau, caed doniau ys-
brydol),
Yr hon a bregethir trwy'r byd er tystiol-
aeth,
Ac yna difodir yr anwir ar unwaith.
Moliannus o Duw, &c.
Er iddynt ddiddymu'r cyfammod tra-
gwyddol,
Trwy ladd gweision lesu, a gwadu'r iawn
reol;
Ond eilwaith adferwyd hi gan y Goruchaf,
Mae 'nawr gyda seintiau y dyddiau di-
weddaf.
Moliannus fo Duw, &c.
Fe dd'wedodd yr Iesu cyn iddo ddyrchafu,
'R anfonai ei Ysbryd i dywys a dysgu
Yr holl rai a gredant, fo wedi'u bedyddio -
Pawb geidw 'i orchymynion i gyd, heb
ddiffygio.
Moliannus fo Duw, &c.
Yr un yw yr Iesu yn awr â'r pryd hyny,
A'i holl addewidion sydd ffyddlon heb
ballu;
Mwynheir yr un Ysbryd, ac hefyd ei
ddoniau,
Yr awrhon yn eglur yn eglwys y seintiau.
Moliannus fo Duw, &c.
R. R.
6 M. N. 7, 6.
Diolchwn i'n Tad nefol
Am yr efengyl lon,
Ddadguddiodd ef i'r ddaear
Yn y genedlaeth hon;
Mae hon yn llawn bendithion -
Arwyddion, 'rwyf yn dyst,
Yn canlyn y rhai greda,
Fel d'weda Iesu Grist.
J. T - S.
7 M: S.
O, Arglwydd grasol, nertha ni
I droedio llwybrau union,
Hyd nes y byddom oll trwy ffydd
Orchfygu ein gelynion.
T. G.
8 M. N. 9, 8.
Mae'r gareg a dorwyd o'r mynydd
Yn treiglo trwy'r gwledydd yn glau;
Y deyrnas wir addas ddiwreiddia,
'R oes yma, holl gynnydd 'run gau;
Yr Iesu deymasa mewn heddwch,
Mae'n agos lonyddwch ei saint,
Yn Seion hyfrydlon fe'n gwelir,
Mewn agwedd lon eglur, heb haint.
R. R.
9 M. S.
O frodyr, ffowch o Babilon
I Seion am eich bywyd;
Ei chwymp a'i dystryw sydd gerllaw;
Ei chur a'i braw dychrynllyd.
Ar anwireddau dynol ryw,
Fe graffodd Duw y nefoedd;
Rhydd iddynt phiol lawn o lid,
Am erlid ei hoff bobloedd.
Mae Crist yn gweled gwawd dibaid
Holl ddeiliaid teyrnas Satan;
Mae'n gweled hefyd boen a chur
Ei frodyr hoff ei huuan.
Y hyd nid adwaen Duw na'i blant,
Ni welant chwaith ei deyrnas;
Maent fel y d'wedodd Crist ei hun
Wrth un, sef Nicodemus.
"Oddieithr geni dyn drachefn,
Mewn trefn o ddwr a'r Ysbryd,
Nid aiff yn wir i'm teyrnas, cred,
I weled fy mawr olud."
Myn Dun ei feibion cyn bo hir,
Ynghyd i dir heddychol;
Arllwysir hefyd ar y byd
Ei lid o lawer phiol.
Ond gwelaf ddinas draw trwy ddrych,
A gorwych gadarn gaerau;
O fewn i hon caf ddiogel fyw,
A Duw yn amddiffynfa.
Ond i mi gywir ddilyn Crist,
Trwy flinfyd trist a rhwystrau,
Fy nerbyn gaf i'w gynhes gol,
A'i anwyl siriol wenau.
R. R.
10 M. N. 6, 4.
Dy Ysbryd, Arglwydd mawr,
O anfon ef i iawr,
I'm nefolhau;
Fel bo gwageddau'r byd,
Yn marw yn fy mryd,
A chwantau cnawdol gyd,
Ac yshryd gau.
Cyfeiliornadau'm hoes,
Dy air i'r rhai'n sy'n groes:
A moes i mi,
Ryw adnewyddol nerth,
I'w gyru draw yn gerth,
A dangos hefyd werth
Dy aherth di. -
11 M. N. 7, 6.
O, ddynion, pa'm aroswch?
Pa'cn gwnewch chwi oedi cy'd,
Heb gym'ryd eich bedyddio?
Mae heddyw yn llawn bryd;
O, codwch groes yr Iesu,
Ei iau sy'n esmwyth, gwn;
Cewch nerth ei ddwyfol Ysbryd
I esmwythâu eich pwn.
A'r nef a'r ddaear heibio,
Cyn pallo geiriau Duw;
Ffordd gul yn unig drefnodd,
Er achub dynol ryw;
Rhaid ufyddhau i fedydd,
Er dod i deyrnas Crist,
Ac er maddeuant pechod -
Mae'r Gair yn eirwir dyst.
M. J.
12 M. N. 8, 7.
Bendigedig fyddo'n Ceidwad,
Am adferiad gwerthfawr rhad;
Aed yn mlaen mewn rhwysg ei deyrnas
I bob dinas a phob gwlad;
Frodyr tirion, er d'ystyrwch,
Byth na pheidiwch draethu'r gwir,
Duw a farn ei holl elynion,
Ein caseion, cyn bo hir.
Pan fo'r byd mewn gwae dychrynllyd,
O mor hyfryd fydd y saint,
Gyda'r Iesu yn ei garu,
Ac yn canu heb un haint;
Cawn bryd hyny gyd-deyrnasu,
Gyda'r Oen ar Seion fryn,
Os parhawn ni hyd y diwedd;
Duw'r gwirionedd dd'wedodd hyn.
Gan nad oes dim cyfnewidiad
Yn ein Ceidwad mawr ei ddawn,
Ni newidiodd ddim o'i bethau
Yn ei dŷ, maent oll yn iawn;
Apostolion a phrophwydi,
Idd ein dysgu yn ffordd Duw,
Doniau gwyrthiol a ganlynant
'Rhai a gredant, eglur yw.
Er fod dynion hunan-ddoethion
Wadant roddion pena'r Nef,
'N rhoi haeriadau nad oes eisieu
Rhai o'i ddoniau gwerthfawr ef;
Gau-athrawon ynt annoethion,
Hollol groesion i'n Duw ni;
Rhith dduwioldeb sy'n eu meddiant,
Canys gwadant ei grym hi.
Rhai sy'n ufydd i Dduw'r nefoedd,
Ddont yn lluoedd o bob lle,
I dir hyfryd yr addewid,
Maes o'r gofid, medd Efe;
Cur a galar ffoant ymaith,
Troir ein gobaith yn fwynhad,
Gwel'd ein Brenin yu ei degwch
Gawn, a phur hyfrydwch gwlad.
Bendigedig fyddo'n Ceidwad,
Am ddadguddiad yn eu gwydd,
Ac am arwydd o foddlonrwydd
Ein Pen-llywydd yn ein llwdd;
Er fod byddin yn ein herbyn,
O rai cyndyn yn mhob gwlad;
Mae gwir obaith buddugoliaeth
Yn arfogaeth Duw ein Tad.
Pan fo'r Iesu mawr yn dyfod,
Fe fydd trallod trwy'r holl fyd;
Llwythau'r ddaear gyd-alarant,
Pan ei gwelant, ànt yn fud;
Rhai sy'n awr yn cenfigenu,
Wrth braidd Iesu llou a'u llwydd,
Gânt eu sathru gan ein Brenin.
Gyda'i fyddin, yn ein gwydd!
R. R.
13 M. C.
Yn gyntaf ceisiwch deyrnas Dduw,
Na cheisiwch olud byd;
Y trysor goreu ceisiwch chwi;
Mae'r lleill i'w cael o hyd.
Mae'n fwy o les i enaid dyn,
Nâ'r byd a'i olud mawr,
I ryngu bodd ei nefol Dad,
A gwneyd ei gais bob awr.
Bydd hyn yn olud o barhad,
Nas gŵyr y byd ei faint -
Cael etifeddu Seion Duw,
A thrigo gyda'i saint.
Caniadau Moses ac Oen Duw,
Fydd yno'n boddio'r glust;
Ceir drachtio'n llon o'r newydd win,
Yn neithior Iesu Grist. *
14 M. N.
Mae Duw yn galw 'nawr,
O gwrandewch;
Mae'n cynnyg rhoddion mawr,
O gwrandewch;
Er bod i Dduw'n anufydd,
Maddeuant gewch trwy fedydd,
A gafael ar wir grefydd,
Os gwrandewch.
Mae Duw yn galw 'nawr,
Pa'm na ddewch?
Mae'n cynnyg rhoddion mawr,
Pa'm na ddewch?
Cewch eglurhad yr Ysbryd,
Ynghyd â'i ddoniau hyfryd,
I'ch tywys tua'r bywyd,
Pa'm na ddewch? *
15 M. N. 6, 8.
Moliannaf byth fy Nuw
Am drefnu bedydd dwr;
Mae ordinhad o'r nef
Yn golchi beiau'n siwr;
A'r Ysbryd Glân sy'n dod i lawr,
Sy'n profi i ni rywbeth mawr. *
16 M. N. 8, 7.
Pa'm na chredwch ein tystiolaeth?
Pa'm na phrofwch bob peth sydd?
Pa'm na fynwch gael goleuni,
Tra mae 'nawr yn oleu dydd?
Pa'm na charech feddu sicrwydd,
Yn lle gobaith gwan a chred?
Pa'm na chydiwch yn y sylwedd,
Yn lle'r cysgod diddym red?
Pa'm na hoffech gael y doniau -
Dawn i bawb fel myno Duw?
Pa'm na chredwch 'nawr mewn gwyrth-
iau,
Tra mae'r Hwn a'u gwnaeth yn fyw?
Pa'm na charech ddawn i wella,
A mynegi peth i ddod,
A llefaru mewn tafodiaith,
Tra mae'r hyn "o ran" mewn bod?
Pa'm y credwch "rith duwioldeb,"
A chan wadu'n llwyr ei "grym?"
Pa'm y dysgwch chwi bob amser,
Tra nas gellwch wybod dim?
Pa'm na roddwch lwyr ufydd-dod
I holl eiriau Brenin nef,
Fel y caffoch wir wybodaeth,
Trwy ddadguddiad, ganddo Ef? *
17 M. H.
O bechaduriaid, trowch mewn pryd -
Ar bechu mwy na rowch eich bryd;
Ond ffowch am rad faddeuant Duw,
Ag ysbryd prudd a chalon friw,
Y taliad cyflawn ar y pren,
A roddwyd gan enneiniog Nen,
All glirio'ch beiau mawr a mân,
A'ch arbed rhag haeddiannol dân.
Os ufyddhewch, cewch ffafr Duw,
A thrwy ei Fab ef fythol fyw:
Mae'r fraint yn rhad, a thaer yw Ef
I annog dyn i wrando'i lef. *
18 M. N. 8, 7.
O, mor hardd fydd yr olygfa
Ar y dyrfa yn y wlad,
'Rhon addawwyd gynt i Abra'm,
Isaac, Jacob, ac i'w hâd;
Yno ceir o basgedigion,
Ac o newydd loyw win;
O, am fod yn un o'r dyrfa,
Yn nghwmpeini Mab y dyn.
T. G.
19 M. N. 7, 6.
Pa Dduw yn mhlith y duwiau
Debyga i Dduw'r saint,
Yn medru iachâu'r cleifion,
A rhoi 'ynt bob rhyw fraint;
Rhydd ddoiniau ei Lân Ysbryd,
Rai hyfryd, i bob un,
I'r dyben o'u perffeithio
Yn debyg iddo'i hun.
T. G.
20 M. N. 7, 6.
O, Dad o'r nef, gwrandawa
Ar weddiau taer dy blant,
A gyr o fysg dy bobl
Bob rhyw ammheuon bant:
Mewn ffydd aed ein herfynion
I'r làn i lys y nef,
Fel caffont eu costreli,
A'u hateb ganddo Ef.
Gwnawn weddio mewn gwirionedd,
Ac yn yr Ysbryd Glân,
Oblegid Duw sy'n gwybod
Pwy fedd gydwybod lân:
Na feiddiwn at yr orsedd
Heb hyder llawn yn Nuw;
Heb ffydd yn enw'r Iesu,
Ein gweddiau byth ni chlyw,
O Dduw, gwna ein calonau
Yn breswyl teimlad dwys,
A'r hyn a f'om yn ofyn
Gwna di e'n beth o bwys:
Dod gariad yn ein geiriau,
Taerineb yu ein llef,
A gwylder yn ein hagwedd,
Gan agor in' y nef. *
21 M N. 9, 8.
Y dyddiau diweddaf a wawriodd,
A'r angel a draethodd y drefn;
Yr Iesu ddewisodd ei weision
I drin ei achosion drachefn.
Mae heddyw yn galw rhai gwaelion,
A'r doethion yn cilio naill du,
Ond pan ddel ei hunan i Seion,
Bydd gwae i elynion ei lu.
R. E.
22 8, 7.
Fe addawodd Brenin nefoedd
Ga'dd bob gwawd a dirmyg byd,
"Os erlidiwyd fi fel Brenin,
Gwaeth fydd ar fy neiliaid gyd;
Gwyn eich byd y rhai sy'n ffyddlawn,
Ac a baro gyda'm gwaith,
Chwi deyrnaswch gyda'ch Brenin
Am ryw fil o flwyddi maith."
Gwawd y byd 'ry'm yn ei erfyn,
'Nol addewid Brenin nef;
Pob drwg air gan anghredinwyr
Gawn am foli 'i enw Ef:
Yn ei enw ef y gweddiwn,
Am ei nerth i fyn'd yn mla'n,
" Concrwyd, concrwyd ein gelynion,"
Draw yn Seion fydd ein cân. -
23 M. N. 7, 6.
Galara llwythau'r ddaear,
Pan ddelo Mab y Dyn;
Ac am na chredant iddo,
Hwy brofant ddial blin.
Ond, clywch! gwyn fyd y cyfryw
Fo'n credu'n Iesu cu;
Pan ga y lleill eu poeni,
Cânt hwy eu cipio fry.
24 M. N. 7, 4.
Mae y deyrnas wedi dod,
Yn ei hadeg,
Heb un diwedd ami fod,
Byth ychwaneg;
Hon a dorwyd megys maen,
Draw o'r mynydd,
Ac a dreigla yn ei blaen,
Dros y gwledydd. -
25 M. N. 8, 7.
Dyma y cyfammod newydd,
Sicrhawyd gan Iesu Grist;
Pawb a'i gwrthyd, ac a'i tora,
'Nydd y farn cânt amser trist:
Duw oedd yn yr hen gyfammod
Gyda'i blant yn foreu iawn,
Gyda'r Iesu caed y newydd,
A'r bendithion ynddo'n llawn. -
26 M. N. 8, 7.
Tegwch bro, llawenydd daear,
Ydyw mynydd Seion draw,
Yno cwrdd y saint â'u gilydd,
Yno Iesu hefyd ddaw;
Ac fe'u dysgir hwy yn nghyfraith,
A gwybodaeth gwir Fab Duw;
Yno rhodiant yn ei lwybrau,
Yno hefyd byddant byw.
