SAINT Y DYDDIAU DIWEDDAF.
ARGRAFFWYD AC AR WERTH GAN J. DAVIS,
Mae y cynnydd anarferol sydd yn mhlith y
Saint, oddiar pan gawsant Lyfr Hymnau
o'r blaen, y fath, fel nad oedd un o bob deg
o honynt yn feddiannol arno; ac o ganlyn-
iad, yr ydys yn awr yn cyfwyno iddynt
Gasgliad o Hymnau newyddion, o waith
amrywiol frodyr a chwiorydd yn eu plith, y
rhai a feiddiant ganu, heb i'w gelynion allu
dwyed eu bod yn defnyddio cynnyrch y byd.
Mae yn wir y geill dwy neu dair o hymnau
enwadau ereill fod wedi dianc i mewn erbyn
ein gwaethaf, trwy fod brodyr yn eu hanfon
atom yn mhlith rhai newyddion. Mae llyth-
yrenau cyntaf enw pob un wrth ei hymnau,
oddieithr y rhai a gyfansoddwyd gan y casgl-
ydd, pa rai a wahaniaethir â seren (*). Di-
chon y gwel llawer un gyfnewiadau aml yn
ei hymnau, yr hyn a wnaed trwy ganiatâd
rhai, ac yn ddiarwybod i ereill. Dyben y
casglydd oedd eu gwella, nad beth yw y
canlyniad : os troseddodd, erfynia faddeuant,
a sicrha na ddiwygia ragor ar hymnau an-
fedrus, ond y tafla hwy o'r neilldu. Ond odid
na wel y gwir brydydd lawer o feiau, a diffyg
archwaeth, yn y llyfryn hwn, fel mewn rhai
ereill o'i flaen ; ac y bydd yn barod i synied
gyda'r cyhoeddwr, nad yw "yr hyn sydd
berffaith" wedi dyfod i fodoliaeth etto, eithr
y daw heb fod yn hir. Yr ydys wedi gadael
holl hymnau yr hen lyfr ar ol, fel y gallo
pob un a ddewiso ei rwymo gyda'r un new-
ydd, a thrwy hyny feddu ar fwy o gyflawn-
der. Fel y gwelir, cymmysgwyd yr hymnau
yn y llyfr hwn yn ddiwahaniaeth, a dyfeis-
wyd dull newydd hollol i gael gafael yn-
ddynt. Yn y "Mynegai" dosperthir yr holl
hymnau yn ddau ddosparth, un yn cynnwys
hymnau at wasanaeth cyfarfodydd cyhoedd-
us, a'r llall at wasanaeth cyfarfodydd cym-
deithasol, fel na bydd achos i neb roddi
hymnau anmhriodol i'w canu: ac i'r dyben
hyny hefyd, rhanwyd y ddau ddosparth dan
sylw yn wahanol destunau, fel y gellir cael
gafael ar hymn i ateb pob achlysur. Go-
beithir, gan hyny, na chlywir neb mwyach
yn canu ynghylch ymadael, ar y pryd y
byddont yn ymgynnull, - na meddwl eu bod
mewn cynghor neu gynnadledd, pan mewn
cwrdd pregethu neu weddio. Byddai yn
ddoethineb yn y cantorion i fynu gwybod yn
mlaenllaw pa hymnau i ganu, fel y gallont
ofalu am dĂ´nau addas. Barnwyd y gallai
yr ychydig hymnau newyddion Seisnig sydd
ar y diwedd, fod yn ddefnyddiol yn absen-
noldeb y Llyfr Hymnau Seisnig. Wedi
hysbysu cymmaint â hyna, rhoddir y cyfan
at wasanaeth y Saint, ac i fod dan fendith
Duw er eu dedwyddoli, gau eu hufydd was,
HYMNAU CYFARFODYDD CYHOEDDUS.
Ar lan y dwfr sefyll w 178
Yn llwyr dinystrir Ba 116
Clodforaf fy Nhad nef 101
Ein lesn âd ei drigfa 37
Mae'r boreu'n agosâu 109
Mi wn y daw ein Crist 133
Efengyl Christ a elo dr 151
Beth yw'r alwadd sydd 156
Fel dyddiau Noah, fell 86
Llawer sydd o'th weis 182
Ymnerthwn ynot ti, ei 108
Yn Seion bydd y Saint 105
Y gareg fach a welodd 135
Clod fo i'r dyn gyfrin 166
Daeth yr awr i feibion 79
Fe ddylid profi pob pe 160
Fel hyn y d'wedodd Ll 140
Hoff seintiau y dyddia 132
Yr oedd Crist a'i apos 174
HYMNAU CYFARFODYDD CYMDEITHASOL.
Wele'th weision, Argl 179
Fel tân sydd yn llosgi 117
Ble mae'r wlad, a'i m 163
Rhaid ymadael o'n cyfarfod 54
Fe gawn, fe gawn fedd 139
Sing praises, O brethr 190
Yn ffyddlawn fe fu Jos 177
Ysbryd yr Arg. fel tân 53
Y boreu ddaeth, a'r niwl sy'n ffoi !
Gwel faniar Seion yn ei hyd !
Goleuach dydd sy'n gwawrio 'nawr
Cymylau cyfeiliornad ffont
O flaen pelydrau dwyfol wir ;
Y mawr ogoniant oddi draw
Dỳr ar y gwledydd cyn bo hir.
Daw llawnder y cenedloedd mewn,
A chasgla Israel oll i'w gwlad ;
Ca gweddill Juda eu glanhau,
A'u dwyn yn ol i'w Canaan fâd.
Llais Duw sy'n dweyd! rhoed daear glust ;
Na throed cenedloedd rhagddo bant :
Ei nerthol fraich ddynoetha'n glau,
I achub ei ammodol blant.
Engyl o'r nef, a gwir o'r ddae'r,
Fu'n cwrdd, gan ddwyn tystiolaeth gref ;
Er dwyn eu hanwyl blant i dref. *
Beth a welwyd yn y nefoedd ?
A oedd rhywbeth ganddo'n dyfod ?
Oedd - efengyl Iesu mawr.
I bob cenedl, llwyth, ac iaith -
I'r holl bobloedd ar y moroedd,
Onid oedd efengyl genyin ?
Oedd - braidd rif y tywod mân.
Wel, beth yw'r efengyl newydd ?
Hen efengyl fu o'r blaen.
Dyma'r un bregethai Pedr,
Dyma'r un bregethai Paul ;
Dyma'r un bregethwn ninnau,
P'le mor hir y bu'r efengyl ?
Beth a ddaeth o'r rhai fu hebddi ?
Duw yn Farnwr cyfiawn sy.
Cnwd ni cheisir lle nis hauwyd,
Na dydd goleu lle bo nos :
'Nawr llewyrchu mae goleuni -
Na foed neb yn gwel'd yn groes. *
O, gwyn fyd y dynion sy'n ufyddhau 'nawr
I gyfraith y nefoedd, eu braint sydd yn fawr;
Er iddynt gael erlid a dirmyg y byd,
Cânt fyned i Seion ar fyrder ynghyd.
Am fil o flynyddoedd, heb un yno'n drist.
O dan ei winwydden eistedda pob un,
A dan ei ffigysbren, heb neb yno'n flin,
Yn gwledda'n y deyrnas addawodd eu Tad
I Abra'm, ac Isaac a Jacob, a'u hâd.
Gwledd pasgedigion llawn,
A gloyw win peraidd, yn newydd a gawn.
Nyni, O Dduw, dy seintiau, sydd
Yn addef nerth yn ol y dydd ;
Y sawl a ddel i'n heglwys ni,
A wĂŞl dy fawr weithredoedd di.
Yr un wyt 'nawr ag oe't erioed,
Yr un tragwyddol etto i fod ;
A ninnau, 'th saint, sy'n eglurhau
Dy nerthoedd gwyrthiol i barhau.
Yr un yw goruchwyliaeth gras,
A'r awr dylifodd gynta'i maes ;
A'r un mor rhad drugaredd Rhi,
Can's digyfnewid ydwyt ti.
Pwy yn un lle all ddweyd yn llyn,
Yn erbyn gwyrthiau'r dyddiau hyn,
Heb fod yn groes i'r 'sgrythyr lân,
Am nerthoedd glwys yr Ysbryd Glân,
O, deuwch, wywedigion byd,
Am nawdd i'n harch, O ffowch mewn pryd ;
Dewch gloffion, deillion - pob rhyw rai ;
Edifarhewch, cewch eich iachâu.
Tafodau newydd hynod iawn,
Trwy Ysbryd Duw yn byfryd gawn ;
A'r doniau oll, nyni a'u medd,
Credinwyr heirdd Efengyl hedd.
O, Arglwydd, saf o blaid dy saint,
O'th nefol fro dylifa'th fraint,
I'th deyrnas wyrthiol fyn'd ar led,
Ac anffyddloniaid roddi cred.
O, deuwch i'r tir, lle d'wedodd yr Arglwydd ;
Holl garwyr y gwir, ffowch, ffowch rhag yr
Mae'r digter gerllaw, a braw'r annuwiolion,
Sef dystryw y cyfryw ni ddeuant i Seion.
Moliannus fo Duw am dangos dihangfa,
Lle gadawn gael byw pan dywallter ei
Adferwyd trwy'r angel 'r efengyl dragwyddol,
(Yn lle traddodiadau, caed doniau ysbrydol),
Yr hon a bregethir trwy'r byd er tysiiolaeth,
Ac yna difodir yr anwir ar unwaith.
Er iddynt ddiddymu'r cyfammod tragwyddol,
Trwy ladd gweision lesu, a gwadu'r iawn
Ond eilwaith adferwyd hi gan y Goruchaf,
Mae 'nawr gyda seintiau y dyddiau diweddaf.
Fe dd'wedodd yr Iesu cyn iddo ddyrchafu,
'R anfonai ei Ysbryd i dywys a dysgu
Yr holl rai a gredant, fo wedi'u bedyddio -
Pawb geidw 'i orchymynion i gyd, heb ddi-
Yr un yw yr Iesu yn awr â'r pryd hyny,
A'i holl addewidion sydd ffyddlon heb ballu ;
Mwynheir yr un Ysbryd, ac hefyd ei ddoniau,
Yr awrhon yn eglur yn eglwys y seintiau.
Ddadguddiodd ef i'r ddaear
Mae hon yn llawn bendithion -
Arwyddion, 'rwyf yn dyst,
O, Arglwydd grasol, nertha ni
I droedio llwybrau union,
Hyd nes y byddom oll trwy ffydd
Mae'r gareg a dorwyd o'r mynydd
Yn treiglo trwy'r gwledydd yn glau ;
Y deyrnas wir addas ddiwreiddia,
'R oes yma, holl gynnydd 'run gau ;
Yr Iesu deymasa mewn heddwch,
Mae'n agos lonyddwch ei saint,
Yn Seion hyfrydlon fe'n gwelir,
Mewn agwedd lon eglur, heb haint.
O frodyr, ffowch o Babilon
Ei chwymp a'i dystryw sydd gerllaw,
Ei chur a'i braw dychrynllyd.
Fe graffodd Duw y nefoedd ;
Rhydd iddynt phiol lawn o lid,
Am erlid ei hoff bobloedd.
Mae Crist yn gweled gwawd dibaid
Holl ddeiliaid teyrnas Satan ;
Mae'n gweled hefyd boen a chur
Y hyd nid adwaen Duw na'i blant,
Ni welant chwaith ei deyrnas ;
Maent fel y d'wedodd Crist ei hun
"Oddieithr geni dyn drachefn,
Mewn trefn o ddwr a'r Ysbryd,
Nid aiff yn wir i'm teyrnas, cred,
Myn Dun ei feibion cyn bo hir,
Ond gwelaf ddinas draw trwy ddrych,
A gorwych gadarn gaerau ;
O fewn i hon caf ddiogel fyw,
Ond i mi gywir ddilyn Crist,
Trwy flinfyd trist a rhwystrau,
Fy nerbyn gaf i'w gynhes gol,
Dy Ysbryd, Arglwydd mawr,
Dy air i'r rhai'n sy'n groes :
O, ddynion, pa'm aroswch ?
Pa'cn gwnewch chwi oedi cy'd,
Heb gym'ryd eich bedyddio ?
Mae heddyw yn llawn bryd ;
Ei iau sy'n esmwyth, gwn;
Cewch nerth ei ddwyfol Ysbryd
A'r nef a'r ddaear heibio,
Ffordd gul yn unig drefnodd,
Mae'r Gair yn eirwir dyst.
