Pam mae'r astudiaeth yn bwysig:
Mae cael y gofal iawn ar ddiwedd oes yn golygu y gall pobl sy'n marw a'r bobl sydd agosaf atyn nhw fyw'n dda hyd at y diwedd. Mae angen y math hwn o ofal ar lawer o bobl, ond nid pawb sy'n ei gael.
Dydyn ni ddim yn credu bod pobl ag anableddau dysgu bob amser yn cael y gofal iawn ar yr adeg iawn ym mlwyddyn olaf eu hoes. Weithiau mae hyn yn digwydd oherwydd ei bod hi'n anodd gwybod a ydy’r unigolyn yn mynd i farw'n fuan. Mae mwy o bobl ag anableddau dysgu yn marw o salwch lle mae'n anodd gwybod pryd maen nhw'n marw.
Hoffem ddeall mwy am yr anawsterau hyn trwy siarad ag aelodau’r teulu ac eraill a oedd yn agos atyn nhw, a hynny mewn cyfweliadau cyfrinachol.
Pam rydyn ni'n gwneud yr astudiaeth hon:
Bydd yr astudiaeth hon yn ein helpu i ddeall rhai o'r penderfyniadau pwysig a wnaed ar y pryd, a beth allai helpu.
Ar y diwedd, byddwn yn cynghori gwasanaethau ar bethau i'w newid fel bod mwy o bobl ag anableddau dysgu yn cael profiadau gwell yn ystod misoedd olaf eu bywydau.
Disgwylir i'r astudiaeth orffen ym mis Mehefin 2026 pan fyddwn yn rhannu ein canfyddiadau.
Pryd fydd y cyfweliadau'n cael eu cynnal:
Byddwn yn cyfweld â theuluoedd a gofalwyr cyflogedig o fis Ebrill 2025 tan fis Medi 2025.
Ar ôl y cyfnod cyfweld, byddwn yn defnyddio ein canfyddiadau o'r cyfweliadau hyn i siarad â meddygon teulu a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.