T. G.
C.
27 M. N. 6, 8.
Ar ddiwedd dydd yr wyl,
Mewn hwyl y byddo'r Saint,
Yn moli'r Arglwydd cu
Am gael meddiannu'r fraint,
Sef cael mwynhad tra ar ein taith,
O'i bur Ddyddanydd yn ei waith.
J. R.
28 M. H.
I fynydd Seion, O fy mhlant,
Eich dygaf oddi yma i bant,
I gyd-fwynhau'r ddedwyddol wlad,
Ordeiniwyd i chwi gan eich Tad.
E. E.
29 M. N. 8, 7.
Mae banerau'r nef yn chwarae,
Hedeg mae'r efengyl hon;
Rhaid i'r Iesu mwy deyrnasu
Dros derfynau'r ddaear gron:
Gwael yw gweled llwythau Israel,
Dim ond hyny wrth ei draed;
Rhaid cael tyrfa fwy lliosog
I glodfori'r dwyfol waed.
J. T.
30 M. N. 11au.
Gwir gariad mewn undeb, a chariad mewn
gwres,
Sy'n gariad a bery, gwna byth, er ein lles;
A chariad at frodyr, a gweision ein Duw,
Sy'n gariad a bery i'r Saint tra b'ont byw.
M. J-S.
31 M. N. 7, 6.
Cydunwn, deulu Seion,
Bob un i foli Duw;
Ei Ysbryd Glân rydd ini,
'Nol ei addewid wiw;
Bendithiwyd y propbwydi
A'r patriarchiaid cu,
A'r apostolion ffyddlon
Fu'n ddiwyd gyda'r llu.
Bendithiwyd yr hen deidiau
Mewn llawer dull a modd,
Trwy freuddwyd, gweledigaeth,
A'r hoff brophwydawl rodd,
Trwy weinidogaeth engyl,
A thrwy ei lais ei hun,
A thrwy yr iechydwriaeth
Gaed rhag clefydau blin.
Bendithiwyd trwy'r tafodau,
A thrwy'r cyfieithad cu,
A thrwy yr offeiriadaeth
A ddaeth o'r nefoedd fry;
O, canwn haleliwia,
O fawl i'n Harglwydd mawr,
Am yr amrywiol ddoniau
A ddaeth o'r nef i lawr.
J. R..
32 M. N. 8, 7.
Hyfryd cwrdd un waith yn rhagor,
Er cael cynghor ar y daith,
Pa fodd rhaid i ni weithredu,
Gweision Iesu, yn y gwaith;
Gwaith yw hwn sydd raid ei orphen,
Er cyflawni dyben Duw;
O, am ymdrech yn y gorchwyl,
Frodyr anwyl, tra f'om byw.
Yn freninoedd ac ofifeiriaid
Fe a'n gwneir ar Seion fryn,
Os gwnawn yma ond ymdrechu.
Gario'r genadwri hyn;
Cawn pryd hyny heirdd goronau
Ar ein penau, am ein gwaith,
A theyrnasu gyda'n Iesu
Am ryw fil o flwyddi maith.
I. R.
33 M. H.
Mae ufyddhau i eiriau Crist,
Yn symud ffwrdd bob trallod trist,
A'r Ysbryd Glân rydd ryfedd fraint,
Sef dwyn tystiolaeth i'r holl Saint.
M. J.
34 M. N. 8, 7.
Anwyl frodyr a chwiorydd,
Cawsom etto newydd fraint
I ymgasglu at ein gilydd,
Er cael cynnal ein cwrdd Saint
Yma cawn ni ddwys gynghorion,
Gan y gweision, er llesâd,
Yma cawn ni o'r bendithion
A ddanfonir gan ein Tad.
Yma cawn ni brophwydoliaeth,
Dawn gwybodaeth oddi fry,
A llefaru â thafodiaith,
'Rhon gyfieithir oll i ni;
Yma cawn ni bêr ganiadau,
Adeiladaeth i ni bydd;
Pob rhyw ddawn a gawn yn ddiau,
Duw o'i ras o'r nef a'u rhydd.
I. R.
35 M. N.
O, dewch yn lluoedd llon,
Holl gyrau'r ddaear gron,
I Seion wiw,
Gwir ddinas Duw yw hon:
Mae Ef yn galw'i eiddo gwiw
O fysg pob iaith o ddynol ryw,
Y gwreng a'r bonedd hefyd,
I'r hyfryd wlad i fyw.
J. R.
36 M.C.
Moliannwn oll ein Tad sydd fry,
Am wrandaw llef y caeth,
A dwyn y rhwym o'r carchar du,
I seinio newydd iaith.
Y rhai fu yn anufydd gynt,
A glywsant lais Mab Duw;
Cadd pawb a gredodd ddod yn rhydd,
A gwnaed y meirw'n fyw.
Y saint mewn cnawd aent lawr i'r dwr,
Yn llawen yn eu lle,
Fel gallai'r carcharorion trist,
Fyn'd mewn i deyrnas ne'!
Mor raslawn ydyw Duw y Saint!
A'i gariad, pa mor fawr!
Mae ei gyfiawnder dwyfol Ef,
I'w wel'd trwy'r nef a'r llawr. *
37 M. S.
Ein Iesu âd ei drigfa wiw,
At ddynol-ryw y dychwel;
Ac ni gawn wledda gydag ef,
Bob un yn Seion dawel.
Daw'r pererinion sy'n y bedd
I'r làn mewn hedd bryd hyny,
I gael mwynhau'r orphwysfa dêr,
Mewn pleser, fel un teulu.
Pawb oll mewn unol fawl
Yn canmawl y Gwaredydd,
Am ei drugaredd rhyfedd râd
I'r rhai fu'n ngwlad y cystudd.
J. R.
38 M. S. D.
Er i ni golli'r ddelw wiw
Fel dynol-ryw yn Adda,
Daeth Iesu Grist i lawr o'r nen
I Fethlehem Euphrata,
Er mwyn ein codi yn ddiffael
O gyflwr gwael marwoldeb,
A'n dwyn yn dêr i gyd yn ol
I'w fythol bresennoldeb.
J. R.
39 M. N. 7au.
Ni gawn fyned maes o law
I'r hyfrydol dir sydd draw;
Canwn i'n Gwaredwr cu,
A wnaeth drefnu'r ffordd i ni.
Pan ddaw'r Iesu lawr rhyw ddydd,
Gyda'i anwyl Saint y bydd;
Dyna'r pryd y cawn heb drai
Bob danteithion i'w mwynhau.
M. J.-S.
40 M. N. 8, 7.
Fe ddadguddiodd Duw'r efengyl
Welodd Ioan yn y nef;
Pawb a gredo ei phregethiad
A gaiff drysor ganddo ef;
Caiff fwynhau y doniau hyfryd
'Nol ewyllys Duw ei hun,
Pawb i fedydd ufyddhäo,
Gaiff y rhain, medd Mab y dyn.
Yr efengyl sydd yn allu
Duw, er iechawdwriaeth dyn;
Pawb dderbynio'r trysor hwnw
Gaiff wybodaeth iddo'i hun;
'R Ysbryd Glân sy'n tystiolaethu
Fod y Saint yn blant i Dduw,
A'r arwyddion sydd yn canlyn,
'Nol fel d'wedodd Iesu gwiw.
T. B.
41 M. S.
Mae'n wir y gwywa llysiau'r haf,
A'r blodau braf a syrthiant;
Ond geiriau Duw a saif mewn bri,
Hwynt-hwy byth ni ddarfyddant.
Er fod y dail yn syrthio lawr,
A'r mawrion goed yn crino,
A phob rhyw degwch sy'n y byd
O hyd yn myned heibio.
Er hyn i gyd, mae Duw yr un,
Heb derfyn i'w fodoliaeth,
Na chyfnewidiad byth i fod,
Na chysgod tröedigaeth.
J. R.
42 M. H.
O, canwn fawl soniarus mwy
I'r Hwn fu farw ar y pren;
Fe ddaeth i ni, do, fywyd trwy
Farwolaeth Iesu Grist, ein Pen.
Er fod yr hoelion llymion trwy
Ei draed a'i ddwylaw ar y pren,
Ac yn ei ystlys ddirfawr loes,
Un gair yn groes ni ddaeth o'i ben.
Cyflawnwyd gair y prophwyd cu,
Gan Iesu ar y groes bryd hyn;
Dadganwn ninnau ddyddiau'n hoes,
Am ingawl loes Calfaria fryn.
J. R.
43 M. N. 8, 7.
Canwn, frodyr a chwiorydd,
Nid yw'n hamser yma'n hir,
Cawn fyn'd ymaith yn dra buan,
I fwynhau'r dedwyddol dir;
Gweled gawn ein Prynwr anwyl,
A fu'n dyoddef drosom ni,
'Rhwn a hoeliwyd draed a dwylaw
Ar y groes, ar Galfari.
M. J.-S.
44 M, S.
Fel milwyr dewrion awn yn mlaen,
Trwy'r cyfan i'r wlad odiaeth;
Gwir edyn cariad, breichiau ffydd,
A ddwg in' fuddugoliaeth.
O, awn yn mlaen er gwaetha'r llu,
Sy'n methu ein dyfetha;
Mae Duw yn Dad, a Christ yn Frawd,
I wyr y gatrawd yma.
J. R.
45 M. N. 11au.
Mawrygwn ein breintiau, O frodyr cytun;
A chanwn ganiadau yn llawen bob un:
Mae'n hyfryd i deithio mewn undeb a hedd
Ar hyd yr anialwch i Seion a'i gwledd.
Er cymmaint y croesau sydd i ni yn awr,
O na ddigalonwn - mae'r wobr yn fawr;
Cyfodwn ein penau, ymwared sydd draw -
Ein gyrfa ddiweddir mewn hedd maes o law.
Tywyllir yr haulwen, y lleuad, a'r sêr, -
Ysgydwir holl nerthoedd y nefoedd, gan
Nêr,
Ond hyn fydd yn arwydd i'r ffyddlon
trwy'r byd,
Mai buan daw'r Arglwydd i'w casglu
ynghyd.
Mor hoff ydyw meddwl am fyw yn ddiboen,
Mewn gwlad heb ddim blinder, yn ngwydd-
fod yr Oen:
Mae'r yn hyfryd, ond gwell yw'r,
Mil gwell ydyw'r , nâ'r am y
wlad.
Os cymmaint yw'r gwynfyd, beth ddylem
ni fod?
Ai diwyd ai diog, i gyrhaedd y nod?
Ymdrechwn yn wrol - mae Duw yn rhoi
nerth -
Os ffyddlon ymdrechwn, try'r ymdrech
yn werth. *
46 M. N. 8, 7, 3.
Y mae cofio angeu'r Cyfiawn
Yn fy nerthu ar fy nhaith;
Pâr im' adnewyddol fywyd,
Nerth ac iechyd yn y gwaith;
Holed dyn ef ei hun,
A swpered yn gytun.
J. R.
47 M. N. 6, 7,
O, mor hyfryd fydd yn Seion,
Wedi dyfod Mab y dyn,
Pawb yn canu pur anthemau
Yno'n wresog a chytun,
Oll yn rhodio mewn heirdd wisgoedd,
Yn mhlith engyl gwynfa fry,
A dyscleiria Crist ei hunan
Mewn gogoniant gyda'r llu.
M. J
48 M. H.
Cymmanfa etto ddaeth i'n rhan,
I'r Saint ymgasglu i'r un man;
Boed pawb â'u genau'n llawn o glod,
I foli Duw'n well nag erioed.
Mae cwrdd fel hyn 'nol cynghor Duw,
Yn nerth i bawb i dduwiol fyw;
Ac ynom rhoddir dwyfol dân,
I'n cymhell gyda'r gwaith yn mlaen. *
49 M. N. 8, 7.
Amgylchiadau sydd yn galw,
I ymadael etto'n wir,
Mewn llawn obaith y cydgwrddwn
Draw yn Seion cyn bo hir;
Yno cawn ni gyd-deyrnasu
Gyda'r Iesu cu, ein Pen;
Brysio, brysio wnelo'r amser,
Yw'm dymuniad taer. Amen.
T. H.
50 M. N. 8, 7, 4.
Dyma foreu Sabboth hyfryd,
Roddwyd ini îs y nen;
O, am Ysbryd yr addewid,
Idd ei dreulio oll i ben
Yn ngwasanaeth, &c.,
Brenin y breninoedd oll.
J. R.
51 M. N. 8, 7
Dyma deyrnas a swyddogion,
O osodiad Iesu gwiw,
Dyma'r deyrnas a ddechreuodd
Yn yr oes ag ym yn byw;
Dyma'r deyrnas welodd Daniel
Wedi dechreu yn ei phryd,
Dyma'r deyrnas a faluria
Holl deyrnasoedd maith y byd.
A. E.
52 M. N. 7, 6.
Gwyn fyd y rhai yn Iesu
A hunant yn y bedd,
Can's etto hwy gyfodir
Mewn gogoneddus wedd:
Pan gano yr archangel
Ei udgorn yn y nen,
Cydgesglir yr anwyliaid
I gwrddid fry â'u Pen.
Rhyw liaws mawr o'r blaenffrwyth
A brynodd Duw o'r byd -
Y cyfryw nas halogwyd -
Esgynant oll yn nghyd;
A'r byw fydd ar y ddaear
Yn adwaen Iesu cu,
Mewn moment a newidir -
A gipir gyda'r llu.
Ond gwae y rhai adewir
I aros ar y llawr,
Rhyw dristwch leinw'u calon -
Eu galar fydd yn fawr;
Yr Arglwydd fry a'i fyrddiwn
A welant yn nesâu,
A fflamau tanllyd ganddo
I boeni'r anwir rai. *
53 M. N. 12, 11.
Ysbryd yr Arglwydd fel tân sydd yn llosgi,
Y dyddiau diweddaf a wawriodd i ni;
Yr Arglwydd anfonodd, o wlad y goleuni,
'R efengyl dragwyddol, a'i dawn gyda hi.
Cafwyd gwirionedd yn mynydd Cumorah, -
Daw bechgyn y goedwig i dderbyn y
ddysg;
Ac wedi eu gwareiddio, ar dir California,
Hedd a llawenydd fydd mwy yn eu
mysg.
R. E.
54 M. N. 8, 7.
Rhaid ymadael o'n cyfarfod,
Er mor felys ydyw ef,
Ond diolchwn i'n Tad nefol,
Am roi'r Ysbryd lawr o'r nef;
Pan gawn etto gyd-gyfarfod,
Gweddiwn am yr Ysbryd Glân,
Yn ei ddoniau tra rhagorol,
Er ein tywys yn y bla'n.
T. H.
55 M. N. 8, 7.
Amryw ddoniau trwy'r un Ysbryd,
Duw addawodd yn ddiffael;
I'n Tad nefol bo ni'n diolch,
Bod y doniau wedi'u cael,
Trwy'r un Ysbryd fe wneir gwyrthiau,
A phrophwydo gyda hyn,
Y tafodau a'r cyfieithad,
Eglwys Dduw sy'n awr mewn grym.