Bendigedig fyddo'n Ceidwad,
Am adferiad gwerthfawr râd ;
Aed yn mlaen mewn rhwysg ei deyrnas
I bob dinas a phob gwlad ;
Frodyr tirion, er d'ystyrwch,
Byth na pheidiwch ddweyd y gwir,
Duw a farn ei holl elynion,
Pan fo'r byd mewn gwae dychrynllyd,
O mor hyfryd fydd y saint,
Cawn bryd hyny gyd-deyrnasu,
Gyda'r Oen ar Seion fryn,
Os parhawn ni hyd y diwedd ;
Duw'r gwirionedd dd'wedodd hyn.
Gan nad oes dim cyfnewidiad
Yn ein Ceidwad mawr ei ddawn,
Ni newidiodd ddim o'i bethau
Yn ei dĹ·, maent oll yn iawn ;
Idd ein dysgu yn ffordd Duw,
Doniau gwyrthiol a ganlynant
'Rhai a gredant, eglur yw.
Er fod dynion hunan-ddoethion
Wadant roddion pena'r Nef,
'N rhoi haeriadau nad oes eisieu
Rhai o'i ddoniau gwerthfawr ef ;
Gau-athrawon ynt annoethion,
Hollol groesion i'n Duw ni ;
Rhith dduwioldeb sy'n eu meddiant,
Canys gwadant ei grym hi.
Rhai sy'n ufydd i Dduw'r nefoedd,
Ddont yn lluoedd o bob lle,
Maes o'r gofid, medd Efe ;
Cur a galar ffoant ymaith,
Troir ein gobaith yn fwynhad,
Gwel'd ein Brenin yu ei degwch
Gawn, a phur hyfrydwch gwlad.
Bendigedig fyddo'n Ceidwad,
Am ddadguddiad yn eu gwydd,
Ac am arwydd o foddlonrwydd
Ein Pen-llywydd yn ein llwdd ;
Er fod byddin yn ein herbyn,
O rai cyndyn yn mhob gwlad ;
Mae gwir obaith buddygoliaeth
Yn arfogaeth Duw ein Tad.
Pan fo'r Iesu mawr yn dyfod,
Fe fydd trallod trwy'r holl fyd ;
Llwythau'r ddaear gyd-alarant,
Pan ei gwelant, ânt yn fud ;
Rhai sy'n awr yn cenfigenu,
Wrth braidd Iesu llou a'u llwydd,
Gânt eu sathru gan ein Brenin.
Gyda'i fyddin, yn ein gwydd !
Yn gyntaf ceisiwch deyrnas Dduw,
Y trysor goreu ceisiwch chwi;
Mae'r lleill i'w cael o hyd.
Mae'n fwy o les i enaid dyn,
I ryngu bodd ei nefol Dad,
A gwneyd ei gais bob awr.
Bydd hyn yn olud o barhad,
Nas gwyr y byd ei faint -
Caniadau Moses ac Oen Duw,
Fydd yno'n boddio'r glust ;
Ceir drachtio'n llon o'r newydd win,
Mae'n cynnyg rhoddion mawr,
Maddeuant gewch trwy fedydd,
Mae'n cynnyg rhoddion mawr,
Cewch eglurhad yr Ysbryd,
Ynghyd â'i ddoniau hyfryd,
A'r Ysbryd Glân sy'n dod i lawr,
Sy'n profi i ni rywbeth mawr. *
Pa'm na chredwch ein tystiolaeth ?
Pa'm na phrofwch bob peth sydd?
Pa'm na fynwch gael goleuni,
Tra mae 'nawr yn oleu dydd ?
Pa'm na charech feddu sicrwydd,
Yn lle gobaith gwan a chred ?
Pa'm na chydiwch yn y sylwedd,
Yn lle'r cysgod diddym red ?
Pa'm na hoffech gael y doniau -
Dawn i bawb fel myno Duw ?
Pa'm na chredwch 'nawr mewn gwyrthiau,
Tra mae'r Hwn a'u gwnaeth yn fyw ?
Pa'm na charech ddawn i wella,
A llefaru mewn tafodiaith,
Tra mae'r hyn "o ran" mewn bod ?
Pa'm y credwch "rith duwioldeb,"
A chan wadu'n llwyr ei "grym ?"
Pa'm y dysgwch chwi bob amser,
Tra nas gellwch wybod dim ?
Pa'm na roddwch lwyr ufydd-dod
I holl eiriau Brenin nef,
Fel y caffoch wir wybodaeth,
Trwy ddadguddiad, ganddo Ef ? *
O bechaduriaid, trowch mewn pryd -
Ar bechu mwy na rowch eich bryd ;
Ond ffowch am rad faddeuant Duw,
Ag ysbryd prudd a chalon friw,
Y taliad cyflawn ar y pren,
A roddwyd gan Enneiniog Nen,
All glirio'ch beiau mawr a mân,
A'ch arbed rhag haeddiannol dân.
Os ufyddhewch, cewch ffafr Duw,
A thrwy ei Fab ef fythol fyw :
Mae'r fraint yn rhad, a thaer yw Ef
I annog dyn i wrando 'i lef. *
O, mor hardd fydd yr olygfa
'Rhon addawwyd gynt i Abra'm,
Isaac, Jacob, ac i'w hâd ;
O, am fod yn un o'r dyrfa,
Pa Dduw yn mhlith y duwiau
Yn medru iachâu'r cleifion,
A rhoi 'ynt bob rhyw fraint ;
Rhydd ddoiniau ei Lân Ysbryd,
I'r dyben o'u perffeithio
O, Dad o'r nef, gwrandawa
Ar weddiau taer dy blant,
Mewn ffydd aed ein herfynion
Gwnawn weddio mewn gwirionedd,
Ein gweddiau byth ni chlyw,
Gwna di e'n beth o bwys :
Dod gariad yn ein geiriau,
A gwylder yn ein hagwedd,
Y dyddiau diweddaf a wawriodd,
A'r angel a draethodd y drefn ;
Yr Iesu ddewisodd ei weision
I drin ei achosion drachefn.
Mae heddyw yn galw rhai gwaelion,
A'r doethion yn cilio naill du,
Ond pan ddel ei hunan i Seion,
Bydd gwae i elynion ei lu.
Fe addawodd Brenin nefoedd
Ga'dd bob gwawd a dirmyg byd,
"Os erlidiwyd fi fel Brenin,
Gwaeth fydd ar fy neiliaid gyd ;
Gwyn eich byd y rhai sy'n ffyddlawn,
Chwi deyrnaswch gyda'ch Brenin
Am ryw fil o flwyddi maith."
Gwawd y byd 'ry'm yn ei erfyn,
'Nol addewid Brenin nef ;
Pob drwg air gan anghredinwyr
Gawn am fol'i 'i enw Ef :
Am ei nerth i fyn'd yn mla'n,
" Concrwyd, concrwyd ein gelynion,"
Draw yn Seion fydd ein cân. -
Galara llwythau'r ddaear,
Ond, clywch ! gwyn fyd y cyfryw
Pan ga y lleill eu poeni,
Cânt hwy eu cipio fry. -
Ac a dreigla yn ei blaen,
Sicrhawyd gan Iesu Grist ;
Pawb a'i gwrthyd, ac a'i tora,
'Nydd y farn cânt amser trist :
Duw oedd yn yr hen gyfammod
Gyda'i blant yn foreu iawn,
Gyda'r Iesu caed y newydd,
A'r bendithion ynddo'n llawn.
Daeth yr angel â'r efengyl,
A'r bendithion yn ei dydd,
Dyma'r "amser a'r amseroedd,
"A rhan amser," yn eu rhif :
Daeth un arall i'w gyfarfod,
'Ni rhai gwael i gael o'r wledd. -
Tegwch bro, llawenydd daear,
Yno cwrdd y saint â'u gilydd,
Ac fe'u dysgir hwy yn nghyfraith,
A gwybodaeth gwir Fab Duw ;
Yno rhodiant yn ei lwybrau,
Mewn hwyl y byddo'r Saint,
Am gael meddiannu'r fraint,
Sef cael mwynhad tra ar ein taith,
O'i bur Ddyddanydd yn ei waith.
I fynydd Seion, O fy mhlant,
Eich dygaf oddi yma i bant,
I gyd-fwynhau'r ddedwyddol wlad,
Ordeiniwyd i chwi gan eich Tad.
Mae banerau'r nef yn chwarae,
Hedeg mae'r efengyl hon ;
Rhaid i'r Iesu mwy deyrnasu
Dros derfynau'r ddaear gron :
Gwael yw gweled llwythau Israel,
Dim ond hyny wrth ei draed ;
Rhaid cael tyrfa mwy lliosog
I glodfori'r dwyfol waed.
Gwir gariad mewn undeb, a chariad mewn
Sy'n gariad a bery, gwna byth, er ein lles ;
A chariad at frodyr, a gweision ein Duw,
Sy'n gariad a bery i'r Saint tra b'ont byw.
Ei Ysbryd Glân rydd ini,
Bendithiwyd yr hen deidiau
Trwy freuddwyd, gweledigaeth,
A'r hoff brophwydawl rodd,
Bendithiwyd trwy'r tafodau,
A ddaeth o'r nefoedd fry ;
O fawl i'n Harglwydd mawr,
Hyfryd cwrdd un waith yn rhagor,
Er cael cynghor ar y daith,
Pa fodd rhaid i ni weithredu,
Gweision Iesu, yn y gwaith ;
Gwaith yw hwn sydd raid ei orphen,
O, am ymdrech yn y gorchwyl,
Frodyr anwyl, tra f'om byw.
Yn freninoedd ac ofifeiriaid
Fe a'n gwneir ar Seion fryn,
Os gwnawn yma ond ymdrechu.
Cawn pryd hyny heirdd goronau
Ar ein penau, am ein gwaith,
Am ryw fil o flwyddi maith.
Mae ufyddhau i eiriau Crist,
Yn symud ffwrdd bob trallod trist,
A'r Ysbryd Glân rydd ryfedd fraint,
Sef dwyn tystiolaeth i'r holl Saint.
Anwyl frodyr a chwiorydd,
Cawsom etto newydd fraint
I ymgasglu at ein gilydd,
Er cael cynnal ein cwrdd saint
Yma cawn ni ddwys gynghorion,
Gan y gweision, er llesâd,
Yma cawn ni o'r bendithion
Yma cawn ni brophwydoliaeth,
Dawn gwybodaeth oddi fry,
A llefaru â thafodiaith,
'Rhon gyfieithir oll i ni ;
Yma cawn ni bĂŞr ganiadau,
Pob rhyw ddawn a gawn yn ddiau,
Duw o'i ras o'r nef a'u rhydd.
O, dewch yn lluoedd llon,
Holl gyrau'r ddaear gron,
Mae Ef yn galw'i eiddo gwiw
O fysg pob iaith o ddynol ryw,
Y gwreng a'r bonedd hefyd,
O, mor hyfryd gweled brodyr
'N myn'd i Seion gyda'u gilydd
Gwell yw gwneuthur brys i fyned,
Yn lle aros yn rhy faith,
Ar fy siwrnai mae fy meddwl,
Buan gwelaf ben fy nhaith.
Ein Iesu âd ei drigfa wiw,
At ddynol-ryw y dychwel ;
Ac ni gawn wledda gydag ef,
Daw'r pererinion sy'n y bedd
I'r lĂ n mewn hedd bryd hyny,
I gael mwynhau'r orphwysfa dĂŞr,
Mewn pleser, fel un teulu.
Am ei drugaredd rhyfedd râd
I'r rhai fu'n ngwlad y cystudd.
Er i ni golli'r ddelw wiw
Daeth Iesu Grist i lawr o'r nen
Er mwyn ein codi yn ddiffael
O gyflwr gwael marwoldeb,
A'n dwyn yn dĂŞr i gyd yn ol
I'r hyfrydol dir sydd draw ;
A wnaeth drefnu'r ffordd i ni.
Pan ddaw'r Iesu lawr rhyw ddydd,
Gyda'i anwyl Saint y bydd ;
Dyna'r pryd y cawn heb drai
Bob danteithion i'w mwynhau.
Fe ddadguddiodd Duw'r efengyl
Pawb a gredo ei phregethiad
A gaiff drysor ganddo ef ;
Caiff fwynhau y doniau hyfryd
Gaiff y rhain, medd Mab y dyn.
Duw, er iechydwriaeth dyn ;
Pawb dderbynio'r trysor hwnw
Gaiff wybodaeth iddo'i hun ;
'R Ysbryd Glân sy'n tystiolaethu
Fod y Saint yn blant i Dduw,
A'r arwyddion sydd yn canlyn,
'Nol fel d'wedodd Iesu gwiw.