Cas fydd gan y byd am danoch, -
D'wedodd Iesu hyn ei hun;
Y gwrthodwyr fydd y rhei'ny,
Na chânt brofi byth o'r rhin.
Mae'r Gehena'n ddigon eang,
Cânt eu poeni am eu gwaith;
Hwy gânt fedi ffrwyth eu bywyd
Yn y tragwyddoldeb maith. -
56 M. N. 8, 7.
Frodyr anwyl, a chwiorydd.
Dyma grefydd Iesu Grist,
Wedi ei danfon i dylodion,
Pwy a ddichon fod yn drist?
Dyma'r Ysbryd a addawwyd,
Dyma wynfyd mawr ei werth,
Mae y doniau dan eu henwau,
Gyda ninnau yn eu nerth. -
57 M. C.
Clywch hyfryd sain Efengyl hedd
Yn treiddio trwy y byd,
A'i hadsain glywir yn y nef,
Trwy ei thrigfanau 'gyd.
Clod fo i Dduw am roddi 'nawr,
Fath berl o uchel bris;
Ei waith ddechreuodd ar y ddae'r,
A'i orphen wna ar frys.
Cenadon cyflym hedeg maent,
Gan draethu geiriau'r nef,
A chasglu Israel Duw ynghyd,
A'u dwyn hwy oll i dref.
Mae enw Joseph trwy'r holl fyd,
Fe'i ceir mewn gwawd a chlod;
Ei eiriau sydd yn dod i ben,
A llawenhau sy'n bod.
Hedd a llawenydd ddaeth i'r Saint,
Ac iachawdwriaeth rad;
Ffoi i ddyffrynoedd Ephraim maent,
I'w meithrin gan eu Tad.
Ar Babilon mae dystryw'n dod,
Mae'i chwpan braidd yn llaw;
O brysiwn, brysiwn oll i dref,
A nawdd yn Seion gawn.
58 M. S.
Dydd gorphwys etto i ni ddaeth
Oddiwrth ein gwaith naturiol;
Clodforwn Dduw mewn hyder ffydd,
Tra paro'r dydd bendithiol.
J. R.
59 M. N. 9, 8.
Mi wn fod efengyl yr Iesu,
Yn cael ei phregethu i'r byd;
Fe wawriodd y dyddiau diweddaf,
Mae Duw'n myn'd i gasglu ynghyd:
Am hyny cofleidiwch athrawiaeth
Sy berffaith, fel rhoddwyd gan Dduw,
Yn ufydd dewch idd ei hammodau,
Mae'n well na thrysorau Peru.
Mae'n drysor i'r enaid anfarwol,
Rhydd fywyd tragwyddol i'r oll
A wnelo fel dywed y deddfau,
Heb fyned i lwybrau y coll;
Hwy hefyd a gânt gyd-deyrnasu
A'n Iesu, ein Brenin a'n Pen,
A hyny dros fil-flwydd yn gyfan,
Pan rwymir hen satan a'i sen. -
60 M. N. 8, 7.
Dringaf drwy yr erlidigaeth,
Fry mae'r Brenin yn fy ngwa'dd;
Er creuloned fy ngelynion,
Nid wyf etto wedi'm lladd.
Nad pa rwystrau sy ar fy llwybr,
Nid yn ol bydd byth fy nhaith;
Nid gwiw gwaed ond er tystiolaeth,
Ennill, ond yr un peth chwaith.
Gwir fod rhagfarn yn llabyddio,
Gwir fod byd yn edrych draw;
Etto pe baent oll yn uno,
Sant nid byth yn ol a ddaw.
Pe bai mil am un o honynt,
Pe bai'r rhwystrau fyrdd am un,
Etto ar alwadau'r Brenin,
Myn'd yn mlaen wna'r Sant ei hun.
Geilw'r byd ar dde ac aswy,
'Mod i'n ynfyd, 'mod i'n ffol;
Geilw pechod arna'i sefyll,
Geilw uffern arnai'n ol:
Geilw'r gelyn am ei athrod -
Galwed ef, ac am ei dân!
Tra bo Brenin nef yn galw,
Rhaid i'r sant yw myn'd yn mla'n. -
61 M. H.
Paham tristawn am farw'r Saint?
Dros ennyd fychan 'madael maent;
Cânt etto ddod o'u beddau'n fyw,
Teyrnasant byth yn nheyrnas Dduw.
J. T. D
62 M. C.
Pa'm wylwn am ein brodyr hoff,
A'n gadant ni ar ol?
'Dyw'r oll ond llais ein Ceidwad mwyn
Yn galw'i saint i'w gol.
Ai nid y'm ninnau'n myn'd yn glau -
Yn myn'd o awr i awr?
Ond pwy ddymuna oriau hir
Wrth fyn'd at Iesu mawr?
Pa ddychryn sydd yn llanw'n bron
Wrth hebrwng brawd i'r bedd?
Gorweddodd Crist ei hun o'i fewn,
Gan adael arogl hedd.
Bendithiodd ef holl feddau'i saint,
Esmwythodd galed bren;
P'le gorwedd yr aelodau gwyw
Ond gyda'u marwol Ben?
Odd'yno cododd ef i'r làn,
Gan ddangos ffordd i ni;
I'r làn awn ninnau oll at Grist,
Pan ddaw ar gwmwl fry.
Yr udgorn olaf swnio'n glau,
Nes deffro'n ceraint cu;
Dihunwch! bobloedd dan y llawr;
Chwi Saint, esgynwch fry! *
63 M. H.
Am deyrnas Iesu boed ein llef,
Yr hon yn wir a drefnodd Ef,
I gadw'r byd i gyd o'r bron,
Os credant yr efengyl hon.
'R arwyddion hyn, medd Brenin nef,
Ganlynant ei efengyl Ef;
I'r hwn a gredo, gallu rhydd
I wir gyflawni rhai'n trwy ffydd,
Yn enw'r lesu yn ddiau,
Mae'n rhaid i bob peth ufyddhau;
Pob rhyw awdurdod ganddo sy
Ar wyneb dae'r a'r nefoedd fry.
Tystiolaeth bur yr Ysbryd Glàn
Sydd i gyd-fyn'd â hon yn mlaen;
Rhaid i'r cenedloedd 'nawr i gyd,
Gael cynnyg ar Waredwr byd.
E. M.
64 M. N. 8, 7.
Dyma gyfle newydd ini
Ddweyd yn dda am Iesu mawr,
Y daioni dderbyniasom
Ganddo yma ar y llawr,
Trwy gael clywed ei efengyl,
'Rhon a ddeilliodd lawr o'r nef,
'Rhon yn ddiau a bregethir
Gan ei anwyl weision Ef.
Cael ein dwyn o dir estronol,
Yn wir bobl iddo ef,
Trwy ufydd-dod i'r cyfreithiau
A osododd Brenin nef;
Cawsom felly'n mabwysiadu
Idd ei deulu anwyl mâd,
Ac i ryddid ein hadferyd,
Ac i dd'wedyd Abba, Dad.
Bellach molaf, pa'm y tawaf?
Oni dd'wedaf, Da yw Duw?
Rhoes ei anwyl Fab i farw,
Fel y caffem ninnau fyw;
Rhoddes hefyd ei lân Ysbryd,
Er ein harwain yn y blaen;
Arglwydd, dyro, 'rwy'n dymuuo,
I ni etto'th nefol dân.
E. M.
65 M. N. 8, 7.
O, mor hyfryd gweled brodyr
A chwiorydd yn eu lle,
Gwedi casglu er gwas'naethu,
Ac addoli Brenin nef;
I fynegu ei rinweddau,
Deisyf doniau'r Ysbiyd Glân, -
Pawb yn moli a chydganu,
'N penderfynu mynd yn mlaen.
Awn yn mlaen fel llu banerog,
Megys arfog deulu'r ffydd,
Nes yn hollol lwyr orchfygu
Teulu'r fall, a chario'r dydd,
Nes cyrhaeddyd mynydd Seion,
Dinas gawsom gan ein Tad,
Mewn addewid, lle o wynfyd,
Hefyd gwaredigaeth rad,
Yno'n llawn y cawn ddyddanwch,
Heddwch hefyd sy'n y lle;
Gyda'r Iesu cawn deyrnasu,
Ac yn mhlith ei weision E',
Gwedi derbyn gwir ymwared
O gaethiwed Babel dir;
Gwawria, gwawria hyfryd foreu,
Am dy weled 'rwyf yn wir.
E. M.
66 M. H.
Diolchwn beunydd am y fraint,
O gael ymuno gyda'r Saint;
O, Dduw, rho nerth i fyn'd yn mlaen,
Nes cyrhaedd Seion fawr a mân.
'Ry'm yn dystion fod angylion
Wedi'u danfon i blith dynion,
I oleuo'r holl drigolion;
Haleliwia, haleliwia. Amen.
D.D.
67 M. N.
Taer ydyw galwad Duw,
Ar bawb o ddynol ryw,
I ddod i'r wledd mae yn bar'toi;
Danfona eeision lu
I wahodd pawb i'w dŷ,
A phobloedd lawer sy'n crynhoi;
Gedy dynion gibau gweigion,
Gwell danteithion sy'n eu bryd;
Gwelant, bellach, mai rhyw sothach
Sydd ar fwrddau gwael y byd:
'Nol eistedd yno cy'd,
Am ymborth gwell maent 'nawr yn ffoi!
W. P.
68 M. N. 8, 7.
Hoff gan natur yw galaru,
Mawr yw teimlad ceraint cu;
Pan hebryngir brawd i'r beddrod,
Wylir - pwy i'w feio sy?
Gellir wylo, ond gwell cofio
Mai gwyn fyd y meirw'n Nghrist-
Mai anaddas yw galaru
Ar ol un na fydd yn drist!
Ceisied dynion rym duwioldeb,
Grym a geidw alar ffwrdd -
Grym a rodda sicrwydd hyfryd,
Fod rhyw ddydd i bawb gyd-gwrdd:
Dyna orchwyl gwell nag wylo
Ar ol plant sy'n myn'd i dre',
Gorchwyl ddwg pob un a'i gwnelo
Adref i'r un hyfryd le. *
69 M. N. 12au.
Er cymaint yw'r curo sydd gyda phob
enwad,
Ni raid i ni flino, - fel hyn gwnaed â'n
Ceidwad;
Goddefodd bob dirmyg, ac felly gwnawn
ninnau,
A goddef yn ddiddig, fel darfu 'ddo yntau.
Dywedodd y byddai i ninnau gael felly,
Am hyny ymdrechwn, na roddwn i fyny,
Nes cyrhaedd i Seion, lle ca'r Saint ym-
wared
Pryd ni ddaw gelynion byth mwy i wneyd
niwed.
I. R.
70 M. N. 7, 4.
Wele, mor ddymunol yw
Cariad brawdol;
Undeb anwyl meibion Duw,
Sy'n rhagorol:
Arwydd yw ein bod yn Saint
I'r Goruchaf;
Canwn ninnau am y fraint,
Haleliwia.
71 M. N.
Dewch gyda mi; dewch gyda mi;
Chwi, seintiau Duw, dewch gyda mi;
Yr amser ddaeth, a myn'd sy'n well;
Lle dywed Duw, i wlad sy'n mhell;
Na foed in' aros yma'n hwy -
Mae'r dial mawr bob awr yn fwy:
Dirmygir offeiriadaeth Duw!
Ac yma nid yw'n tref i fyw.
Dewch, codwn; ymaith awn heb fraw,
A chwiliwn am ein gartref draw;
Dewch gyda mi. *
72 M. N.
Y Duw addola ereill,
Nid yw yn Dduw i mi,
Ni fedda gorff na rhanau,
Ni chlyw, ni wel nyni;
Ond y mae genyf Dduw sydd fry,
Sef Duw galluog, Duw sy'n gu,
A Duw sy'n rhoi datguddiad, -
O, dyna'r Duw i mi! &c., &c.
Pob eglwys heb apostol,
Nid eglwys yw i mi,
Mae fel rhyw long heb hwyliau
Yn nofio ar y lli';
Ond eglwys d'wysir îs y nen
Gan ddeuddeg seren gylch ei phen,
Ac eglwys dda ei sylfaen, -
O, dyna'm heglwys i! &c., &c.
Pob eglwys heb un prophwyd,
Nid eglwys yw i mi,
'Does ganddi ben i'w harwain,
Mae'n gwyro ar bob tu;
Ond eglwys nid o drefniad dyn,
Yr hon osododd Duw ei hun,
Sef eglwys â'r "arwyddion," -
O, dyna'm heglwys i! &c., &c.
Y gobaith fedd Cenedloedd,
Nid gobaith yw i mi,
Heb ffydd ac heb wybodaeth,
Nid yw ond t'wyllwch du;
Ond gobaith ddeil tra'r ddae'r a'r nen,
Ac un a wel tufewn i'r llen,
'Rhwn obaith sydd fel angor, -
O, dyna'm gobaith i! &c., &c.
Y nefoedd fyn sectariaid,
Nid nefoedd yw i mi,
Mae hono'n rhy anhysbys,
Mewn gwagle rhywle fry;
Ond nefoedd ar y ddaear hon,
Y gartref lle y sugnais fron,
Nef oleu, nef gwybodaeth, -
O, dyna'm nefoedd i! &c., &c.
Pob eglwys heb ymgasgliad,
Nid eglwys yw i mi,
Ni wnelai yr Iachawdwr
Fyth arddel un fel hi;
Ond eglwys wedi'i galw maes
O'r byd a'i draddodiadau cas,
Ac eglwys cydgynnulliad, -
O, dyna'm heglwys i! &c., &c. *
73 M. N.
Yn iach! i bawb yn awr;
Gwnawn forio'r eigion mawr,
Mewn hiraeth llawn am Seion Duw;
Can's gwell yw myn'd i'r wlad
Ro'wd ini gan ein Tad;
Rhy hir, yn gaeth, y buom fyw.
Daeth in' ryddid, 'nol hir flinfyd,
Galwyd ni o Babel ma's;
Wrth yr alwad, myn'd yw'n bwriad -
Myn'd er gwaetha'r gelyn cas:
Ein Duw, o'i ddirfawr râs,
A'n dwg ni'n glyd i'w Seion wiw.
Yn iach! Brydeinig dir,
Ein garfref amser hir,
Mae gartref gwell o'n blaen yn awr;
Caledi, ing, a thrais,
Sydd yma yn barhaus,
Ond gwynfyd hwnt i'r cefnfor mawr.
Pwy sy'n foddlon dod i Seion?
Lle o lwyr ymwared yw
Rhag y pläau a'r gofidiau
Ddaw i flino dynol-ryw;
Mae'n ddiogel fan i fyw
Pan fyddo'r ddrycin dros y llawr.
Gwnawn hefyd ganu'n iach
I'r Saint, dros enyd fach,
Nes cawn eu gweled oll yn nhref:
Ein ffarwel sydd yn hir
I'r sawl sy'n gwadu'r gwir,
Can's nid ynt hwy o deulu'r Nef
Awn dan ganu dros y weilgi,
Heb un ofn dan ein bron;
Duw o'i fwynder wylia'n llester
Pan yn marchog ar y dòn;
A'r Saint trwy'r ynys hon,
F'o hefyd dan ei ofal Ef. *
74 M. H.
O deuwch allan 'nawr, medd Duw,
O Babilon i Seion wiw;
Gwnewch ddod ar frys o honi hi,
Mae'i phläau mawr yn hongian fry.
O dewch i Seion, bobl Dduw,
I'ch cadw rhag y llid yn fyw;
Eich Duw a'ch geilw 'nawr mewn pryd,
O, blant, ymgesglwch yno'n nghyd. *
75 M. N. 8, 7, 4.
Arglwydd, galw i dy winllan
Fwy o weision at dy waith,
Mawr yw'r llafur sydd i'w fedi
Yn yr addfed feusydd maith;
Mae yn dymmor
Casglu'r gwenith oll i dref.
Rho i'th weision nerth dy Ysbryd,
Rho grymanau gloywon llym,
Fel y medont ffrwyth i'r Iesu,
O law'r diafol, er ei rym;
Gwrando, Arglwydd,
Pan y gwaeddwn am dy nerth. *
76 M. N. 11au.
Pan wawriodd y boreu - pan dorodd y dydd,
Ca'dd Joseph efengyl ddwg gaethion yn
rhydd;
Gor'chwyliaeth y dyddiau diweddaf a gadd;
Gan Iesu mae'n anwyl, can's cym'rodd ei
ladd.
I. R.
77 M. C.
Ewch i'r holl fyd, medd Iesu Grist.
Wrth bob creadur byw
Pregethwch yr efengyl hon,
Drwy wir ddylanwad Duw.
A'r sawl a gredo ynof fi,
Gwnewch ei fedyddio ef,
Cadwedig fydd yn nydd y farn,
Drwy gredu geiriau'r nef.
A'r sawl ni chred, condemnir ef
Am beidio ceisio Duw;
'R arwyddion hyn a ganlyn bawb
A gred yn Iesu gwiw.
Cythreuliaid bwriant o bob rhyw,
Seirff godant ymaith mwy,
Llefaru â thafodau wnant,
Fel yr arweinir hwy.
Ac ar y cleifion rho'nt ddwy law,
Yn iach y gwneir, heb boen
O hyn i maes, medd geiriau pur
Y gwir addfwynaf Oen.
Os yfant ddim fo'n farwol, ni
Wna niwed iddynt hwy:
Am hyny, pwy ni ufyddha,
Heb aros mynyd mwy?
I. R.
78 M. N. 8, 7.
Yr efengyl a ddadguddia
Holl gyfiawnder Duw trwy ffydd,
Pawb a'i credo ddaw trwy fedydd
O'i gaethiwed mawr yn rhydd;
Yna cânt o ddawn yr Ysbryd,
Idd eu dysgu'n ffyrdd y nef,
Nes o'r diwedd gallont sefyll
Yn ei bresennoldeb Ef.
T. B.
79 M. N. 7au.
Daeth yr awr i feibion Duw,
Awr eu buddugoliaeth yw;
T'wynodd gwawl yr hyfryd ddydd -
Myrdd o'i rhwymau ddaw yn rhydd.
J. T.
80 M. N. 8au.
Un yw'r ffordd i dir y bywyd,
Un yw'r ffordd i feddu gwynfyd;
Dysgodd Iesu Grist ei hunan,
Mai efe yw'r drws i'r gorlan.
Gwyliwch, ddynion ar eich camrau, -
Ni roes Duw amrywiol lwybrau,
Ond yn unig lwybr union,
Tua santaidd fynydd Seion.
49
Rhaid yw dod trwy'r drws i'r deyrnas,
Fel y dysgwyd Nicodemus;
Felly 'nawr 'run fath yn union,
Rhaid i'r sawl gânt feddu Seion.
Llwybr cul iawn ydyw, coeliwch,
Nid yw'n myned fel y mynwch;
Gwarchae mynych gwych orch'mynion,
Arwain Saint i fynydd Seion.
Pan roir gwyr i redeg gyrfa,
Hwy wnant gamu am y cynta'-
Pawb am gyrhaedd ei wych goron;
Felly'r sawl gânt feddu Seion.
Llew ac ych y gwellt a borant,
Blaidd ac oen a gyd-orweddant,
Heb amryson mewn un galon,
Yn holl santaidd fynydd Seion.
'Rwyf yn erfyn cael teyrnasu
Gyda Christ am fil o flwyddi,
Yn mhlith teulu'r apostolion,
A'r cyn-saint, ar fynydd Seion.
Yno bydd y saint mor ddedwydd,
Rhwng y ffigys-goed a'r gwinwydd,
Yn mwynhau o addewidion
Teyrnas Dduw ar fynydd Seion.
J. W.
81 M. C.
Pan ddelo'r Saint oll adre'n nghyd
I Seion, hyfryd wlad,
O blith gelynion sydd bob cam
Yn gwaeddu am eu gwaed;
A dod o blith erlidiau blin,
A threchu'r gelyn câs,
A'u holl fyddinoedd o bob rhyw,
Trwy rym ein Duw a'i râs;-
Ceir yno glywed sain pob sant
Yn eilio moliant maith,
I'r Iesu ar ei orsedd wen,
'Nol cyrhaedd pen y daith.
J. W.
82 M. N.
Rhyw foroedd didrai o gariad sy'n Iesu,
Wna'r byd lawenhau, ond iddynt ei gredu
Ac edifarhau am bob drwg a wnaethant,
A chael eu bedyddio â bedydd maddeuant:
Trwy osod dwy law, cânt dderbyn yr
Ysbryd;
Wel, dyma y cynllun er achub yr holl-
fyd.
I. R.
83 M. N. 7, 6.
Fe wawriodd hyfryd foreu,
Pan ddaeth 'r efengyl hon,
Gan angel o'r wlad nefol,
I barthau'r ddaear gron;
Cyflwynwyd hi i Joseph,
'R hwn oedd yn brophwyd mawr,
I'w thraethu i'r cenedloedd,
Cyn delo'r farn i lawr.
M. R.
84 M. N. 12, 11.
Ust! clywch air yr Arglwydd o'i santaidd
breswylfod,
Gwrandewch ei leferydd yn ufydd yn
awr;
Trwy'ch claddu mewn dwfr, maddeuir eich
pechod,
A disgyn yr Ysbryd, i'ch lloni, i lawr;
Cewch hefyd ddihangfa rhag pläau echrys-
lon
Sy'n dod ar anwiriaid a beilchion y byd,
Am wrthod gwirionedd gan Dduw a'i holl
weision -
Daw amser a wiria y geiriau i gyd.
Efengyl tangnefedd sydd yn ymddyscleirio
Dros faith eang foroedd a lleoedd y llawr;
Y faniar ardderchog a godwyd, mae'n
chwifio;
Arwydd-nod Duw'r nefoedd sy'n gwa-
hodd yn awr
I Seion,wlad santaidd,i fod mewn hyfryd-
wch
Am fil o flynyddoedd, heb wawd nac un
sèn;
Yr Iesu fydd Frenin, teyruasa mewn heddwch,
I Dduw bo'r gogoniant a'r moliant. Amen.
J. W.
85 M. N. 7, 6.
Mor hyfryd yw cyfarfod
A brodyr yn gytun,
Yn derbyn doniau'r Ysbryd,
Fel d'wedodd Mab y dyn:
Y gweision sy'n wisgedig
A dwyfol Ysbryd Crist,
A'r Saint dderbyniant trwyddynt
Ddysgeidiaeth nef i'w clust.
M. J.
86 M. H.
Fel dyddiau Noah, felly 'nawr;
Gwrandewch ar lais yr Arglwydd
Dduw,
Gwahodd y mae dros ddaear lawr,
Trwy enau'i weision, ddynol ryw.
'R efengyl hon, ddywedodd Crist,
Bregethir am ei deyrnas ef,
I'r holl genedloedd bydd yn dyst,
Cyn ail ddyfodiad Brenin nef.
J. W.
87 M. N. 8, 7.
Pan yn cofio am farwolaeth
Ddaeth â bywyd yn ei lle,
Na foed dagrau ar ein gruddiau,
Can's llawenydd sy'n y ne';
Os yw'r bara'n dweyd am ddryllio,
Os gwna'r cwpan ddangos gwa'd,
Dengys geiriau Crist y neithior
Sydd i fod yn nhy ei Dad.
E
Pwy gymmera yn annheilwng
O elfenau'r ordinhad?
Pwy all fod heb garu'i frodyr,
Os yw'n caru'r Iesu mâd:
Pwy fỳn droi y ffiol fendith
Yn felldithiol iddo'i hun?
Cofiwn gyfranogi'n onest,
'Nol gorchymyn Mab y dyn. *
88 M. N. 8, 7.
Deuwch, holl drigolion daear,
Ac i fedydd ufyddhewch,
Crëwch ffydd ac edifeirwch,
A maddeuant Duw a gewch;
Yna trwy arddodiad dwylaw,
Chwi a gewch yr Ysbryd Giân,
Hwn i fywyd a'ch tywysa,
Ac a'ch arwain yn y blaen.
T. B.
89 M. N. 7, 6.
Ca'r Saint am bob gorthrymder,
Addfwynder cyn bo hir;
Mwynhant o addewidion
Eu Duw ar Seion dir;
Yr Arglwydd Dduw â'i bläau
Ddinystria Babel fawr,
A'r Iesu mwyn deyrnasa
Dros wyneb daear lawr.
J. W.
90 M. H.
Gwaith melys iawn yw moli'r Iôn,
Trwy Ysbryd Duw, mewn hyfryd dôn;
Gwnawn ganu mawl i'n nefol Ben,
Tra cawn breswylio îs y nen.
J. W.
91 M. N. 8, 7, 4.
Daeth efengyl teyrnas nefoedd,
I'ch gwahodd o Babilon;
Adsain mae yn mhlith cenedloedd,
Ufyddhewch i alwad hon;
Tua Seion,
Mae yn gwahodd pawb i ddod.
J. W.
92 M. S.
Moliannus fyddo ein Duw ni,
Am wrando'n cri a'n gweddi,
Ac am adferu etto 'nol
Ysbrydol ddoniau ini.
Er i elynion creulon cas
Lwyr ddifa'r urddas weision,
Tosturiodd Duw wrth ddynol ryw,
A chododd ail genadon.
Er hyn i gyd, parhau mae'r byd
I wrthod golud gwerthfawr,
Gan wadu Duw, a threfn ei dŷ,
A'u diystyru'n ddirfawr.
Os Duw nid adeilada'r tŷ,
Trwy ranu'r doniau gwyrthiol;
Ofer yn wir llafuria neb,
Er holl ddoethineb ddynol.
A. C.
93 M. H.
Dy deyrnas di, ein nefol Dad,
A lwyddo'n rhyfedd yn mhob gwlad;
Cynnyddu b'o fel mynydd mawr,
Nes llanwo wyneb daear lawr.
O, boed i genadwri'r nef,
I ddryllio caer pob dinas gref;
Ac adeiladu teyrnas Dduw,
A gwneyd y rhai sy'n farw'n fyw.
T. P.
94 M. N. 8, 7.
Bydd, O Arglwydd, gyda'th weision
Sydd yn mhedwar cwr y byd,
Cofia am eu hymdrechiadau;
Tra yn cynnyg trysor drud;
Agor di o'u blaen bob drysau,
Sydd yn nghau rhag dwyfol wir,
A doed miloedd trwy eu hymdrech.
I dy eglwys cyn bo hir.
Trwy dy allu a'th ddoethineb,
Arglwydd, arwain hwynt o hyd,
Boed pob iaith yn rhwydd i'w thraethu
Pan yn sôn am berl mor ddrud;
Casgler llawer o rai onest
O blith gau grefyddau'r byd,
Fel y delo llu i Seion
I'w bendithio oll yn nghyd. *
95 M. N. 8, 7
Llawer sydd yn gwrthwynebu
'Rhyn ni wyddant pa beth yw,
Ninnau sydd yn gwir amddiffyn
'Rhyn a wyddom sydd o Dduw.
O, na chaffai pawb adnabod
Pa beth ydynt yn y byd,
Fel na fyddont yn y diwedd
Yn cael profi'r dwyfol lid.
Gwir wybodaeth sydd yn werthfawr,
Gwybod pwy sydd ini'n Dad;
Gwybod pa fath ysbryd feddwn -
Ai caethiwed neu ryddhad?
O, ymdreched pawb am fywyd,
I gael rhan yn Iesu Grist,
Cael llawenydd trwy ei Ysbryd
Yn lle gofid blinfyd trist.
J. T. W.
96 M. N. 8, 7, 4.
Arglwydd, disgyn trwy dy Ysbryd,
Idd ein cynghor yma 'nawr,
Fel y caffom wir ddoethineb
I ymdrin â'th bethau mawr;
Oddiwrthyt
Y derbyniwn bob rhyw nerth
O, cyfrana bob gwybodaeth
I dy weision sydd yn nghyd,
Fel deallont dy gyfreithiau,
A'u gweinyddu'n ddoeth i gyd;
Rho dy Ysbryd,
Yna ddigon bydd i ni. *
97 M. N. 8, 7.
Arglwydd, 'madael mae dy weision,
Yn ddiolchgar am y fraint
O gael dod ynghyd i drefnu
'Rhyn a berthyn i dy Saint;
Erfyn maent, yn haeddiant Iesu,
Am ddoethineb lawr a'r nef,
Fel bo pob-peth yn cydweithio
I helaethu'i deyrnas Ef. *
98 M. N. 11au.
O Saint, dyma gysur - cael dyfod ynghyd,
Mewn oedfa fel yma o blith plant y byd;
O byddwn yn ffyddlawn, gan ganmawl ein
braint,
Am gael yr un grefydd a ga'dd y cyn
saint.
Er maint yw gwrthryfel holl bleidwyr y
byd,
Yn enw ein Harglwydd fe'i concrwn i gyd,
Yn wrol y brwydrwn tra fyddom ni byw,
Ac yna cawn dderbyn ein gwobr gan
Dduw.
T. H.
99 M. N. 6, 8.
Yn mlaen, yn mlaen mi af,
Er gwawd a dirmyg byd;
Aeth Iesu o fy mlaen,
Trwy ganol hwn i gyd;
Mae baner nef o'm blaen yn awr,
Yn llaw'm Tywysog cadarn mawr.
Nid Ysbryd llwfrhau
Yw Ysbryd pur ein Duw,
Gorchfyga hwnw'r byd,
Tystiolaeth Iesu yw;
Yn nghanol rhwystrau ni lesgâ -
Ein tywys oll i'r nef a wna.
Anrhydedd Babel gerth,
Nid yw o werth yn wir,
Na mwyniant pechod mall -
Daw arnynt ball cyn hir;
Mae adfyd gyda phobl Dduw,
Yn fwy o elw it,' f'enaid, clyw.