Mae'n wir y gwywa llysiau'r haf,
A'r blodau braf a syrthiant ;
Ond geiriau Duw a saif mewn bri,
Hwynt-hwy byth ni ddarfyddant.
Er fod y dail yn syrthio lawr,
A'r mawrion goed yn crino,
A phob rhyw degwch sy'n y byd
Er hyn i gyd, mae Duw yr un,
Heb derfyn i'w fodoliaeth,
Na chyfnewidiad byth i fod,
O, canwn fawl soniarus mwy
I'r Hwn fu farw ar y pren ;
Fe ddaeth i ni, do, fywyd trwy
Farwolaeth Iesu Grist, ein Pen.
Er fod yr hoelion llymion trwy
Ei draed a'i ddwylaw ar y pren,
Ac yn ei ystlys ddirfawr loes,
Un gair yn groes ni ddaeth o'i ben.
Cyflawnwyd gair y prophwyd cu,
Gan Iesu ar y groes bryd hyn;
Dadganwn ninnau ddyddiau'n hoes,
Am ingawl loes Calfaria fryn.
O, fy mrodyr a chwiorydd,
Nid yw'n hamser yma'n hir,
Cawn fyn'd ymaith yn dra buan,
I fwynhau'r dedwyddol dir;
Gweled gawn ein Prynwr anwyl,
A fu'n dyoddef drosom ni,
'Rhwn a hoeliwyd draed a dwylaw
Fel milwyr dewrion awn yn mlaen,
Trwy'r cyfan i'r wlad odiaeth ;
Gwir edyn cariad, breichiau ffydd,
A ddwg in' fuddugoliaeth.
O, awn yn mlaen er gwaetha'r llu,
Mae Duw yn Dad, a Christ yn Frawd,
Mawrygwn ein breintiau, O frodyr cytun ;
A chanwn ganiadau yn llawen bob un :
Mae'n hyfryd i deithio mewn undeb a hedd
Ar hyd yr anialwch i Seion a'i gwledd.
Er cymmaint y croesau sydd i ni yn awr,
O na ddigalonwn - mae'r wobr yn fawr ;
Cyfodwn ein penau, ymwared sydd draw -
Ein gyrfa ddiweddir mewn hedd maes o law.
Tywyllir yr haulwen, y lleuad, a'r sĂŞr, -
Ysgydwir holl nerthoedd y nefoedd, gan NĂŞr,
Ond hyn fydd yn arwydd i'r ffyddlon trwy'r
Mai buan daw'r Arglwydd i'w casglu ynghyd.
Mor hoff ydyw meddwl am fyw yn ddiboen,
Mewn gwlad heb ddim blinder, yn ngwydd
Mae'r yn hyfryd, ond gwell yw'r
Mil gwell ydyw'r , nâ'r am y
Os cymmaint yw'r gwynfyd, beth ddylem ni
Ai diwyd ai diog, i gyrhaedd y nod?
Ymdrechwn yn wrol - mae Duw yn rhoi
Os ffyddlon ymdrechwn, try'r ymdrech yn
Y mae cofio angeu'r Cyfiawn
Yn fy nerthu ar fy nhaith ;
Pâr im' adnewyddol fywyd,
Nerth ac iechyd yn y gwaith ;
O, mor hyfryd fydd yn Seion,
Pawb yn canu pur anthemau
Oll yn rhodio mewn heirdd wisgoedd,
Yn mhlith engyl gwynfa fry,
A dyscleiria Crist ei hunan
Mewn gogoniant gyda'r llu.
Cymmanfa etto ddaeth i'n rhan,
I'r Saint ymgasglu i'r un man ;
Boed pawb â'u genau'n llawn o glod,
I foli Duw'n well nag erioed.
Mae cwrdd fel hyn 'nol cynghor Duw,
Yn nerth i bawb i dduwiol fyw ;
Ac ynom rhoddir dwyfol dân,
I'n cymhell gyda'r gwaith yn mlaen. *
Amgylchiadau sydd yn galw,
Mewn llawn obaith y cydgwrddwn
Gyda'r Iesu cu, ein Pen ;
Brysio, brysio wnelo'r amser,
Yw'm dymuniad taer. Amen.
Dyma foreu Sabboth hyfryd,
Dyma deyrnas a swyddogion,
Dyma'r deyrnas a ddechreuodd
Dyma'r deyrnas welodd Daniel
Wedi dechreu yn ei phryd,
Holl deyrnasoedd maith y byd.
Rhyw liaws mawr o'r blaenffrwyth
Rhyw dristwch leinw'u calon -
Yr Arglwydd fry a'i fyrddiwn
Ysbryd yr Arglwydd fel tân sydd yn llosgi,
Y dyddiau diweddaf a wawriodd i ni ;
Yr Arglwydd anfonodd, o wlad y goleuni,
'R efengyl drag'wyddol, a'i dawn gyda hi.
Cafwyd gwirionedd yn mynydd Cumorah, -
Daw bechgyn y goedwig i dderbyn y ddysg;
Ac wedi eu gwareiddio, ar dir California,
Hedd a llawenydd sydd mwy yn eu mysg.
Rhaid ymadael o'n cyfarfod,
Ond diolchwn i'n Tad nefol,
Am roi'r Ysbryd lawr o'r nef ;
Pan gawn etto gyd gyfarfod,
Gweddiwn am yr Ysbryd Glân,
Yn ei ddoniau tra rhagorol,
Amryw ddoniau trwy'r un Ysbryd,
Duw addawodd yn ddiffael ;
I'n Tad nefol bo ni'n diolch,
Bod y doniau wedi'u cael,
Trwy'r un Ysbryd fe wneir gwyrthiau,
Y tafodau a'r cyfieithad,
Eglwys Dduw sydd 'nawr mewn grym.
Cas fydd gan y byd am danoch, -
D'wedodd Iesu hyn ei hun ;
Y gwrthodwyr fydd y rhei'ny,
Na chânt brofi byth o'r rhin.
Mae'r Gehena'n ddigon eang,
Cânt eu poeni am eu gwaith ;
Hwy gânt fedi ffrwyth eu bywyd
Yn y tragwyddoldeb maith. -
Frodyr anwyl, a chwiorydd.
Wedi ei danfon i dylodion,
Pwy a ddichon fod yn drist ?
Dyma'r ysbryd a addawwyd,
Dyma wynfyd mawr ei werth,
Mae y doniau dan eu henwau,
Gyda ninnau yn eu nerth. -
Dyma Sabboth wedi'i dreulio
Ffordd y cymmod yn ei waith ?
Pwy a gafodd adnabyddiaeth,
Sef tystiolaeth gadarn gref,
Gwir fwynhad o'r anwyl ernes
Dydd gorphwys etto i ni ddaeth
Oddiwrth ein gwaith naturiol ;
Clodforwn Dduw mewn hyder ffydd,
Tra paro'r dydd rhagorol.
Mi wn fod efengyl yr Iesu,
Yn cael ei phregethu i'r byd ;
Fe wawriodd y dyddiau diweddaf,
Mae Duw'n myn'd i gasglu ynghyd :
Am hyny cofleidiwch athrawiaeth
Sy'n berffaith, fel rhoddwyd gan Dduw,
Yn ufydd dewch idd ei hammodau,
Mae'n well na thrysorau Peru.
Mae'n drysor i'r enaid anfarwol,
Rhydd fywyd trag'wyddol i'r oll
A wnelo fel dywed y deddfau,
Heb fyned i lwybrau y coll ;
Hwy hefyd a gânt gyd-deyrnasu
A'n Iesu, ein Brenin a'n Pen,
A hyny dros fil-flwydd yn gyfan,
Pan rwymir hen satan a'i sen. -
Dringaf drwy yr erlidigaeth,
Fry mae'r Brenin yn fy ngwa'dd ;
Er creuloned fy ngelynion,
Nid wyf etto wedi'm lladd.
Nad pa rwystrau sy ar fy llwybr,
Nid yn ol bydd byth fy nhaith;
Nid gwiw gwaed ond er tystiolaeth,
Ennill, ond yr un peth chwaith.
Gwir fod rhagfarn yn llabyddio,
Gwir fod byd yn edrych draw ;
Etto pe baent oll yn uno,
Sant nid byth yn ol a ddaw.
Pe bai mil am un o honynt,
Pe bai'r rhwystrau fyrdd am un,
Etto ar alwadau'r Brenin,
Myn'd yn mlaen wna'r Sant ei hun.
Geilw'r byd ar dde ac aswy,
'Mod i'n ynfyd, 'mod i'n ffol ;
Geilw pechod arna'i sefyll,
Geilw uffern arnai'n ol :
Geilw'r gelyn am ei athrod -
Galwed ef, ac am ei dân !
Tra bo Brenin nef yn galw,
Rhaid i'r sant yw myn'd yn mla'n. -
Paham tristawn am farw'r Saint ?
Dros ennyd fychan 'madael maent ;
Cânt etto ddod o'u beddau'n fyw,
Teyrnasant byth yn nheyrnas Dduw.
Pa'm wylwn am ein brodyr hoff,
'Dyw'r oll ond llais ein Ceidwad mwyn
Ai nid y'm ninnau'n myn'd yn glau -
Ond pwy ddymuna oriau hir
Wrth fyn'd at Iesu mawr ?
Pa ddychryn sydd yn llanw'n bron
Wrth hebrwng brawd i'r bedd ?
Gorweddodd Crist ei hun o'i fewn,
Bendithiodd ef holl feddau'i saint,
P'le gorwedd yr aelodau gwyw
Oddiyno cododd ef i'r lĂ n,
Gan ddangos ffordd i ni ;
I'r lĂ n awn ninnau oll at Grist,
Yr udgorn olaf swnio'n glau,
Nes deffro'n ceraint cu ;
Dihunwch ! bobloedd dan y llawr ;
Chwi Saint, esgynwch fry ! *
Am deyrnas Iesu boed ein llef,
Yr hon yn wir a drefnodd Ef,
I gadw'r byd i gyd o'r bron,
Os credant yr efengyl hon.
'R arwyddion hyn, medd Brenin nef,
I'r hwn a gredo, gallu rhydd
I wir gyflawni rhai'n trwy ffydd,
Mae'n rhaid i bob peth ufyddhau;
Pob rhyw awdurdod ganddo sy
Ar wyneb dae'r a'r nefoedd fry.
Tystiolaeth bur yr Ysbryd GlĂ n
Sydd i gyd-fyn'd â hon yn mlaen;
Rhaid i'r cenedloedd 'nawr i gyd,
Gael cynnyg ar Waredwr byd.
Ddweyd yn dda am Iesu mawr,
Trwy gael clywed ei efengyl,
'Rhon a ddeilliodd lawr o'r nef,
'Rhon yn ddiau a bregethir
Cael ein dwyn o dir estronol,
Trwy ufydd-dod i'r cyfreithiau
Cawsom felly'n mabwysiadu
Ac i ryddid ein hadferyd,
Bellach molaf, pa'm y tawaf?
Oni dd'wedaf, Da yw Duw ?
Rhoes ei anwyl Fab i farw,
Fel y caffem ninnau fyw ;
Rhoddes hefyd ei lân Ysbryd,
Er ein harwain yn y blaen ;
Arglwydd, dyro, 'rwy'n dymuuo,
O, mor hyfryd gweled brodyr
Gwedi casglu er gwas'naethu,
Deisyf doniau'r Ysbiyd Glân, -
'N penderfynu mynd yn mlaen.
Awn yn mlaen fel llu banerog,
Megys arfog deulu'r ffydd,
Nes yn hollol lwyr orchfygu
Teulu'r fall, a chario'r dydd,
Nes cyrhaeddyd mynydd Seion,
Dinas gawsom gan ein Tad,
Mewn addewid, lle o wynfyd,
Yno'n llawn y cawn ddyddanwch,
Heddwch hefyd sy'n y lle;
Gyda'r Iesu cawn deyrnasu,
Ac yn mhlith ei weision E',
Gwedi derbyn gwir ymwared
Gwawria, gwawria hyfryd foreu,
Am dy weled 'rwyf yn wir.
Diolchwn beunydd am y fraint,
O gael ymuno gyda'r Saint;
O, Dduw, rho nerth i fyn'd yn mlaen,
Nes cyrhaedd Seion fawr a mân.
'Ry'm yn dystion fod angylion
Wedi'u danfon i blith dynion,
I oleuo'r holl drigolion ;
Haleliwia, haleliwia. Amen.