N. DDU.
100 M. N. 7, 6.
Yn mlaen mae'r Saint yn myned,
Yn enw Iesu mawr,
Gan ddryllio teyrnas Satan,
A'i thynu'n llwyr i'r llawr;
Mae'n hysbys fod y gelyn
'Nawr ar y maes â'i lu,
Ond nid oes achos ofni,
Try'r goncwest gyda ni.
Gan hyny, anwyl frodyr,
Milwriwn 'nawr yn hy,
Dangoswn fod ein harfau
Yn dod o'r nefoedd fry;
Dywedwn wrth bechadur
Pa beth raid iddo wneyd,
Sef cael ei newydd eni,
Fel yr oedd Crist yn dweyd.
T. H.
101 M. N. 7, 6.
Clodforaf fy Nhad nefol,
Am yr efengyl wiw
A rydd i bawb wybodaeth,
Trwy ddoniau Ysbryd Duw;
'Does achos ofni mwyach
Nad ym ni'n eiddo Ef,
Can's meddwn y wir grefydd,
Fel daeth i lawr o'r nef.
Am hyny byddwn ffyddlawn,
Heb ofni un rhyw haint,
Cofleidiwn y ffydd hono
A roddwyd gynt i'r saint,
Fel bo'm yn mhob amgylchiad
Yn gweddio ar ein Tad,
Yr hwn o hyd a'n gwrendy
Yn enw'r Iesu mad.
T. H.
102 M. N. 8, 7.
Fe ddaw Michael yr archangel,
Cyn bo hir â chadwyn gref,
Rhwyma Satan fil o flwyddi,
Trwy awdurdod fawr o'r nef;
Wedi hyny fe ddaw'r Iesu,
I deyrnasu gyda'i saint;
Daw i'w deml mewn gogoniant,
Bydd ei gwmni'n rhyfedd fraint.
M. J.
103 M. C.
Ni chwympa cariad ymaith byth,
Ond saif mewn bod o hyd;
Cyd-oesa â'n tragwyddol Dad,
Can's cariad yw i gyd.
Geill prophwydoliaeth beidio'n llwyr,
Tafodau fyn'd yn fud,
A'r hyn o ran ddiflanu oll,
Ond cariad saif o hyd.
Daw'r hyn sydd berffaith oll i fod,
Pan ddarffo'r hyn o ran;
Ond yn lle cariad bythol nef,
Ni thardd dim arall làn.
Y cariad hwn, mor werthfawr yw -
Mor fythol ei barhad!
Rhown ein calonau oll i Dduw,
I'w llanw o hono'n rhad. *
104 M. N. 7, 6.
O, Seion, pan feddyliwyf
Am dy gyffiniau di,
Rhyw bleser sydd yn lloni,
A llenwi 'nghalon i;
Ond etto, mewn caethiwed
Wyf yma nos a dydd,
Yn nghanol fy ngelynion,
Heb allu rhodio'n rhydd.
Ond henffych fyth i'r boreu,
Pan o'm cadwynau dwg
Yr Arglwydd fi i Seion,
Rhag pob gelynion drwg;
Caf yno, gwn, deyraasu
Dros fil o flwyddi llawn,
A byw yn ngwyddfod Iesu,
A'm prynodd un prydnawn.
I. R.
105 M. B. D.
Yn Seion bydd y Saint
Yn meddu braint a bri,
Cael cyd-deyrnasu gyda'u Pen,
Yn llawen efo'r llu,
Dros fil o flwyddi maith,
Yn debyg idd eu Duw
Yn cyd-fwynhau y ddedwydd fro;
O, na baem yno'n byw. -
106 M. N. 7, 6.
Cawn ddechreu oedfa newydd,
Er rhoddi mawl i Dduw,
Am werthfawr eiriau'r bywyd
I bawb o ddynol ryw;
O, gweddiwn oll yn ddiwyd
A ffyddiog bob rhyw awr,
Am iddo roi ei Ysbryd
I'n llenwi ar y llawr.
J. D. W.
107 M. B.
Clodforwn Dduw bob un,
Mewn hoff soniarus gân;
Teilynga'n clodydd 'nawr yn fwy
Nag unrhyw dro o'r blaen.
Gofalodd hyd yn hyn
Am danom fel ei blant;
Edrychodd fod ei engyl glân
Yn cadw'r drwg i bant.
Bu temtasiynau'r byd
Yn cynnyg lawer gwaith;
Ond rhoddodd Duw ei Ysbryd Glân,
I'n cadw gyda'i waith.
O, Dduw, derbynia'n mawl
Yn gymmeradwy fry,
A'th ofal tadol fo'n parhau
Yr un tuag atom ni. *
108 M. H.
Ymnerthwn ynot ti, ein Duw,
Trwy bob rhyw rwystrau, tra fo'm byw;
Dy gymhorth dyro in' o hyd
Er mwyn egluro'th air i'r byd.
Dy air adferaist in,' O Dad,
Ac hwn bregethir 'nawr yn rhad;
Geill pawb a fedda galon friw,
Trwy fedydd, ddod i deyrnas Dduw.
'Nol hyn, er nerth i fyn'd yn mlaen,
Ceir cymhorth trwy yr Ysbryd Glân;
Goleuni hwn a'n tywys draw
I fynydd Seion maes o law.
T. LL.
109 M. N. 6, 8.
Mae'r boreu'n agosâu,
Pan ddelo Iesu lawr;
Ffyddloniaid y pryd hwn,
Eu gwobr fydd yn fawr;
Yn Seion bydd cartrefle'r saint,
A'u Brenin geidw ffwrdd bob haint.
Er myn'd trwy rwystrau mawr,
Gelynion o bob tu,
Cawn fuddugoliaeth fawr.
Ar yr holl arfog lu;
Trwy glod ac anghlod 'mlaen yr awn,
Tu draw yn Seion concwest gawn.
T. LL.
110 M. B.
Daeth Iesu Grist o'r nef
I wisgo corff o gnawd;
Bu farw'n ddiddig yn ein lle -
Ein Brenin yw a'n Brawd.
'Nawr canlyn Iesu cu,
A ddylem drwy ein hoes;
Bu farw'n wirion drosom ni -
Aeth dan y lymaf loes.
Dyoddefodd boen a gwawd,
Er achub euog ddyn;
Pob rhinwedd ynddo ef a gawd -
Bu'n ostyrgedig un.
Ei waith orphenodd Ef;
Mae'r ffordd yn awr yn rhydd
I ninnau deithio llwybrau'r nef,
At deulu gwlad y dydd.
G. W.
111 M. H.
Dy Ysbryd di, O Arglwydd mawr,
Yn dywalltedig f'o i lawr
Ar bawb sydd yn yr oedfa hon;
Dy gariad pur a'n gwna yn llon.
Ymglymwn yn dy gariad di,
Nes cyrhaedd trwy bob rhwystrau sy,
I'r wlad lle nad oes cur na phoen,
I holl ganlynwyr 'r addfwyn Oen.
T. LL.
112 M. N. 7, 6.
Yn awr mae Duw yn galw
Ar frys i ufyddhau,
I gredu yn yr Iesu,
A gadael ffwrdd bob bai;
Cymmerwch eich bedyddio
Gan weision Iesu Grist,
Nac oedwch mwy i'r alwad -
Pa les yw bod yn drist?
A thrwy arddodiad dwylaw
Cyfrana i bob rhai
Rhyw ddawn o'i nefol Ysbryd,
Gwna hwn eich llwyr ryddhuau
Oddiwrth bob rhyw ofidiau
Yn awr sy'n llenwi'ch bron;
O, ddyniun, pa'm yr oedwch?"
Gwnewch ddod yr odfa hon.
T. LL.
113 M. B.
Edrychwn ar yr Oen
Yn gudd o dan y lli;
Ac wele ef yn dod i'r làn,
Gan ddysgu'r ffordd i ni.
Mor ostyngedig mae
I'r geiriau dd'wed ei Dad!
Aeth gydag Ioan lawr i'r dwr,
Fel un oedd am lanhad.
Yr Ysbryd ddisgyn 'nawr
Ar ben ein Crist yn glau,
Sy'n arwydd na ddaw lawr ar neb,
Sydd heb ei lwyr lanhau. *
114 M. S.
Ffydd heb weithredoedd marw yw,
Medd geiriau y Duw geirwir;
Heb roi ufydd-dod (nid mewn rhith),
Pechadur byth ni chedwir.
Rhaid dy fedyddio yn y dwr,
A'th eni'n siwr o hono;
A rhaid it' dderbyn 'r Ysbryd Glân,
Yn ddyddan, i'th santeiddio.
A'r Ysbryd hwn a'th dywys di,
A'th arwain i'r gwirionedd,
Fel gelli fod yn gall wrth fyw,
A dod i Dduw'n etifedd.
Ac hefyd dy addasu wna
'Gwrdd Iesu a'i angylion,
A chael yr etifeddiaeth fydd
I'r Saint ar fynydd Seion.
A thi gai wynfyd mawr didrai,
Os gwnai barhau yn ffyddlon;
Cei gwmni Iesu Grist o hyd,
Ac hefyd ei angylion.
G. W.
115 M. N. 8, 7.
Arglwydd, nertha di dy weision
Sydd yn sefyll yma 'nawr,
I bregethu 'rhyn a berthyn
I dy deyrnas ar y llawr;
Dyro iddynt nerth dy Ysbryd,
Fel y gallont draethu'n hy,
Gyda dangos i bechadur
Mai un ffordd i'w gadw sy.
T. H.
116 M. N. 8, 8, 6.
Yn llwyr dinystrir Babilon,
Er cymmaint rhwysg ac ymffrost hon,
Chwalir ei muriau mawr;
I'r dialedd-for syrthio wna,
Pan fyddo holl phiolau'i phla
Yn cael eu tywallt lawr.
Ond diolch i'n tragwyddol Dad,
Sy'n galw trwy'r efengyl fâd,
Fy mhobl, allan dewch
O'i chanol, fel na byddoch chwi
Gyfranog o'i holl bläau hi,-
Gwlad ddiogel hyfryd gewch.
Ond yr holl ddynion cyndyn cas,
Sy'n gwrthod dod o honi maes,
Ddyfethir yn ei haint;
Ond caiff yr ufydd fyned trwy,
A'r Iesu'n Frenin arnynt mwy,
I Seion at ei saint.
Telynau euraidd gaiff y saint,
O fewn i'r nefol wlad ddi-haint,
Dros fyth i ganu mawl,
Lle na bydd nos o fewn y wlad,
Ond canol dydd o fyth barhad;
O hyfryd, hyfryd wawl.
B. D.
117 M. N. 11au.
Fel tân sydd yn llosgi mae Ysbryd ein Duw;
Fe'i teimlir ef yma, un nerthol iawn yw;
Llefaru mewn ieithoedd dyeithr y mae,
A rhoi cyfieithadau er lles i bob rhai. -
Dadguddia ddirgelwch pob drwg a phob da,
Ac er ein cysuro, prophwydo a wna;
Mae'n llanw ein teimlau, mae'n gryfder i
fyw;
A sicrwydd a rodda i anwyl blant Duw. *
118 M. N. 8, 7, 4.
Hoff yw cofio am farwolaeth,
Pan mae bywyd wedi 'i gael;
Trwy oddefaint dirfawr Iesu.
Cawsom lu o roddion hael;
Yn y swper,
Cofiwn bawb am Iesu Grist.
Tra y bo'm yn cyfranogi
O'r elfenau santaidd hyn.
Doed i'n cof hoff eiriau'n Ceidwad,
Sef y daw ar gwmwl gwyn;
O, dysgwyliwn
Am yr hyfryd ddydd a ddaw. *
119 M. S.
Duw a osododd yn ei dŷ
Brophwydi, apostolion,
Ag efengylwyr rhoes wrth raid,
Bugeiliaid ac athrawon.
Gwnant hwy berffeithio'r saint i waith
Y weinidogaeth wiwlwys;
Ac eu gosodiad hefyd sy
Er adeiladu'r eglwys, -
F
Hyd oni chwrddwn oll 'run dydd,
Mewn undeb ffydd ac ysbryd,
At fesur oed ein Iesu mâd,
Yn Seion, gwlad y gwynfyd.
I. R.
120 M. N. 8, 7.
Arglwydd, edrych ar ein cynghor,
Edrych arno yn dy ras,
Fel bo holl gyfreithiau'th deyrnas
Yn cael eu hegluro ma's;
Rho dy Ysbryd yn neillduol,
Mae ei eisieu arnom oll,
Fel y byddom yma'n trefnu
'R moddion goreu rhag pob coll. *
121 M. N.
Henffych i'r dydd, y dydd y daeth
Yr angel â'r efengyl,
Yr angel welodd Ioan fry
Yn hedeg trwy y nef yn hy,
I draethu'r newydd anwyl.
I efengylu i'r holl fyd
Y newydd gwerthfawr hyfryd;
Cenedloedd pell, caiff rhai'n i gyd
Y newydd am Iachawdwr byd,
Yn dyfod i deyrnasu.
Caiff lndia, Affric, Asia fawr, -
Pob talaeth dan y nefoedd;
Cânt glywed son am Galfari,
A'r aberth dalwyd arni hi,
I'n hachub ni, y bobloedd.
Clodforwn am yr hyfryd sain,
Sef sain efengyl Iesu;
Banerau hon yn chwifio bo,
A'i hadsain hefyd trwy bob bro,
Nes cael o'r Saint deyrnasu.
Can's daeth yr oes, yr oes y bydd
I'r Seintiau gael teyrnasu;
Ac hefyd, aiff teyrnasoedd byd
Yn eiddo'n Harglwydd ni i gyd,-
Cawn gydag ef deyrnasu.
Ar fyr cawn weled Mab y dyn,
Ar gwmwl gwyn yn dyfod,
Mewn rhwysg a mawredd nefol, gwiw,
A chydag ef holl feibion Duw, -
A'r byw ânt i'w gyfarfod.
Ac yna'r llo, a chenaw'r llew,
Mewn porfa dew gorweddant;
Ni ddrygant ac ni ddifant mwy,
Can's Ysbryd Duw fydd arnynt hwy,
A phoen na chlwy' ni phrofant.
Gwyn fyd y Saint, bydd mawr eu braint,
Pan fydd yr haint yn dyfod;
Teyrnasant hwy ar ddaear lawr,
Ac arnynt hwy bydd nefol wawr, -
Cânt wel'd yn awr eu Priod.
Pwy, pwy yn awr na fydd yn Saint?
Mor fawr fydd braint y teulu,
Yn gwledda ar fryn Seion draw,
Lle na ddaw'r gelyn byth gerllaw,
'Roi briw na braw ond hyny.
Yn awr adferir yr holl fyd
I'r cyflwr pryd y crewyd;
Yr oen a'r blaidd a drig ynghyd,
Bydd melys ganu drwy'r holl fyd
A phawb yn byw mewn gwynfyd.
O, brysiwn, awn i Seion fryn,
Lle cawn yn wyn ein gwisgo;
Ac hefyd gadw deddfau'r Ior,
A'n dysgu gan y nefol gôr, -
Awn dros y môr, ac yno.
I California wlad yr awn,
Lle cawn ni fod yn rhyddion,
Ac yno mewn palasau gwych,
Cawn foli'r Oen heb unrhyw nych,-
A thermlau gwych i'r cyfion.