I ddod i'r wledd mae yn bar'toi ;
A phobloedd lawer sy'n crynhoi ;
Ge'y dynion gibau gweigion,
Gwell danteithion sy'n eu bryd ;
Gwelant, bellach, mai rhyw sothach
Sydd ar fwrddau gwael y byd :
Am ymborth gwell maent 'nawr yn ffoi !
Hoff gan natur yw galaru,
Mawr yw teimlad ceraint cu ;
Pan hebryngir brawd i'r beddrod,
Wylir - pwy i'w feio sy ?
Gellir wylo, ond gwell cofio
Mai gwyn fyd y meirw'n Nghrist-
Ar ol un na fydd yn drist !
Ceisied dynion rym duwioldeb,
Grym a geidw alar ffwrdd -
Grym a rodda sicrwydd hyfryd,
Fod rhyw ddydd i bawb gyd gwrdd :
Dyna orchwyl gwell nag wylo
Ar ol plant sy'n myn'd i dre',
Gorchwyl ddwg pob un a'i gwnelo
Adref i'r un hyfryd le. *
Er cymaint yw'r curo sydd gyda phob enwad,
Ni raid i ni flino, - fel hyn gwnaed a'n
Goddefodd bob dirmyg, ac felly gwnawn
A goddef yn ddiddig, fel darfu 'ddo yntau.
Dywedodd y byddai i ninnau gael felly,
Am hyny ymdrechwn, na roddwn i fyny,
Nes cyrhaedd i Seion, lle ca'r Saint ym-
Pryd ni ddaw gelynion byth mwy i wneyd
Arwydd yw ein bod yn Saint
Canwn ninnau am y fraint,
Dewch gyda mi ; dewch gyda mi ;
Chwi, seintiau Duw, dewch gyda mi ;
Yr amser ddaeth, a myn'd sydd well ;
Lle dywed Duw, i wlad sy'n mhell ;
Na foed in' aros yma'n hwy -
Mae'r dial mawr bob awr yn fwy :
Dirmygir offeiriadaeth Duw !
Ac yma nid yw'n tref i fyw.
Dewch, codwn ; ymaith awn heb fraw,
A chwiliwn am ein gartref draw ;
Ni fedda gorff na rhanau,
Ond y mae genyf Dduw sydd fry,
Sef Duw galluog, Duw sy'n gu,
A Duw sy'n rhoi datguddiad, -
Mae fel rhyw long heb hwyliau
Ond eglwys d'wysir îs y nen
Gan ddeuddeg seren gylch ei phen,
Ac eglwys dda ei sylfaen, -
O, dyna'm heglwys i ! &c., &c.
Pob eglwys heb un prophwyd,
'Does ganddi ben i'w harwain,
Ond eglwys nid o drefniad dyn,
Yr hon osododd Duw ei hun,
Sef eglwys â'r "arwyddion," -
O, dyna'm heglwys i ! &c., &c.
Y gobaith fedd Cenedloedd,
Heb ffydd ac heb wybodaeth,
Nid yw ond t'wyllwch du ;
Ond gobaith ddeil tra'r ddae'r a'r nen,
Ac un a wel tufewn i'r llen,
'Rhwn obaith sydd fel angor, -
O, dyna'm gobaith i ! &c., &c.
Y nefoedd fyn sectariaid,
Ond nefoedd ar y ddaear hon,
Y gartref lle y sugnais fron,
Nef oleu, nef gwybodaeth, -
O, dyna'm nefoedd i! &c., &c.
Pob eglwys heb gydgasgliad,
Ond eglwys wedi'i galw maes
O'r byd a'i draddodiadau cas,
Ac eglwys cydgynnulliad, -
O, dyna'm heglwys i ! &c., &c. *
Yn iach ! i bawb yn awr ;
Gwnawn forio'r eigion mawr,
Mewn hiraeth llawn am Seion Duw;
Can's gwell yw myn'd i'r wlad
Rhy hir, yn gaeth, y buom fyw.
Daeth in' ryddid, 'nol hir flinfyd,
Wrth yr alwad, myn'd yw'n bwriad -
Myn'd er gwaetha'r gelyn cas :
Ein Duw, o'i ddirfawr râs,
A'n dwg ni'n glud i'w Seion wiw.
Mae gartref gwell o'n blaen yn awr ;
Ond gwynfyd hwnt i'r cefnfor mawr.
Pwy sy'n foddlon dod i Seion ?
Rhag y pläau a'r gofidiau
Pan fyddo'r ddrycin dros y llawr.
I'r Saint, dros enyd fach,
Nes cawn eu gweled oll yn nhref :
I'r sawl sy'n gwadu'r gwir,
Can's nid ynt hwy o deulu'r Nef
Awn dan ganu dros y weilgi,
Duw o'i fwynder wylia'n llester
Pan yn marchog ar y dòn ;
A'r Saint trwy'r ynys hon,
F'o hefyd dan ei ofal Ef. *
O deuwch allan 'nawr, medd Duw,
Gwnewch ddod ar frys o honi hi,
Mae'i phläau mawr yn hongian fry.
O dewch i Seion, bobl Dduw,
I'ch cadw rhag y llid yn fyw ;
Eich Duw a'ch geilw 'nawr mewn pryd,
O, blant, ymgesglwch yno'n nghyd. *
Arglwydd, galw i dy winllan
Fwy o weision at dy waith,
Mawr yw'r llafur sydd i'w fedi
Yn yr addfed feusydd maith ;
Casglu'r gwenith oll i dref.
Rho i'th weision nerth dy Ysbryd,
Rho grymanau gloywon llym,
Fel y medont ffrwyth i'r Iesu,
O law'r diafol, er ei rym ;
Pan y gwaeddwn am dy nerth. *
Pan wawriodd y boreu - pan dorodd y dydd,
Ca'dd Joseph efengyl ddwg gaethion yn
Gor'chwyliaeth y dyddiau diweddaf ga'dd ef;
Gan Iesu mae'n anwyl, a'i drigfa'n y nef.
Ewch i'r holl fyd, medd Iesu Grist.
Pregethwch yr efengyl hon,
A'r sawl a gredo ynof fi,
Cadwedig fydd yn nydd y farn,
Drwy gredu geiriau'r nef.
A'r sawl ni chred, condemnir ef
'R arwyddion hyn a ganlyn bawb
Cythreuliaid bwriant o bob rhyw,
Seirff godant ymaith mwy,
Llefaru â thafodau wnant,
Ac ar y cleifion rho'nt ddwy law,
Yn iach y gwneir, heb boen
O hyn i maes, medd geiriau pur
Os yfant ddim fo'n farwol, ni
Holl gyfiawnder Duw trwy ffydd,
Pawb a'i credo ddaw trwy fedydd
O'i gaethiwed mawr yn rhydd ;
Yna cânt o ddawn yr Ysbryd,
Idd eu dysgu'n ffyrdd y nef,
Nes o'r diwedd gallont sefyll
Daeth yr awr i feibion Duw,
Awr eu buddugoliaeth yw ;
T'wynodd gwawl yr hyfryd ddydd -
Myrdd o'i rhwymau ddaw yn rhydd.
Duw anfonodd Oen ei fynwes,
Idd ein daear i wneyd teyrnas,
Ac i fod yn Frenin ffyddlon,
Nes daw'r Saint i fynydd Seion.
Gwyliwch, Gymry, ar eich camran, -
Ni roes Duw amrywiol lwybrau,
Tua santaidd fynydd Seion.
Rhaid yw dod trwy'r drws i'r deyrnas,
Fel y dysgwyd Nicodemus ;
Felly 'nawr, 'run fath yn union,
Rhaid i'r sawl gânt feddu Seion.
Llwybr cul iawn ydyw, coeliwch,
Nid yw'n myned fel y mynwch ;
Gwarchau mynych gwych orch'mynion,
Arwain Saint i fynydd Seion.
Pan roir gwyr i redeg gyrfa,
Hwy wnant gamu am y cynta'-
Pawb am gyrhaedd ei wych goron ;
Felly'r sawl gânt feddu Seion.
Llew ac ych y gwellt a borant,
Blaidd ac oen a gyd orweddant,
Heb amryson mewn un galon,
Yn holl santaidd fynydd Seion.
'Rwyf yn erfyn cael teyrnasu
Gyda Christ am fil o flwyddi,
Yn mhlith teulu'r apostolion,
A'r cyn-saint, ar fynydd Seion.
Yno bydd y saint mor ddedwydd,
Rhwng y ffigys goed a'r gwinwydd,
Teyrnas Dduw ar fynydd Seion.
Pan ddelo'r Saint oll adre'n nghyd
O blith gelynion sydd bob cam
A dod o blith erlidiau blin,
A'u holl fyddinoedd o bob rhyw,
Trwy rym ein Duw a'i râs ;-
Ceir yno glywed sain pob sant
I'r Iesu ar ei orsedd wen,
'Nol cyrhaedd pen y daith.
Rhyw foroedd didrai o gariad sy'n Iesu,
Wna'r byd lawenhau, ond iddynt i gredu
Ac edifarhau am bob drwg o wnaethant,
A chael eu bedyddio â bedydd maddeuant :
Trwy osod dwylaw, cânt dderbyn yr Ysbryd ;
Wel, dyma y cynllun er achub yr holl fyd.
Fe wawriodd hyfryd foreu,
Pan ddaeth 'r efengyl hon,
Gan angel o'r wlad nefol,
I barthau'r ddaear gron ;
'R hwn oedd yn brophwyd mawr,
I'w thraethu i'r cenedloedd,
Ust ! clywch air yr Arglwydd o'i santaidd
Gwrandewch ei leferydd yn ufydd yn awr ;
Trwy'ch claddu mewn dwfr, maddeuir eich
A disgyn yr Ysbryd, i'ch lloni, i lawr ;
Cewch hefyd ddiangfa rhag pläau echryslon
Sy'n dod ar anwiriaid a beilchion y byd,
Am wrthod gwirionedd gan Dduw a'i holl
Daw amser a wiria y geiriau i gyd.
Efengyl tangnefedd sydd yn ymddyscleirio
Dros faith eang foroedd a lleoedd y llawr ;
Y faniar ardderchog a godwyd, mae'n chwifio ;
Arwydd-nod Duw'r nefoedd sy'n gwahodd
I Seion,wlad santaidd,i fod mewn hyfrydwch
Am fil o flynyddoedd, heb wawd nac un
Yr Iesu fydd Frenin, teyruasa mewn heddwch,
I Dduw bo'r gogoniant a'r moliant. Amen.
Yn derbyn doniau'r Ysbryd,
A'r Saint dderbyniant trwyddynt
Ddysgeidiaeth nef i'w clust.
Fel dyddiau Noah, felly 'nawr;
Gwrandewch ar lais yr Arglwydd Dduw,
Gwahodd y mae dros ddaear lawr,
Trwy enau'i weision, ddynol ryw.
'R efengyl hon, ddywedodd Crist,
Bregethir am ei deyrnas ef,
I'r holl genedloedd bydd yn dyst,
Cyn ail ddyfodiad Brenin nef.
Pan yn cofio am farwolaeth
Ddaeth â bywyd yn ei lle,
Na foed dagrau ar ein gruddiau,
Can's llawenydd sy'n y ne';
Os yw'r bara'n dweyd am ddryllio,
Os gwna'r cwpan ddangos gwa'd,
Dengys geiriau Crist y neithior
Sydd i fod yn nhy ei Dad.
Pwy gymmera yn annheilwng
Pwy all fod heb garu'i frodyr,
Os yw'n caru'r Iesu mâd :
Pwy fỳn droi y ffiol fendith
Yn felldithiol iddo'i hun ?
Gwel! yw cyfranogi'n onest,
'Nol gorchymyn Mab y dyn. *
Deuwch, holl drigolion daear,
Crëwch ffydd ac edifeirwch,
A maddeuant Duw a gewch ;
Yna trwy arddodiad dwylaw,
Chwi a gewch yr Ysbryd Giân,
Ac a'ch arwain yn y blaen.
Ca'r Saint am bob gorthrymder,
Yr Arglwydd Dduw â'i bläau
Gwaith melys iawn yw moli'r IĂ´n,
Trwy Ysbryd Duw, mewn hyfryd dĂ´n ;
Gwnawn ganu mawl i'n nefol Ben,
Tra cawn breswylio îs y nen.
Daeth efengyl teyrnas nefoedd,
Adsain mae yn mhlith cenedloedd,
Mae yn gwahodd pawb i ddod.
Moliannus fyddo ein Duw ni,
Am wrando'n cri a'n gweddi,
Lwyr ddifa'r urddas weision,
Tosturiodd Duw wrth ddynol ryw,
Er hyn i gyd, parhau mae'r byd
I wrthod golud gwerthfawr,
Gan wadu Duw, a threfn ei dĹ·,
Os Duw nid adeilada'r tĹ·,
Trwy ranu'r doniau gwyrthiol ;
Ofer yn wir llafuria neb,
Er holl ddoethineb ddynol.
Dy deyrnas di, ein nefol Dad,
A lwyddo'n rhyfedd yn mhob gwlad ;
Cynnyddu b'o fel mynydd mawr,
Nes llanwo wyneb daear lawr.
O, boed i genadwri'r nef,
I dynu lawr y cestyll cryf ;
Ac adeiladu teyrnas Dduw,
A gwneyd y rhai sy'n farw'n fyw.
Bydd, O Arglwydd, gyda'th weision
Sydd yn mhedwar cwr y byd,
Cofia am ein brawd yn Llydaw ;
Aeth i gynnyg trysor drud ;
Agor di o'i flaen bob drysau,
Sydd yn nghau rhag dwyfol wir,
A doed miloedd trwy ei ymdrech.
Trwy dy allu a'th ddoethineb,
Arwain, Dduw, dy was o hyd,
Boed yr iaith yn rhwydd i'w thraethu
Pan yn son am berl mor ddrud ;
Casgled lawer o rai onest
O blith gau grefyddau'r wlad,
I'w bendithio gan ei Tad. *
Llawer sydd yn gwrthwynebu
'Rhyn ni wyddant pa beth yw,
Ninnau sydd yn gwir amddiffyn
'Rhyn a wyddom sydd o Dduw.
O, na chaffai pawb adnabod
Fel na fyddont yn y diwedd
Yn cael profi'r dwyfol lid.
Gwir wybodaeth sydd yn werthfawr,
Gwybod pwy sydd ini'n Dad ;
Gwybod pa fath ysbryd feddwn -
Un caethiwed neu ryddhad ;
O, ymdreched pawb am fywyd,
I gael rhan yn Iesu Grist,
Cael llawenydd trwy ei Ysbryd
Yn lle gofid blinfyd trist.
Arglwydd, disgyn trwy dy Ysbryd,
Idd ein cynghor yma 'nawr,
Fel y caffom wir ddoethineb
I ymdrin â'th bethau mawr ;
Y derbyniwn bob rhyw nerth
O, cyfrana bob gwybodaeth
I dy weision sydd yn nghyd,
Fel deallont dy gyfreithiau,
A'u gweinyddu'n ddoeth i gyd ;
Yna'n ddigon bydd i ni. *
Arglwydd, 'madael mae dy weision,
Yn ddiolchgar am y fraint
O gael dod ynghyd i drefnu
'Rhyn a berthyn i dy Saint;
Erfyn maent, yn haeddiant Iesu,
Am ddoethineb lawr a'r nef,
Fel bo pob-peth yn cydweithio
I helaethu'i deyrnas Ef. *
Ni, frodyr un galon, sydd yma yn nghyd,
Rboddasom ufydd dod i Brynwr y byd ;
Am hyn byddwn ffyddlawn, mawrygwn ein
Gan gadw'r ffydd hono a roddwyd i'r Saint.
Er maint sy'n ein herbyn, mae'r Iesu o'au
Os byddwn yn gwylio a gweddio'n ddibaid.
A thystio yn gadarn tra fyddom ni byw,
Ac yna cawn dderbyn ein gwobr gan Dduw.
Yn mlaen, yn mlaen mi af,
Mae baner nef o'm blaen yn awr,
Yn llaw'm Tywysog cadarn mawr.
Yn nghanol rhwystrau ni lesgâ -
Ein tywys oll i'r nef a wna.
Na mwyniant pechod mall -
Mae adfyd gyda phobl Dduw,
Yn fwy o elw it', f'enaid, clyw.
Yn mlaen mae'r Saint yn myned,
Gan ddryllio teyrnas Satan,
A'i thynu'n llwyr i'r llawr;
Fel yr oedd Crist yn dweyd.
Can's meddwn y wir grefydd,
Fel daeth i lawr o'r nef.
Am hyny byddwn ffyddlawn,
A roddwyd gynt i'r saint,
Fel bo'm yn mhob amgylchiad
Fe ddaw Michael yr archangel,
Cyn bo hir â chadwyn gref,
Rhwyma Satan fil o flwyddi,
Trwy awdurdod fawr o'r nef ;
Wedi hyny fe ddaw'r Iesu,
I deyrnasu gyda'i saint ;
Daw i'w deml mewn gogoniant,
Bydd ei gwmni'n rhyfedd fraint.
Ni chwympa cariad ymaith byth,
Ond saif mewn bod o hyd ;
Cyd-oesa â'n tragwyddol Dad,
Geill prophwydoliaeth beidio'n llwyr,
A'r hyn o ran ddiflanu oll,
Daw'r hyn sydd berffaith oll i fod,
Pan ddarffo'r hyn o ran ;
Ond yn lle cariad bythol nef,
Ni thardd dim arall lĂ n.
Y cariad hwn, mor werthfawr yw -
Rhown ein calonau oll i Dduw,
I'w llanw o hono'n rhad. *
Rhyw bleser sydd yn lloni,
Ond henffych fyth i'r boreu,
Dros fil o flwyddi llawn,
Cael cyd deyrnasu gyda'u Pen,
Dros fil o flwyddi maith,
Yn cyd-fwynhau y ddedwydd fro ;
Cawn ddechreu oedfa newydd,
Am werthfawr eiriau'r bywyd
O, gweddiwn oll yn ddiwyd
Mewn hoff soniarus gân ;
Teilynga'n clodydd 'nawr yn fwy
Nag unrhyw dro o'r blaen.
Edrychodd fod ei engyl glân
Ond rhoddodd Duw ei Ysbryd Glân,
A'th ofal tadol fo'n parhau
Ymnerthwn ynot ti, ein Duw,
Trwy bob rhyw rwystrau, tra fo'm byw ;
Dy gymhorth dyro in' o hyd
Er mwyn egluro'th air i'r byd.
Dy air adferaist in,' O Dad,
Ac hwn bregethir 'nawr yn rhad ;
Geill pawb a fedda galon friw,
Trwy fedydd, ddod i deyrnas Dduw.
'Nol hyn, er nerth i fyn'd yn mlaen,
Ceir cymhorth trwy yr Ysbryd Glân ;
Goleuni hwn a'n tywys draw
I fynydd Seion maes o law.
Yn Seion bydd cartrefle'r saint,
A'u Brenin geidw ffwrdd bob haint.
Er myn'd trwy rwystrau mawr,
Trwy glod ac anghlod 'mlaen yr awn,
Tu draw yn Seion concwest gawn.
Bu farw'n ddiddig yn ein lle -
Bu farw'n wirion drosom ni -
Pob rhinwedd ynddo ef a gawd -
Mae'r ffordd yn awr yn rhydd
I ninnau deithio llwybrau'r nef,
Dy Ysbryd di, O Arglwydd mawr,
Yn dywalltedig f'o i lawr
Ar bawb sydd yn yr odfa hon ;
Dy gariad pur a'n gwna yn llon.
Ymglymwn yn dy gariad di,
Nes cyrhaedd trwy bob rhwystrau sy,
I'r wlad lle nad oes cur na phoen,
I holl ganlynwyr 'r addfwyn Oen.
A gadael ffwrdd bob bai ;
Nac oedwch mwy i'r alwad -
Rhyw ddawn o'i nefol Ysbryd,
Gwna hwn eich llwyr ryddhuau
Oddiwrth bob rhyw ofidiau
Yn awr sy'n llenwi'ch bron ;
O, ddyniun, pa'm yr oedwch ?"
Gwnewch ddod yr odfa hon.
Ac wele ef yn dod i'r lĂ n,
Gan ddysgu'r ffordd i ni.
I'r geiriau dd'wed ei Dad !
Aeth gydag Ioan lawr i'r dwr,
Ar ben ein Crist yn glau,
Sy'n arwydd na ddaw lawr ar neb,
Sydd heb ei lwyr lanhau. *
Ffydd heb weithredoedd marw yw,
Medd geiriau y Duw geirwir ;
Heb roi ufydd-dod (nid mewn rhith),
Pechadur byth ni chedwir.
Rhaid dy fedyddio yn y dwr,
A rhaid it' dderbyn 'r Ysbryd Glân,
Yn ddyddan, i'th santeiddio.
A'r Ysbryd hwn a'th dywys di,
A'th arwain i'r gwirionedd,
Fel gelli fod yn gall wrth fyw,
'Gwrdd Iesu a'i angylion,
A chael yr etifeddiaeth fydd
I'r Saint ar fynydd Seion.
A thi gai wynfyd mawr didrai,
Os gwnai barhau yn ffyddlon ;
Cei gwmni Iesu Grist o hyd,
Arglwydd, nertha di dy weision
Fydd yn sefyll yma 'nawr,
I bregethu 'rhyn a berthyn
I dy deyrnas ar y llawr ;
Dyro iddynt nerth dy Ysbryd,
Fel y gallont draethu'n hy,
Mai un ffordd i'w gadw sy.
Yn llwyr dinystrir Babilon,
Er cymmaint rhwysg ac ymffrost hon,
I'r dialedd for syrthio wna,
Pan fyddo holl phiolau 'i phla
Ond diolch i'n tragwyddol Dad,
Sy'n galw trwy'r efengyl fâd,
O'i chanol, fel na byddoch chwi
Gyfranog o'i holl bläau hi,-
Gwlad ddiogel hyfryd gewch.
Ond yr holl ddynion cyndyn cas,
Sy'n gwrthod dod o honi maes,
Ond caiff yr Iesu ufydd trwy,
A'r Iesu'n Frenin arnynt hwy,
Telynau euraidd gaiff y saint,
O fewn i'r nefol wlad ddi-haint,
Lle na bydd nos o fewn y wlad,
Ond canol-dydd o fyth barhad ;
Fel tân sydd yn llosgi mae Ysbryd ein Duw;
Fe'i teimlir ef yma, un nerthol iawn yw;
Llefaru mewn ieithoedd dyeithr y mae,
A rhoi cyfieithadau er lles i bob rhai. -
Dadguddia ddirgelwch pob drwg a phob da,
Ac er ein cysuro, prophwydo a wna;
Mae'n llanw ein teimlau, mae'n gryfder i
A sicrwydd a rodda i anwyl blant Duw. *
Hoff yw cofio am farwolaeth,
Pan mae bywyd wedi 'i gael ;
Trwy oddefaint dirfawr Iesu.
Cawsom lu o roddion hael ;
Cofiwn bawb am Iesu Grist.
O'r elfenau santaidd hyn.
Doed i'n cof hoff eiriau'n Ceidwad,
Sef y daw ar gwmwl gwyn ;
Am yr hyfryd ddydd a ddaw. *
Ag efengylwyr rhoes wrth raid,
Gwnant hwy berffeithio'r saint i waith
Hyd oni chwrddwn oll 'run dydd,
Mewn undeb ffydd ac ysbryd,
At fesur oed ein Iesu mâd,
Yn Seion, gwlad y gwynfyd. -
Arglwydd, edrych ar ein cynghor,
Fel bo holl gyfreithiau'th deyrnas
Rho dy Ysbryd yn neillduol,
Fel y byddom yma'n trefnu
'R moddion goreu rhag pob coll. *
Henffych i'r dydd, y dydd y daeth
Yn hedeg trwy y nef yn hy,
I draethu'r newydd anwyl.
Y newydd gwerthfawr hyfryd ;
Cenedloedd pell, caiff rhai'n i gyd
Y newydd am Iachawdwr byd,
Caiff lndia, Affric, Asia fawr, -
Pob talaeth dan y nefoedd ;
Cânt glywed son am Galfari,
A'r aberth dalwyd arni hi,
I'n hachub ni, y bobloedd.
Clodforwn am yr hyfryd sain,
Banerau hon yn chwifio bo,
A'i hadsain hefyd dros y fro,
Nes cael o'r Saint deyrnasu.
Can's daeth yr oes, yr oes y bydd
I'r Seintiau gael teyrnasu ;
Ac hefyd, aiff teyrnasoedd byd
Yn eiddo'n Harglwydd ni i gyd,-
Ar fyr cawn weled Mab y dyn,
Mewn rhwysg a mawredd nefol, gwiw,
A chydag ef holl feibion Duw, -
A'r byw ânt i'w gyfarfod.
Ac yna'r llo, a chenaw'r llew,
Mewn porfa dew gorweddant ;
Ni ddrygant ac ni ddifant mwy,
Can's Ysbryd Duw fydd arnynt hwy,
A phoen na chlwy' ni phrofant.