J. P.
122 M. H.
O Dduw, mynega 'nawr i ni,
Trwy'th Ysbryd, dy ewyllys di,
Fel byddom yn cynghori'n gall,
A'n bryd i wella pob rhyw wall.
Rho i'n ddoethineb yn ei phryd,
A dangos in' o'th drysor drud;
Rho Ysbryd Iesu yn ein plith,
Fel ein hamdôir â'r nefol wliih. *
123 M. C.
O Dad, henuriaid eglwys Crist
Sydd yma ger dy fron;
Edrychwn 'nawr mewn ffydd i'r làn
Am wên dy wynebllon.
A'th Ysbryd llanw'n llestri'n llawn,
A chariad rho'n ddibrin,
Ac am ddoethineb, rho heb baid,
Can's rhaid i'n wrth bob un. *
124 M. H.
O Arglwydd Dduw, anfeidrol fawr,
Ymadael wna dy weision 'nawr;
Am nerth o'r nef diolchant hwy,
A gweddiant am ei gael byth mwy. *
125 M. N.
Doed y Dyddanydd oddifry,
Ac atom ni i'n cynghor,
Myneged o ddoethineb Duw,
O hyd i'n clyw yn rhagor.
Rhoed ddeall in' i dreiddio'n mhell
I mewn i gell drygioni,
A dwyn anwyliaid Duw i maes
I wel'd ei ras a'i allu. *
126 M. N. 7, 6.
Gwrandawed nef a daear,
Mawr hiraeth sydd yn awr
Yn llenwi ein calonau
Am wel'd y boreu wawr,
Fan gawn ni rodio'n rhyddion
Yn Seion gyda'r Saint,
Ac hefyd gyd-deyrnasu
A'n Iesu - mawr ein braint.
Ein Tad, O dwg ni adref,
Ein taer ddymuniad yw,
O gyrhaedd pob gelynion,
I Seion fad i fyw,
Lle cawn ni ogoneddu
Ein Iesu grasol cu,
'Rhwn roes ei hun yn brydferth
Yn aberth drosom ni.
I. R.
127 M. N. 8, 4.
Nid oes yma ond gorthrymder,
Tra fyddom byw,
Cawn cyn hir drag'wyddol bleser,
Yn Seion wiw;
Cawn gwmpeini heirdd angylion,
Patriarchiaid, apostolion,
A'r prophwydi, a'r duwiolion,
Yn Seion wiw.
Pwy gaiff wisgo eu coronau,
Yn Seion wiw?
Neb yn wir ond ffyddlawn seintiau,
Yn Seion wiw;
Er cael yma ein dirmygu,
Ni gawn yno'n gogoneddu,
A theyrnasu gyda'n Iesu,
Yn Seion wiw.
I. R.
128 M. S.
Dwy law y diwyd wneir yn fras,
Derbynia râs y Brenin,
I'w nerthu i fyned yn y blaen,
Er satan a'i holl fyddin.
Caiff fyn'd cyn hir i Seion wiw,
I fyw dros fil o flwyddi,
A chyd-deyrnasu gyda'r saint,
Mawr fydd eu braint bryd hyny.
I. R.
129 M. N. 8, 7.
Arglwydd, etto y dymunwn
Gael o'th Ysbryd arnom ni,
Fel y gallom oll weithredu
'Rhyn fo 'nol dy 'wyllys di;
Dyro ef yn Ysbryd deall,
Idd ein tywys yn dy waith,
Fel y gallom yn effeithiol
I ryddhau a rhwymo'n gaeth.
T. H.
130 M. C. D.
Gwrandawed holl drigolion byd,
Mae'n bryd i barotôi,
I geisio rhan yn nghrefydd Crist,
A rhag yr aflwydd ffoi,
Cyn delo ar gymylau'r nef
I farnu dynol-ryw,
A'i holl angylion gydag ef;
O, byddwch ynddo fyw.
I. R.
131 M. N. 7, 6.
O, Arglwydd, dyro ini
Dy allu i fyn'd yn mlaen,
Fel gallom dy was'naethu,
A'th foli oll ar dân,
Yr hwn wyt Dad trugarog,
Un enwog yn mhob man,
Yn barod â'th gynnorthwy,
Yn wastad i'r rhai gwan.
Ond ini gael dy Ysbryd,
Yn hyfryd awn o hyd,
Er gwaetha' holl lu'r fagddu,
A diffaith blant y byd;
Cyrhaeddwn yn y diwedd
Mewn llawn orfoledd llon,
I santaidd fynydd Seion,
I foli ger dy fron.
I. R.
132 M. N. 11au.
Hoff seintiau y dyddiau diweddaf a fydd,
Yn Seion yn seinio hosanna rhyw ddydd,
O foliant i'r lesu, eu Prynwr a'u Pen,
'Rhwn ga'dd ei groeshoelio rhwng daear a
nen.
I. R.
133 M. H.
Mi wn y daw ein Crist rhyw bryd,
Un waith yn rhagor lawr i'n byd,
A'r llygaid hyn mi wn a wèl
Y Barnwr cyfiawn, pan y del.
Yn yr oes hon, ein Iesu sydd
Yn rhoi dadguddiad nos a dydd,
Y daw 'nol ei addewid gref,
A'i holl angylion gydag ef.
I. R.
134 M. C.
Y doniau nefol, Arglwydd da,
Cyfrana yma 'nawr,
Fel byddom ni, dy anwyl blant,
Mewn mwyniant fach a mawr.
I. R.
135 M. N. lOau.
Y gareg fach a welodd Daniel, sydd
Yn myned 'nawr yn fwy o ddydd i ddydd;
Yn fuan hon a â fel mynydd mawr,
A dryllia ar ei hynt holl ddelwau'r llawr.
Yn deyrnas helaeth bydd o fôr i fôr,
A'i deiliaid lywodraethir gan yr Iôr;
Yn fythol saif, ac nis gorchfygir hi,
Can's gwrthryfelwyr roir mewn pydew du. *
136 M. N. 6, 4.
Edrychaf 'mlaen o hyd,
Mewn blin drafferthus fyd,
I Seion gu,
Lle mae im' roesaw gwiw,
I ddyfod gan fy Nuw;
Caf yno hir gyd-fyw,
Yn mysg y llu.
Dros byth caf foli'r Oen,
Fu ar y groes mewn poen,
Ac ingder du;
Bydd ef yn Frenin gwiw,
Yn mhlith y nefol ryw;
Caf ganu, "Teilwng yw
Ein Harglwydd ni." *
137 M. N. 8, 8, 6.
Yn iach, yn iach! gyfeillion cu,
A'r holl berth'nasau ini sy,
Gwnawn fyn'd i Seion draw,
I blith y seintiau siriol wedd,
Lle cawn ni drigo'n un mewn hedd,
O gyrhaedd trais a braw.
Yn iach, yn iach! i'r ynys hon,
A'i holl bleserau gwag o'r bron;
Gadawn hwy'n llwyr yn awr:
Hoff tirio'n mlaen i'r ddedwydd wlad,
Row'd mewn addewid gan ein Tad,
Lle mae bendithion mawr.
Os cawn ystormydd ar ein taith,
Gwna Duw yn rhwydd feistroli'i waith,
Ond ceisio'n enw Crist;
Y gwynt ddystawa wrth ei arch,
A'r tonau gluda'n fwyn ein harch,
Fel na fydd neb yn drist. *
138 M. S.
Yn adrodd geiriau wyf o hyd,
Ond pa ryw bryd 'rwy'n gweddio?
Neu, a yw llef fy nghalon fau,
Fy ngeiriau'n cyfarwyddo?
Yn ofer bydd fy nghwyn a'm cri,
Os anghen ni wnaf deimlaw -
Os nad o deimlad eisieu bydd
Fy ngweddiau 'gyd yn deilliaw.
Yn gystal gallaf blygu'm glin
I eilun i'w addoli,
A chynnyg gweddi i'r Duw byw,
Heb namyn geiriau ynddi.
Duw, dysg beth yw fy rhaid l,eb feth,
A dysg pa beth im' weddio;
Na âd i'm byth ymbilio'th râs,
Heb i mi addas deimlo. *
139 M. N. 8, 8, 6.
Fe gawn, fe gawn feddiannu gwlad,
Na ddichon gelyn a'i holl frâd,
Ein blino byth yn hwy;
Yn mhlith y saint ac engyl nef,
Yn canu moliant iddo Ef
Ain rinwedd Crist a'i glwy'.
Cawn ganu'n iach i Babilon,
A'i holl wageddau ffol o'r bron,
'Nol myn'd i Seion glyd;
A bythol fyw mewn eithaf hedd,
Gan gadw'n unfryd hyfryd wledd,
Ar fwrdd ein Duw o hyd. *
140 M. C.
Fel hyn y dywedodd Llywydd nen,
"Dihun, fy nghleddyf llym;
Dihun, fy llid, a tharo'r dyn,
Yr hwn sydd gyfaill im'."
Dialedd a dderbyniai'r arch,
Ac arfog hedai lawr; -
Yr Iesu'n ufyddhau i'w Dad,
A marw mewn ingder mawr.
Ond, O! 'r doethineb mawr a'r gras
Syn nglŷn â dïal 'nawr;
Efe yn marw i'n cadw'n fyw,
A chodi o lwch y llawr.
Mor ddwyfol yw y Brenin hwn!
Ei ladd a gym'rai gael,
Fel gallai roi ei fywyd ffwrdd,
A'i gym'ryd 'nol heb ffael.
Bydd fyw, O Dduw! llywydda'n ben;
Pob cenedl caned 'nawr,
A'r engyl seinient glodydd pêr
Idd ein Gwaredwr mawr. *
141 M. N. 6, 8.
Cyduned engyl nef,
A seintiau ar y llawr,
Mewn cân o uchel lef
O glod i'r Arglwydd mawr,
Nes dadsain trwy ororau'r nen,
Ag uchel floedd, mai Ef sy'n ben. *
142 M. N. 2, 8.
Daw, daw,
Y dydd anferthol maes o law,
Pob llwchyn gwael i'r frawdle ddaw;
Bydd rhai mewn braw ac ingder du,
A rhai mewn bri, yn llon eu gwedd,
O flaen y sedd, yn ddirfawr lu.
Gwae, gwae!
Bryd hyn a fydd i'r euog rai;
Dim modd ni fydd i guddio'u bai,
Ond gwnant dristâu o flaen eu Duw,
Pan dd'wed i'w clyw, Ewch chwi i'r tân,
Am wrthod Un a'ch cadwai'n fyw.
Llon, llon,
A fydd anwyliaid Crist o'r bron,
Llawenydd nefol leinw'r fron;
Mewn hedd hwy elwir at eu Tad,
I feddu gwlad lle nad oes poen,
Byth gyda'r Oen, mewn llawn fwynhad. *
143 M. N. 8, 7.
Fe'n gwrandewir gan yr Arglwydd,
Pan dderchafwn fry ein llef,
Os mewn ffydd y bydd ein gweddi,
A chan gredu T'wysog nef;
Fe addawodd i bwy bynag
A wna geisio gan y Tad,
Yn ei enw gogoneddus,
Y gwna roddi iddo'n rhad. *
144 M. H. D.
Ein breintiau mawr, mawrhawn bob un,
Ac hyfryd ganwn yn gytun;
Mae'n Tad yn Arglwydd nef a llawr,
A pherthyn in' Eiriolwr mawr,
Trwy'r hwn, wrth ofyn, cawn yn rhad,
Fendithion gan ein Nefol Dad.
Mawrhawn ein breintiau mawr bob un,
Gan ganu'n hyfryd a chytun. *
145 M. N. 8, 7, 4.
Arglwydd, anfon y Dyddanydd,
At dy blant sydd yma'n nghyd;
Dysgwyl maent yn enw'r Iesu,
Ei gymdeithas hoff i gyd;
Arglwydd, cofia,
Mewn trugaredd am dy saint.
Agor o ffenestri'r nefoedd,
Edrych wared ar dy blant;
Gweled rhagor o'th ogoniant,
Yw yr oll o'n bryd a'n chwant;
Er mwyn Iesu,
Na wrthoda wrando'n cri. *
146 M. N. 6, 4.
Am y newyddion da,
Fy enaid, llawenha
Eu dod i'th glyw:
Dymuna mwy o hyd
I bawb sydd yn y byd,
Gael rhan o'r trysor drud,
Sy'n rhad gan Dduw.
O gweddia aml waith
Am weithwyr at y gwaith
O hau yr had;
Os bydd it' wneyd dy ran,
Duw wrendy yn y man,
A chynnyrch gwyd i'r làn
O fewn pob gwlad. *
147 M. N. 11au.
Pa beth yw'r arwyddion sydd fry uwch
ein pen?
Pa'm ddua yr haulwen yn entrych y nen?
Paham y tywylla y lleuad a'r sêr?
Paham yr ymysgwyd elfenau ein Nêr?
Pan welom ffigysbren yn deilio yn braf,
Fe wyddom mai agos yw tymmor yr haf;
Efelly, pau welom arwyddion y nef,
Gwybyddwn mai agos i ddyfod yw Ef.
Er cymmaint y nodau a welir bryd byn,
Y daw yr Iachawdwr ar gwmwl mawr
gwyn,
Fel 'roedd cyn y diluw - difeddwl pob un,
Efelly bydd hefyd cyn daw Mab y dyn.
Yn ofer i lawer y nodau a fydd,
Ni fyddant yn deall mai agos yw'r dydd;
Yn nodau ni fyddant i'r rhai'n, er eu maint,
Ond byddant yn ddigon o arwydd i'r Saint.
Pa beth yw'r sain udgorn a swnia mor fawr!
Ust! dyfod mae'r lesu! Och! gwae ni yn
awr!
Pa le yr ymguddiwn? - un cynnyg ni
llwydd!
O, syrihied y bryniau i'n cuddio o'i wydd!
Y ddysclaer orymdaith sy'n tramwy trwy'r
nen;
Yr engyl a'r seintiau sy'n canlyn y Pen:
Y cwmwl a wisga ogoniant di-ail,
Can's arno yn marchog mae Adda yr Ail.
Nid yn y diffaethwch na'r 'stafell y mae,
Ond fry, megys mellten yn ngolwg pob
rhai;
Nid mwy y dadleuir nad felly y daw,
Can's llenwir pob mynwes â sicrwydd a
braw.
Ow! wele fflam danllyd yn ysgwyd i lawr;
Dïalir yr anwir sy'n bod ar y ilawr!
Peidiasant â derbyn efengyl Mab Duw,
A chyfiawn yn ddiau eu dinystr yw.
Yn awr yn gasgledig mae'r Saint bob yr un,
A chyda eu Brenin maent oll yn gytun;
Teyrnasant am fil o flynyddoedd, a byth,
Heb elyn i'w blino, na phoen yn eu plith. *
148 M. N. 8, 7.
Hyfryd ydyw hun y gweithiwr,
Hyfryd gorphwys ar ol taith,
Hyfryd cael rhyw beth o'r diwedd,
Wedi methu lawer gwaith;
Ond mwy hyfryd ywr wlad ddedwydd,
Sydd yn aros pobl Dduw,
Ar ol crwydro mewn anialwch,
Yn mhlith dreigiau aml ryw. *
149 M. N.
Tyr'd, Ysbryd Glân, tyr'd lawr i'r oedfa hon;
Tyr'd, Ysbryd Glân, gwna fynwes pawb yn
llon.