Gwyn fyd y Saint, bydd mawr eu braint,
Pan fydd yr haint yn dyfod;
Teyrnasant hwy ar ddaear lawr,
Ac arnynt hwy bydd nefol wawr, -
Cânt wel'd yn awr eu Priod.
Pwy, pwy yn awr na fydd yn Saint ?
Mor fawr fydd braint y teulu,
Yn gwledda ar fryn Seion draw,
Lle na ddaw'r gelyn byth gerllaw,
'Roi briw na braw ond hyny.
Yn awr adferir yr holl fyd
I'r cyflwr pryd y crewyd ;
Yr oen a'r blaidd a drig ynghyd,
Bydd melys ganu drwy'r holl fyd
A phawb yn byw mewn gwynfyd.
O, brysiwn, awn i Seion fryn,
Lle cawn yn wyn ein gwisgo;
Ac hefyd gadw deddfau'r Ior,
A'n dysgu gan y nefol gĂ´r, -
I California wlad yr awn,
Lle cawn ni fod yn rhyddion,
Ac yno mewn palasau gwych,
Cawn foli'r Oen heb unrhyw nych,-
A thermlau gwych i'r cyfion.
O Dduw, mynega 'nawr i ni,
Trwy'th Ysbryd, dy ewyllys di,
Fel byddom yn cynghori'n gall,
A'n bryd i wella pob rhyw wall.
Rho i'n ddoethineb yn ei phryd,
A dangos in' o'th drysor drud ;
Rho Ysbryd Iesu yn ein plith,
Fel ein hamdôir â'r nefol wliih. *
O Dad, henuriaid eglwys Crist
Edrychwn 'nawr mewn ffydd i'r lĂ n
A'th Ysbryd llanw'n llestri'n llawn,
Ac am ddoethineb, rho heb baid,
Can's rhaid i'n wrth bob un. *
O Arglwydd Dduw, anfeidrol fawr,
Ymadael wna dy weision 'nawr;
Am nerth o'r nef diolchant hwy,
A gweddiant am ei gael byth mwy. *
Doed y Dyddanydd oddifry,
Myneged o ddoethineb Duw,
O hyd i'n clyw yn rhagor.
Rhoed ddeall in' i dreiddio'n mhell
A dwyn anwyliaid Duw i maes
I wel'd ei ras a'i allu. *
Fan gawn ni rodio'n rhyddion
A'n Iesu - mawr ein braint.
'Rhwn roes ei hun yn brydferth
Nid oes yma ond gorthrymder,
Cawn cyn hir drag'wyddol bleser,
Cawn gwmpeini heirdd angylion,
Patriarchiaid, apostolion,
A'r prophwydi, a'r duwiolion,
Pwy gaiff wisgo eu coronau,
Neb yn wir ond ffyddlawn seintiau,
Dwy law y diwyd wneir yn frâs,
I'w nerthu i fyned yn y blaen,
Er satan a'i holl fyddin.
Caiff fyn'd cyn hir i Seion wiw,
I fyw dros fil o flwyddi,
A chyd-deyrnasu gyda'r saint,
Mawr fydd eu braint bryd hyny. -
Gael o'th Ysbryd arnom ni,
Fel y gallom oll weithredu
'Rhyn fo 'nol dy 'wyllys di ;
Idd ein tywys yn dy waith,
Fel y gallom yn effeithiol
I ryddhau a rhwymo'n gaeth.
Gwrandawed holl drigolion byd,
I geisio rhan yn nghrefydd Crist,
Cyn delo ar gymylau'r nef
A'i holl angylion gydag ef ;
Dy allu i fyn'd yn mlaen,
Fel gallom dy was'naethu,
Yn barod â'th gynnorthwy,
Er gwaetha' holl lu'r fagddu,
Mewn llawn orfoledd llon,
Hoff seintiau y dyddiau diweddaf a fydd,
Yn Seion yn seinio hosanna rhyw ddydd,
O foliant i'r lesu, eu Prynwr a'u Pen,
'Rhwn ga'dd ei groeshoelio rhwng daear a
Mi wn y daw ein Crist rhyw bryd,
Un waith yn rhagor lawr i'n byd,
A'r llygaid hyn, mi wn, a wĂŞl
Y Barnwr cyfiawn, pan y dĂŞl.
Yn yr oes hon, ein Iesu sydd
Yn rhoi dadguddiad nos a dydd,
Y daw 'nol ei addewid gref,
A'i holl angylion gydag ef. -
Y doniau nefol, Arglwydd da,
Fel byddom ni, dy anwyl blant,
Mewn mwyniant fach a mawr. -
Y gareg fach a welodd Daniel, sydd
Yn myned 'nawr yn fwy o ddydd i ddydd ;
Yn fuan hon a â fel mynydd mawr,
A dryllia ar ei hynt holl ddelwau'r llawr.
Yn deyrnas helaeth bydd o fĂ´r i fĂ´r,
A'i deiliaid lywodraethir gan yr IĂ´r ;
Yn fythol saif, ac nis gorchfygir hi,
Can's gwrthryfelwyr roir mewn pydew du. *
Mewn blin drafferthus fyd,
Dros fyth caf foli'r Oen,
Yn iach, yn iach ! gyfeillion cu,
A'r holl berth'nasau ini sy,
Gwnawn fyn'd i Seion draw,
I blith y seintiau siriol wedd,
Lle cawn ni drigo'n un mewn hedd,
Yn iach, yn iach ! i'r ynys hon,
A'i holl bleserau gwag o'r bron ;
Gadawn hwy'n llwyr yn awr :
Hoff tirio'n mlaen i'r ddedwydd wlad,
Row'd mewn addewid gan ein Tad,
Os cawn ystormydd ar ein taith,
Gwna Duw yn rhwydd feistroli'i waith,
Y gwynt ddystawa wrth ei arch,
A'r tonau gluda'n fwyn ein harch,
Fel na fydd neb yn drist. *
Yn adrodd geiriau wyf o hyd,
Ond pa rhyw bryd 'rwy'n gweddio ?
Neu, a yw llef fy nghalon fau,
Fy ngeiriau'n cyfarwyddo ?
Yn ofer bydd fy nghwyn a'm cri,
Os anghen ni wnaf deimlaw -
Os nad o deimlad eisieu bydd
Fy ngweddiau i gyd yn deilliaw.
Yn gystal gallaf blygu'm glin
A chynnyg gweddi i'r Duw byw,
Duw, dysg beth yw fy rhaid l,eb feth,
A dysg pa beth im' weddio ;
Na âd i'm byth ymbilio'th râs,
Fe gawn, fe gawn feddiannu gwlad,
Na ddichon gelyn a'i holl frâd,
Yn mhlith y saint ac engyl nef,
Ain rinwedd Crist a'i glwy'.
Cawn ganu'n iach i Babilon,
A'i holl wageddau ffol o'r bron,
'Nol myn'd i Seion glyd ;
A bythol fyw mewn eithaf hedd,
Gan gadw'n unfryd hyfryd wledd,
Ar fwrdd ein Duw o hyd. *
Fel hyn y d'wedodd Llywydd nen,
"Dihun, fy nghleddyf llym ;
Dihun, fy llid, a tharo'r dyn,
Yr hwn sydd gyfaill im'."
Dialedd a dderbyniai'r arch,
Yr Iesu'n ufyddhau i'w Dad,
Ond, O! 'r doethineb mawr a'r grâs
Efe yn marw in' cadw'n fyw,
Mor ddwyfol yw y Brenin hwn !
Fel gallai roi ei fywyd ffwrdd,
A'i gym'ryd 'nol heb ffael.
Bydd fyw, O Dduw! llywydda'n ben;
A'r engyl seinient glodydd pĂŞr
>O glod i'r Arglwydd mawr,
Nes dadsain trwy ororau'r nen,
Ag uchel floedd, mai Ef sy'n beu. *
Y dydd anferthol maes o law,
Pob llwchyn gwael i'r frawdle ddaw ;
Bydd rhai mewn braw ac ingder du,
A rhai mewn bri, yn llon eu gwedd,
O flaen y sedd, yn ddirfawr lu.
Bryd hyn a fydd i'r euog rai ;
Dim modd ni fydd i guddio'u bai,
Ond gwnant dristâu o flaen eu Duw,
Pan dd'wed i'w clyw, Ewch chwi i'r tân,
Am wrthod Un a'ch cadwai'n fyw.
A fydd anwyliaid Crist o'r bron,
Llawenydd nefol leinw'r fron ;
Mewn hedd hwy elwir at eu Tad,
I feddu gwlad lle nad oes poen,
Byth gyda'r Oen, mewn llawn fwynhad. *
Fe'n gwrandewir gan yr Arglwydd,
Pan dderchafwn fry ein llef,
Os mewn ffydd y bydd ein gweddi,
A chan gredu T'wysog nef ;
Y gwnai roddi iddo'n rhad. *
Ein breintiau mawr, mawrhawn bob un,
Ac hyfryd ganwn yn gytun;
Mae'n Tad yn Arglwydd nef a llawr,
A pherthyn i'n Eiriolwr mawr,
Trwy'r hwn, wrth ofyn, cawn yn rhad,
Fendithion gan ein Nefol Dad.
Mawrhawn ein breintiau mawr bob un,
Gan ganu'n hyfryd a chytun. *
Arglwydd, anfon y Dyddanydd,
At dy blant sydd yma'n nghyd ;
Dysgwyl maent yn enw'r Iesu,
Ei gymdeithas hoff i gyd ;
Mewn trugaredd am dy saint.
Agor o ffenestri'r nefoedd,
Edrych wared ar dy blant ;
Gweled rhagor o'th ogoniant,
Yw yr oll o'n bryd a'n chwant;
Na wrthoda wrando'n cri. *
Gael rhan o'r trysor drud,
Os bydd it' wneyd dy ran,
A chynnyrch gwyd i'r lĂ n
Pa beth yw'r arwyddion sydd fry uwch ein
Pa'm ddua yr haulwen yn entrych y nen ?
Paham y tywylla y lleuad a'r sĂŞr ?
Paham yr ymysgwyd elfenau ein NĂŞr ?
Pan welom ffigysbren yn deilio yn braf,
Fe wyddom mai agos yw tymmor yr haf ;
Efelly, pau welom arwyddion y nef,
Gwybyddwn mai agos i ddyfod yw Ef.
Er cymmaint y nodau a welir bryd byn,
Y daw yr Iachawdwr ar gwmwl mawr gwyn,
Fel 'roedd cyn y diluw - difeddwl pob un,
Efelly bydd hefyd cyn daw Mab y dyn.
Yn ofer i lawer y nodau a fydd,
Ni fyddant yn deall mai agos yw'r dydd ;
Yn nodau ni fyddant i'r rhai'n, er eu maint,
Ond byddant yn ddigon o arwydd i'r Saint.
Pa beth yw'r sain udgorn a swnia mor fawr !
Ust! dyfod mae'r lesu ! Och ! gwae ni yn
Pa le yr ymguddiwn ? - un cynnyg ni llwydd !
O, syrihied y bryniau i'n cuddio o'i wydd !
Y ddysclaer orymdaith sy'n tramwy trwy'r
Yr engyl a'r seintiau sy'n canlyn y Pen :
Y cwmwl a wisga ogoniant di-ail,
Can's arno yn marchog mae Adda yr Ail.
Nid yn y diffaethwch na'r 'stafell y mae,
Ond fry, megys mellten yn ngolwg pob rhai ;
Nid mwy y dadleuir nad felly y daw,
Can's llenwir pob mynwes â sicrwydd a braw.
Ow ! wele fflam danllyd yn ysgwyd i lawr ;
DĂŻalir yr auwir sy'n bod ar y ilawr!
Peidiasant â derbyn efengyl Mab Duw,
A chyfiawn yn ddiau eu dinystr yw.
Yn awr yn gasgledig mae'r Saint bob yr un,
A chyda eu Brenin maent oll yn gytun ;
Teyrnasant am fil o flynyddoedd, a byth,
Heb elyn i'w blino, na phoen yn eu plith. *
Hyfryd ydyw hon y gweithiwr,
Hyfryd gorphwys ar ol taith,
Hyfryd cael rhyw beth o'r diwedd,
Wedi methu lawer gwaith ;
Ond mwy hyfryd ywr wlad ddedwydd,
Ar ol crwydro mewn anialwch,
Yn mhlith dreigiau aml ryw. *
Tyr'd, Ysbryd Glân, tyr'd lawr i'r oedfa hon;
Tyr'd, Ysbryd Glân, gwna fynwes pawb yn
Addawwyd gan Enneiniog Duw
Mae yn arweinydd i ni oll,
Mae'n gysur in' wrth fyw ;
Mae'n dwyn tystiolaeth dan ein bron,
Ysbryd Duw, brofasom cyn yn awr ;
Ysbryd Duw, ddysgwyliwn etto i lawr.
Mae'n dyfod gyda gwresog dân,
Mae'n traethu pethau mawr ;
O rasol Dduw, derbynia'm cân,
Mor hyfryd yw, cymdeithas hoff y Saint ;
Mor hyfryd yw, cael meddu'r cyfryw fraint.
Cael meddu cwmni'r Nefol Dad, -
Mae'n bod lle mae ei blant ;
Mae tristwch yn cilio bant ;
Mae hyn yn dâl am ddirmyg byd,
Mae'n goron am bob croes ;
Mae baich ein Crist yn rhwydd fel hyn,
Mae'n hawdd ei ddwyn trwy'n hoes.
Hyfryd yw, cael profi'r Ysbryd Glân ;
Hyfryd yw, gwresawgrwydd nefol dân.
O, Arglwydd, tywallt ef yn awr -
Boed iddo draethu pethau mawr,
Fel mae yn gwneyd erioed. *
Efengyl Crist, a elo dros y llawr ;
Efengyl Crist, derbynied bach a mawr.
I bob rhyw lwyth ac iaith ;
Maddeuant i bechadur sydd,
A bendith ar ol bendith fydd
I'r rhai trwy ffydd sy'n byw.
Efengyl Crist, O newydd da i ddyn !
Efengyl Crist, O llawenhaed pob un.
Modd sydd i achub euog fyd,
A'u dwyn yn un yn Nghrist :
Pa'm ofna dynion yn barhaus ?
Pa'm byddant mwy yn drist ? *
Mae'r gelyn o'n naill du ;
Moliennwch Dduw, yr Arglwydd mawr,
O'r nef a'r lleoedd uwch y llawr ;
Rhowch iddo glod, ei engyl glân,
A chwi, ei luoedd, fawr a mân.
Chwi haul a lloer, rhowch iddo glod,
A'r sĂŞr dirif sydd uwch y rhod ;
Di, nef y nef, rho'th fawl yn hy,
A'r dyfroedd yn yr entrych fry ;
Rho'nt fawl i Dduw, can's ef yn gu
A archodd "Boed," a hwythau fu ;
A hwynt i bara byth a wnaeth,
Gan roi 'ynt ddeddf i'w chadw'n gaeth.
Yr Arglwydd, molwch ef o'r llawr,
Y dreigiau, a'r dyfnderau mawr ;
Y tân a'r cenllysg, eira, a tharth,
Y gwynt ystormus - gwnant ei arch ;
Y bryniau a'r mynyddoedd gyd,
Coed ffrwythlawn, a'r holl gedrwydd drud :
Bwystfilod, poh anifail sy,
Ymlusgiaid a'r asgellog lu ;
Breninoedd daear, pobloedd oll,
T'wysogion, barnwyr, pawb heb goll ;
Gwyr ieuainc a gwyryfon cu.
Henafgwyr, gyda'r llanciau'n llu ;
Gwnewch foli enw'r Arglwydd Dduw.
Can's enw dyrchafedig yw ;
Ei ardderchogrwydd rhyfeld ef
Sydd uwchlaw'r ddaear, uwchlaw'r nef ;
A chorn ei holl dyrchu mae,
Sef moliant ei holl santaidd rai,
Sef meibion Israel, teulu Duw -
Yr Arglwydd molwch, teilwng yw. *
Bendithia ni, O Arglwydd,
I'th fedydd ein bedyddiwyd,
Er golchi'n beiau'n lân ;
A'r Ysbrryd Glân a thân.
Ond gofyn it' mewn ffydd ;
A chalon ddrylliog brudd.
Rho nerth i fod yn ffyddlon,
Cysura di, O Dad, dy blant ;
Gyr ofn byd o'u bryd i bant;
A phan fo erlid ar dy saint,
Dysg iddynt gyfrif hyny'n fraint ;
Can's ar ol storom, daw hin deg,
Ac 'nol dwyn croes, ceir coron chweg.
Os rhoddi di dy Ysbryd Glân,
I'n tywys yn dy waith yn mlaen,
Bydd pob rhyw groesau yn y byd,
Yn troi'n bleserau etto'i gyd ;
Can's gwobr in' yn nghadw sy,
Os byddwn ffyddlawn fyw i Ti. *
Beth yw'r alwad sydd trwy'r gwledydd ?
Galwad daer ar bob dyn byw.
Pa beth ydyw'r alwad hono ?
Gwahodd dyn i heddwch Duw.
Caner, caner byth am dani ;
Para mae i wahodd heddyw ;
O derbynier hi yn llon. *
Hoff yw trigo gyda'r Saint,
Pan fo cariad yn eu plith;
Pwy a wĹ·r mor wresog yw ?
Neb ddywedaf ond y Saint ;
"Er cof gwnewch hy'n am danaf fi,"
Oedd geiriau mwyn yr Iesu cu ;
Y bara ydyw corff Mab Duw,
A'r cwpan gwaed o'i ystlys yw.
"Bwytewch, ac yfwch," meddai Crist,
"Er coffa am fy angeu trist ;
Gwnewch hyn nes delwyf yr ail bryd,
Pan yfwn newydd win yn nghyd."
O hyd wrth wneyd â'r ordinhad,
Sy'n cynnwys corff ein Crist a'i waed,
Gwnawn fod mewn cariad yn gytun,
Gan gofio cariad Crist ei hun. *
Gwlad dda sy'n aros pawb o'r Saint,
Ni fydd o'i mewn un pla na haint,
'Rym ni yn teithio yno 'nawr,
Er bod ein ffordd trwy anial mawr ;
Mae'r hen addewid yn ein cof,
Beth, cyrhaedd yno'n wir ?
Beth, cyrhaedd yno'n wir ?
Mae'r hen addewid yn ein cof,
Prophwydwyd llawer am y wlad
O ddechreu'r byd hyd 'nawr,
Ond buan ca y Saint ei gwel'd,
Hon ydyw gwlad y llaeth a'r mĂŞl,
A gwlad gwinllanoedd llawn ;
Gwlad lle ceir gwledda'n llon o hyd
At bob rhyw sypiau grawn.
Gwlad yw lle'r adeiladir tai,
Lle plenir, ond nid oes fo'n dod
Gaiff fwyta'r ffrwythau gwiw.
Fel dyddiau pren bydd dyddiau dyn,
Caiff hir fwynhau ei waith;
Ni chlyw wylofain yn y wlad,
Na gwaedd, nac ochain chwaith.
A dyma'r wlad lle'r etyb Duw,
A'r wlad lle pora'r llew fel Ĺ·ch,
Lle'r una'r oen a'r blaidd.
Os dyma wlad addewid Duw,
A chawn trwy ffydd ei meddu byth,
'Rym ni yn teithio, &c. *
Fe ddylid profi pob peth sydd,
Can's dyna yw dyledswydd dyn,
A doeth yw'r hwn a'i gwna. *
Pa ran o'r byd ca'r saint gyd-fyw,
Af yno wedi cwpla'm gwaith,
Ac yno'n wir bydd pen fy nhaith,
O, casgled pobl Dduw ynghyd,
A doent o bedwar cwr y byd,
Dewcb yno, canys Duw yn wir
Draw mae'r gamp, a draw mae'r goron,
Draw mae'r wobr i'r rhai ffyddlon ;
Draw mae tori'r gyched gerwin -
Draw yn ngwlad y llaeth a'r grawnwin.
Draw mae gorphwys wedi blino,
Draw mae diwedd ar ofidio ;
Draw mae'm tynfa yn bresennol,
Draw mae'm gartef yn dragwyddol.
Draw sy'n dal fy mhen i yma,
Draw, mewn helbul, a'm cysura ;
Draw yw'r lle y daw fy Iesu,
Draw yw'r wlad wy'n myned iddi. *
Ble mae'r wlad, a'i mwynhad,
Ble mae'r gwin melys rin ?
Ble mae'r llaeth llawn o faith ?
Draw, draw ar ben y daith ? *
Daeth angel i waered i'r byd o'i lân drigfa,
I ddweyd fod oraclau yn nghudd yn Cumorra,
Yn cynnwys cyfiawnder efengyl yr Iesu,
Ynghyd â chyfammod ca'i fobl eu casglu.
Trwy'r oll o'ch magwyrydd,
Pan glywch chwi'r hoff newydd.
Mae'n drysor nefolaidd - yn llyfr llawn
Llefara o'r ddaear trwy allu yr Ysbryd ;
D'wed eiriau'r Iachawdwr, eill seintiau eu
Er dysgwyl yr amser y daw i deyrnasu.
Trwy'r oll o'ch magwyrydd,
Pan glywch chwi'r hoff newydd.
Gwrandewch, chwi ynysoedd boblogir gan
Mae pethau tra hynod i'ch aros yr awrhon ;
Yn Seion mae teyrnas yr Iesn'n cyfnerthu,
Ymgasgla y cyfiawn, a'r anwir raid dreugu.
Trwy'r oll o'ch magwyrydd,
Pan glywch chwi'r hoff newydd. *
Derbyniwch 'nawr yr Ysbryd Glân -
Trwy ffydd yn unig gellir cael
Pob bendith y mae Duw yn roi,
Gosoda'r swyddog ei ddwy law,
Gan ddweyd, "Derbyniwch:" yna pwy
Fỳn fyn'd yn wag i dref ?
Mae eglurhad yr Ysbryd Glân
Am hyny, gweddied pawb ar Dduw,
Clod fo i'r dyn gyfrinachodd â'r Arglwydd,
Iesu eneiniodd y Prophwyd mawr hwn ;
Ei fraint oedd agor yr olaf orchwyliaeth ;
Perchir ef etto gan filoedd, mi wn.
Henffych i'r Prophwyd, esgynodd i'r nef-
Bradwyr a threiswyr nis baeddant e'n hwy;
'Nghanol y duwiau, gwna waith dros ei
Angeu ni choncra y gwron byth mwy.
Clod fo i'w enw - bu farw fel merthyr;
Nefol enwogrwydd byth iddo fo'n bod ;
Hir 'staenia ei waed, dywalltwyd gan fwrdd-
Holl wlad Illinois, tra'r ddae'r gân ei glod.
Henffych i'r Prophwyd, &c.
Mawr ei ogoniant, a bythol ei urddiad ;
Ceidw'r allweddau am oesoedd diri';
Ffyddlawn a chywir y deua i'w deyrnas -
Coron ga'n mhlith y prophwydi a fu.
Henffych i'r Prophwyd, &c.
ABERTH ddwg allan fendithion y nefoedd -
Am waed y dyn hwn, caiff daear roi iawn !
Dihuner y byd i frwydr cyfiawder;
Gwel'd y "brawd Joseph" oll etto a gawn.
Henffych i'r Prophwyd, &c. *
Pwy sy'n meddu yr addewid,
Roes yr Arglwydd o'i Lân Ysbryd,
Yn ei amryw ddoniau hyfryd ?
Pwy gant ysbryd prophwydoliaeth,
Ffydd, doethineb, a gwybodaeth ?
Pwy lefarant â thafodiaith ?
Pwy trwy'r Ysbryd gân ganiadau ?
I bwy rhoir i wneuthur gwyrthiau,
Iachâu cieifion, a phob doniau ?
Pwy sy'n meddu apostolion,
A pbrophwydi, ac athrawon,
I berffeithio eu dyscyblion ?
Pwy sy'n dysgwyl cydymgasglu
Yn wr perffaith, fel yr Iesu,
A byth gydag ef deyrnasu?
Pwy, gan hyny, ddylent beunydd,
Fyw'n gytun, a charu 'u gilydd,
Ac i ddiolch i'w Creawdydd ?
Arglwydd grasol, rho'th gynnorthwy
Yr efengyl a ddadguddiwyd
Sef efengyl ag arwyddion,
Hefyd doniau'th Ysbryd Glân,
Er ein tywys ni a'n harwain
Trwy yr anial daith yn mlaen.
Er tystiolaeth i'r holl fyd,
Fod yr amser braf ar ddyfod,
Yr holl bethau yn y nefoedd,
Yn ddiogel yn Nghrist Iesu,
Rhag y storom fawr a fydd. -
Yn gysson trwy'r holl fyd,
Trwy barthau'r byd o'r bron,
Arwyddion sy'dd yn canlyn
Mae Duw'n prysuro'r amser
Doed pawb sy'n ofnog, gwan, a thrist,
I ufyddhau i eiriau Crist,
'Rhwn ddaeth i'r ddae'r o'r nefoedd fry,
Er trefnu ffordd i'n cadw ni.