Addawwyd gan Enneiniog Duw
I roi'r Dyddanydd cu;
Ein Nefol Dad,
O danfon ef 'nawr i ni.
Mae yn arweinydd i ni oll,
Mae'n gysur in' wrth fyw;
Mae'n dwyn tystiolaeth dan ein bron,
Ein bod yn blant i Dduw.
G
Ysbryd Duw, brofasom cyn yn awr;
Ysbryd Duw, ddysgwyliwn etto i lawr.
Mae'n dyfod gyda gwresog dân,
Mae'n traethu pethau mawr;
O rasol Dduw, derbynia'm cân,
A danfon ef yn awr. *
150 M. N.
Mor hyfryd yw, cymdeithas hoff y Saint;
Mor hyfryd yw, cael meddu'r cyfryw fraint.
Cael meddu cwmni'r Nefol Dad, -
Mae'n bod lle mae ei blant;
A lle bo Duw,
Mae tristwch yn cilio bant;
Mae hyn yn dâl am ddirmyg byd,
Mae'n goron am bob croes;
Mae baich ein Crist yn rhwydd fel hyn,
Mae'n hawdd ei ddwyn trwy'n hoes.
Hyfryd yw, cael profi'r Ysbryd Glân;
Hyfryd yw, gwresawgrwydd nefol dân.
O, Arglwydd, tywallt ef yn awr -
O, yn ei ddoniau doed;
Boed iddo draethu pethau mawr,
Fel mae yn gwneyd erioed. *
151 M. N.
Efengyl Crist, a elo dros y llawr;
Efengyl Crist, derbynied bach a mawr.
Cyhoedder yr efengyl hon
I bob rhyw lwyth ac iaith;
A deued pawb,
I arddel Duw a'i waith.
Maddeuant i bechadur sydd,
Os gwrendy eiriau Duw;
A bendith ar ol bendith fydd
I'r rhai trwy ffydd sy'n byw.
Efengyl Crist, O newydd da i ddyn!
Efengyl Crist, O llawenhaed pob un.
Modd sydd i achub euog fyd,
A'u dwyn yn un yn Nghrist:
Pa'm ofna dynion yn barhaus?
Pa'm byddant mwy yn drist? *
152 M. N.
Canwn yn hyfryd,
Mae achos bod yn llon;
Carwn ein gilydd,
Mae llid am le'n y fron.
Gwyliwn yn wastad,
Mae'r gelyn o'n naill du;
Gweddiwn yn ddyfal,
Mae Crist yn eiriol fry.
Byddwn yn ffyddlon,
Cawn wobr ganddo Ef;
Ië, cawn goron
Sy'n nghadw yn y nef. *
153 M. H.
Moliennwch Dduw, yr Arglwydd mawr,
O'r nef a'r lleoedd uwch y llawr;
Rhowch iddo glod, ei engyl glân,
A chwi, ei luoedd, fawr a mân.
Chwi haul a lloer, rhowch iddo glod,
A'r sêr dirif sydd uwch y rhod;
Di, nef y nef, rho'th fawl yn hy,
A'r dyfroedd yn yr entrych fry;
Rho'nt fawl i Dduw, can's ef yn gu
A archodd "Boed," a hwythau fu;
A hwynt i bara byth a wnaeth,
Gan roi 'ynt ddeddf i'w chadw'n gaeth.
Yr Arglwydd, molwch ef o'r llawr,
Y dreigiau, a'r dyfnderau mawr;
Y tân a'r cenllysg, eira, a tharth,
Y gwynt ystormus - gwnant ei arch;
Y bryniau a'r mynyddoedd gyd,
Coed ffrwythlawn, a'r holl gedrwydd
drud:
Bwystfilod, pob anifail sy,
Ymlusgiaid a'r asgellog lu;
Breninoedd daear, pobloedd oll,
T'wysogion, barnwyr, pawb heb goll;
Gwyr ieuainc a gwyryfon cu.
Henafgwyr, gyda'r llanciau'n llu;
Gwnewch foli enw'r Arglwydd Dduw.
Can's enw dyrchafedig yw;
Ei ardderchogrwydd rhyfedd ef
Sydd uwchlaw'r ddaear, uwchlaw'r nef;
A chorn ei bobl dyrchu mae,
Sef moliant ei holl santaidd rai,
Sef meibion Israel, teulu Duw -
Yr Arglwydd molwch, teilwng yw. *
154 M. N. 7, 6.
Bendithia ni, O Arglwydd,
A rhoddion oddi fry;
Yn enw'r anwyl Iesu,
Dy Ysbryd rho i ni.
I'th fedydd ein bedyddiwyd,
Er golchi'n beiau'n lân;
Santeiddia ni, gan hyny,
A'r Ysbrryd Glân a thân.
Addewaist ti gyfranu,
Ond gofyn it' mewn ffydd;
Rho i ni ysbryd gweddi,
A chalon ddrylliog brudd.
Rho nerth i fod yn ffyddlon,
Dod gariad yn ein plith,
Fel caffom dy fendithion
A gwisgo'th enw byth. *
155 M. N.
Cysura di, O Dad, dy blant;
Gyr ofn byd o'u bryd i bant;
A phan fo erlid ar dy saint,
Dysg iddynt gyfrif hyny'n fraint;
Can's ar ol storom, daw hin deg,
Ac 'nol dwyn croes, ceir coron chweg.
Os rhoddi di dy Ysbryd Glân,
I'n tywys yn dy waith yn mlaen,
Bydd pob rhyw groesau yn y byd,
Yn troi'n bleserau etto'i gyd;
Can's gwobr in' yn nghadw sy,
Os byddwn ffyddlawn fyw i Ti. *
156 M. N.
Beth yw'r alwad sydd trwy'r gwledydd?
Galwad daer ar bob dyn byw.
Pa beth ydyw'r alwad hono?
Gwahodd dyn i heddwch Duw.
Caner, caner byth am dani;
Na wrthoded dynion hon.
Para mae i wahodd heddyw;
O derbynier hi yn llon. *
157 M. N.
Hoff yw trigo gyda'r Saint,
Pan fo cariad yn eu plith;
Dyna ydyw'r benaf fraint
A ddymunwn feddu byth.
Yno erys Ysbryd Duw -
Pwy a wŷr mor wresog yw?
Neb ddywedaf ond y Saint;
Gyda hwy y mynaf fyw. *
158 M. H.
"Er cof gwnewch hy'n am danaf fi,"
Oedd geiriau mwyn yr Iesu cu;
Y bara ydyw corff Mab Duw,
A'r cwpan gwaed o'i ystlys yw.
"Bwytewch, ac yfwch," meddai Crist,
"Er coffa am fy angeu trist;
Gwnewch hyn nes delwyf yr ail bryd,
Pan yfwn newydd win yn nghyd."
O hyd wrth wneyd â'r ordinhad,
Sy'n cynnwys corff ein Crist a'i waed,
Gwnawn fod mewn cariad yn gytun,
Gan gofio cariad Crist ei hun. *
159 M. C.
Gwlad dda sy'n aros pawb o'r Saint,
Gwlad hen addewid Duw;
Ni fydd o'i mewn un pla na haint,
Ond pleser o bob rhyw.
'Rym ni yn teithio yno 'nawr,
Er bod ein ffordd trwy anial mawr;
Mae'r hen addewid yn ein cof,
Cawn gyrhaedd yno'n wir.
Beth, cyrhaedd yno'n wir?
Ië, cyrhaedd yno'n wir.
Beth, cyrhaedd yno'n wir?
Ië, cyrhaedd yno'n wir.
Mae'r hen addewid yn ein cof,
Cawn gyrhaedd yno'n wir.
Prophwydwyd llawer am y wlad
O ddechreu'r byd hyd 'nawr,
Ond buan ca y Saint ei gwel'd,
A gwel'd ei Brenin mawr.
'Rym ni yn teithio, &c.
Hon ydyw gwlad y llaeth a'r mêl,
A gwlad gwinllanoedd llawn;
Gwlad lle ceir gwledda'n llon o hyd
At bob rhyw sypiau grawn.
'Rym ni yn teithio, &c.
Gwlad yw lle'r adeiladir tai,
Ond nid i ereill fyw;
Lle plenir, ond nid oes fo'n dod
Gaiff fwyta'r ffrwythau gwiw.
'Rym ni yn teithio, &c.
Fel dyddiau pren bydd dyddiau dyn,
Caiff hir fwynhau ei waith;
Ni chlyw wylofain yn y wlad,
Na gwaedd, nac ochain chwaith.
'Rym ni yn teithio, &c.
A dyma'r wlad lle'r etyb Duw,
Cyn gofyn iddo braidd;
A'r wlad lle pora'r llew fel ŷch,
Lle'r una'r oen a'r blaidd.
'Rym ni yn teithio, &c.
Os dyma wlad addewid Duw,
Mae hona'n wlad i ni;
A chawn trwy ffydd ei meddu byth,
Can's Duw yn eirwir sy.
'Rym ni yn teithio, &c. *
160 M. C.
Fe ddylid profi pob peth sydd,
A dal yr hyn f'on dda;
Can's dyna yw dyledswydd dyn,
A doeth yw'r hwn a'i gwna. *
161 M. N. 8, 8, 6.
Edrychais i addewid Duw,
Pa ran o'r byd ca'r saint gyd-fyw,
A Seion yw y lle;
Af yno wedi cwpla'm gwaith,
Ac yno'n wir bydd pen fy nhaith,
Ac yno bydd fy nhre'.
O, casgled pobl Dduw ynghyd,
A doent o bedwar cwr y byd,
Can's Seion yw eu lle;
Dewcb yno, canys Duw yn wir
A ddaw i drigo yn y tir,
Lle byddo plant y ne'. *
162 M. N. 8au.
Draw mae'r gamp, a draw mae'r goron,
Draw mae'r wobr i'r rhai ffyddlon;
Draw mae tori'r gyched gerwin -
Draw yn ngwlad y llaeth a'r grawnwin.
Draw mae gorphwys wedi blino,
Draw mae diwedd ar ofidio;
Draw mae'm tynfa yn bresennol,
Draw mae'm gartef yn dragwyddol.
Draw sy'n dal fy mhen i yma,
Draw, mewn helbul, a'm cysura;
Draw mae'r lle y daw fy Iesu,
Draw mae'r wlad wy'n myned iddi. *
163 M. N.
Ble mae'r wlad, a'i mwynhad,
Rydd eu Tad i'w saint?
Ble mae'r gwin melys rin?
Ble mae'r llaeth llawn o faeth?
Draw, draw ar ben y daith? *
164 M. N.
Daeth angel i waered i'r byd o'i lân drigfa,
I ddweyd fod oraclau yn nghudd yn Cu-
morra,
Yn cynnwys cyfiawnder efengyl yr Iesu,
Ynghyd â chyfammod ca'i fobl eu casglu.
O, lsrael! O, Israel!
Trwy'r oll o'ch magwyrydd,
I'ch Arglwydd par'towch,
Pan glywch chwi'r hoff newydd.
Mae'n drysor nefolaidd - yn llyfr llawn
bywyd,
Llefara o'r ddaear trwy allu yr Ysbryd;
D'wed eiriau'r Iachawdwr, eill seintiau eu
credu,
Er dysgwyl yr amser y daw i deyrnasu.
O, Israel! O, Israel!
Trwy'r oll o'ch magwyrydd,
I'ch Arglwydd par'towch,
Pan glywch chwi'r hoff newydd.
Gwrandewch, chwi ynysoedd boblogir gan
ddynion,
Mae pethau tra hynod i'ch aros yr awrhon;
Yn Seion mae teyrnas yr Iesn'n cyfnerthu,
Ymgasgla y cyfiawn, a'r anwir raid dreugu.
O, Israel! O, Israel!
Trwy'r oll o'ch magwyrydd,
I'ch Arglwydd par'towch,
Pan glywch chwi'r hoff newydd. *
165 M. C.
Derbyniwch 'nawr yr Ysbryd Glân -
Derbyniwch rodd y nef;
Trwy ffydd yn unig gellir cael
Ei ddoniau grasol Ef.
Gofynwch am addewid Duw,
Y drws yn agor sydd;
Pob bendith y mae Duw yn roi,
I'r taera'i lef y rhydd.
Gosoda'r swyddog ei ddwy law,
Er agor drws i'r nef,
Gan ddweyd, "Derbyniwch:" yna pwy
Fỳn fyn'd yn wag i dref?
Mae eglurhad yr Ysbryd Glân
Yn sicr i bob un:
Am hyny, gweddied pawb ar Dduw,
Nes profi hyn eu hun. *
166 M. N.
Clod fo i'r dyn gyfrinachodd â'r Arglwydd,
Iesu eneiniodd y Prophwyd mawr hwn;
Ei fraint oedd agor yr olaf orchwyliaeth;
Perchir ef etto gan filoedd, mi wn.
Henffych i'r Prophwyd, esgynodd i'r
nefoedd,
Bradwyr a threiswyr nis baeddant e'n
hwy;
'Nghanol y duwiau, gwna waith dros ei
frodyr, -
Angeu ni choncra y gwron byth mwy.
Clod fo i'w enw - bu farw fel merthyr;
Nefol enwogrwydd byth iddo fo'n bod;
Hir 'staenia ei waed, dywalltwyd gan
fwrddwyr,
Holl wlad Illinois, tra'r ddae'r gân ei glod.
Henffych i'r Prophwyd, &c.
Mawr ei ogoniant, a bythol ei urddiad;
Ceidw'r allweddau am oesoedd diri';
Ffyddlawn a chywir y deua i'w deyrnas -
Coron ga'n mhlith y prophwydi a fu.
Henffych i'r Prophwyd, &c.
ABERTH ddwg allan fendithion y nefoedd -
Am waed y dyn hwn, caiff daear roi iawn!
Dihuner y byd i frwydr cyfiawder;
Gwel'd y "brawd Joseph" oll etto a gawn.
Henffych i'r Prophwyd, &c. *
167 M. N.
Pwy sy'n meddu yr addewid,
Roes yr Arglwydd o'i Lân Ysbryd,
Yn ei amryw ddoniau hyfryd?
Saint y Goruchaf Dduw.
Pwy gant ysbryd prophwydoliaeth,
Ffydd, doethineb, a gwybodaeth?
Pwy lefarant â thafodiaith?
Saint y Goruchaf Dduw.
Pwy trwy'r Ysbryd gân ganiadau?
I bwy rhoir i wneuthur gwyrthiau,
Iachâu cieifion, a phob doniau?
Saint y Goruchaf Dduw.
Pwy sy'n meddu apostolion,
A pbrophwydi, ac athrawon,
I berffeithio eu dyscyblion?
Saint y Goruchaf Dduw.
Pwy sy'n dysgwyl cydymgasglu
Yn wr perffaith, fel yr Iesu,
A byth gydag ef deyrnasu?