Nid parch a ga'dd gan fyd, ond gwawd,
Er mwyn rhoi bywyd i rai tlawd ;
Ac er ei fwyn gwnaed lluoedd ddod
I'w deyrnas ef, i seinio'i glod.
Yr Ysbryd Glân a rydd yn hael
I'r sawl sy'n dod i'w dĹ· i'w gael ;
A'r Ysbryd hwn sy'n nerthu'r Saint
I gyfrif pob erlidiau'n fraint.
Chwi, ie'nctyd mawr eich breintiau,
Arglwydd grasol, rho dy Yshryd
Fel y gallom wel'd yn eglur
Werth y breintiau hidlaist lawr ;
Cael efengyl mewn cyflawnder,
A'i bendithion yn ein plith ;
Am dy roddion gwertbfawr ini,
Dyma grefydd wedi 'i chael,
Hon a ddwg i'r enaid gwael
Llwyddo wnelo yn mhob man,
Nes y delo'r cryf a'r gwan
Yr oedd Crist a'i apostolion
Yn pregethu'n ffyddlon iawn,
Ac yn dangos i droseddwyr
Ffordd yr iachawdwriaeth lawn ;
Pan ddoi atynt ryw bechadur
Hwy ddangosent iddo'n eglur
Ffordd a drefnwyd gan y Tad.
Ni ddywedent, "Dos ffordd yna,"
Ac wrth ereill, "Dos ffordd draw -
Nad oes cymmaint o wahaniaeth,
Er it' f'od ar ddeheulaw :"
Na, nid felly byth y dysgent
Wrth bechadur i gael byw,
Ond dangosent hwy y gyfraith,
Fel y daeth trwy Ysbryd Duw.
Rhoddent hefyd addewidion
I'r credinwyr fawr a mân,
Sef tystiolaeth o'r efengyl,
Gyda doniau'r Ysbryd Glân :
A phob un a wna ei derbyn
Ef yn wir ni siomir ddim.
Melys ydyw geiriau'r nefoedd,
Hyfryd yw eu sain i'r clust ;
Peidied neb rhyfygu gwadu
Dim o eiriau Iesu Grist :
Yr arwyddion oll sy'n canlyn
Pob credadyn ddaw i'n plith ;
Fe â'r nef a'r ddaear heibio,
Ond saif geiriau Iesu byth.
Pwy yw'r un deg hon o'r anialwch sy'n
Gan chwilio am Grist, ei hanwylyd a'i bryd?
Hon yw'r wir eglwys, priodferch yr Iesu,
Sy'n llwyr roddi heibio bnb delw trwy'r byd,
A dynion mewn d'ryswch sy'n wastad yn
A chlychau hen Babel yn gysson sy'n canu,
Fel pe bai eu twyll a'u holl fasgnach ar ballu,
A Iesu'n teyrnasu trwy'r ddaear i gyd.
Y mae rhyw swn peraidd yn 'fengyl y nefoedd,
A'r bobl sy'n llawen trwy ddeall y gwir ;
A'r seintiau ddywedant yn llwyr benderfynol,
Trwy Dduw ni gyrhaeddwn y bendithiol dir.
Hen ffurfiol broffeswyr sy'n'gwaeddi "twyll
Hunanol ragrithwyr a dd'wed, "mae'n
Tra gras i ni'n tywallt fath ffrwd o hyfryd-
Wrth ganfod cwymp twyll offeiriadaeth
O, fendith, O fendith, mae'r Iesu yn dyfod,
Fel d'wedai'r prophwydi trwy'r amser o hyd ;
Ac Israel, anwylyd ein Duw, sydd yn dechreu
Par'toi ddod i'r wledd sydd i'r cyfiawn yn
'N yr anial ffynnonau beunyddiol sy'n
Peroriaeth nefolaidd o Seion sy'n canu,
A'r saint a'u holl ddegwm, a'u hoffrwm o'n
A hyn brofa'r Arglwydd a'i fendith i ni,
Mae enw'r Jehofa yn deilwng o foliant,
Ac felly'n Gwaredwr, iawn Brynwr o'r bron ;
Henuriaid o Israel y faner a godant,
Gan alw'r cenedloedd i ddyfod at hon.
Yn mlaen â'r henuriaid, a'r 'fengyl bregeth-
A phawb a'u gwrandawant yn hwylus add-
Fel hyn gweledigaeth y proffwyd gyflawnant,
Y gareg o'r mynydd ar fyr leinw'r ddae'r.
Yn ffyddlawn fe fu Joseph
Pregethu rhydd a wnaethant,
Yr hyn sy'n fawr ei bwys.
Yn ffyddlawn byddwn ninnau
Yn llawen, heb ddim braw,
Pan gaffo'r llyfrau 'u hagor
Ar lĂ n y dwfr sefyll wnawn,
Trwy gym'ryd ynddo'n claddu'n llwyr,
O, Dduw, pechasom aml waith,
Gan olchi ein pechodau ffwrdd,
Gwrandawa di ein gweddi ddwys,
Can's ffrynd pechadur yw dy Fab -
'Nol rhoi ein pechadurus gyrff
I fywyd santaidd codi wnawn,
Fel rhai o'r bedd yn rhydd.
Efelly, pan gân udgorn Duw,
Gwna'r saint lwyr ddryllio'r bedd ;
Cyfodant oll i'r lĂ n yn hardd,
Wele'th weision, Arglwydd grasol,
I gael trefnu'r hyn a berthyn
O, am hyny, dyro'th Ysbryb
Ar ein cynghor - dyna'n llef,
Fel y byddo'r hyn a drefnir
Deuwch i deyrnas ein Duw ;
Mae y porth yn lled y pen,
A gwahodd mae Brenin nen ;
Pa'm na ddeuwch bawb iddi i fyw ?
Mwy na ddych'mygodd un dyn ;
Rhoir gwybodaeth maes o law,
Fod ei Brenin yn caru pob un. *
Llwyddo wnelo'r fwyn efengyl
A'i thystiolaeth trwy'r holl fyd,
A doed miloedd idd ei derbyn,
Fel bo'nt ddiogel rhag y llid,
A chael derbyn gwir faddeuant
O'u pechodau'n erbyn Duw,
Trwy ufydd-dod i'r cyfreithiau
Roddwyd gynt gan Iesu gwiw.
Yna derbyn doniau'r Ysbryd,
Fel y d'wedodd Mab y dyn,
Sef llefaru a phrophwydo,
A'r rhai ereill bob yr un ;
A chan hyny gwir ddiolchwn,
Y rhai gawsom y fath fraint,
O gael derbyn y fath roddion,
Llawer sydd o'th weision, Arglwydd,
Yn ngwahanol fanau'r byd,
Heddyw'n sefyll ac yn dangos
Ffordd yr iachawdwriaeth ddrud ;
Rho dy Ysbryd yn arweinydd
I'r rhai hyn, ein Nefol Dad,
Fel y caffo llu eu derbyn
Daw yr amser pryd ceir gweled
Yr holl Saint yn fawr a mân,
Wedi myned o'r caethiwed,
Gyda'r Iesu'n seinio'r gân ;
Gorfoledda plant caethiwed
Sydd yn myd y cystudd mawr,
Pan gant dderbyn gwir ymwared
Rhag y pläau ar y llawr ;
Cânt deyrnasu gyda'r Oen,
Ni fydd yno ddim un gelyn
I wneyd niwed iddynt hwy,
Ond cydunant gyda'r delyn
I roi clodydd bythol mwy ;
Dyma grefydd dâl eu ffordd.
Geiriau Duw sydd yn rhagori
Ar bob peth sydd yn y byd ;
Nef a daear, hwy ddarfyddant -
Geiriau Duw a saif o hyd ;
Pan dywylla'r haulwen ddysclaer,
Pan dry'r lleuad wen yn waed -
Geiriau'r Iesu, hwy a safant -
Eu cyfnewid ni fydd raid.
Er y gwywa y glaswelltyn,
Er y syrthia'r blodau lawr,
Ond saif geiriau'r addfwyn Iesu,
Gwnant i dragwyddoldeb mawr ;
Gan y mawr-wres ddydd a ddaw,
Ond am eiriau'r Oen fu farw,
Byth ni syflant ar un llaw.
O, frodyr a chwiorydd llon,
I seinio clod o uchel gân,
I Dduw am roddi 'i Ysbryd Glân.
A gweddiwn arno ef trwy ffydd,
Am roi ei nerth o ddydd i ddydd,
Hyd nes cyrhaeddwn Seion dir,
Lle cawn ddedwyddwch, heb ddim cur.
Gwrandaw, Arglwydd, rho fendithion
Rho dy Ysbryd mewn modd nerthol
Er dadguddio pethau mawr ;
Mewu llawn cariad, o un fryd.
Am roi'r Ysbryd Glân i'n nerthu
'Wneyd ei 'wyllys nefol ef;
Trwy bob gofid sy'n y byd,
N'es cyrhaeddom draw yn Seion,
Lle y cwrdda'r Saint i gyd.
Clod am grefydd yn ei sylwedd,
Ce's rhyw gysgod ddigon hir ;
Mewn tywyllwch bum ers amser,
Gyda'r Saint ces oleu clir;
Byth mi lynaf gyda'r gwaith.
Enaid gwerthfawr, tyr'd yn fuan
O, nac oeda'r cyfle cyntaf,
Rhag it' oedi yn rhy hir ;
Heibio gad bechodau'n llwyr ;
Trwy ffyddlondeb a diwydrwydd,
Cei gysuron foreu a hwyr.
Trwy'r gwir ddrws dos mewn i'r gorlan,
Addawedig gan ein Harglwydd,
Pan oedd yma ar y llawr ;
Fod ei eiriau'n gadarn oll -
Bod arwyddion 'nawr yn canlyn
Sing praises, O brethren, and loudly rejoice,
For great are our favours, and many our
In union we journey - to Zion we go ;
We'll travel the desert, and conquer the foe.
Tho' many obstructions against us may rise,
Let's not be dishearten'd, for great is the
Our heads let us lift - our rescue is near,
In peace shall we end our earthly career.
The sun, and the moon, and the stars shall
And together shall shake the powers of
But all this will be but a sign to the faithful,
That the Lord very soon will ransom his
How sweet the idea - to live and remain
In the land where the Saviour for ever shall
To hope for is sweet, but more sweet to
And ever inherit the kingdom of joy.
If such we do picture the "land of the free,"
Industrious or slothful, what ought we to be ?
Let's labour in earnest, and strength will be
For our reward is awaiting in heaven. *
What was witness'd in the beavens?
Why, an angel earthly bound.
Had he sometliing with him bringing?
Yes- the gospel- joyful sound !
It was to be preach'd in power
Upon earth, the angel said -
To all men, all tongues, and nations,
That upon its face are spread.
Had not we before the gospel ?
Yes - had several taught by men.
Then, what is this latter gospel ?
'Tis the first one come again.
This was preach'd by Paul and Peter,
And by Jesus Christ, the head ;
This we, latter saints, are preaching -
We their footsteps wish to tread.
Where so loog has been the gospel ?
Didn't it ever "fall away ?"
What became of those neglected ?
"God is just" - that's all we say.
Seek no crop where 'twas not planted,
Nor a day where reigns the night ;
Now the sunshine bright is beaming,
Let all creatures see aright.
O God, give strength to all thy Saints,
And courage give them too ;
And, O lend them thy mighty hand,
Then we will march on thro' the world,
For soon the wicked shall be low,
Thy Saints are weak, but Thou art strong,
There's all we want in Thee ;
And Thou hast promised us thy aid,
O, guard our footsteps in the wilds,
And guide us day and night ;
Give signs when enemies approach,
And thro' us show Thy might.
We want no cowards in our ranks,
For we don't think to yield ;
And for the victory we'll fight,
We will not perish, though we die,
We'll rise to life again ;
God only wants us to be brave,
Thou God, who did'st the sea divide,
And led thy people thro',
Thy mighty hand is still the same,
Hark ! 'tis Jehovah's call ;
Tho' you have sin'd 'gainst Heaven,
Thro' baptism you'll have pardon,
And share the blessings given,
Hark! 'tis Jehovah's call ;
He'll send his heavenly Spirit,
And give you tidings thro' it,
That you may life inherit,
Praise God from whom all blessings flow,
Praise him, all creatures here below ;
Praise him above, ye heavenly host,
Praise Father, Son, and Holy Ghost.
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~