Saint y Goruchaf Dduw.
Pwy, gan hyny, ddylent beunydd,
Fyw'n gytun, a charu 'u gilydd,
Ac i ddiolch i'w Creawdydd?
Saint y Guruchaf Dduw. *
168 M. N. 8, 7.
Arglwydd grasol, rho'th gynnorthwy
I gyhoeddi etto i maes,
Yr efengyl a ddadguddiwyd
Gan yr angel i dy was,
Sef efengyl ag arwyddion,
Hefyd doniau'th Ysbryd Glân,
Er ein tywys ni a'n harwain
Trwy yr anial daith yn mlaen.
Yr efengyl hon bregethir
Er tystiolaeth i'r holl fyd,
Fod yr amser braf ar ddyfod,
Pan grynhoa Duw ynghyd
Yr holl bethau yn y nefoedd,
Ac ar ddaear hefyd sydd,
Yn ddiogel yn Nghrist Iesu,
Rhag y storom fawr a fydd. -
I. R.
169 M. N. 7, 6.
Yn llwyddo mae'r efengyl
Yn gysson trwy'r holl fyd,
Er cymmaint ydyw erlid
Yr holl satanaidd lid;
Mae miloedd o drigolion
Trwy barthau'r byd o'r bron,
Yn talu eu hufydd-dod
I'r wir efengyl hon.
Arwyddion sy'dd yn canlyn
Yn gysson gyda'r rhai'n,
Fel y dywedai'r Iesu
A wisgodd goron ddrain:
Mae Duw'n prysuro'r amser
I ddwyn ei waitb i ben,
Fel caffo y rhai gonest
Fwynhau breniniaeth nen.
J. B.
170 M. H.
Doed pawb sy'n ofnog, gwan, a thrist,
I ufyddhau i eiriau Crist,
'Rhwn ddaeth i'r ddae'r o'r nefoedd fry,
Er trefnu ffordd i'n cadw ni.
Nid parch a ga'dd gan fyd, ond gwawd,
Er mwyn rhoi bywyd i rai tlawd;
Ac er ei fwyn gwnaed lluoedd ddod
I'w deyrnas ef, i seinio'i glod.
Yr Ysbryd Glân a rydd yn hael
I'r sawl sy'n dod i'w dŷ i'w gael;
A'r Ysbryd hwn sy'n nerthu'r Saint
I gyfrif pob erlidiau'n fraint.
T. H.
171 M. N. 7, 6.
Chwi, ie'nctyd mawr eich breintiau,
Sy'n dysgu geiriau Duw,
Myfyriwch lawer ynddynt,
Ac arnynt byddwch byw;
Darllenwch etto ragor,
A gweddiwch lawer iawn,
Am gael eich gwir oleuo,
Foreuddydd a phrydnawn.
B. D.
172 M. N. 8, 7.
Arglwydd grasol, rho dy Yshryd
I bob un o honom 'nawr,
Fel y gallom wel'd yn eglur
Werth y breintiau hidlaist lawr;
Cael efengyl mewn cyflawnder,
A'i bendithion yn ein plith;
Am dy roddion gwertbfawr ini,
Cei ogoniant genym byth.
J. P.
173 M. N. 7, 4.
Dyma grefydd wedi 'i chael,
Cyn y diwedd;
Hon a ddwg i'r enaid gwael
Wir ymgeledd:
Llwyddo wnelo yn mhob man,
Yw fy ngweddi,
Nes y delo'r cryf a'r gwan
Oll i'w chredu.
T. H.
174 M. N. 8, 7.
Yr oedd Crist a'i apostolion
Yn pregethu'n ffyddlon iawn,
Ac yn dangos i droseddwyr
Ffordd yr iachawdwriaeth lawn;
Pan ddoi atynt ryw bechadur
I ymofyn am ryddhad,
Hwy ddangosent iddo'n eglur
Ffordd a drefnwyd gan y Tad.
Ni ddywedent, "Dos ffordd yna,"
Ac wrth ereill, "Dos ffordd draw -
Nad oes cymmaint o wahaniaeth,
Er it' f'od ar ddeheu law:"
Na, nid felly byth y dysgent
Wrth bechadur i gael byw,
Ond dangosent hwy y gyfraith,
Fel y daeth trwy Ysbryd Duw.
Rhoddent hefyd addewidion
I'r credinwyr fawr a mân,
Sef tystiolaeth o'r efengyl,
Gyda doniau'r Ysbryd Glân:
Mae yr un efengyl etto
Ar y ddaear yn ei grym,
A phob un a wna ei derbyn
Ef yn wir ni siomir ddim.
T. H.
175 M. N. 8, 7.
Melys ydyw geiriau'r nefoedd,
Hyfryd yw eu sain i'r clust;
Peidied neb rhyfygu gwadu
Dim o eiriau Iesu Grist:
Yr arwyddion oll sy'n canlyn
Pob credadyn ddaw i'n plith;
Fe â'r nef a'r ddaear heibio,
Ond saif geiriau Iesu byth.
D. D.
176 M. N.
Pwy yw'r un deg hon o'r anialwch sy'n
teithio,
Gan chwilio am Grist, ei hanwylyd a'i bryd?
Hon yw'r wir eglwys, priodferch yr Iesu,
Sy'n llwyr roddi heibio bob delw trwy'r
byd,
H
A dynion mewn d'ryswch sy'n wastad yn
gwaeddi,
A chlychau hen Babel yn gysson sy'n
canu,
Fel pe bai eu twyll a'u holl fasgnach ar ballu,
A Iesu'n teyrnasu trwy'r ddaear i gyd.
Y mae rhyw swn peraidd yn 'fengyl y
nefoedd,
A'r bobl sy'n llawen trwy ddeall y gwir;
A'r seintiau ddywedant yn llwyr ben-
derfynol,
Trwy Dduw ni gyrhaeddwn y bendithiol
dir.
Hen ffurfiol broffeswyr sy'n gwaeddi "twyll
gwelwch;"
Hunanol ragrithwyr a dd'wed, "mae'n
ddyryswch;"
Tra gras i ni'n tywallt fath ffrwd o hyfryd-
wch,
Wrth ganfod cwymp twyll offeiriadaeth
wrth law.
O, fendith, O fendith, mae'r Iesu yn dyfod,
Fel d'wedai'r prophwydi trwy'r amser o
hyd;
Ac Israel, anwylyd ein Duw, sydd yn
dechreu
Par'toi ddod i'r wledd sydd i'r cyfiawn yn
nghyd.
'N yr anial ffynnonau beunyddiol sy'n
tarddu,
Peroriaeth nefolaidd o Seion sy'n canu,
A'r saint â'u holl ddegwm, a'u hoffrwm
o'n deutu;
A hyn brofa'r Arglwydd a'i fendith i ni,
Mae enw'r Jehofa yn deilwng o foliant,
Ac felly'n Gwaredwr, iawn Brynwr o'r
bron;
Henuriaid o Israel y faner a godant,
Gan alw'r cenedloedd i ddyfod at hon.
Yn mlaen â'r henuriaid, a'r 'fengyl bre-
gethant,
A phawb a'u gwrandawant yn hwylus
addysgant;
Fel hyn gweledigaeth y proffwyd gyflawn-
ant,
Y gareg o'r mynydd ar fyr leinw'r ddae'r.
D. AB I.
177 M. N. 7, 6.
Yn ffyddlawn fe fu Joseph
Ac Hyrum Smith ynghyd,
Yn dysgu egwyddorion
Iachawdwr mawr y byd;
Pregethu rhydd a wnaethant,
Ac edifeirwch dwys,
A bedydd er maddeuant,
Yr hyn sy'n fawr ei bwys.
A gosod dwylaw hefyd,
Er derbyn Ysbryd Duw,
Yr hwn eglura beunydd
Y ffordd i'r nef i fyw;
Am hyn y cynddeirioga
Y gelyn mawr a'i lu,
Am fod y Saint yn derbyn
Addewid Iesu cu.
Yn ffyddlawn byddwn ninnau
Ag sydd yn weision Duw,
I draethu'n cenadwri
I bawb o ddynol-ryw,
Fel gallom roddi cyfrif
Yn llawen, heb ddim braw,
Pan gaffo'r llyfrau 'u hagor
Y rhyfedd ddydd a ddaw.
T. G.
178 M. C.
Ar làn y dwfr sefyll wnawn,
I wneyd ewyllys Duw,
Trwy gym'ryd ynddo'n claddu'n llwyr,
Er cael o'r newydd fyw.
O, Dduw, pechasom aml waith,
Ond 'difarhawn yn awr,
Gan olchi ein pechodau ffwrdd,
A llawenhau yn fawr.
Gwrandawa di ein gweddi ddwys,
Gan faddeu'n bai, Dduw;
Can's ffrynd pechadur yw dy Fab -
Bu farw i ni gael byw.
'Nol rhoi ein pechadurus gyrff
O dan y dòn yn nghudd.
I fywyd santaidd codi wnawn,
Fel rhai o'r bedd yn rhydd.
Efelly, pan gân udgorn Duw,
Gwna'r saint lwyr ddryllio'r bedd;
Cyfodant oll i'r làn yn hardd,
I feddu bythol hedd. *
179 M. N. 8, 7.
Wele'th weision, Arglwydd grasol,
Wedi dyfod yma 'nghyd,
I gael trefnu'r hyn a berthyn
I dy deyrnas yn y byd;
O, am hyny, dyro'th Ysbryb
Ar ein cynghor - dyna'n llef,
Fel y byddo'r hyn a drefnir
'Nol ewyllys bur y nef.
T. H.
180 M. N.
Deuwch i'r deyrnas,
Deuwch i'r deyrnas,
Deuwch i deyrnas ein Duw;
Mae y porth yn lled y pen,
A gwahodd mae Brenin nen;
Pa'm na ddeuwch bawb iddi i fyw?
Mawr yw ei breintiau,
Mawr yw ei breintiau,
Mwy na ddych'mygodd un dyn;
I bwy bynag iddi ddaw,
Rhoir gwybodaeth maes o law,
Fod ei Brenin yn caru pob un. *
181 M. N. 8, 7.
Llwyddo wnelo'r fwyn efengyl
A'i thystiolaeth trwy'r holl fyd,
A doed miloedd idd ei derbyn,
Fel bo'nt ddiogel rhag y llid,
A chael derbyn gwir faddeuant
O'u pechodau'n erbyn Duw,
Trwy ufydd-dod i'r cyfreithiau
Roddwyd gynt gan Iesu gwiw.
Yna derbyn doniau'r Ysbryd,
Fel y d'wedodd Mab y dyn,
Sef llefaru a phrophwydo,
A'r rhai ereill bob yr un;
A chan hyny gwir ddiolchwn,
Y rhai gawsom y fath fraint,
O gael derbyn y fath roddion,
Ac addoli gyda'r Saint.
T. H.
182 M. N. 8, 7.
Llawer sydd o'th weision, Arglwydd,
Yn ngwahanol fanau'r byd,
Heddyw'n sefyll ac yn dangos
Ffordd yr iachawdwriaeth ddrud;
Rho dy Ysbryd yn arweinydd
I'r rhai hyn, ein Nefol Dad,
Fel y caffo llu eu derbyn
Mewn i eglwys Iesu mâd.
T. H.
183 M. N. 8, 7, 4.
Daw yr amser pryd ceir gweled
Yr holl Saint yn fawr a mân,
Wedi myned o'r caethiwed,
Gyda'r Iesu'n seinio'r cân;
Haleliwia,
Atnser hyfryd pan y daw.
Gorfoledda plant caethiwed
Sydd yn myd y cystudd mawr,
Pan gant dderbyn gwir ymwared
Rhag y pläau ar y llawr;
Haleliwia,
Cânt deyrnasu gyda'r Oen,
Ni fydd yno ddim un gelyn
I wneyd niwed iddynt hwy,
Ond cydunant gyda'r delyn
I roi clodydd bythol mwy;
Haleliwia,
Dyma grefydd dâl eu ffordd.
T. H.
184 M. N. 8, 7.
Geiriau Duw sydd yn rhagori
Ar bob peth sydd yn y byd;
Nef a daear, hwy ddarfyddant -
Geiriau Duw a saif o hyd;
Pan dywylla'r haulwen ddysclaer,
Pan dry'r lleuad wèn yn waed -
Geiriau'r Iesu, hwy a safant -
Eu cyfnewid ni fydd raid.
Er y gwywa y glaswelltyn,
Er y syrthia'r blodau lawr,
Ond saif geiriau'r addfwyn Iesu,
Gwnant i dragwyddoldeb mawr;
Er y todda yr elfenau
Gan y mawr-wres ddydd a ddaw,
Etto geiriau'r Oen fu farw,
Byth ni syflant ar un llaw.
T. H.
185 M. H.
O, frodyr a chwiorydd llon,
Cydunwn oll yr oedfa hon
I seinio clod o uchel gân,
I Dduw am roddi 'i Ysbryd Glân.
A gweddiwn arno ef trwy ffydd,
Am roi ei nerth o ddydd i ddydd,
Hyd nes cyrhaeddwn Seion dir,
Lle cawn ddedwyddwch, heb ddim cur.
T. H.
186 M. N. 8, 7.
Gwrandaw, Arglwydd, rho fendithion
Yn yr oedfa yma 'nawr,
Rho dy Ysbryd mewn modd nerthol
Er dadguddio pethau mawr;
Dyro ef yn ysbryd deall,
A gwybodaeth i ni gyd,
Fel y gwnelom dy addoli
Mewu llawn cariad, o un fryd.
T. H.
187 M. N. 7, 6.
Dyma destun newydd etto
I glodfori Brenin nef,
Am roi'r Ysbryd Glân i'n nerthu
'Wneyd ei 'wyllys nefol ef;
Para wnelo hwn i'n tywys
Trwy bob gofid sy'n y byd,
N'es cyrhaeddom draw yn Seion,
Lle y cwrdda'r Saint i gyd.
T. H.
188 M. N. 8, 7, 4.
Clod am grefydd yn ei sylwedd,
Ce's rhyw gysgod ddigon hir;
Mewn tywyllwch bum ers amser,
Gyda'r Saint ces oleu clir;
Clod am dano,
Byth mi lynaf gyda'r gwaith.
T. H.
189 M. N. 8, 7.
Enaid gwerthfawr, tyr'd yn fuan
I gael gafael ar y gwir;
O, nac oeda'r cyfle cyntaf,
Rhag it' oedi yn rhy hir;
Ufyddha i'r wir efengyl,
Heibio gâd bechodau'n llwyr;
Trwy ffyddlondeb a diwydrwydd,
Cei gysuron foreu a hwyr.
Trwy'r gwir ddrws dos mewn i'r gorlan,
Yma cei fendithion mawr,
Addawedig gan ein Harglwydd,
Pan oedd yma ar y llawr;
Tystion ydym ninnau etto
Fod ei eiriau'n gadarn oll -
Bod arwyddion 'nawr yn canlyn
Y credinwyr yn ddigoll.
T. LL.
Google Sites
Report abuse
Page details
Page updated
Google Sites
Report abuse